– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 25 Chwefror 2020.
Ac felly eitem 8 yw'r eitem nesaf i'w trafod a honno'n ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud ei ddathganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau diweddar a'r rhagolygon o ran deddfwriaeth sy'n deillio o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
I ddechrau, byddaf yn ystyried mater Deddf yr Undeb Ewropeaidd (y Cytundeb Ymadael) 2020 a'r goblygiadau i Gonfensiwn Sewel. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar yr unfed ar hugain o fis diwethaf, bod y Senedd wedi dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru i wrthod cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno. Fel yr adroddwyd eisoes yn y Senedd, roedd y rhesymau am hyn yn gyfansoddiadol yn bennaf—y bygythiad y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei achosi i gymhwysedd y Senedd a gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y negodiadau sydd i ddod a fydd â chanlyniadau difrifol i feysydd polisi datganoledig.
Fe wnaethom bopeth a allem i wella'r Bil, cyn ei gyflwyno ac yna gan weithio'n agos gydag Aelodau Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno gwelliannau a fyddai wedi ei wneud yn dderbyniol o safbwynt datganoli, ond, yn y pen draw, ni allem ddarbwyllo Llywodraeth y DU.
Roedd ein penderfyniad ni yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac yn Senedd yr Alban—y tro cyntaf i'r tair deddfwrfa wrthod rhoi cydsyniad ar gyfer un darn o ddeddfwriaeth seneddol y DU. Er gwaethaf hyn, gwthiodd Llywodraeth y DU y Bil i Gydsyniad Brenhinol a'r Senedd yn anwybyddu barn y tair deddfwrfa. Gallai hyn fod wedi datblygu'n argyfwng cyfansoddiadol o bwys, gan fygwth sylfeini datganoli. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth, disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yr amgylchiadau fel rhai unigol, penodol ac eithriadol, ac fe wnaeth Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn eu disgrifio fel rhai unigryw. Cafwyd sylwadau tebyg gan Arglwydd Callanan, Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ac mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn.
Ysgrifennais wedyn at Stephen Barclay a Michael Gove, gan gydnabod yr arwyddion calonogol hyn fod Llywodraeth y DU yn cydnabod difrifoldeb y cam hwn ac yn dehongli 'nid fel arfer' Sewel fel 'dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol'. Ar y sail hon, fe atgoffais i nhw ein bod wedi galw, yn 'Diwygio ein Hundeb', am godeiddio'r confensiwn drwy nodi'r amgylchiadau a'r meini prawf y gallai Llywodraeth y DU, mewn cyfyngder, fwrw ymlaen â'i deddfwriaeth, er gwaethaf diffyg cydsyniad deddfwriaethol datganoledig, a galwyd ar Lywodraeth y DU i gymryd rhan mewn rhagor o drafodaethau ar hyn. Felly, er bod penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn peri pryder sylweddol, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU a ninnau'n credu y dylid ei neilltuo fel achos arbennig, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny yn awr.
Gan symud ymlaen, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod bron pob un o gyfreithiau'r UE yn parhau i fod yn gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried pa un a yw pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE y tu hwnt i'r cyfnod pontio yn ymarferol ac yn angenrheidiol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld bod angen taer i ni gyflwyno Bil Senedd sy'n cynnwys pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE ar y cam hwn. Mae nifer o resymau am hyn.
Y prif reswm, o bosibl, yw bod gennym bryderon o ran a fyddai’n dderbyniol i’r Senedd hon, pe bai Gweinidogion Cymru yn cael pwerau eang, i gadw gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd o fewn cymhwysedd datganoledig drwy Fil hollgynhwysfawr. Ni fyddai hynny’n gyson â’r safbwyntiau y mae Aelodau wedi’u mynegi yn y gorffennol, felly byddai’r bar ar gyfer cynnig gweithred o’r fath yn cael ei osod yn uchel.
Mae yna hefyd ffyrdd eraill o alluogi Cymru i gadw gyda datblygiadau pan fyddwn ni'n gweld yr angen. Yn gyntaf, mae gan Weinidogion Cymru eisoes bwerau i gadw gydag addasiadau technegol i ddeddfwriaeth drydyddol yr Undeb Ewropeaidd drwy swyddogaethau a gafodd eu creu gan yr offerynnau statudol ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r rhaglen gywiriadau, neu drwy bwerau domestig sydd eisoes yn bodoli. Byddai angen mynd ati i ddadansoddi pa bwerau sydd eisoes ar gael er mwyn ymateb i gynigion deddfwriaethol penodol yn yr Undeb Ewropeaidd wrth iddyn nhw gael eu datblygu.
Ar gyfer deddfwriaeth fwy sylweddol yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai eu proses ddeddfwriaethol nhw yn darparu mwy na digon o amser i alluogi Senedd Cymru i gyflwyno a phasio Bil pe bai angen.
Mae cyd-destun hyn oll yn bwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi’i hymrwymo i broses y fframweithiau cyffredin. Rydyn ni’n credu y dylai’r broses honno alluogi a rheoli gwahaniaethau mewn polisi rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig, neu yn wir rhwng y Llywodraethau datganoledig eu hunain. Rŷn ni’n bwriadu dilyn proses y fframweithiau cyffredin hyd at ei diwedd cyn penderfynu ble y gall fod angen inni ddilyn datblygiadau yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Serch hynny, hoffwn i sicrhau Aelodau y byddwn ni'n parhau i gadw'r sefyllfa o dan drosolwg.
Yn olaf, dylai Aelodau fod yn ymwybodol y bydd angen corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth eleni. Ni allwn ni ddweud ar hyn o bryd faint fydd ei angen cyn gwybod beth fydd hynt y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn wir â thrydydd gwledydd eraill. Beth bynnag, bydd galw yn codi o’r gwaith arferol i weithredu cyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n dod i rym eleni; yr offerynnau statudol cywiro pellach sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir yn gweithio yng nghyd-destun diwedd y cyfnod pontio; a’r is-ddeddfwriaeth fydd ei hangen i weithredu’r systemau newydd sy’n cael eu sefydlu gan Filiau’r Deyrnas Unedig a Deddf y cytundeb ymadael ei hun.
