7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd — Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:39, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran? Mae'n amlwg fod cryn gonsensws ar draws y Siambr, rwy'n credu, o ran pwysigrwydd y materion hyn a'r angen i geisio gwneud digon o gynnydd fel na chawn yr un ddadl fwy neu lai yn yr un amgylchiadau yn y blynyddoedd a ddaw, fel y dywedodd nifer o'r Aelodau. Mae angen inni symud ymlaen a gwneud cynnydd sylweddol.