1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal i ystyried y difrod i'r amgylchedd naturiol ar hyd morlin de Cymru o'r mwd y bwriedir ei ddadlwytho o adweithydd niwclear Hinkley Point i mewn i aber afon Hafren? OAQ55151
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod a'r corff rheoleiddio priodol, o dan y Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007. Mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw penderfynu a oes angen asesiad effaith amgylcheddol. Mae pob cais am drwydded forol yn cael ei asesu'n drwyadl er mwyn sicrhau nad yw gwaith arfaethedig yn effeithio ar yr amgylchedd morol nac ar iechyd pobl.
Rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym yma yw methiant llywodraethu. A tybed pam—rydym yn eistedd yma—tybed pam y mae gennym Lywodraeth, mewn enw beth bynnag, os mai'r cyfan a wnawn yw rhoi'r cyfrifoldeb i Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent am gloddio a dympio 780,000 tunnell o fwd o'r tu allan i adweithydd niwclear—yn llythrennol—ar Gymru, ychydig y tu allan i Gaerdydd, yn y môr. Gwyddom bellach fod damweiniau wedi bod yn y 1950au a'r 1960au, pan aeth ymbelydredd i mewn i'r aber. Ac mae gwyddonwyr yn dweud wrthyf ei bod hi’n bosibl fod yr ymbelydredd hwn yn dal i fod yno. Ac eto—. [Torri ar draws.] Mae heclo o’r ochr draw, a phobl yn gofyn, 'Pa wyddonwyr?' Wel, efallai y dylech chi siarad â'r gwyddonwyr hyn, oherwydd dywedir wrthym fod tri math o brawf y dylid bod wedi'u gwneud ar y mwd hwn. Mewn unrhyw ran o'r byd, byddai tri math o brawf wedi’u gwneud—màs, alffa, sbectrometreg gama. Pam eich bod chi wedi caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru beidio â gwneud asesiad effaith amgylcheddol hyd yn oed y tro diwethaf? Nid ydych yn mynd i fynnu un y tro hwn. Rwy’n syfrdan, yn sefyll yma'n dweud hyn. Sut ar y ddaear y gallwch chi alw'ch hun yn Weinidog, sut y gallwch chi alw'ch hunain yn Llywodraeth, a chaniatáu i hyn ddigwydd, a gadael iddynt, yn llythrennol, ddympio deunydd a allai’n hawdd fod yn ymbelydrol ar Gymru? Anhygoel.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn pwysleisio nad oes cais wedi'i gyflwyno. Ac os derbynnir cais, bydd CNC yn ymgynghori â'r arbenigwyr—wrth gwrs y byddant—i ystyried a oes ei angen i lywio ei benderfyniad, ac a oes angen asesiad effaith amgylcheddol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, nad yw hepgor asesiad effaith amgylcheddol yn golygu na wneir asesiad llawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddeall hynny. A chyn inni benderfynu ar unrhyw gais am drwydded forol, mae CNC yn cynnal asesiad trylwyr o'r gweithgaredd arfaethedig, ac fel y dywedais, mae hynny'n cynnwys ystyried yr angen i ddiogelu'r amgylchedd morol ac iechyd pobl, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Ac rwy’n ailadrodd: ni chyflwynwyd cais am drwydded forol i CNC ar hyn o bryd. Gweinidogion Cymru yw'r corff apelio ar gyfer trwyddedau morol, felly nid yw'n briodol rhoi sylwadau ar brosiectau sy'n ddarostyngedig i'r broses ymgeisio honno.
Weinidog, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael ein harwain gan y wyddoniaeth, a bod gwyddoniaeth yn cyd-fynd â'r safonau rhyngwladol derbyniol. Ac nid oes gennym unrhyw ffordd o fesur a ddylem symud oddi wrth hynny, a dim ond caniatáu penderfyniad ar sail ffactorau eraill. Rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar unrhyw fath o frwydrau cenedlaethol yma. Mae aber yr Hafren yn cael ei rheoli fel aber. Ceir meysydd dympio ar bob ochr, o ran y ffin sy'n rhedeg i lawr canol yr aber, ac fe'i rheolir yn unol â hynny. Fodd bynnag, hoffwn ddweud hyn: nid wyf yn credu bod EDF Energy a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda yng ngham 1 o ran cyfathrebu â'r cyhoedd, oherwydd mae hynny'n bwysig tu hwnt. A phan fydd y cyrff hyn yn disgwyl i wleidyddion fod yn gyfrifol, a gwrando ar eu tystiolaeth, dylent gofio bod angen iddynt gyfathrebu â'r cyhoedd hefyd. Oherwydd os ydym yn eu cefnogi hwy a'u gwyddoniaeth, mae angen iddynt fod allan yno, fel y bobl sydd yn y sefyllfa orau i gael trafodaeth gyhoeddus. Oherwydd mae angen trafodaeth gyhoeddus arnoch ar rywbeth fel hyn—mae'n rhwym o fod yn ddadleuol.
Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywed David Melding. Ac rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu cynllun cyfathrebu. Rwy'n credu eich bod yn iawn, yn sicr roedd gwersi i'w dysgu o'r tro diwethaf, ac rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dysgu'r gwersi hynny, ac maent wedi manylu ar y camau y byddant yn eu cymryd i ymgynghori ac ymgysylltu'n eang ar brosiectau. Felly, yn amlwg, dylai pawb—ac mae hynny'n cynnwys pawb yn y Siambr hon—gyflwyno eu safbwyntiau i CNC.