Mae’r gwaith wedi hen ddechrau i benderfynu faint o ddeddfwriaeth fydd yn angenrheidiol, cymaint ag y gallwn ei benderfynu ar hyn o bryd, a byddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o bryd i'w gilydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad a rannodd gyda mi y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar iawn am y datganiad. Rwy'n credu ei fod yn cyflwyno math gwahanol iawn o iaith a thôn na rhai o'r datganiadau a gawsom yn y gorffennol yn y Siambr hon ynglŷn â threfniadau ar ôl Brexit, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwy'n credu ei bod yn gwbl eglur eich bod wedi ystyried yn fanwl y trefniadau deddfwriaethol yn y dyfodol a allai godi ac rydych yn amlwg yn bwrw ymlaen ag unrhyw waith y gallai fod ei angen wrth i ni symud ymlaen.
Nodaf eich bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â Bil cyfuno ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod hynny'n ddoeth iawn. Nid wyf yn credu bod llawer o archwaeth am y math hwnnw o ddull yn y Siambr hon, ac rwy'n credu eich bod chi'n cydnabod hynny, hefyd, yn eich datganiad, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Nid yw'n golygu, wrth gwrs, y byddem ni'n dymuno derbyn yr holl newidiadau deddfwriaethol a allai ddigwydd yn y cyfnod hwn rhwng nawr a 31 Rhagfyr. Nawr, rwy'n cydnabod y ffaith, er enghraifft, y bydd rhai darnau o ddeddfwriaeth a fydd yn mynd drwy Senedd Ewrop ond na fydd, o bosibl, yn cael effaith tan ar ôl 31 Rhagfyr, er enghraifft. Tybed sut ydych chi'n gwahaniaethu rhwng y newidiadau deddfwriaethol y gallai fod angen i chi gadw i fyny â nhw oherwydd eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod pontio, o'u cymharu â'r rhai na fydd efallai angen i chi eu rhoi ar waith o reidrwydd gan y byddan nhw y tu hwnt i'r amserlen 31 Rhagfyr honno.
Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn gwbl gywir, mae pwerau sylweddol eisoes ar gael i Weinidogion Cymru i allu gweithredu a gwneud rhai newidiadau technegol i'r trefniadau drwy ddeddfwriaeth drydyddol ac, yn wir, bydd rhai pwerau is-ddeddfwriaeth hefyd, y gallwch chi o bosibl eu defnyddio i addasu'r rheoliadau presennol sy'n berthnasol yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, efallai, pe gellid cael rhyw fath o gyfuno'r pwerau hynny mewn un ddogfen fel y gallwn benderfynu ym mha le y gallai'r pwerau hynny fod o ran yr ysgogiadau hynny y gallwch chi eu defnyddio heb orfod troi at ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn gwneud rhai newidiadau. Felly efallai fod yna ryw grynodeb o wybodaeth y byddai'n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno i'r Siambr er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, rwy'n credu, o ran y swyddogaeth graffu sydd gennym fel Aelodau Cynulliad.
Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod pwysigrwydd fframweithiau cyffredin ledled y Deyrnas Unedig a'ch bod yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU er mwyn eu cyflawni. Rwy'n cydnabod y bydd dadl iach, weithiau, ynghylch sut y gallai'r fframweithiau a'r trefniadau cyffredin hynny weithio a'i bod yn amlwg bod angen i ni bennu'r systemau a fydd yn llywodraethu'r trefniadau hynny yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llais y deddfwrfeydd datganoledig a llais Llywodraethau datganoledig yn gallu dylanwadu'n gryf a dylanwadu'n briodol yn y ffordd y datblygir y fframweithiau hynny. Yn amlwg, rydych chi wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y gorffennol ynglŷn â sut y dylai'r undeb weithredu, wrth symud ymlaen, ac rwy'n cydnabod bod angen gwneud newidiadau hefyd. Rwy'n credu fy mod wedi rhoi ar gofnod yn y gorffennol fy mod i'n cydnabod y dylai trefniant yn y dyfodol fod yn drefniant ffederal, ac rwy'n fwy na pharod i gael deialog gyda phobl mewn unrhyw blaid wleidyddol yn y Siambr hon er mwyn ceisio sefydlu trefniadau o'r fath, wrth symud ymlaen. Ond rwy'n credu bod angen i ni gael rhywfaint o eglurder, mewn gwirionedd, ar y pwerau hynny sydd gennych eisoes, felly os gallech chi ddod â hynny i ni, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn yn wir.
Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU hyd yma ynglŷn â'r fframweithiau cyffredin hynny. Rwy'n gwybod y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal yn y dyfodol hefyd, ond efallai y gallwch chi ein diweddaru ni o ran y gwaith a allai fod yn cael ei wneud rhwng eich swyddogion chi a swyddogion Llywodraeth y DU yn hynny o beth.
Pryder arall sydd gennyf yw hwnnw yn ymwneud â chapasiti Llywodraeth Cymru, o ystyried y galwadau deddfwriaethol sylweddol sydd eisoes ar y Senedd hon rhwng nawr a'r etholiadau nesaf i Senedd Cymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Beth yw capasiti Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhagor o ddarnau sylweddol o ddeddfwriaeth y gallai fod yn ofynnol, os oes darnau sylweddol o waith y gallai fod angen eu gwneud?
