Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 12 Chwefror 2020.
Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell hefyd—os mai'r DU yw'r pumed, y chweched, neu ba bynnag economi fwyaf yn y byd, mae'n hollol anfoesol peidio â chael dull llawer gwell o drefnu ein hunain fel cymdeithas er mwyn osgoi'r problemau eithriadol o ddifrifol hyn sy'n peri cymaint o syndod i gymaint o'r cyhoedd. Mae cynifer o bobl wedi dweud wrthyf na allant ddeall pam nad yw'n bosibl trefnu gwasanaethau a threfnu cymdeithas mewn ffordd sy'n osgoi'r holl gysgu allan a welwn yn ein trefi a'n dinasoedd ar hyn o bryd—ac fel y nododd y Gweinidog, yn amlwg, mae problemau'n codi mewn ardaloedd gwledig hefyd; nid problem drefol yn unig yw hon, er mai dyna lle mae'r broblem ar ei gwaethaf. Felly, mae gwir angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o symud ymlaen.
Credaf fod yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood am yr angen i roi cyfle i bobl fod eisiau gwneud y newid angenrheidiol yn bwysig iawn, a dyna pam y mae allgymorth grymusol yn arwyddocaol iawn, oherwydd mae dygnu arni yn y fath fodd yn bwysig iawn yn fy marn i. Mae angen i wasanaethau a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau ddygnu arni gyda'r rhai sy'n cysgu allan er mwyn iddynt fod yno pan ddaw'r cyfle hwnnw; pan fydd y person hwnnw'n barod i wneud y newid angenrheidiol, mae rhywun yno i'w harwain ac i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ar y pryd. Yn amlwg, os nad yw pobl yno gyda hwy tua'r adeg honno, mae'n bosibl y collir y cyfle hwnnw, ac efallai na fydd pobl byth yn gwneud y newid. Fel y clywsom yn gynharach, mae'n gwbl warthus meddwl bod 34 o bobl wedi marw yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2018. Mae pob bywyd a achubir yn amlwg yn gwbl amhrisiadwy, felly mae gwir angen inni wneud allgymorth grymusol yn rhan bwysicach eto o'r gwasanaeth a ddarparwn.
Mae'n fater eang iawn ei gwmpas a chymhleth iawn o ran y problemau sy'n gysylltiedig ag ef, fel y dywedodd yr Aelodau. Soniodd Mark Isherwood am ysgolion yn nodi problemau wrth i bobl ifanc fynd drwy'r system. Ceir llawer o gyflyrau, megis syndrom Asperger ac awtistiaeth, sy'n gysylltiedig. Mae angen i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl gael y problemau hynny wedi'u cydnabod a'u trin ar y cyfle cyntaf posibl.
Credaf fod llawer o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ymwneud â'r dull ataliol sydd ei angen arnom yn amlach yn ein gwasanaethau. Soniodd cynifer o aelodau'r pwyllgor am bŵer profiad bywyd a chlywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n cysgu allan, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau iddynt, beth yw eu profiadau a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth yn eu tyb hwy. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ni all fod drws anghywir. Lle bynnag y bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cysylltu â gwasanaethau, rhaid eu cysylltu â pha wasanaethau bynnag sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'u problemau. Rhaid gwneud mwy na dim ond eu hatgyfeirio at asiantaeth arall, at berson arall.
Rwy'n credu bod y problemau cyffuriau'n sylweddol, a'r agweddau sydd heb eu datganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos iawn gyda'r DU i sefydlu i ba raddau y gallem gael ystafelloedd diogel ar gyfer chwistrellu cyffuriau, a yw hynny'n bosibl o fewn y pwerau datganoledig sydd gennym, neu a oes angen datganoli pellach arnom, dealltwriaeth bellach, er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dadlennol fod gan yr heddluoedd yng Nghymru ddiddordeb mawr mewn gwneud y newid hwnnw ac maent yn gweld y byddai manteision gwirioneddol yn deillio o hynny pe bai'n digwydd.
Credaf fod David Melding—ac mae bob amser yn dda cael pobl nad ydynt ar y pwyllgor ar hyn o bryd yn cyfrannu ar adroddiadau pwyllgorau—wedi gwneud pwyntiau diddorol iawn ynghylch comisiynu. I ba raddau y mae'n bosibl bod yn arloesol, i integreiddio gwasanaethau go iawn, i gael cyllidebau cyfunol, i symud ymlaen at ddull gweithredu hirdymor o fewn y trefniadau comisiynu presennol? Mae'n ymddangos yn wan ar hyn o bryd, ac oes, mae angen adolygiad ar frys arnom. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am Tai yn Gyntaf a'r cynnydd pwysig a wnaethpwyd yno, a hefyd y grant cymorth tai a sut y gallai hwnnw ysgogi rhai agweddau ar newid angenrheidiol, ond credaf o ddifrif fod angen inni gael adolygiad llawn o'r holl faterion hynny.
Soniodd y Gweinidog hefyd am wasanaethau carchardai, ac mae hynny'n rhan bwysig o adeiladu partneriaethau a sicrhau nad oes unrhyw agwedd ar ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli yn cael ei hesgeuluso mewn unrhyw ffordd. Mae'r grŵp gweithredu yn ddatblygiad arwyddocaol iawn, fel y crybwyllais yn fy araith agoriadol, ac rydym yn falch iawn fel pwyllgor ynglŷn â hynny. Byddai diddordeb mawr gennym mewn gweld sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r argymhelliad ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith a awgrymir.
Felly, rwy'n meddwl bod hon yn set hynod bwysig o ffactorau, Ddirprwy Lywydd, a dyna'n union pam y mae ein pwyllgor wedi neilltuo cryn dipyn o amser a gwaith i'r materion hyn, ac wedi dychwelyd atynt yn ogystal. Credaf mai ein hymrwymiad i'r sector ac i'r rhai sy'n cysgu allan yw nad ydym, fel pwyllgor, yn mynd i gefnu ar y problemau hyn; rydym am ddangos y gallu i ddygnu arni rydym yn annog eraill i'w arfer. Byddwn yn dychwelyd at y materion hyn, a byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.