– Senedd Cymru am 5:09 pm ar 3 Mawrth 2020.
Mae'r ddadl nesaf ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno setliad llywodraeth leol 2020-21 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru i'r Cynulliad. Cyn i mi ddechrau heddiw, rwy'n siŵr y gwnaiff y Senedd ymuno â mi i ddiolch i'r sector lywodraeth leol am y gwaith hanfodol y mae yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld dros y tair wythnos diwethaf y rhan y mae llywodraeth leol, ynghyd â'r gwasanaethau brys a'r cymunedau eu hunain, wedi'i chwarae yn yr ymateb i'r llifogydd digynsail ledled Cymru o ganlyniad i stormydd Ciara, Dennis a nawr Jorge.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl gynghorwyr a staff yr awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi'r unigolion, busnesau a chymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae'r digwyddiad hwn wedi cael effaith enfawr mewn nifer o gymunedau. Bydd ein hadferiad yn cymryd peth amser. Y tu hwnt i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae staff awdurdodau lleol hefyd yn gweithio dros eu cymunedau drwy gydol y flwyddyn, yn dimau sbwriel ac ailgylchu, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion tai a wardeiniaid traffig.
Eleni, rwy'n falch o gael cynnig i'r Senedd hon, yn 2020-21, y bydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i lywodraeth leol yng Nghymru yn 4.3 y cant. Dyma'r cynnydd cyfatebol mwyaf mewn 13 mlynedd. Rwyf yn llawn sylweddoli'r pwysau y mae llywodraeth leol yn parhau i'w wynebu yn dilyn degawd o gyni. Nid yw un setliad da yn gwrthdroi effaith blynyddoedd o gyni. Fodd bynnag, mae'r setliad hwn yn rhoi i lywodraeth leol y sefydlogrwydd mwyaf y gallaf ei gynnig ar gyfer pennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'n ymateb i'r pwysau y mae llywodraeth leol wedi bod yn ei ragweld ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn cynnig cyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hytrach na brwydro yn erbyn y presennol
Clywsom yn y ddadl gynnar ar y gyllideb derfynol y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 yn dal i fod yn sylweddol is nag yn 2010-11 mewn termau real. Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU, ni fyddwn yn gallu gwario cymaint ag yr oeddem yn ei wneud degawd yn ôl. Eleni, rydym ni wedi ymdrechu i wella ymhellach ein partneriaeth â llywodraeth leol a sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddyrannu'r swm a bennwyd ar gyfer adnoddau sydd ar gael.
Wrth baratoi ar gyfer y setliad hwn, mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod llywodraeth leol wedi gallu trafod y pwysau sydd arni drwy gydol proses y gyllideb drwy is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth. Mae fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet a minnau wedi ystyried y sefyllfa yn gyffredinol gydag arweinwyr llywodraeth leol, ac o ran gwasanaethau allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau â'r trafodaethau strategol eang hyn yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn paratoi ar gyfer adolygiad gwariant cynhwysfawr.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf hon, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael bron i £4.5 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Roedd ein penderfyniadau ynglŷn â lefel gyffredinol y cyllid i lywodraeth leol yn rhoi sylw penodol i'r angen i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu cyllid i ysgolion, gan gydnabod effaith cynnydd mewn costau y tu hwnt i'w rheolaeth ar gyflogau a phensiynau athrawon. Er nad yw'r awdurdodau wedi neilltuo'r arian hwn at unrhyw ddefnydd penodol, mae dosbarthu'r cyllid ar gyfer costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr wedi cael ei gyfeirio'n fwriadol i faes gwasanaeth addysg y system ddosbarthu.
Rydym ni hefyd wedi cyfeirio cyllid digonol ar gyfer y costau ychwanegol sy'n deillio o'r cytundeb cyflog athrawon 2019-20 am weddill y flwyddyn academaidd, yn yr un modd drwy elfen addysg y fformiwla setliad. A thu hwnt i hyn, rydym ni wedi cynnwys cyllid i gydnabod effeithiau'r dyfarniad cyflog athrawon yn y flwyddyn academaidd nesaf, a ddaw i rym o fis Medi 2020.
Rydym ni hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, o gofio'r oedi parhaus wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno credyd cynhwysol.
Rydym ni wedi ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yn 2020-21, gan gynnwys dyrannu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol i roi rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol a threthdalwyr eraill i ymateb i faterion lleol penodol.
Gwn fod rhai awdurdodau wedi gwneud sylwadau am yr amrywiant rhwng y cynyddiadau uchaf ac isaf. Drwy'r setliad hwn, bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd cyfatebol o 3 y cant o leiaf dros 2019-20. Y tro diwethaf y cafodd unrhyw awdurdod gynnydd cyfatebol o 3 y cant yn ei setliad oedd 10 mlynedd yn ôl.
Mae awdurdodau'n profi cynnydd mwy neu lai nag eraill o ganlyniad i'r fformiwla, sydd wedi'i chynllunio i ymateb i angen cymharol drwy'r data mwyaf cyfredol posibl. Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau cymharol yn niferoedd y boblogaeth a nifer y disgyblion, er enghraifft, yn cael eu hadlewyrchu mewn lefelau gwahanol o gynnydd. Cytunwyd ar y newidiadau hyn drwy'r is-grwpiau dosbarthu a chyllid, gan gynnwys newid y data am y boblogaeth yn raddol, a helpodd i liniaru rhai o'r effeithiau dosbarthiadol mwy rhwng awdurdodau.
Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi ystyried yn ofalus y posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad hwn. Egwyddor cyllid gwaelodol yw sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn dioddef newid na ellir ei reoli o un flwyddyn i'r llall. Rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn.
