10. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra?

– Senedd Cymru am 6:30 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:30, 4 Mawrth 2020

Yr eitem nesaf yw eitem 10—dadl fer gan Jenny Rathbone, os dwi'n iawn fan hyn. Galwaf arni hi i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi.

Dangoswyd sleidiau i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:30, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwyf wedi dewis y pwnc 'Ai clefyd yw gordewdra? ' (a) oherwydd ei bod hi'n Ddiwrnod Gordewdra'r Byd heddiw, (b) oherwydd bod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn adrodd heddiw fod lefelau gordewdra'n parhau i gynyddu, ac mae'n dal yn wir fod dros un o bob pedwar o blant pedair a phump oed yn ordew—ffaith eithaf damniol a sobreiddiol. Ac yn drydydd, pan gyfarfûm â Novo Nordisk yr wythnos diwethaf—cwmni fferyllol sy'n fwyaf adnabyddus am eu gwaith ar ddiabetes—gofynnwyd i mi a oeddwn yn ystyried bod gordewdra yn glefyd, a dywedais y byddai angen i mi feddwl am hynny a dod yn ôl atynt. Y rheswm pam fy mod yn gyndyn i ateb oedd nad oeddwn am feddyginiaethu'r hyn rwyf bob amser wedi'i weld fel problem gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd, wedi'i chreu gan ddiwydiant bwyd sy'n tueddu i achosi gordewdra, a thra-arglwyddiaeth y car dros y 60 mlynedd diwethaf.

Felly, beth yw gordewdra? Efallai ei bod braidd yn anodd i chi ddarllen ond rwy'n ddiolchgar iawn i Rachel Batterham, sy'n athro gordewdra yng Ngholeg Prifysgol Llundain, am ganiatáu i mi ddefnyddio rhai o'r sleidiau o'i chyflwyniad diweddar i Goleg Brenhinol y Meddygon sef y sefydliad a arweiniodd y ffordd, fel y cofiwch o bosibl, o ran sicrhau'r gwaharddiad ar ysmygu, ac sydd hefyd yn ymgyrchu'n galed iawn ar gael gwaharddiad i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r diwydiant alcohol yn ogystal. Felly, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn sefydliad pwysig. Beth bynnag, y diffiniad o ordewdra, sy'n broblem fyd-eang, yw clefyd lle mae braster gormodol wedi cronni yn y corff i'r fath raddau fel y gall niweidio iechyd.

Nid anghyfleustra'n unig ydyw—mae gordewdra'n byrhau hyd oes rhwng tair a 10 mlynedd. Mae gordewdra'n atal pobl rhag byw'n dda, ac rydym yn gwario 10 y cant o gyllideb y GIG ar gefnogi pobl sydd â diabetes. Efallai na fyddwch yn gallu darllen y sleid, ond nid diabetes math 2 yn unig y mae'n ei achosi, ond clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, pwysedd gwaed uchel, clefyd rhydwelïau coronaidd, a methiant y galon, a llawer o bethau eraill heblaw hynny, gan gynnwys anffrwythlondeb, anymataliaeth, iselder, gorbryder ac asthma.

Ychydig o bobl a fyddai'n dadlau, felly, yn erbyn yr angen i leihau gordewdra, o ystyried ei effaith yn bygwth bywydau. Yn wir, mae ganddo'r gallu, yn fy marn i, i orlethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Nawr, mae'n ymddangos bod yr ateb yn syml: os ydym yn bwyta llai ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, cawn gydbwysedd cywir o egni, a byddwn yn cario'r pwysau cywir ar gyfer ein maint. Yn y 1940au, y cyngor iechyd oedd cysgu o leiaf wyth awr y dydd, sicrhau eich bod yn cael amser hamdden—h.y. rhywbeth sy'n newid llwyr o'ch gwaith bob dydd, ar gyfer y corff a'r meddwl—y meintiau cywir o'r bwyd cywir, ac ymarfer corff rheolaidd. A hynny yn ystod yr ail ryfel byd, pan oedd y boblogaeth ar ei mwyaf iach—ond dogni oedd y rheswm am hynny. Ond gallwn weld bod y dirwedd wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd wedi dirywio'n aruthrol ers y 1940au, a bod lefelau gordewdra'n parhau i godi a chodi. Faint ohonom sy'n glynu at fantra'r 1940au heddiw, mewn byd nad yw byth yn cysgu?