Diolch i Darren Millar am ei gwestiynau ac am y ffordd adeiladol y mae wedi eu cyflwyno. Rwy'n credu o ran is-ddeddfwriaeth a'r drafodaeth ynghylch fframweithiau cyffredin—y cyfeiriodd atyn nhw, yn amlwg, yn ei gwestiwn—dyna'r rhai sydd wedi bod, mae'n debyg o'r holl feysydd ymgysylltu, y rhai lle bu'r berthynas fwyaf cynhyrchiol, ac rydym bob amser wedi ceisio fel Llywodraeth i gyfeirio at y rheini fel enghreifftiau o'r modd y mae'r holl Lywodraethau yn y DU yn ymwneud â'i gilydd yn adeiladol, fel yr ydym ni bob amser wedi ceisio ei wneud ar y meinciau hyn, yna gellir cymryd camau ymlaen. Bydd ef yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol nad ydym bob amser wedi argyhoeddi Llywodraeth y DU o'r ymagwedd honno, sy'n destun gofid.
Serch hynny, ar y cwestiwn am grynodeb o bwerau, rwy'n credu bod y cwestiwn o ba un a fydd y math o bwerau y mae angen eu defnyddio i ymdrin ag agweddau unigol ar gadw'n gyfredol ar gael, os caf ei roi felly, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o ddeddfwriaeth a gyflwynir. Mae gennym ni rai o'r pwerau hynny eisoes drwy gyfuniad o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael). Mae rhai o'r rhain gennym o dan y setliad datganoli sydd eisoes yn bodoli, ac yna bydd angen cyfres o ddadansoddiadau yn y dyfodol wrth i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i ganfod pa un a yw'r gallu i gadw'n gyfredol â'r rheini yn dod o fewn y pwerau sydd gennym eisoes, efallai drwy'r setliad datganoli. Ni allwn asesu beth yn union ydyn nhw ar hyn o bryd, oherwydd bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn y dyfodol.
Mae categori o is-ddeddfwriaeth a fydd yn deillio o Filiau sy'n cael eu pasio gan Senedd y DU yng nghyd-destun ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Unwaith eto, gallwn nodi rhai o'r rheini ar hyn o bryd, ond mae llawer ohonyn nhw na allwn ni eu nodi. Felly, wrth i ni sefyll yn y fan yma heddiw, yn anffodus nid wyf i mewn sefyllfa i ddweud wrthych chi ein bod ni'n deall graddau llawn hynny, oherwydd nid yw'r penderfyniadau sy'n llywodraethu'r dadansoddiad hwnnw wedi eu gwneud eto. Hoffem fod mewn sefyllfa o lawer mwy o sicrwydd, ond mae hynny, yn amlwg, y tu hwnt i'n rheolaeth.
Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y cwestiwn ynghylch fframweithiau cyffredin. Ein hamcan o hyd yw cyrraedd sefyllfa erbyn diwedd eleni pryd y byddwn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn gysylltiedig â'r rheini. Ceir bwrdd rhaglen ffurfiol bob mis, rwy'n credu, rhwng swyddogion sy'n cadw golwg ar hynny. Rydym ni'n glir iawn ein bod ni'n dymuno bod mewn sefyllfa, cyn gynted ag y gallwn ddod i gytundeb, i roi'r rheini mewn sefyllfa lle y gall rhanddeiliaid a deddfwrfeydd ledled y DU graffu arnyn nhw, ac rydym yn parhau i bwyso am gynnydd yn gysylltiedig â hynny.
O ran deddfwriaeth sylfaenol, wrth i ni sefyll yn y fan yma heddiw, nid ydym yn rhagweld eitemau penodol yn cael eu cyflwyno ond, unwaith eto, mae hynny'n dibynnu ar gyfres o amgylchiadau sy'n gyfnewidiol iawn a newidiol iawn, yn anffodus, sydd, am resymau nad oes angen i ni eu hailadrodd yma heddiw, yn sicr y tu hwnt i'n rheolaeth ni fel Llywodraeth. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn gresynu at y ffaith bod cryn dipyn o ansicrwydd yn parhau yn y dirwedd honno.
A allaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am ei ddatganiad ar y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? A gaf i ddiolch yn benodol iddo fo am ei ddadansoddiad manwl o'r sefyllfa ddeddfwriaethol astrus ac anodd braidd rydym ni'n ei hwynebu wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Nawr, rydych chi'n sôn am fframweithiau, ac mae fframweithiau cyffredin yn golygu, fel rydych chi wedi crybwyll sawl tro yn y Siambr yma, rhannu llywodraethiant ac, wrth gwrs, yn golygu parch rhwng gwahanol Lywodraethau. Dylai fod dim rhagor o Senedd San Steffan yn penderfynu a phob Senedd arall yn yr ynysoedd hyn i fod i ddilyn yn slafaidd ufudd, er wedi dweud hynny, nid yw'r rhagolygon yn addawol, fel rydych chi wedi olrhain yn y datganiad yma o'r hanes diweddar.
Gwrthododd y Senedd hon roi ei chydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn union fel yr Alban—fe wnaethant hwy wrthod hefyd—a Gogledd Iwerddon—fe wnaethant hwy wrthod hefyd—ac eto, ymlaen aeth Senedd San Steffan efo'r Ddeddf ymadael, gan lwyr anwybyddu holl Senedd-dai eraill yr ynysoedd yma. Nawr, dydy hynna ddim yn swnio fel rhannu llywodraethiant i fi, na pharchu barn Senedd-dai eraill yr ynysoedd yma, ond dwi'n gweld o'ch datganiad eich bod chi wedi symud ymlaen eisoes.
Rydych chi wedi cytuno ag aelodau Llywodraeth San Steffan taw achos eithriadol neu achos unigryw oedd anwybyddu barn ein Senedd-dai datganoledig. Ond ar ba sail, allaf i ofyn? Ar ba sail sydd gennych chi i gredu na all hyn ddigwydd eto, neu bob tro yn y dyfodol y byddwn ni'n gweld colli pwerau neu o dan fygythiad colli pwerau, neu y byddwn yn cael ein hanwybyddu eto, fel rydych chi wedi cyfaddef eich bod chi wedi cael eich anwybyddu dros y tair blynedd diwethaf, rhywbryd yn y dyfodol pan fyddwn ni eto yn cwyno, na fydd y diffiniad o achos eithriadol yna yn cael ei ddefnyddio eto? Pa sicrwydd a allwn ni ei gael na fydd hyn yn digwydd dro ar ôl tro a phob tro y bydd y Senedd yma yn cael ei hanwybyddu ei fod o'n mynd i fod yn achos eithriadol, unigryw arall? Pa sicrwydd ydych chi wedi'i dderbyn ar y pwynt yna?