Mae'r fformiwla ddosbarthu yn ymdrech ar y cyd rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru, a chytunir ar newidiadau drwy weithgorau sefydledig. Mae'r fformiwla ddosbarthu yn parhau i ddefnyddio'r data mwyaf priodol a chyfredol, ac mae rhaglen waith barhaus i'w mireinio ac i archwilio datblygiad yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol yn cynnig newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu, neu elfennau ohoni, drwy'r trefniadau llywodraethu ar y cyd sydd wedi'u sefydlu gennym. Mae unrhyw fformiwla'n golygu enillwyr a chollwyr. Os yw llywodraeth leol yn dymuno adolygu'r fformiwla yn llawnach ar y cyd, rwyf wrth gwrs yn agored i hynny. Byddwn yn dweud, fodd bynnag, y dylem gofio faint o amser a gymerodd hi i'r adolygiad cyllido teg yn Lloegr esgor ar gysyniad tebyg i'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru.
Gwn y bydd Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon yn dod i'r ddadl hon yn barod i ddadlau dros hyd yn oed mwy o adnoddau i'w hawdurdodau lleol penodol. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yma'n hoffi dyrannu mwy o arian i'n cymunedau, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer y GIG a llawer o wasanaethau eraill. Rwy'n llwyr ddeall hynny, wrth gwrs, ond, yn anffodus, mae'n rhaid inni wario o fewn ein gallu. Felly, er mwyn gallu rhoi mwy o arian i lywodraeth leol, byddai'n rhaid inni gymryd mwy o arian oddi wrth faes arall. Mae'r ddadl yr ydym newydd ei chael ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd yn dangos mor anodd y gall y dewisiadau hynny fod.
Yn ogystal â'r arian craidd heb ei neilltuo a ddarperir drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol yn gynharach am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2020-21. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cyfateb i dros £1 biliwn o refeniw, a £580 miliwn o gyfalaf, ac mae ganddynt ran benodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau penodol. Rydym yn parhau i weithio i gyfuno grantiau lle mae'n gwneud synnwyr ac i ddefnyddio fframweithiau canlyniadau i fesur llwyddiant.
Gan droi at gyfalaf, mae'r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2020-21 yn cynyddu £178 miliwn. Ar ben hyn, byddwn yn parhau i ddarparu £20 miliwn ar ffurf grant penodol er mwyn adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Gobeithiaf y bydd awdurdodau'n ystyried sut y gallant ddefnyddio'r arian hwn i ymateb i'r angen brys i ddatgarboneiddio yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru a llawer o gynghorau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
A minnau wedi bod yn rhan o bennu cyllideb cyngor fy hun, gwn am yr heriau y bydd awdurdodau lleol yn dal i orfod eu hwynebu wrth bennu eu cyllidebau. Byddwn yn annog Aelodau yn y Siambr hon nad ydynt wedi gweld hyn yn digwydd i fynd i'w cynghorau lleol a gweld drostynt eu hunain sut y gwneir y penderfyniadau hynny, a'r dewisiadau anodd iawn y bydd yn rhaid eu gwneud yng ngoleuni setliadau'r gyllideb.
Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau ac, yn ei thro, y dreth gyngor, a bydd awdurdodau'n ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau a wynebant wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd yr awdurdodau'n cydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid gwasanaeth gyda'r pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dim ond nawr y mae lefelau cyflog ar y lefel yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol, a bydd unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn cael ei ystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw.
Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid oes neb yn camu i fyd gwleidyddiaeth yn awchu i dorri gwasanaethau, a dyna pam yr wyf yn ddiolchgar unwaith eto am allu cynnwys y cynnydd cyfatebol mwyaf mewn 13 blynedd yn y setliad hwn. Wrth gwrs, mae gennym ni ansicrwydd o hyd ynghylch Brexit a heriau o ran y newid yn yr hinsawdd, ond os yw Llywodraeth y DU yn iawn fod cyni wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at weld Cymru'n cael y cyllid y mae'n ei haeddu yn y blynyddoedd i ddod. Gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Diolch, Llywydd.
O dan fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, cafodd naw o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gynnydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla. Ar y cyd â sir y Fflint, roedd y cynghorau a oedd â'r toriadau mwyaf eleni o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn—wel, maen nhw ymysg y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae bron i draean neu 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael cyflogau llai na'r cyflog byw gwirfoddol. Lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru—ychydig yn llai na hanner y rheini yng Nghaerdydd—a Chonwy sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yng Nghymru, ac eto mae talwyr y dreth gyngor yn Ynys Môn a Chonwy yn wynebu cynnydd o 9.1 y cant. Cwtogwyd ar gyllideb Wrecsam hefyd, er bod ganddi dair o'r pedair ward sydd â'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru.
Wynebodd talwyr y dreth gyngor yn sir y Fflint gynnydd o 8.1 y cant, er bod cynghorwyr sir y Fflint wedi lansio ymgyrch, #BackTheAsk, a oedd yn tynnu sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynglŷn â'r cyllid a gânt gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gofynnodd yr ymgyrch yn benodol am gyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai sir y Fflint oedd un o'r cynghorau a ariannwyd lleiaf fesul pen o'r boblogaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol gan bob plaid ar y cyngor—cyngor dan arweiniad Llafur.