Felly, y cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn i ni'n hunain yw: a yw'r rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach yn ddigon beiddgar a radical i ymdopi â maint y broblem, a gwrthdroi ein ffordd o fyw obesogenig? Caiff Cymru ei chanmol gan arbenigwyr ar ordewdra am fod yn barod i ddefnyddio deddfwriaeth i newid yr amgylchedd bwyd, mewn cyferbyniad â'r tin-droi a'r oedi ar ben arall yr M4. Rhaid inni atal y diwydiant bwyd rhag targedu plant i fwyta'r pethau anghywir: mae hynny'n gwbl anfoesol. Ac rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ddefnyddio dadreoleiddio bysiau, sy'n dod yn ystod y 12 mis nesaf, fel cyfle hefyd i wahardd hysbysebu bwyd sothach ar drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein cyhyrau caffael cyhoeddus i wahardd bwyd sothach o ganolfannau iechyd ac ysbytai'r GIG, ac rwy'n cymeradwyo bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro am ddangos y ffordd drwy gael gwared ar yr holl fwyd sothach o 13 o'i gaffis a'i ffreuturau ysbyty, a bydd yn ymestyn hyn i gynnwys ei ddau ysbyty cymunedol yn ddiweddarach eleni. Mae'r fenter hon wedi cynyddu nifer eu cwsmeriaid a'u proffidioldeb, ac mae hynny'n dangos y dylai pob bwrdd iechyd ddilyn y llwybr hwnnw, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn cael safon adwerthu genedlaethol ar gyfer ysbytai i hyrwyddo'r dewisiadau iach yn yr holl safleoedd gwerthu ar ystadau'r GIG. Mae Caerdydd a'r Fro wedi datblygu offeryn archwilio i sicrhau mai'r hyn y maent yn dweud eu bod yn ei gyflenwi yw'r hyn sy'n cael ei gyflenwi, sy'n eithaf pwysig o ystyried y byddwch yn costio mwy fyth mewn amser ac arian i'r gwasanaeth iechyd os ydych chi'n bwyta'r bwyd anghywir.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:36, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, mae gwir angen inni osod yr un safonau cadarn ar gyfer caffael cyhoeddus yn ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio y bydd y rheoliadau bwyta'n iach newydd yn cael eu cryfhau, oherwydd gyda chynifer o'n plant yn byw mewn tlodi, a theuluoedd sy'n agored iawn i ddewis ar sail pris yn unig, hyd yn oed os nad oes fawr o werth maethlon i'r bwyd, mae'n golygu bod brecwastau ysgol am ddim a chiniawau ysgol maethlon yn achubiaeth i blant o'r fath. Yn ogystal, mae'r rhaglen bwyta yn ystod gwyliau ysgol yn sicrhau nad yw'r un plant yn llwgu yn ystod gwyliau'r ysgol.

Felly, rwyf am weld llywodraethwyr ac awdurdodau lleol yn mynd ati'n llawer mwy trylwyr i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i blant yn ein hysgolion yn cydymffurfio â'r rheoliadau bwyta'n iach. Mae gan Estyn ryw fath o rôl anuniongyrchol yn hyn, o ran sicrhau bod llywodraethwyr ac awdurdodau lleol yn gwneud y gwaith hwnnw, ond nid ydynt hwy eu hunain yn arolygu, ac yn fy mhrofiad i, mae llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwnnw.

Nawr, yn amlwg, nid ein perthynas â bwyd yn unig sydd angen ei newid, mae angen inni wneud mwy o weithgarwch corfforol hefyd. Gwn fod y Dirprwy Weinidog ar flaen y gad yn sicrhau bod £30 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf a ddyranwyd i awdurdodau lleol i gynyddu llwybrau teithio llesol yn cael ei ddefnyddio nid yn unig ar lwybrau braf i'w cael ar gyfer twristiaid, ond i ddechrau symud yr amgylchedd obesogenig sy'n cael ei ddominyddu gan y car. Yng Nghaerdydd, mae Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad ac Ysgol Gynradd Howardian wedi arwain y ffordd ar gael cynlluniau teithio llesol, ond mae gwir angen inni ddisgwyl i bob ysgol eu rhoi ar waith hefyd. Ac roeddwn yn meddwl felly pa sgwrs y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â gweithredu parthau gwahardd cerbydau o gwmpas pob ysgol, yn unol ag argymhelliad Sustrans, fel bod pob disgybl yn gorfod cerdded, neu feicio neu fynd ar sgwter i'r ysgol ar gyfer rhan olaf y daith. Teimlaf y dylid ystyried hyn yn rhan annatod o'r pecyn, i wneud 20 mya yn gyfyngiad cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig, a newid y ffordd rydym yn defnyddio ein ffyrdd. Rwy'n tybio mai ar hynny y defnyddir y £4 miliwn ar y grant diogelwch ar y ffyrdd, ac efallai y gallai'r Dirprwy Weinidog egluro hynny, neu yn yr un modd, y £5 miliwn ar gyfer y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Rhaid inni gydnabod y gall plant fod yn llysgenhadon brwd dros fod yn fwy egnïol. Gallant helpu'r oedolion yn eu bywydau i fabwysiadu ffyrdd mwy egnïol o fyw.

