1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OAQ55173
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Wrth wneud y gwaith hwnnw, rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y Llywodraeth, y cyhoedd a'r trydydd sector i gefnogi'r nod hwnnw. Mae mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc hefyd yn cael ei lywio gan ein hymgysylltiad â'r ymgyrch End Youth Homelessness.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Byddin yr Iachawdwriaeth, fel yr asiantaeth arweiniol sy'n ymuno â Chymdeithas Tai Taf a Byddin yr Eglwys, i greu partneriaeth llety â chymorth i bobl ifanc Caerdydd, a lansiwyd yn y Pierhead yr wythnos diwethaf. Comisiynwyd y bartneriaeth hon gan Gyngor Caerdydd, fel enghraifft o arfer gorau rwy'n credu, fel partneriaeth newid system sy'n deall bod gan bob person ifanc anghenion ac arddulliau cyflwyno unigol. Rydym ni angen i lety â chymorth ymateb i lawer o'r rhain a bwriedir cael 106 o unedau yng Nghaerdydd. Ac yn ganolog iddo mae'r cysyniad o ddim troi allan i ddigartrefedd, sy'n hanfodol yn fy marn i, a chynnig dylanwad a rheolaeth i bobl ifanc dros eu hanghenion tai. Felly, rwy'n llongyfarch pawb, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, am ddod at ei gilydd. Onid dyma'r math o ddull partneriaeth y dylech chi fod yn ei annog ar draws Cymru gyfan?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am y ffordd y mae wedi hyrwyddo, dros gynifer o flynyddoedd, achos pobl ifanc mewn trallod mewn cymaint o agweddau ar eu bywydau? Ac o weld ei gyhoeddiad yr wythnos diwethaf—bydd colled ar ôl ei gyfraniad ar y materion hyn yn y Senedd hon yn y dyfodol.
Hoffwn gytuno â'r hyn y mae wedi ei ddweud, wrth gwrs. Mae Cymdeithas Tai Taf yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerdydd, ac nid yw fy swyddfa i'n gannoedd o lathenni oddi wrth eu rhai nhw, felly mae gennym ni gyfle da iawn yn y fan honno i glywed am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i ddod â'r ymateb ffisegol i ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ynghyd, gyda'r anghenion gofal a chymorth sydd eu hangen yn aml ar bobl ifanc sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa ofnadwy honno hefyd. Ac mae'r cynllun y mae'n cyfeirio ato yn enghraifft dda iawn o hynny, gan wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc le addas i fyw ynddo, ond nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi cael eu rhoi o'r neilltu, a'u bod nhw'n gwybod na fyddan nhw ar wahân ac ar eu pennau eu hunain, ond y bydd ganddyn nhw rwydwaith o sefydliadau y gallan nhw droi atyn nhw fel bod y busnes anodd o ofalu amdanoch eich hun a bod yn gyfrifol am eich tynged eich hun—. Nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni byth ar ein pennau ein hunain; mae gennym ni deuluoedd ac eraill y gallwn ni droi atyn nhw, ac rydym ni'n gwybod nad oes gan bobl ifanc sy'n canfod eu hunain yn ddigartref ddim o hynny yn aml. Felly, mae rhoi'r pethau hynny ar waith trwy Fyddin yr Iachawdwriaeth, Byddin yr Eglwys a'r pethau y gall Cymdeithas Tai Taf eu gwneud yn llenwi'r holl fwlch hwnnw. Cymeradwyaf, fel y gwnaeth yntau, y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r pwynt a wnaeth tua diwedd ei gwestiwn am yr egwyddor honno o beidio â throi allan i ddigartrefedd yn un cwbl ganolog y gwn fod fy nghyd-Aelod Julie James, fel y Gweinidog tai, yn ei phwysleisio yn yr holl drafodaethau y mae'n eu cael gyda darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru.
Prif Weinidog, pan ddaw'n fater o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, siawns bod yn rhaid i ni fynd ati ar sail tystiolaeth. Rydym ni'n gwybod bod y cynllun Tai yn Gyntaf yn y Ffindir wedi cael canlyniadau ardderchog ers ei lansio dros ddegawd yn ôl, ac mae cynllun yr Alban, a lansiwyd y llynedd, eisoes wedi cartrefu 216 o bobl. Nawr, gall y cynllun hwnnw fod yn arbennig o effeithiol i'r rhai sy'n gadael gofal pan fydd eu cymorth gan wasanaethau cymdeithasol yn diflannu yn 18 oed. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynlluniau arbrofol drwy sefydliadau gwych fel grŵp Pobl yng Nghasnewydd, yn Rhydaman ac yn Rhondda Cynon Taf. Rwy'n clywed gan y sector fod y cynlluniau hyn yn cyflawni canlyniadau gwych, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl. Ond, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni eisoes yn gwybod bod Tai yn Gyntaf yn gweithio, byddwn i'n cwestiynu a oes angen i ni ei dreialu yma. Oni ddylem ni fwrw ati i'w gyflwyno ledled Cymru gyda chyllid cynaliadwy fel y gallwn gynorthwyo pobl ddigartref a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref pan fyddan nhw'n ifanc, ac o bob oed, ym mhob cwr o'r wlad i gael llety diogel, nid dim ond y bobl hynny sy'n ddigon ffodus i fyw yn ardaloedd y cynllun arbrofol presennol?
Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, ynglŷn â phwysigrwydd tystiolaeth yn y maes hwn. Rwy'n credu ei bod hi ychydig yn annheg i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd yn Tai yn Gyntaf i bobl ifanc fel treial. O'r £4.8 miliwn yr ydym ni wedi ei gyfrannu at y gronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref, mae chwe chynllun Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc yn weithredol eisoes, ac maen nhw eisoes mewn saith o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Felly, rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi mynd y tu hwnt i gynllun arbrofol syml.
Wrth gwrs, rydym ni eisiau dysgu o dystiolaeth camau'r saith awdurdod lleol cyntaf hynny, fel y dywedodd Delyth Jewell, oherwydd, er bod profiad y Ffindir yn gymhellol, un o'r pethau yr ydym ni'n sicr wedi ei ddysgu yw na allwch chi godi'n syml rhywbeth sydd wedi digwydd, hyd yn oed mewn un rhan o Gymru, a'i ollwng mewn rhan arall o Gymru a meddwl y bydd yn ymwreiddio yn yr un ffordd. Rydym ni'n addasu profiad a thystiolaeth y Ffindir fel bod hynny yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Dyna beth mae'r chwe chynllun hynny'n ei wneud, ac yna, wrth gwrs, byddwn ni eisiau dysgu o hynny i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ymestyn y tu hwnt i hynny i rannau eraill o Gymru.