O dan setliad terfynol llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2020-21, unwaith eto, yr un awdurdodau yn y gogledd yw pedwar o'r pum awdurdod lleol a welodd y cynnydd lleiaf mewn cyllid, sef Conwy, Wrecsam, sir y Fflint ac Ynys Môn, tra bod Sir Fynwy yn dal ar y gwaelod. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwadu bod ganddi unrhyw fwriad i greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de, efallai ei bod yn gyfleus o hyd, o dan ei fformiwla o ariannu llywodraeth leol 20 mlwydd oed, fod pedwar o'r pum awdurdod sy'n gweld y cynnydd mwyaf yn 2020-21 unwaith eto, yn gynghorau a redir gan Lafur yn y de.
Er bod y Gweinidog llywodraeth leol yn dweud bod yr effaith fwyaf ar ddosbarthiad y setliad ar draws awdurdodau yn deillio o'r newid cymharol yn y boblogaeth a'r poblogaethau o oedran ysgol yn gyffredinol ar draws ardal pob awdurdod lleol, nid yw dadansoddiad o'r ystadegau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer pob un o'r rhain yn creu darlun clir yn hyn o beth o'r naill na'r llall. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol hefyd yn dweud y caiff y setliad llywodraeth leol ei rannu rhwng awdurdodau lleol yn unol â phrosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fodd bynnag, fel y mae uwch gynghorwyr yn y gogledd wedi dweud wrthyf, ar draws y pleidiau, nid yw'r rhai sy'n cael leiaf eisiau herio'r fformiwla ariannu yn agored oherwydd, er mwyn cael mwy, byddai'n rhaid i gynghorau eraill gael llai. Felly, gyda'r agwedd 'nid yw'r tyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig', ni fyddent yn cael unrhyw gefnogaeth allanol.
Serch hynny, anfonwyd llythyr a lofnodwyd gan bob arweinydd cyngor yn y gogledd at arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn datgan nad yw manteision y setliad hwn yn cael eu rhannu'n ddigon teg ac yn gadael y rhan fwyaf o'r cynghorau yn y gogledd â setliad sy'n sylweddol is na chost net pwysau, chwyddiant a newid demograffig. Fe wnaethon nhw hefyd ysgrifennu at y Gweinidog llywodraeth leol, yn gofyn iddi am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad cyllid llywodraeth leol yng ngoleuni'r heriau parhaus ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Fel y dywedasant wrth y Gweinidog, mae pedwar o'r pum cyngor isaf yn dod o'r gogledd a heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau'r gogledd yn wynebu'r her fwyaf o ran ceisio cwtogi gwasanaethau. Ychwanegasant y byddai cyllid gwaelodol yn helpu i amddiffyn gwasanaethau ac yn gweithio yn erbyn codiadau uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor isaf, gan gynnwys Blaenau Gwent.
Er gwaethaf y datganiad trawsbleidiol clir hwn, mae'r Gweinidog wedi diystyru eu cynrychiolaeth swyddogol ac wedi gwrthod cyllid gwaelodol yn y setliad terfynol. Fel y dywedodd un o'r arweinwyr hyn wrthyf, 'Mae'n amlwg i mi mai prin iawn yw'r ddealltwriaeth o hyd o'r pwysau a'r galwadau cynyddol y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu, a chof byr cyfleus o ymrwymiad maniffesto 2016 ei Llywodraeth sy'n datgan y byddent yn darparu cyllid i osod cyllid gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol.' Ychwanegwyd eu bod hefyd yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi penderfynu pontio'r rhaniad rhwng y de a'r gogledd, gan y bydd pedwar o'r pum cyngor isaf yn y setliad ariannu yn y gogledd.
Fel y dywedodd preswylydd pryderus o sir y Fflint a ffoniodd fi yr wythnos diwethaf yma, 'Ni allwn ymdopi os bydd ein treth gyngor yn codi oddeutu 5 y cant arall ar ôl 27 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Roedd hyn yn arfer bod yn ardal Llafur, ond nid ydynt yn gwrando.' Diolch yn fawr.
Mae baich toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi disgyn yn bennaf ar lywodraeth leol ers dechrau cyni dros 10 mlynedd yn ôl. Bydd cyllid llywodraeth leol a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb hon 13 y cant yn is nag yr oedd yn 2010, yn ôl tîm dadansoddi cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae pob un ohonom ni yma'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r toriadau hyn wedi'i chael ar y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Mae'r toriadau wedi bod mor ddifrifol fel bod yr hyn a elwir yn wasanaethau nad ydynt yn hanfodol—er ein bod yn gwybod nad ydynt felly o gwbl—wedi'u torri i'r asgwrn a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyfannol gwirioneddol werthfawr, fel y rhai a ddarperir gan Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yng Nghaerffili, o dan fygythiad. Mae toriadau mewn cyllid hefyd wedi arwain at gau llyfrgelloedd, sydd wedi wynebu toriad o 38 y cant ers 2010, heb sôn am wasanaethau hamdden, sydd wedi cael toriad o 45 y cant, a thai'n cael toriad o 24 y cant. Nawr, efallai bod y niferoedd hynny'n ymddangos yn fychan, ond mae hynny wedi arwain at gau canolfannau pwysig ar raddfa eang o amgylch y wlad, fel y ganolfan hamdden ym Mhontllanfraith, ar adeg pan fo angen y gwasanaethau hynny a ddarparant yn fwy nag erioed.
Nawr, er bod y cynnydd o £184 miliwn a gynhwyswyd yng nghyllideb eleni yn gam i'r cyfeiriad cywir—nid oes neb ar y meinciau hyn yn mynd i wadu hynny—mae'n dal i fod £70 miliwn yn llai na'r £254 miliwn a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen dim ond i gadw pethau fel y maen nhw. Gan nad yw Plaid Cymru yn credu y gall neu y dylai llywodraeth leol wynebu'r diffyg hwn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y setliad heddiw.