Er fy mod yn llwyr gefnogi'r holl fesurau hyn, mae angen imi fynd i'r afael yn awr â pham nad yw gordewdra yn ddim ond cyflwr a achosir gan ddewisiadau ffordd o fyw rydym am eu gwrthdroi. Mae'n rhaid inni ei drin fel clefyd hefyd yn yr un ffordd ag y gwnawn gyda diabetes neu unrhyw glefyd arall. Yn gyntaf oll, y stigma sy'n gysylltiedig â gordewdra. Mae grŵp trawsbleidiol Senedd y DU ar ordewdra wedi rhyddhau canlyniadau arolwg yr wythnos hon ar y stigma sy'n gysylltiedig â gordewdra. Mae'r arolwg yn cadarnhau bod pobl sy'n byw gyda gordewdra yn wynebu lefelau uchel o stigma, sy'n effeithio ar eu bywydau, eu gwaith a'u hamdden, eu perthynas ag eraill, ac ar ba mor debygol ydynt o ofyn am gyngor meddygol gan eu meddyg teulu. Roedd 71 y cant o bobl a oedd yn ordew yn teimlo stigma wrth ofyn am gyngor neu gymorth iechyd. Mae llawer o bobl, gan gynnwys meddygon, yn methu deall bod gordewdra yn glefyd cronig. Maent yn ei weld fel diffyg grym ewyllys, diogi neu amharodrwydd i fwyta llai a symud mwy. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni herio'r agwedd honno oherwydd nid yw'n cydnabod maint problem gordewdra, sy'n ymwneud â mwy na ffactorau amgylcheddol yn unig.

Os na allwn atal gordewdra, mae gennym ddyletswydd foesol i'w drin. Mae rhai o'r triniaethau a gynigiwn i bobl sydd dros bwysau neu'n ordew yn aneffeithiol a dweud y gwir, fel y dengys y crynodeb hwn o doreth o bapurau ymchwil, pe baech yn gallu ei weld. Casgliad y papurau academaidd hyn yw bod dwy ran o dair o'r bobl sy'n mynd ar ddeiet yn adennill mwy o bwysau na'r hyn roeddent yn ei gario'n wreiddiol, cyn iddynt fynd ar ddeiet yn y lle cyntaf. Felly, pam hynny? Wel, credaf fod a wnelo hyn â'r ffaith ein bod, yn wreiddiol, yn byw mewn amgylchiadau llawer mwy anodd na heddiw. Rydym wedi ein cyflyru i drin deiet fel newyn, a'r unig ymateb rhesymegol i hynny yw adfer y pwysau a gollwyd cyn gynted ag y daw cyfle. Yn ogystal â hynny, mae rhai o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn enetig. Mae cyfansoddiad genetig ein rhieni yn dylanwadu'n fawr ar ba mor denau neu dew ydym ni. A yw hynny'n golygu, wrth i fwy o'r boblogaeth fynd yn ordew, fod mwy o'r plant a gawn hefyd yn mynd yn ordew? Mae'n rhaid inni ddechrau meddwl beth ddylai ein hymateb fod.