Nawr, wrth gwrs, mae yna gryn dipyn o ddeddfwriaeth sydd angen ei phasio, fel rydych chi wedi crybwyll, a llawer ohoni mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, fel pysgodfeydd, amaeth, yr amgylchedd—wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd. Pa ddylanwad, felly, sydd gennych chi, neu a fydd gennych chi, ar y broses o ddeddfu o hyn ymlaen yn y meysydd datganoledig yma? Wrth adael Ewrop, dydyn ni dim eisiau colli unrhyw bwerau rydym ni'n draddodiadol wedi eu harddel yn y Siambr yma ers 20 mlynedd. Ie, wrth gwrs, o dan adain Ewrop yn wreiddiol a nawr o dan adain y Deyrnas Unedig, ond dydyn ni ddim eisiau gweld crebachu pwerau o fan hyn mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd.
Ac, yn olaf, cawsoch chi'r drafodaeth hefyd ynglŷn â'r ddeddfwriaeth eilradd sydd yn deillio o'r prosesau yma. Mae'n anodd iawn, fel rydych chi wedi darogan eisoes, rhagweld faint yn union o hynna sydd yn mynd i ddigwydd, ond sut fyddwch chi'n gallu sicrhau gwella craffu ar ran y Senedd yma o'ch gwaith chi yn y Llywodraeth, wrth basio deddfwriaeth eilradd—SICMs ac ati? Achos rydym ni wedi cael cryn anhawster fel deddfwrfa i allu craffu ar beth sydd yn digwydd efo ystod eang o SICMs ac ati. A fydd y drefn yn dal yn ddibynnol ar Aelodau cyffredin meinciau cefn yn y lle yma i wthio am drafodaeth ar SICMs—ar y cydsyniadau deddfwriaeth eilradd yma—neu a fydd Llywodraeth Cymru yn fwy parod ac yn fwy rhagweithiol o hyn ymlaen nag y maent wedi bod i fyny at nawr i hwyluso dadleuon ar faterion eilradd deddfwriaethol heb ddefnyddio'r esgus oesol bod amser yn brin neu fod baich pwysau gwaith yn ormodol? Diolch yn fawr.
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno ag e bod angen dangos parch at Lywodraethau datganoledig gan Lywodraeth San Steffan, rŷm ni, fel Llywodraeth, wastad wedi cymryd pob cyfle i ddadlau achos Cymru—sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru—ac i fod, hyd y gallwn ni, yn adeiladol. Dyna fydd ein bwriad ni yn y dyfodol, ac mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb yn yr un ffordd.
Fe wnaeth e grybwyll y cwestiwn o gonfensiwn Sewel—hynny yw, pa sicrwydd sydd gyda ni fod hyn yn sefyllfa unigryw. Wel, y peth cyntaf buaswn i'n ei ddweud yw: rwy'n gobeithio y buasai e'n cytuno â ni fod hon yn sefyllfa unigryw. Rwy'n gwybod ei fod wedi darllen y ddogfen, 'Diwygio ein Hundeb', sydd yn disgrifio, mewn manylder, y camau rŷm ni'n credu sydd angen eu cymryd i ddiwygio'r confensiwn, i ddiwygio'r setliad. Hynny yw, dŷn ni ddim yn credu bod y sefyllfa bresennol yn ddigonol; rŷm ni'n credu bod angen ei diwygio hi. Rŷm ni wedi esbonio bod angen codeiddio a disgrifio'n fanwl sut y gall disgresiwn cael ei ddefnyddio i symud yn eu blaenau heb gydsyniad y Seneddau datganoledig. Rŷm ni wedi hefyd sôn am gyfle i'r Senedd yn San Steffan i gymryd hynny o dan ystyriaeth wrth gymryd y cam hwnnw. Felly, rŷm ni'n bell o'r sefyllfa o gredu bod y sefyllfa sydd ohoni yn ddelfrydol. Ond, wedi dweud hynny, mae'n sicr hefyd yn bwysig i danlinellu'r ffaith bod yr amgylchiadau hyn wedi bod yn amgylchiadau unigryw iawn.
Gwnaeth e sôn am ehangu ein pwerau ni a sicrhau bod y setliad datganoledig yn parhau i gael ei barchu. Wel, dyna'n union a lwyddon ni ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cytundeb rhynglywodraethol yn amser y Mesur ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Yn sgil y cytundeb hwnnw, gwnaethom ni sicrhau ehangu y pwerau sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, ac mae hynny'n enghraifft o beth sy'n gallu digwydd pan rŷm ni fel Llywodraeth yn dodi cynigion ger bron ac yn dadlau ein hachos ar sail tystiolaeth ac ati.
Yn olaf, gwnaeth e sôn am gwestiynau ynglŷn â chraffu ar waith y Llywodraeth. Mae trafodaeth gyson, wrth gwrs, wedi bod gyda'r pwyllgorau ynglŷn â sut orau i wneud hynny. O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth y Llywodraeth sicrhau ein bod ni yn cydymffurfio â'r mesurau a gytunwyd o ran craffu. Hynny yw, datganiadau ysgrifenedig yn esbonio'r camau rŷm ni wedi eu cymryd, a hefyd y cwestiwn o SICMs. Mae e, wrth gwrs, yn agored i unrhyw Aelod ddod â'r cwestiwn o SICM i lawr y Senedd. Mae hynny wedi digwydd yn llwyddiannus pan wnaeth Suzy Davies ddod â hynny o'n blaenau ni. Felly, mae'n fater i unrhyw Aelod, fel y dylai fod, i allu gwneud hynny, ac rwy'n sicr, o drafodaethau rydw i wedi eu cael gyda'r pwyllgor, fod Aelodau'n hapus bod ganddyn nhw'r capasiti a'r wybodaeth a'r access at y dogfennau priodol i allu gwneud hynny, a gwelsom ni hynny'n llwyddo yn yr enghraifft wnes i sôn amdani jest nawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Pan welais y teitl 'deddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r UE', roeddwn wedi tybio y byddai'n canolbwyntio ar lif offerynnau statudol a'r dull gweithredu yr oeddem ni'n ei ddilyn ar gyfer y rheini, felly hoffwn ddiolch yn arbennig iddo am y ddau baragraff olaf sy'n ymdrin â'r mater hwnnw. Ac os caf ystyried y tôn a gawsom gan Darren Millar yn ei ymateb—rwy'n cofio nifer o gyfraniadau tebyg yn y gorffennol â thôn wahanol iawn.