Gwyddom i gyd y bydd cynghorau'n ceisio llenwi'r bwlch hwn drwy gynyddu'r dreth gyngor. Mae'n rhywbeth y cyfeiriwyd ato eisoes. Gwyddom hefyd mai'r dreth gyngor yw un o'r mathau mwyaf atchweliadol o drethiant sydd gennym, gan fod y rhai lleiaf cefnog yn talu cyfran uwch o'u hincwm o'i gymharu â threthi eraill, ac felly mae hwn yn faich a fydd yn disgyn ar y rhai lleiaf abl i'w fforddio.
Nid yw toriadau i lywodraeth leol yn gwneud fawr o synnwyr wrth ystyried lles ein heconomi a lles y bobl y mae i fod i'w gwasanaethu. Soniais yn gynharach mai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, fel y'u gelwir, yw'r rhai cyntaf i fynd. Yn aml iawn, nhw yw'r glud sy'n dal realiti cymhleth bywydau pobl at ei gilydd ac maen nhw'n atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Er enghraifft, mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau cyhoeddus yn arbed arian pan fo digartrefedd yn cael ei atal neu ei liniaru'n gyflym, o'i gymharu â gadael iddo ddigwydd, ond eto mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i atal digartrefedd yn dod o lywodraeth leol ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ystyried lleihau eu cyllidebau, a fydd ond yn arwain at wario mwy o arian yn gyffredinol ar ganlyniadau digartrefedd, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr i neb.
Nododd adroddiad y Swyddfa Archwilio ar y system gynllunio fod toriadau mawr i ddatblygiadau cynllunio yn arwain at lofnodi cytundebau adran 106 annigonol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cael y symiau o dai fforddiadwy y dylem eu cael, y cyfleusterau cymunedau y dylem eu cael, neu'r cyfraniadau addysgol y dylem eu cael. Yn yr un modd, mae gofal cymdeithasol da yn hanfodol i sicrhau bod y GIG yn rhedeg yn esmwyth ac mae gwasanaethau tai ac amgylcheddol da hefyd yn hanfodol i atal pobl rhag gorfod defnyddio'r GIG yn y lle cyntaf. Nid yw'n gwneud dim synnwyr i dorri arian ar gyfer gwasanaethau ataliol gan ei fod yn ychwanegu at y baich ariannol y bydd yn rhaid i'r GIG ei ysgwyddo yn y pen draw. A gwyddom i gyd fod osgoi problemau'n llawer, llawer rhatach nag y mae i'w trin, pan fyddant yn mynd mor wael yn y pen draw fel bod rhaid cael triniaeth ddrud.
Mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei adlewyrchu gan yr hyn y bu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awyddus i'w bwysleisio. Dywedodd fod:
'darparu gwasanaethau ataliol,' ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma,
'addysg, chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, llecynnau awyr agored o safon a gwasanaethau cefnogi cymunedol...yn chwarae rhan bwysig mewn atal pobl rhag mynd yn sâl neu ddatblygu problemau cymdeithasol mwy hirdymor.'
Mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi tynnu sylw at y £100 miliwn o'r cyllid adnoddau cyllidol sydd heb ei neilltuo yn y gyllideb hon. Pe bai tua thri chwarter o'r arian hwn yn cael ei roi i lywodraeth leol, yna byddai'n cyfateb i'r swm a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen i gynnal y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol, a fyddai'n caniatáu i ni ystyried cefnogi'r setliad cyllido.
Mae'n hen bryd inni gael dulliau strategol tymor hir o bennu cyllidebau gan Lywodraeth Cymru, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn rhoi lles wrth galon ein cyllidebau, os mai ni fydd yn gwneud y penderfyniadau hyn yn y dyfodol.
Felly, i gloi, Llywydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Gyda hynny mewn golwg, a fyddai hi'n croesawu felly, yn enwedig gyda'r hyn a ddywedodd am lesiant, yr £0.5 miliwn bron sy'n mynd i gael ei wario ar barciau sglefrio ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn enwedig yr un ym Margoed?
Diolch ichi am yr ymyriad yna. Byddwn, yn sicr, nid wyf yn dweud, o bell ffordd, nad oes darpariaethau na fyddem yn eu croesawu. Rwy'n credu ar y cyfan, fod gormod o golli cyfleoedd yma yn ein tyb ni. Ond, wrth gwrs, bydd rhai pethau, fel y rhai y sonioch amdanynt, y byddem yn eu croesawu.
Felly, i gloi, Llywydd, mae cynnydd yn setliad eleni, ond er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n ddigon hyd yn oed i gynnal darpariaeth bresennol awdurdodau lleol, yn dilyn degawdau o doriadau, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn teimlo nad oes gennym ddewis ond i bleidleisio yn erbyn y setliad cyllid llywodraeth leol heddiw.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb. Credaf fod angen mwy o arian ar lywodraeth leol, ond credaf fod angen mwy o arian ar y sector cyhoeddus i gyd yng Nghymru. Ond rwyf eisiau trafod y rheswm dros y cyllid allanol cyfanredol, yr hyn yr arferem ei alw'n setliad cyllideb Llywodraeth Cymru, ac yna trafod setliad eleni.