Yr ymateb mwyaf eithafol, os mynnwch, yw llawdriniaeth fariatrig, ond caiff ei hargymell gan yr arbenigwyr meddygol fel y driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer pobl sy'n ordew iawn. Cafodd cyfaill agos i mi, nad yw gyda ni mwyach, lawdriniaeth fariatrig, ac yn sicr fe wnaeth drawsnewid ei ymddangosiad, ei bwysau a'i allu i fyw bywyd egnïol. Felly, credaf fod budd enfawr i ddosbarthu gordewdra fel clefyd, oherwydd byddai'n sicrhau felly fod gennym lwybr clinigol ar gyfer trin yr achosion cymhleth hyn. Mae cysylltiad rhwng llawdriniaeth fariatrig ar gyfer trin pobl sy'n ordew iawn a llwyddiant i gadw'r pwysau i lawr yn barhaol dros 20 mlynedd. Mewn 95 y cant o achosion, llwyddodd i wrthdroi diabetes math 2 cleifion a newidiodd eu perthynas â bwyd, yn ogystal â'i gwneud yn haws iddynt symud o gwmpas wrth gwrs.

Llywodraeth Portiwgal yw'r unig Lywodraeth yn y byd sy'n cydnabod gordewdra yn swyddogol fel clefyd, er bod llu o gyrff meddygol yn cymeradwyo hyn fel ffordd o wella'r ffordd rydym yn trin diabetes. Mewn mannau eraill, pleidleisiodd Senedd yr Eidal o blaid cydnabod gordewdra fel clefyd yn dilyn ymgyrch gan grŵp trawsbleidiol ar ordewdra a diabetes.

I gloi, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod angen teilwra'r gwasanaethau i helpu rhai pobl sydd â thuedd enetig i fod yn ordew er mwyn eu helpu i osgoi'r canlyniadau mwyaf difrifol. Ond nid yw, ac ni ddylai hynny ein rhyddhau o'n dyletswydd wleidyddol i fynd i'r afael ag achosion cymdeithasol ac economaidd ein hamgylchedd obesogenig, a fydd fel arall yn lleihau cyfleoedd bywyd pobl ac yn fy marn i, gallai beri i'r GIG chwalu.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:44, 4 Mawrth 2020

Diolch, Jenny. Galwaf nawr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ganolbwyntio ar y mater pwysig hwn, o'r gwaith y mae'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd a'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn ogystal â'r gwaith yn ei hetholaeth ei hun. Mae'n tynnu sylw'n gyson at achosion a chanlyniadau gordewdra ac mae'n llais pwysig yn ein Senedd ar y materion hyn.

Fel yr amlinellodd yn ei haraith, eisoes mae gennym oddeutu 600,000 o oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy'n ordew, ac yn fwy pryderus, mae 60,000 o'r rheini'n ordew iawn. Mae'r nifer hwnnw'n cynyddu, ac amcangyfrifir bod 10,000 yn fwy o oedolion yn mynd yn ordew bob blwyddyn. Mae dros chwarter y plant rhwng pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau, gan gynnwys 12.4 y cant sy'n ordew. Mae'r ffigurau hyn yn frawychus. I roi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone yn y ddadl hon, ynglŷn ag a yw gordewdra yn glefyd, dyna yw casgliad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd, sydd wedi categoreiddio gordewdra fel clefyd ers 2016. Felly, ar un ystyr, mae'r awdurdodau arweiniol wedi ateb y cwestiwn.

Nid ydym yn teimlo y byddai cydnabod bod gordewdra yma yng Nghymru yn glefyd ar hyn o bryd yn arwain at ymateb gwahanol o ran gwasanaeth i'r hyn rydym eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag ef. Mae ein rôl yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o brif achosion gordewdra a amlinellwyd gan Jenny Rathbone, sef tlodi, yr amgylchedd a deiet. Ar gyfer oedolion a phlant, mae cyfraddau gordewdra yn cynyddu gydag amddifadedd, gyda nifer yr achosion 6 y cant yn uwch ymysg plant pedair i bump oed sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan godi i 13 y cant ar gyfer oedolion.

Mae strydoedd sy'n cael eu dominyddu gan geir yn cyfrannu at ein hargyfwng gordewdra. Mae strydoedd traffig trwm yn creu'r hyn sy'n cael ei alw'n 'amgylcheddau obesogenig'—lleoedd sy'n annog pobl i beidio â gwneud gweithgarwch corfforol ac sy'n cyfrannu at broblem diffyg ymarfer corff. Caiff un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru eu categoreiddio'n ordew bellach, ond mae'r nifer yn gostwng yn sylweddol ymhlith y rhai sy'n gorfforol egnïol. Felly, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr yn creu sawl mantais, o aer glanach a ffyrdd llai prysur, i iechyd meddwl gwell a siopau lleol prysurach.