Ond yng ngoleuni hynny, a gaf i gyfeirio at yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am Gonfensiwn Sewel? Mae'n dweud y gallai hyn fod wedi datblygu'n argyfwng cyfansoddiadol mawr sy'n bygwth sylfeini datganoli, ac yna mae'n cyfeirio at nifer o bethau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud neu wedi awgrymu nad yw hyn yn arwain at y llall. Ond mae ochr arall i hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu sefyllfa Llywodraeth Cymru sy'n ceisio lleihau'r tymheredd ar hyn a dod o hyd i dir cyffredin gyda Llywodraeth y DU a dehongli'r hyn y maen nhw yn ei wneud mewn modd sy'n lleihau'r graddau y maen nhw yn ystyried hynny yn doriad, ac rwy'n credu bod hynny'n ffordd gall a phriodol o symud ymlaen a rhoi hyn y tu ôl iddyn nhw.
Rwy'n credu, fodd bynnag, fod cynsail y toriad hwnnw i Sewel yn dal i fod yno, ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at dair neu bedair dogfen neu areithiau gan Lywodraeth y DU sy'n golygu bod cynsail yn cyfrif am lai yn ei feddwl ef nag a fyddai fel arall yn wir. A gaf i godi un ar yr ochr arall, ac mae hynny'n ymwneud â'r sylwadau y mae'r Gweinidog yn eu gwneud am ein penderfyniad ni yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yn senedd Gogledd Iwerddon a senedd yr Alban, a'r cyfeiriad at Lywodraeth y DU yn anwybyddu barn y tair Deddfwrfa? Wrth gwrs, roedd y ddwy ddeddfwrfa arall yn mynegi barn ac yn cynrychioli eu hetholwyr a oedd wedi pleidleisio i aros. Yn y fan yma, pleidleisiodd pobl Cymru i ymadael, ac eto, unwaith eto, gyda'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, gwelsom gamau gweithredu a oedd o leiaf yn agored i'r dehongliad o fod yn ddarn â thair blynedd a hanner o geisio defnyddio pwerau o'r fath sydd gennym i rwystro Brexit.
Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gapasiti Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y trafodaethau sydd ar y gweill. Onid y peth allweddol sy'n lleihau'r gallu hwnnw yw'r ffaith fod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi mabwysiadu polisi Brexit mewn enw yn unig, ac wedyn pan wnaeth Theresa May, yn y pen draw, gynnig hynny iddyn nhw yn y bôn, gan gynnwys Undeb Tollau—a dywedodd y Gweinidog ei fod yn hapus â'r cytundeb ymadael ac efallai dim ond ychydig o bwyntiau am y datganiad gwleidyddol—pan ddaeth i'r pen, newidiodd Llywodraeth Cymru ei meddwl, a chefnogi'r hyn a wnaeth Llafur Cymru a Llafur y DU a pheidio â chefnogi'r polisi BRINO hwnnw—gydag eithriad clodwiw, efallai, Stephen Kinnock ac un neu ddau arall—ond yn hytrach yn dweud, 'Wel, fe wnaethom ni ddweud hynny o'r blaen, ond nid ydym ni'n mynd i lynu at hynny, a byddai'n well gennym ni gael ail refferendwm a gamblo ar atal Brexit yn gyfan gwbl, er ein bod ni wedi dweud y byddem yn parchu'r refferendwm yn flaenorol'? Onid dyna pam nad oes gennych chi'r dylanwad y byddech chi'n dymuno ei gael wrth i Lywodraeth y DU arwain y trafodaethau masnach hyn gyda mwyafrif o 80?
Yn olaf, a gaf i sôn am yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am gadw'n gyfredol â deddfwriaeth yr UE? Ymddengys ei fod yn siarad fel pe byddai gobaith am gyfochri dynamig â safonau a rheoliadau'r UE drwy gytundeb masnach. A gaf i atgyfnerthu gydag ef, neu o leiaf bwysleisio safbwynt Llywodraeth y DU, na fydd unrhyw gyfochri dynamig o'r fath. Hyderwn y byddan nhw'n cadw at eu haddewidion. Os gwnân nhw hynny, siawns na fydd yn ofynnol i ni gadw'n gyfredol â deddfwriaeth yr UE yn y modd hwn, ac os, fel y dywed, bod dulliau eraill ar gael i alluogi Cymru i gadw'n gyfredol pan ystyriwn fod angen hynny, onid yw hynny'n awgrymu y byddwn ni, mewn llawer o feysydd, yn gwyro oddi wrth ddeddfwriaeth y DU sy'n berthnasol yn Lloegr, mewn modd a fydd yn gwneud busnes yng Nghymru yn fwy anodd ac yn llai deniadol?
Rwy'n credu fy mod i wedi clywed dau gwestiwn yn y cyfraniad yna. Mae un yn ymwneud â gweithredoedd y Senedd hon ynghylch pleidleisio i wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil cytundeb ymadael. Hoffwn achub ar y cyfle unwaith eto i ddweud, gan ein bod ni'n mynd dros diriogaeth eithaf hen ar hyn o bryd, mai'r rheswm yr ataliodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad oedd oherwydd bod y darpariaethau yn y Mesur, a argymhellwyd gan y Llywodraeth i'r Cynulliad, yn bygwth sefyllfa'r sefydliad hwn yn rhan o'r setliad datganoli. Nid oedd yn fater o beidio ag adlewyrchu ewyllys pobl Cymru. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith i'r sefydliad hwn gael pwerau penodol, ac nid oedd y ddeddfwriaeth honno'n parchu'r rheini, a dyna pam yr ataliodd y Senedd ei chydsyniad.