Mae'r cyllid allanol cyfanredol yn gyfuniad o'r hyn yr arferai'r grant cynnal ardrethi fod ar arfer o rannu'r ardreth annomestig genedlaethol a gesglir yng Nghymru. Mae'r grant cynnal ardrethi yn gymorth ar gyfer y dreth gyngor, a arferai fod yn ardrethi a gasglwyd gan awdurdod lleol, fel y câi pob un ei ariannu yn ôl ei asesiad gwariant safonol, ar ôl ychwanegu'r dreth gyngor, ond dim ffioedd na thaliadau. Po fwyaf yw'r gallu i gasglu'r dreth gyngor yn lleol, lleiaf yw'r angen i Lywodraeth Cymru gefnogi cyngor.
Mae nifer yr eiddo ym mhob band o'r dreth gyngor yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Mae gan rai megis Blaenau Gwent dros hanner ei eiddo ym mand A. Mae gan Sir Fynwy o'i gymharu ychydig dros 1 y cant o'i heiddo ym mand A ac mae ganddi bron i 6 y cant yn y ddau fand uchaf. Yn Sir Fynwy, mae mwy o eiddo yn y band uchaf nag sydd ym mand A. Felly, mae ychwanegu £1 at dreth gyngor Band E yn Sir Fynwy yn codi mwy o lawer—bron i 100 y cant yn fwy—na'r hyn a gewch chi o wneud yn union yr un fath ym Mlaenau Gwent.
Byddem felly'n disgwyl i'r cynghorau sy'n cael y cymorth mwyaf y pen gan Lywodraeth Cymru, fod y rhai hynny sydd â'r gallu lleiaf i godi refeniw'r dreth gyngor, sef Blaenau Gwent, sy'n cael ei reoli'n annibynnol, Merthyr, sy'n cael ei reoli'n annibynnol, a Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei reoli gan Lafur. Felly, yn sicr nid yw'n gyllideb sy'n cefnogi Llafur. Byddem wedyn yn disgwyl mai'r tri isaf fyddai Bro Morgannwg, sy'n cael ei reoli gan leiafrif Llafur, Mynwy, sy'n cael ei reoli gan y Ceidwadwyr, a Chaerdydd, sy'n cael ei reoli gan Lafur—oherwydd bod y cynllun yn seiliedig ar wneud iawn am y gallu i gasglu'r dreth gyngor. Gwelwn yn setliad refeniw llywodraeth leol Cymru fod y gefnogaeth fwyaf y pen yn mynd i Flaenau Gwent, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, a'r lleiaf i Fynwy, Bro Morgannwg a Chaerdydd.
O ran eiddo band I, y band uchaf, mae 5,510 yng Nghymru ac mae 3,020 ohonyn nhw mewn tri awdurdod: Mynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n dweud wrthym ymhle mae gennych chi fwy o allu i godi arian drwy'r dreth gyngor. O flwyddyn i flwyddyn, y newidiadau yn y boblogaeth yw'r prif ysgogwr o ran arian ychwanegol o flwyddyn i flwyddyn. Nid dyma'r unig ysgogwr, mae'r boblogaeth yn newid, mae elfen yn seiliedig ar hyd ffyrdd a phethau eraill ond yn bennaf, y boblogaeth.
Mae'n anffodus, er bod Llywodraeth Cymru yn dangos y swm o dan bob rhan o gyfrifiad y grant cynnal ardrethi, er mwyn dangos faint mae pob awdurdod lleol yn ei gael ar gyfer pob cyfran ohono, nid yw'n cyhoeddi'r cyfrifiadau a fyddai'n dangos sut y maen nhw wedi cyfrifo'r ffigurau hynny. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai pobl weld y rhifau sy'n sail i'r cyfrifiadau yn hytrach na'r canlyniad yn unig.
Wrth gwrs, gellir newid y fformiwla. Gallai fod yn swm y pen o'r boblogaeth yn unig, a byddai pobl yng Nghaerdydd ac Abertawe'n gwneud yn dda iawn, ond byddai'n drychinebus i Ferthyr, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Gall newid y fformiwla achosi pendiliadau mawr mewn cyllid yn sgil mân newidiadau. Cafwyd newid yn y cyllid ar gyfer ffyrdd o 52 y cant o boblogaeth a 48 y cant o hyd ffyrdd i 50 y cant ar gyfer y ddau, nad oedd yn ymddangos yn newid mawr iawn ac a ymddangosai'n weddol resymol, ond symudodd gannoedd o filoedd o bunnoedd o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd i Bowys, Ceredigion ac ardaloedd eraill â phoblogaeth denau. Gall newidiadau bach yn y fformiwla yn y pen draw gynhyrchu newidiadau na fyddech eu heisiau efallai cyn i chi newid y fformiwla.
O edrych ar gyllideb eleni o'i chymharu â'r llynedd, dyma'r setliad gorau ers degawd ac mae'n pennu cyllid refeniw craidd o £4.474 biliwn i lywodraeth leol. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd cynnydd cymharol o 4.3 y cant yn y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2020-21 o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Pe bai hynny wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, ni fyddem yn cael dadl a phobl yn dweud, 'Mae angen mwy o arian ar lywodraeth leol.' Byddai angen mwy o arian arno o hyd, oherwydd ni all llywodraeth leol fyth gael digon o arian, fel y rhan fwyaf o wasanaethau eraill, ond byddai mewn sefyllfa lle y byddai'n gallu ymdrin â'r rhan fwyaf o'i phroblemau.
Bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 3 y cant o leiaf. O ran y ffigurau a gyhoeddwyd yn nhabl 4 o 'Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Y Setliad Terfynol—Cynghorau)' mae'n dangos yr asesiadau gwariant safonol y pen ar gyfer pob cyngor, ac yn dangos mai Sir Ddinbych â £2,155 yw'r uchaf yng Nghymru. Mae Ynys Môn, Gwynedd a Phowys i gyd yn uwch na'r cyfartaledd, a Chonwy yn union ar y cyfartaledd.