Ac i geisio ateb y cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone am barthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion, rydym newydd ddiweddaru'r canllawiau ar gyfer y prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar ymyriadau sy'n annog newid ymddygiad. Ac rwyf wedi dweud fy mod wedi cyfarfod â'r holl swyddogion diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru ac wedi nodi fy nisgwyliadau clir iawn nad atebion ar sail peirianneg yn unig roeddem am eu gweld; roeddem am gael atebion a oedd yn mynd i annog newid moddol ac i gymell pobl rhag ymgymryd â gweithgareddau sy'n dibynnu ar geir. Eu lle hwy yn awr yw cyflwyno cynigion ac yn sicr byddem yn croesawu cynigion i gael parthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion lle mae cefnogaeth leol i hynny, ac mae Jenny Rathbone yn iawn: mae angen inni ddechrau meddwl yn fwy radical am y math o ymyriadau a welwn o gwmpas ysgolion yn arbennig. Ac rwy'n disgwyl, yn y rownd nesaf o fapiau—y mapiau rhwydwaith unigol y mae awdurdodau lleol yn eu cynhyrchu y flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol yn y dyfodol—y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei mapio ar y cynlluniau hynny, a fydd yn arwain at seilwaith wedyn, gan eu cysylltu â rhwydweithiau dros y cyfnod cynllunio hwnnw.

Mae'r system fwyd, fel y mae Jenny Rathbone yn ein hatgoffa'n gyson, yn cyfrannu at yr epidemig o ordewdra hefyd. Mae mynediad at fwydydd rhad, sy'n cynnwys llawer o halen, siwgr, brasterau ac ychwanegion, wedi annog newid mewn ymddygiad bwyta. Felly, er mwyn cael effaith sylweddol, bydd angen dull trawslywodraethol effeithiol, a dyna pam rydym wedi nodi themâu yn ein strategaeth 10 mlynedd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, sy'n ymwneud ag amgylcheddau iach a lleoliadau iach. Er enghraifft, byddwn yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth yn yr amgylchedd bwyd dros yr haf, ac yn ystyried ystod o fesurau yn y dyfodol, megis hyrwyddiadau prisiau, labelu calorïau a phrynu diodydd. Daw hyn ochr yn ochr â buddsoddi i newid ein hamgylchedd ffisegol mewn mesurau i annog teithio llesol a chreu mannau gwyrdd.

Mae cysylltiad mawr rhwng gordewdra ac anghydraddoldebau iechyd a byddwn yn edrych ar rôl newid ymddygiad i annog newid cynaliadwy. Dyma pam ein bod yn datblygu dulliau wedi'u targedu a'u teilwra, yn enwedig gyda phlant a theuluoedd. Y risg o roi label clefyd ar ordewdra yw y gall llawer o bobl deimlo y bydd gordewdra yn anochel wedyn ar adeg pan ydym am i bobl deimlo y cânt eu galluogi i wneud newid iach—

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:49, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn meddwl tybed sut rydych yn ein gweld yn mynd i'r afael â'r stigma, a nodwyd gan y grŵp seneddol trawsbleidiol, oherwydd nid oes amheuaeth fod pobl yn teimlo'n gyndyn i fynd at eu gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn rhannol am nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydymdeimlo â'r broblem.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 6:50, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. Mae llawer o bobl wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru am y stigma dyddiol y maent wedi'i wynebu, sy'n gallu bod yn ffactor gwaharddol iddynt wneud newid cadarnhaol, neu gleifion yn ofni trafod eu pwysau gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Byddwn yn sicrhau bod mwy o ofal tosturiol yn y GIG a bod gwasanaethau'n gefnogol ac yn rhai sy'n galluogi. Rydym yn gwybod y bydd cael ymateb cyson gan y GIG drwy'r llwybr gordewdra yn help i fod yn ffactor cyfrannol sylweddol yn hyn o beth. Fodd bynnag, yr hyn na allwn ei wneud yw lleihau'r problemau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu er mwyn sicrhau nad yw hwn yn fater sy'n diffinio iechyd ein poblogaeth yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu y byddai trin gordewdra fel clefyd yn helpu i newid y momentwm na'r ddarpariaeth y byddwn yn bwrw ymlaen â hi drwy ein dull uchelgeisiol o weithredu drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Diolch yn fawr.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:51, 4 Mawrth 2020

Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.