O ran y cwestiwn o gyfochri dynamig, mae'n destun gofid i ni fel Llywodraeth nad yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu ceisio sicrhau cyfochri dynamig, ond rydym ni wedi bod yn glir iawn nad ydym eisiau gweld safonau'n cael eu datganoli o ran safonau cymdeithasol ac amgylcheddol a llafur yr ydym wedi eu hystyried yn gaffaeliad yma yng Nghymru, ac felly'r union bwrpas o geisio cadw i fyny â'r rheoliadau yn y dyfodol yw parhau i allu mynegi ein gwerthoedd yma yng Nghymru er mwyn amddiffyn yr hawliau a'r safonau hynny yn y dyfodol. Hoffem fod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU—fel pob Llywodraeth yn y DU—yn teimlo mai'r cytundeb gorau i'r DU yw sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu cynnal yn y dyfodol. Yn sicr, dyna'r cytundeb gorau i fusnesau ledled y DU a gweithwyr ledled y DU, a'r rhai hynny ohonom sydd wedi mwynhau'r safonau hynny yn rhan o'n bywyd bob dydd, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi'i hargyhoeddi o hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n destun gofid.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn awr yn mynd i'r afael â rhai o faterion deddfwriaethol Brexit, oherwydd mae pobl yn dal i gredu bod Brexit wedi ei wneud, ond rydym ni gyd yn gwybod nad yw Brexit wedi ei wneud eto. Mae llawer o bethau o'n blaenau, ac rydym ni'n wynebu cyfnod heriol.
Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad y cwestiwn ynglŷn â Sewel a'r ffaith bod y tair deddfwrfa wedi dweud 'na' i'r Bil, ac fe amlygaf fy safbwynt i: pleidleisiais yn erbyn y Bil am ei fod mewn gwirionedd yn Fil gwael. Nid oedd yn rhoi'r hyn a ddylai fod wedi'i roi: hawliau pwyllgorau yn y sefydliad hwn i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth yn y trafodaethau hyn yn y dyfodol rhwng yr UE a'r DU. Teimlaf fod hynny'n rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd, ac fe'i tynnwyd allan gan Lywodraeth y DU, ac felly roeddwn i'n teimlo nad oedd y Bil, mewn gwirionedd, yn briodol ar gyfer y sefydliad hwn.
Ond fe wnaethoch chi nodi hefyd eich bod wedi danfon ymateb at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—nad yw bellach yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd mae hynny wedi mynd—ond hefyd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, felly Stephen Barclay a Michael Gove. Ydych chi wedi cael ymateb gan yr un o'r ddau hynny i'ch llythyr? Oherwydd fe wnaethoch chi nodi eich bod yn cydnabod ei fod, fel y dywedason nhw, yn unigryw, yn benodol, yn arbennig. A ydyn nhw wedi cytuno â chi ei fod yn unigryw, yn benodol ac yn arbennig, ac felly na fyddai'n cael ei ailadrodd eto? Felly, byddai'n braf gwybod a ydych chi wedi cael ymateb.
Rydych chi'n sôn am fframweithiau cyffredin. A ydych chi'n dadansoddi cyfarwyddebau a deddfwriaeth gyfredol yr UE, a allai effeithio erbyn hyn ar y fframweithiau hynny? Ac, felly, pan fyddwch chi'n cynnal y trafodaethau, rydych chi'n mynd i sicrhau bod y fframweithiau cyffredin yn gallu adlewyrchu popeth yn iawn, yn enwedig o ran yr adolygiad rhynglywodraethol yr ydym ni'n dal i aros amdano; nid ydym ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu, na pha effaith y bydd hynny'n ei chael ar y fframweithiau cyffredin. Hefyd, mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar fframweithiau cyffredin, dywedasoch na fyddech mewn sefyllfa i drafod materion polisi, oherwydd bod trafodaethau'n parhau o hyd, ac roeddech yn disgwyl, efallai—30 Mawrth oedd un o'r dyddiadau a roddwyd. Ble'r ydym ni ynghylch hynny, ac a allwn ni ddisgwyl ymateb erbyn 30 Mawrth, neu a oes mwy o oedi, oherwydd, fel y dywedasoch, rydym ni'n agosáu at 31 Rhagfyr po fwyaf yr awn ymlaen, ac ar 31 Rhagfyr, yn ôl Llywodraeth bresennol y DU, mae'r cyfnod pontio yn dod i ben gyda neu heb gytundeb? Ac mae hynny'n bryder mawr. Efallai eich bod wedi paratoi ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb' yn flaenorol. Efallai y bydd angen o hyd i chi baratoi ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb' ar 31 Rhagfyr hefyd.
Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Senedd Ewrop ar ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn dod ger ei bron mewn gwirionedd, oherwydd rydych chi wedi sôn yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i'r broses ddeddfu yn Senedd Ewrop fod yn hir? Byddwn yn tybio, felly, eu bod yn gwybod beth sy'n dod yn ystod y 12 mis nesaf. Felly, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Senedd Ewrop i ddweud beth sy'n mynd i ddod ger eu bron yn y 12 mis nesaf? A oes pethau y dylem ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac y byddwn efallai yn dymuno eu hystyried yn y Siambr hon, oherwydd mae'n bwysig i ni fyfyrio ar hynny?