Yn olaf, beth am roi'r un cynnydd canrannol i bob cyngor? Gan y byddai'n rhoi mwy o anfantais i'r rhai y mae eu poblogaeth yn tyfu o'u cymharu ag eraill, a byddai o fantais i'r rheini â mwy o allu i godi arian drwy'r dreth gyngor. Mae'r setliad yn ymddangos yn deg. Dwi'n credu bod gwir angen i ni ganfod beth yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydym yn ceisio cefnogi llywodraeth leol, ond rydyn ni'n ceisio gwneud hynny yn y fath fodd fel bod pob awdurdod yn gallu gwneud yr un peth. Dyna beth yw hanfod yr asesiad o wariant safonol.
Yn olaf, dim ond ple arall, a all Llywodraeth Cymru ddangos eu cyfrifiadau? Oherwydd mae dangos y canlyniad terfynol yn unig yn gwneud i bobl feddwl efallai eu bod nhw'n anghywir—neu efallai nad ydyn nhw'n eu hoffi. Os byddwch mewn gwirionedd yn dangos y ffigurau sy'n sail i'r cyfrifiadau hynny, byddai'n caniatáu i bobl eu gwirio nhw eu hunain.
Roedd cyngor Caerffili dan bwysau braidd gan yr oedi a achoswyd yn y gyllideb gan yr etholiad cyffredinol, ac er hynny aeth ymlaen ag ymgynghoriad. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ystod yr etholiad cyffredinol. Rwy'n dal i feddwl tybed a oedd hynny'n hollol ddoeth, i ymgynghori ar gyllideb na wyddech chi ddim amdani yn ystod etholiad cyffredinol. Ond y newyddion da yw, o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru, bod yr arbedion arfaethedig a oedd eu hangen wedi gostwng o £8.5 miliwn i £3 miliwn. Mae'n dangos bod cyllideb gyfrifol yn gwbl bosibl ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ganlyniad i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru.
Fe wnaethoch chi sôn am gyni, a bob tro yr ydych yn gwneud hynny mae Janet Finch-Saunders—nid bob tro, ni wnaeth hynny gynnau fach—ond pan soniwch chi am gyni, mae tueddiad gan Janet Finch-Saunders i weiddi a chwyno, ond y ffaith yw bod y gyllideb hon heddiw yn dal i fod yn gyllideb mewn cyfnod o gyni a'i wreiddiau yn y ffaith mai'r adeg waethaf bosibl i dorri fel y gwnaethant oedd yn 2010—Cameron ac Osborne—pan wnaethant hynny yn nyfnder dirwasgiad. Dyma'r adeg waethaf bosib i ddechrau rhaglen o gyni, ac felly bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i ail godi ar ein traed ar ôl hynny, oherwydd canlyniadau'r dewisiadau hynny a wnaethpwyd bryd hynny. Dyna pam y ceir anawsterau gyda'r gyllideb, oherwydd y dewis economaidd a wnaethpwyd yn 2010 ac sy'n dal i gael ei deimlo heddiw.
Ond rydym yn gweld camau bach yn ôl ar y llwybr. Rwy'n dal i gredu ein bod yn gweld cyni; dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi gweld diwedd ar gyni o bell ffordd. Ond mae'r hyn yr ydym yn ei weld, drwy gyllideb Llywodraeth Cymru, yn gamau bach ymlaen, ac mewn termau real, bydd cyngor Caerffili bellach £11.1 miliwn ar ei ennill yn y flwyddyn ariannol nesaf o'i chymharu â'r flwyddyn hon, oherwydd y setliad da hwn. Ac mae rhai o'r pethau a gyhoeddwyd fel toriadau posibl pe bai'r cyfnod anodd hwn wedi parhau, ac fe'u cyhoeddwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, erbyn hyn wedi eu harbed—pethau fel, oherwydd Llywodraeth Cymru, ni fydd Cyngor Caerffili yn cael ei orfodi i dorri cyllidebau ysgolion; ni fydd yn cael ei orfodi i golli hebryngwyr croesfannau ysgol; ni fydd yn cael ei orfodi i leihau nifer y camerâu teledu cylch cyfyng; ni fydd yn cynyddu prisiau prydau ysgol; ac ni fydd yn rhaid iddo leihau'r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd. Ac rwy'n falch o ddweud na fydd unrhyw benderfyniad i gau canolfannau ailgylchu yn fy etholaeth yn cael ei weithredu bellach. Hefyd, yn ogystal â hynny, mae treth gyngor cyngor Caerffili, o'i chymharu â threth y ddau awdurdod cyfagos—Blaenau Gwent a Merthyr, ill dau wedi'u rheoli'n annibynnol—gryn dipyn yn llai. Yn wir, mae pobl ym mand B yng Nghaerffili yn talu £400 yn llai bob blwyddyn nag yn yr awdurdodau cyffiniol hynny, ac mae Caerffili yn y chwartel isaf o ran cyfraddau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae hynny oherwydd gweithredoedd y Gweinidog llywodraeth leol a gweithredoedd y Gweinidog Cyllid dros y misoedd diwethaf.
Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod y llifogydd a ddigwyddodd hefyd wedi rhoi baich ariannol annisgwyl ac annioddefol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda rhywfaint o'r atgyweiriadau y bydd eu hangen yn y dyfodol. Mae'r cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi'i groesawu'n fawr. Yn ogystal â'r £500 y pen a roddwyd gan yr awdurdod lleol, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi £500 y pen, a £500 ychwanegol i'r rhai nad oes ganddynt yswiriant. Hynny yw, bydd gan bawb y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt rhwng £1,000 a £1,500 os effeithiwyd ar eu heiddo, o ganlyniad, unwaith eto, i weithredoedd y Llywodraeth a'r cyngor.
Mae effaith y llifogydd, er hynny, ar seilwaith y fwrdeistref sirol yn cael ei chyfrifo'n gost o tua £4 miliwn ar hyn o bryd, a disgwylir i hyn ddyblu dros yr wythnosau nesaf wrth gyfrifo gwerth difrod llawn y storm. Ac mae cost gwelliannau angenrheidiol pellach i'r seilwaith a wnaed yn rhai fwyfwy brys gan y llifogydd yn cyrraedd cyfanswm o rhwng £75 miliwn a £85 miliwn yng Nghaerffili—hynny yw, cysylltu ffyrdd yn y Cymoedd gogleddol yn etholaeth Dawn Bowden. Mae angen cymorth ariannol ar yr awdurdod lleol hefyd i wneud yn siŵr bod rhai o'r 234 o domenni glo sy'n bodoli yn y fwrdeistref yn ddiogel. Gall wneud gwaith ar y 104 y mae'n berchen arnynt, ond mae hefyd 130 dan berchnogaeth breifat y mae gennym bryderon yn eu gylch. Felly, i'r perwyl hwnnw, cydlofnodais lythyr gyda Rhianon Passmore, Dawn Bowden a'r tri Aelod Seneddol, at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU, yn galw am gymaint o gymorth â phosib i gynorthwyo gydag atgyweirio'r seilwaith a hefyd gwneud y tomenni glo yn ddiogel. Rwy'n ffyddiog y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cymaint â phosib; nid ydym ni eto wedi clywed dim byd ystyrlon gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n destun pryder.
Felly, ar y cyfan, credaf mai hon yw'r gyllideb orau a ellid bod wedi'i llunio ar gyfer llywodraeth leol, ac mae wedi rhoi sicrwydd i llywodraeth leol yng Nghymru na roddwyd yn Lloegr, ac mae hynny oherwydd Llywodraeth Cymru a, felly, cymeradwyaf y ddadl hon heddiw.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Rwyf eisiau ymateb i'r sylwadau ar ddigonolrwydd y setliad.
Mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau yr ydym ni a llywodraeth leol yn eu hwynebu drwy'r setliad a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau o ble'r ydym ni arni ar ôl y cylch cyllideb hwn. Nid oes gennym ni gyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru y tu hwnt i 2020-21 o hyd. Rydym yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth y DU lunio ei chyllideb ar gyfer 2020-21 gyda rhagolygon cyllidol wedi'i diweddaru a'i hadolygiad cynhwysfawr o wariant, gyda rhagolygon ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Nid ydym yn gwybod o hyd pa berthynas fydd gennym ni â'r Undeb Ewropeaidd yn y flwyddyn nesaf. Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw bod cryn ansicrwydd yn wir. Rwy'n deall her ansicrwydd i awdurdodau lleol. Gobeithiaf y bydd adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi'r gallu inni roi'r sicrwydd hwnnw iddynt. Byddwn yn edrych ar ba mor ymarferol yw cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno setliad aml-flwyddyn yn rhan o'r her honno.
Mae'r setliad terfynol hwn yn welliant sylweddol. Mae'r Llywodraeth a minnau'n cydnabod nad yw'r setliad, er ei fod yn gadarnhaol o ran arian yn gyffredinol, yn gwneud iawn am y toriadau mewn termau real y mae awdurdodau lleol wedi'u gweld yn ystod y degawd diwethaf o gyni a orfodwyd gan y Ceidwadwyr. Gobeithiaf, er gwaethaf y dewisiadau caled y mae cynghorau wedi gorfod eu gwneud, gallant nawr edrych i'r dyfodol i weld sut y gellir gwneud y defnydd gorau o'r cyllid hwn; parhau i ymgysylltu â'u cymunedau ac ymateb i'w hanghenion a'u huchelgeisiau; i weddnewid gwasanaethau, eu cadw, ac ymateb i anghenion a disgwyliadau sy'n newid; neu, lle bo angen, dewis sut i'w lleihau gan gadw'r cyhoedd ar eu hochr. A hefyd penderfynu faint o dreth gyngor y byddant yn ei chodi i adlewyrchu'r dewisiadau hynny.
Rydym i gyd yn cydnabod y bydd heriau mewn rhai gwasanaethau, ond credaf fod y rhain yn heriau y gall llywodraeth leol yng Nghymru eu cyflawni gyda'i gilydd. O glywed sylwadau Mark Isherwood, gyferbyn, byddech yn credu bod cyni i lywodraeth leol yn bolisi a wnaed yma yng Nghymru. Blaenoriaeth y Llywodraeth nawr ac erioed yw ceisio amddiffyn cynghorau rhag y gwaethaf o'r toriadau a drosglwyddwyd inni gan Lywodraeth y DU. Adlewyrchir hyn yn y setliad ar gyfer 2020-21 a gyflwynais i chi heddiw.
Gwnaeth Mike Hedges y pwynt yn blaen, rwy'n credu, fod y rhan fwyaf ar y meinciau gyferbyn yn canolbwyntio ar y newid ymylol, ond nid oes neb yn edrych ar y dosbarthiad gwirioneddol. Y gwir amdani yw bod y gogledd yn y canol, fel y dylai fod, oherwydd y modd y codir refeniw'r dreth gyngor ledled Cymru, fel y crisialodd Mike Hedges yn fedrus iawn. Felly, mae'r tri chyngor isaf yn y de ac mae'r tri chyngor uchaf yn y de. Felly, mae Caerdydd yn is na Wrecsam a sir y Fflint. Felly, Mark, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych: peidiwch byth â gadael i'r ffeithiau rwystro dadl dda, oherwydd nid yw'r ffeithiau, fel y gwnaethoch chi eu cyflwyno nhw, yn ffeithiau.
Yma yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i sicrhau fod pobl yn gwbl gymwys i elwa ar ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ar gyfer 2020-21, ac rydym unwaith eto yn darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn. Rydym ni wedi ymrwymo o hyd i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed ac ar incwm isel, er gwaethaf y diffyg yn yr arian a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU yn dilyn diddymu budd-dal y dreth gyngor. Penderfynir ar y trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen fel rhan o'n hystyriaethau ehangach ynglŷn â sut i wneud y dreth gyngor yn decach.
Rwyf i a'm cydweithwyr yn y Cabinet wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu hyblygrwydd, lle bo hynny'n bosibl. Rwyf wedi ymrwymo i ystyried sut y gallai llywodraeth leol fod yn fwy grymus ac yn gryfach. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymrwymo i weithio'n rhanbarthol; bod yn rhaid cael mwy o gydweithio gyda byrddau iechyd a'r consortia addysg i sicrhau gwell canlyniadau a mwy o gydnerthedd. Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth leol ar ein cydnabyddiaeth gyffredin o'r angen i fuddsoddi yn y cyflenwad tai.
Dylai buddsoddi mewn tai cymdeithasol leihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol ac ar wasanaethau digartrefedd. Gall buddsoddi mewn tai hefyd gefnogi economi Cymru ac economïau lleol. Tynnodd Delyth Jewell sylw at hynny; roeddwn yn siomedig o weld na fyddai hi, serch hynny, yn cefnogi'r setliad gan fod y cynghorau ledled Cymru, mewn gwirionedd, wedi croesawu'r setliad yn y maes hwnnw'n fawr iawn. Rwyf yn gobeithio y gall y setliad—cyfalaf a refeniw—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwyf dim ond yn ymateb i'ch sylw ynghylch Wrecsam, Caerdydd a sir y Fflint. Yn ffeithiol, mae Wrecsam yn cael cynnydd o 3.5 y cant, sir y Fflint 3.7 y cant, sy'n is na'r terfyn gwaelodol o 4 y cant y gwnaethant ofyn amdano, ond mae Caerdydd yn 4.2 y cant—
Wel, dyna'r newid ymylol.
—sy'n uwch na'r terfyn gwaelodol y gofynnon nhw amdano.
Ie, ond y pwynt yr wyf yn ei wneud yna yw, rydych yn canolbwyntio ar y newid ymylol nid y swm cyffredinol a roddwyd iddynt, ac o ran y cyfanswm cyffredinol a roddir i gynghorau, mae Caerdydd yn is na Sir y Fflint a Wrecsam. Felly, rydych yn canolbwyntio ar y newid ymylol, nid y setliad cyffredinol, sef y pwynt yr oeddwn yn ei wneud.
Fel yr oeddwn yn dweud, gall buddsoddi mewn tai hefyd gefnogi economi Cymru ac economïau lleol, a gobeithiaf y gall y setliad hwn—cyfalaf a refeniw—gefnogi awdurdodau i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ynghynt ledled Cymru.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod y gwaith cadarnhaol parhaus ar y fformiwla ddosbarthu gyda llywodraeth leol. Eleni, yn ogystal â'r wybodaeth a gyhoeddwyd ar y cyd â'r setliad dros dro, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r is-grŵp dosbarthu i lunio tabl sy'n ceisio egluro'r amrywiaethau yn y dyraniadau. Mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi ar y cyd â'r setliad terfynol er mwyn i bob awdurdod allu gweld ac egluro eu dyraniadau. Rwyf yn derbyn pwynt Mike Hedges, a byddaf yn ystyried a allwn ni gyhoeddi'r cyfrifiadau eu hunain hefyd, oherwydd credaf, po fwyaf y tryloywder, yna gorau i gyd.
Cytunir ar y newidiadau blynyddol i'r fformiwla bob blwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy'r is-grŵp cyllid. Mae hyn yn golygu ein bod yn ffyddiog ein bod yn dosbarthu'r cyllid sydd ar gael mewn ffordd deg a gwrthrychol. Rwyf eisiau sicrhau pob rhan o Gymru nad oes rhagfarn nac annhegwch bwriadol yn y fformiwla, fel y nododd Mike Hedges yn fedrus iawn, wrth egluro pa awdurdodau a gafodd y cynydd mwyaf a lleiaf yn eu setliad, ac mae awgrymu hynny'n annheg i'r rhai sy'n gweithio mor gadarnhaol i'w gyflawni.
Rwyf eisoes wedi cynnig y cyfle i Aelodau'r Cynulliad fynd i sesiynau briffio technegol y mae fy swyddogion yn eu cynnal er mwyn deall sut mae fformiwla'r setliad yn gweithio'n ymarferol. Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y cynnig hwn hyd yma wedi bod yn siomedig o isel. Rwy'n fwy na pharod i ail-gynnig hyn i'r Aelodau yn y Siambr er mwyn sicrhau y gallwn ni drafod y mater dan sylw mewn modd adeiladol yn hytrach na chamddehongli manylion technegol y setliad a'r hyn y mae'n ei wneud neu nad yw'n ei wneud. Cymeradwyaf y setliad da iawn hwn i'r Cynulliad.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.