A beth am gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galw ar Lywodraethau Cymru yn y dyfodol i gyflwyno mewn gwirionedd y rhesymau pam nad ydyn nhw o bosibl eisiau cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yr UE yng Nghymru gerbron y Cynulliad, neu'r Senedd, fel y bydd bryd hynny? Oherwydd rydych chi'n dweud ble y bydd neu na fydd, ond pryd y byddwn ni'n gwybod amdano? Pryd fyddwch chi'n dweud wrthym, fel aelodau o'r Senedd, ac yn dweud mewn gwirionedd, 'Wel, nid ydym ni'n credu bod y ddeddfwriaeth UE hon yn briodol i Gymru'? Ac a wnewch chi roi hynny ar waith i sicrhau y bydd Llywodraethau'r dyfodol yn gwneud yr un peth hefyd, fel na all unrhyw un yn y bôn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd yn Ewrop a'n gadael ni heb gyfle i'w drafod ac ystyried pa un a yw'n briodol i Gymru ai peidio?
O ran yr offerynnau statudol, faint o waith sydd gennym ni i'w wneud o hyd? Mae'n anodd i chi—[Anhyglywadwy.] Byddai'n braf gwybod faint o waith sydd gennym o hyd i'w wneud oherwydd, fel y dywedodd Darren Millar, mae gennym raglen ddeddfwriaethol eithaf llawn rhwng yn awr a diwedd y Cynulliad hwn. Felly, faint sydd ar ôl, a faint ydych chi'n eu rhagweld o ganlyniad i'r cyfnod pontio, oherwydd mae'n debygol y bydd gennym ni gytundeb gwan, nid y cytundeb llawn y mae'r DU yn ei ddisgwyl? Rydym ni bellach yn gwybod beth yw safbwynt negodi'r UE; maen nhw wedi cadarnhau hynny heddiw, ac maen nhw wedi cadarnhau y byddan nhw'n cryfhau eu safbwynt o ran chwarae teg. Felly, gwyddom hefyd y bydd sefyllfa'r DU yn cael ei chadarnhau ddydd Iau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n deall pa offerynnau statudol fydd ar waith, pa offerynnau statudol a allai fod ar waith o ganlyniad i gytundeb gwan, pa offerynnau statudol a allai fod yn angenrheidiol o ganlyniad i ddim cytundeb, ac felly ein bod yn gwybod y math o amserlenni yr ydym yn rhoi yn y sefydliad hwn.
Mae angen i ni wybod am y sefyllfa 'dim cytundeb' oherwydd rwy'n dal i ofni ei fod yn bosibilrwydd, a'r hyn y mae Sefydliad Masnach y Byd yn ei feddwl am hynny—. A ddoe, clywodd y pwyllgor dystiolaeth y gallai hynny fod yn drychinebus i ni pe byddem ni'n cyrraedd y cam hwnnw. Ac ni fydd cytundeb gwan yn dda iawn i ni, ond mae angen i ni baratoi a bod yn barod ar gyfer y rhain. Mae'r Bil mewnfudo, neu'r system pwyntiau mewnfudo newydd gael ei gyhoeddi. Bydd y Bil amaethyddiaeth yn mynd trwodd; mae pysgodfeydd yn dod trwodd. Rydym yn gwybod bod pysgodfeydd yn mynd i fod yn fater pwysig yn y trafodaethau hyn—mae'r Ffrancwyr eisoes wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Felly, ble yr ydym ni'n paratoi yn ein proses ddeddfu, rhwng yn awr a diwedd y Cynulliad hwn, i sicrhau bod Cymru'n barod i wynebu'r math nesaf o berthynas a fydd gan y DU gyda'r UE?
Diolchaf i David Rees am yr ystod yna o gwestiynau pwysig. O ran cyfnewid gohebiaeth â Llywodraeth y DU, yn eu llythyrau ataf i, maen nhw wedi cyfeirio at yr amgylchiadau fel rhai unigryw, eithriadol. Felly, dyna iaith sydd wedi dod o ohebiaeth y maen nhw wedi ei hanfon atom ni, ac rwyf yn siŵr y byddai ef yn ymuno â mi i obeithio bod yr amgylchiadau hynny'n wirioneddol unigryw, fel y cânt eu disgrifio.
Gallaf ei sicrhau, yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried yn ystod y cyfnod pontio, ein bod yn gwbl ymwybodol o'r datblygiadau yn hynny o beth. Roedd y pwynt yr oeddwn yn ei wneud am ddatblygiadau yn y dyfodol yn ymwneud â deddfwriaeth tymor hwy, felly, fel y bydd prosesau Senedd Ewrop, yn symud ymlaen, bydd hynny yn rhoi digon o amser i ni allu nodi os bydd unrhyw fylchau yn y dyfodol yn y pwerau y byddai eu hangen arnom i allu adlewyrchu'r cyfreithiau hynny yng nghyfraith Cymru a chymryd camau yn y Senedd i ddeddfu yn unol â'r gofynion hynny. Felly, mae honno'n amserlen ychydig yn hwy.
Cododd y cwestiwn ynghylch y fframweithiau cyffredin, ac yn bendant, ein bwriad yw ymateb i'r pwyllgor o fewn yr amserlen yr ydym wedi ei gosod gerbron y pwyllgor, sef diwedd mis Mawrth. Fel y crybwyllais yn fyr yn yr ymateb cynharach, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng swyddogion ar draws pob Llywodraeth ar fater fframweithiau cyffredin, ac felly byddwn mewn sefyllfa i roi diweddariad o fewn y cyfnod hwnnw o amser.
O ran y mathau o faterion sydd o bosibl ddim yn rhan o'r cwmpas ar gyfer cadw'n gyfredol, pethau y gallem, am wn i, ddewis peidio â chadw'n gyfredol â nhw—mae deddfwriaeth yr UE, fel y gŵyr ef yn dda iawn, yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd. Mae rhai ohonyn nhw yn ddaearyddol benodol, mae rhai ohonyn nhw wedi eu clymu mor agos at beirianwaith aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd fel nad ydyn nhw'n briodol i ni, mae rhai deddfau Ewropeaidd yn darparu ystod o ffyrdd i'r aelod wladwriaethau eu hunain allu rhoi grym y gyfraith i'r cyfarwyddiadau hynny ac yn y blaen. Felly, mae amrywiaeth o sefyllfaoedd lle efallai na fydd cadw'n gyfredol yn berthnasol, os mynnwch chi, y bydd angen i ni gadw golwg arnyn nhw.
Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad ag ef ynghylch ei gwestiwn olaf. Mae'n gofyn braidd yn ddolefus faint o offerynnau statudol yr ydym ni'n eu hystyried. Nid wyf i mewn sefyllfa, yn anffodus, i ddweud wrthych chi heddiw beth yw'r nifer hwnnw. Bydd rhai ohonyn nhw yn ymwneud â gweithredu deddfwriaeth sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, bydd rhai ohonyn nhw yn ymwneud â cywiro newidiadau sy'n codi o'r newid yn y dyddiad y bydd cyfraith yr UE yn peidio â bod yn gymwys, felly diwedd eleni. Bydd rhywfaint ohono'n ymwneud â gweithredu rhwymedigaethau ar sail barhaus drwy gydol y cyfnod pontio, a bydd rhywfaint ohono'n ymwneud â gweithredu canlyniadau unrhyw gytundebau gyda'r Undeb Ewropeaidd ac, yn wir, gyda trydydd gwledydd. A dim ond drwy ddisgrifio'r rhestr, rwy'n gwybod y byddwch chi'n gwerthfawrogi ei bod heddiw yn amhosibl meintioli gydag unrhyw fanylder beth fydd nifer y rheini. Ond yn sicr ceir sefyllfaoedd lle gallai hynny fod yn fwy na nifer yr offerynnau statudol y mae'n rhaid i ni eu deddfu er mwyn ystyried ymadawiad 'dim cytundeb', a gwn ei fod yn ymwybodol o'r dasg anferthol yr oedd hynny yn ei olygu.
A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Cwnsler Cyffredinol o ran yr agwedd y mae wedi ei mabwysiadu? Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, er gwaethaf ein hanghytundebau achlysurol, bod Llywodraeth Cymru, wrth geisio cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig o dan ddatganoli, fel arfer yn diweddu yn y lle iawn. Rwyf weithiau'n cael dadleuon ynglŷn â sut y gwnaethoch chi gyrraedd yn y pen draw, ond rwy'n credu bod y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda chonfensiwn Sewel yn bwysig, o gofio ei fod yn amlwg wedi'i dorri, oherwydd nad oedd amgylchiadau normal. Ac nid wyf i erioed wedi meddwl bod y gair 'normal' yn ddefnyddiol iawn, ac o leiaf mae gennym iaith yn awr gan Lywodraeth y DU—'hynod' ac 'eithriadol', a chredaf i chi ddefnyddio ansoddair arall hefyd—sy'n ddefnyddiol yn fy marn i.
Ond yr hyn yr wyf i yn ei gefnogi yw ein bod yn symud i ryw fath o gonfensiwn ehangedig neu'n codeiddio rywsut o gwmpas y geirio a ddewisoch, o ran y byddai ddim ond yn cael ei wrthod o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Rwyf i yn credu y byddai hynny'n ddisgrifiad gwell o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi lle mae'n rhaid i ni gydnabod sofraniaeth y Senedd yn San Steffan, ond yn amlwg mae datganoli yn troi mewn i ffars lwyr os yw Sewel yn cael ei anwybyddu mewn modd mor ddidaro. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.
Rwy'n credu eich bod yn iawn: nid yw'n ymddangos bod angen Bil Senedd i gadw'n gyfredol gyda deddfwriaeth yr UE yn y cyfnod pontio. Rwy'n gwbl fodlon y gallwch chi wneud hynny drwy'r gwahanol bwerau technegol sydd gennych a, pe byddai rhywbeth mawr yn codi, yna'r peth iawn i'w wneud yw cyflwyno Bil. Ni allaf weld unrhyw un yn anghytuno â hynny.
Os gwnewch chi ganiatáu'r goddefgarwch, Llywydd, hoffwn longyfarch fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ei dröedigaeth neu ei addefiad nawr i ffederaliaeth. [Chwerthin.] Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod wedi bod yn unig—[Torri ar draws.]—mae wedi bod yn unig—[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro, mae'n rhaid ei fod wedi sibrwd a wnes i ddim ei glywed. [Chwerthin.] Ond rwyf wrth fy modd i gael cynghreiriad mor nodedig. Rwy'n argymell i chi, Darren, ac yn wir i'r Cwnsler Cyffredinol, os nad ydych chi wedi ei ddarllen eisoes, mae fy e-lyfr ar gael yn y Sefydliad Materion Cymreig, The Reformed Union—. Nawr, ble clywsom ni'r ymadrodd hwnnw? Pwy wnaeth ddwyn hwnnw'n ddiweddarach? The Reformed Union: The UK as a Federation.
Wel, mae'r dyfyniadau ar Twitter o lyfr David Melding ar ddyfodol y cyfansoddiad wedi fy nghyffroi yn fawr, ac rwy'n ei gymeradwyo i bob aelod. O ran cadw'n gyfredol, byddwn yn dal i adolygu i weld a oes angen dwyn hynny ymlaen. Ein hasesiad ni heddiw yw nad oes angen hynny, ond byddwn yn cadw golwg ar hynny. Petai'r dadansoddiad hwnnw'n newid, yna gallai'r argymhelliad newid hefyd.
Yn fyr iawn, o ran confensiwn Sewel, credaf mai ei bwynt yw bod angen diwygio hyn, ac mae yna lwyfan o drafodaethau y mae'n rhaid inni adeiladu arno'n awr er mwyn diwygio hynny. Fel y crybwyllais yn fy natganiad, mae 'Diwygio ein Hundeb' yn amlinellu hynny'n fanwl. Ac, a minnau'n gyfreithiwr, rwy'n cael fy nenu i edrych ar y fformwleiddiadau mwy manwl gywir ar gyfer hynny, ond mae achos hefyd dros drafod a ddylem ni symud o 'ddim fel arfer' i 'ddim'.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad.