3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
2. I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar gyfer y trafodaethau gyda'r UE? 402
Yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar bob cyfle i nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol i Lywodraeth y DU. Cawsom weld testun drafft ychydig ddyddiau cyn ei gyhoeddi, a chymerwyd rhan mewn cynhadledd ffôn ychydig oriau cyn y disgwylid i Gabinet y DU ei drafod. Nid oedd y testun terfynol yn adlewyrchu unrhyw rai o'r pwyntiau o sylwedd a wnaethom. Roedd hyn er gwaethaf cylch gorchwyl Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd), sy'n rhwymo Llywodraeth y DU i geisio cytuno ar safbwyntiau negodi gyda'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r dull gweithredu y mae'r mandad yn ei amlinellu yn un sy'n gosod trywydd ideolegol ynghylch sofraniaeth lwyr—sy'n sicr yn ffantasi yn y byd sydd ohoni—uwchben swyddi a bywoliaeth pobl. Rydym wedi bod yn glir na allwn gefnogi dull o'r fath, a bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfle i siarad ar ran pob un o bedair Llywodraeth y DU yn y negodiadau, sydd wedi dechrau yr wythnos hon.
Weinidog, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymgysylltiad adeiladol Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig yn dod yn bwysicach fyth. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i fanteisio ar bob cyfle i ddangos bod gwir ddyfnder a sylwedd y tu ôl i'r rhethreg am barch tuag at y Llywodraethau datganoledig. Yn yr un modd, mae'n ddyletswydd ar Lywodraethau datganoledig i ddangos eu bod yn barod i ymgysylltu o ddifrif ac yn adeiladol â Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, ddiwedd mis Ionawr, dywedodd Prif Weinidog Cymru, ar ôl cyfarfod rhwng y Llywodraethau datganoledig a Gweinidog y DU, Michael Gove, eu bod yn cydnabod bod angen i'r gwaith o lunio perthynas â'r UE yn y dyfodol gael ei wneud drwy gytundeb ar draws llywodraethau'r DU yn hytrach na'u bod yn bwrw iddi ar eu pen eu hunain.
Nawr, roedd hwnnw'n swnio fel ymrwymiad difrifol ac adeiladol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i eiriau calonogol mewn cyfarfod â Llywodraeth y DU. Ac eto, fis yn unig yn ddiweddarach, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru yn gyhoeddus, ar ôl cyhoeddi mandad negodi'r DU a'r UE, y byddai economi a swyddi Cymru yn cael eu niweidio gan berthynas 'sylfaenol, ddisylwedd â'r UE' sy'n 'ddiffygiol o ran uchelgais ac yn gwneud cam â Chymru', y bydd 'safbwynt masnachu'r DU yn arwain at golli swyddi yng Nghymru', a'n bod mewn perygl o wynebu tariffau a fyddai'n 'andwyo ein ffermwyr a'n sector bwyd' os bydd y negodiadau'n methu. Rhybuddiodd hefyd fod uchelgais wleidyddol Llywodraeth y DU i sicrhau unrhyw gytundeb doed a ddelo, neu ddim cytundeb o gwbl, yn 'amlwg yn bwysicach iddynt na sicrhau cytundeb sydd o fudd i holl wledydd y DU'.
Weinidog, dywedodd Michael Gove wrth Dŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf fod y Llywodraethau datganoledig wedi helpu i lunio ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at fandad y DU. Weinidog, a oedd Michael Gove yn dweud y gwirionedd plaen wrth Senedd y DU, neu a oedd yn camsiarad?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pellach hwnnw. Mae honni bod llais y Llywodraethau datganoledig wedi cael effaith sylweddol ar lunio'r mandad negodi yn chwerthinllyd, a bod yn onest. Fel y crybwyllais yn fy ateb cynharach, rydym wedi manteisio ar bob cyfle i gyflwyno'r achos ar ran Cymru. Yn ogystal â'r blaenoriaethau negodi, a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr, ar sail y datganiad gwleidyddol yn dilyn cyhoeddi'r amcanion negodi, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU i amlinellu rhai o'n blaenoriaethau'n fanylach.
Ar ôl derbyn y mandad drafft, ysgrifennais at Lywodraeth y DU gan nodi nifer o bwyntiau manwl roedd angen rhoi sylw iddynt. Er enghraifft, yng nghyd-destun yr adran sy'n ymdrin â rhwystrau technegol i fasnachu, pwysleisiais yr angen i gydnabod anghenion y sector awyrofod yn benodol. Yn yr adran sy'n ymdrin â mesurau i sicrhau iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion, gofynnais am flaenoriaeth benodol i sectorau yng Nghymru y mae'r mesurau hynny'n effeithio arnynt, gan gynnwys pysgod cregyn, cig eidion, cig oen, a'r sector llaeth. Ni ddaw o hyd i'r cyfeiriadau hynny y bûm yn pwyso amdanynt yn y mandad terfynol.
Ar y bore roedd Cabinet y DU yn cyfarfod i drafod a chwblhau'r mandad, cefais alwad ffôn gyda Michael Gove lle trafodais y pryderon roeddwn wedi'u codi yn fy llythyr, ac yn yr alwad honno ni chefais unrhyw sicrwydd fod Llywodraeth y DU yn fodlon newid eu dull negodi mewn ymateb i sylwadau gan unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, ac ni allent bwyntio at unrhyw newidiadau yn y mandad a oedd yn adlewyrchu pethau roeddem wedi pwyso amdanynt. Felly, mae'n amlwg yn y testun terfynol hwnnw fod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio ag ystyried buddiannau cyfreithlon y Senedd hon ac achos Llywodraeth Cymru.
Gan ddilyn yr un trywydd i raddau helaeth, a gaf fi ddweud, nid yw rhai ohonom yn y Siambr hon yn unoliaethwyr? Gallai hynny fod yn syndod i rai. Weithiau, mae'n rhaid ichi gwestiynu gwerth bod yn unoliaethwr yn y sefyllfa hon, oherwydd yn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â deddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit, fe gofiwch yr eglurhad helaeth, athronyddol o gonfensiwn Sewel y gwnaethoch honni eich bod yn ei roi allan, ac roeddem yn cytuno'n fawr â'ch dadansoddiad; y ffaith, yn y bôn, mewn perthynas â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynglŷn â'r Ddeddf ymadael, fod tri gwrthodiad yn y Seneddau datganoledig—nid yn unig yma, ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon—ond bod San Steffan wedi diystyru'r tri gwrthodiad cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gan nodi bod sefyllfa Brexit 'ddim yn normal' ac yn unigryw. Bwriodd San Steffan yn ei blaen heb ystyried ein safbwyntiau ni yma.
Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf eich bod wedi cael sicrwydd wedi hynny—nid yn unig bod San Steffan wedi bwrw ymlaen er bod tair Senedd ddatganoledig wedi anghytuno â hwy a bwrw ymlaen—roeddech chi wedi symud ymlaen ac wedi cael sicrwydd a diffiniad o'r hyn a olygai 'ddim yn normal', yn yr ystyr ei fod yn unigryw, os nad yn hynod unigryw, ac anarferol. Felly, roedd yn ymddangos eich bod yn dawel eich meddwl na fyddai'r sefyllfa hon yn parhau i ddigwydd, er inni ofyn pa fesurau diogelwch sydd ar waith er mwyn sicrhau na fyddai'r sefyllfa hon yn parhau i ddigwydd.
Felly, mae'n ymddangos yma, yn awr, mewn perthynas â mandad y DU, fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hanwybyddu neu ei gwthio i'r cyrion, ac nad yw ei llais yn cael ei glywed. A ddylem gymryd bod hon yn sefyllfa arall lle nad yw hon ond yn gyfres unigryw arall o sefyllfaoedd? A yw hyn eto 'ddim yn normal', ac a oes disgwyl inni dderbyn hynny a symud ymlaen ni waeth beth a dweud unwaith eto, 'Mewn gwirionedd, nid oedd hyn yn normal. Mae'n unigryw. Mae'n adeg anodd. Rhaid inni dderbyn y math hwn o beth gan mai dyma lle mae'r Senedd ym meddylfryd San Steffan'? Neu a ydym yn sefyll ac yn dweud, 'Ni all hyn barhau. Mae pedair Senedd i fod yn rhan o hyn. Gadewch inni wneud rhywbeth amdano.'
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno ynglŷn â gwerth yr undeb a manteision bod yn rhan o undeb i Gymru, ac a bod yn onest, fe ddylai weithredu'n well nag y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu. Ond serch hynny, mae gennym farn wahanol ar hynny.
Mae'n cyfeirio at y ddadl mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, ac fe fydd yn cofio, rwy'n credu, wrth wneud hynny, fy mod wedi cyflwyno'r achos dros ddiwygio confensiwn Sewel, nid honni bod y trefniadau presennol yn ddigonol. Felly, wrth geisio diwygio, yn yr ystyr eang honno, mae ef a minnau'n rhannu'r egwyddor honno. Ond mae hefyd yn bwysig nodi y bu enghreifftiau, a dyna pam fod hyn mor rhwystredig—boed mewn perthynas â pharatoi deddfwriaeth neu'r cytundeb rhynglywodraethol; neu wrth gydweithio i gynllunio ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb; neu yn wir mewn perthynas â'r corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth a basiwyd er mwyn hwyluso'r broses o adael; ac yn wir, mewn perthynas â pheth o'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, yn ei wneud gyda'r Adran Masnach Ryngwladol ar negodiadau masnach gyda gweddill y byd—ceir enghreifftiau lle mae ymgysylltu wedi sicrhau mantais ac wedi rhoi'r llais priodol i Gymru yn yr ystyriaethau hynny.
Felly, mewn gwirionedd, rwy'n dod i'r Siambr gyda thristwch mawr i ddweud yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth ymateb i'r cwestiwn gan Huw Irranca-Davies. Nid yw hon yn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn cau'r drws. Pe bai Llywodraeth y DU yn agor y drws yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru a Llywodraethau datganoledig eraill ymwneud yn briodol yn y negodiadau hynny, byddem yn barod, fel rydym bob amser wedi bod, i chwarae rhan adeiladol yn hynny. Ond mae'r cyfrifoldeb hwnnw yn awr ar garreg drws Llywodraeth y DU, sydd wedi methu'n lân ag adlewyrchu llais y Llywodraethau datganoledig yn y mandad negodi hwn.
A all y Cwnsler Cyffredinol synnu mewn gwirionedd nad yw Llywodraeth y DU wedi ei gymryd o ddifrif wrth ofyn am rôl yn y mandad negodi hwn? Mae'n sôn am ymgysylltiad adeiladol, ac nid yw'n dymuno hynny o gwbl; mae'n dymuno gweld ymgysylltiad dinistriol. Mae wedi bod yn gyson ac yn ymosodol elyniaethus tuag at holl nodau negodi Llywodraeth y DU. Pleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru i adael yr UE, a dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn eu gallu i rwystro canlyniad y refferendwm hwnnw. Rydym bellach wedi gadael yr UE. Mae cyfleoedd yn ogystal â heriau o'n blaenau, ond nid yw'r Cwnsler Cyffredinol byth yn gweld cyfleoedd; nid yw ond yn gweld anawsterau. Bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni canlyniad y refferendwm yn 2016, canlyniad y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un mor elyniaethus tuag ato heddiw ag y bu drwy gydol fy nghyfnod yn y Cynulliad hwn.
Ar lefel fechan iawn, credaf y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi chwarae rhan bwysig yn datblygu'r mandad negodi hwn, ond oherwydd y rhyfelgarwch cyhoeddus yn erbyn prosiect cyfan Llywodraeth y DU, ni fydd byth yn cael ei gymryd o ddifrif. Nid yw'n awyddus i chwarae rhan yn negodiadau'r DU, ond mae'n awyddus i chwarae rhan yn negodiadau'r UE; mae'n geffyl pren Troea i Monsieur Barnier.
Wel, mae'n ddrwg gennyf ddweud fy mod yn credu bod y cyfraniad hwnnw wedi methu cyrraedd lefel y drafodaeth, ac yn anffodus, nid yw'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa mewn unrhyw ffordd. Yn amlwg, byddai wedi bod yn well gan Lywodraeth Cymru gael canlyniad gwahanol i'r refferendwm; mae hynny'n ffaith sydd wedi'i hen sefydlu, ond yr hyn rydym wedi'i wneud, ar bob cyfle, yw cydnabod gwirioneddau newydd a cheisio dylanwadu o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, pan ddaeth yn amlwg fod gan y Prif Weinidog fandad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail datganiad gwleidyddol, gwnaethom ymgysylltu â'r datganiad gwleidyddol hwnnw, gan gydnabod nad hwnnw oedd y man cychwyn y byddem wedi'i ddewis ein hunain, a gwnaethom ddisgrifio, yn eithaf manwl, ac nid yw hynny wedi'i wrthbrofi, y fersiwn orau o'r trefniant hwnnw ar gyfer dyfodol Cymru, yn gyson â'r mandad hwnnw.
Rydym wedi manteisio ar bob cyfle i geisio dylanwadu ar y ddadl mewn ffordd adeiladol. Fel y dywedaf—[Torri ar draws.]
A wnewch chi adael i'r Gweinidog ateb y cwestiwn heb unrhyw sylwadau oddi ar eich eistedd? Diolch.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi ceisio dylanwadu ar y drafodaeth mewn ffordd adeiladol iawn, er na fyddem wedi dymuno dechrau o'r sefyllfa hon, fel rwy'n dweud. Rydym wedi ceisio manteisio ar y cyfleoedd, fel y mae'r Aelod yn eu disgrifio, boed mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol, neu gymorth amaethyddol, neu newid cyfansoddiadol. Mae pob un o'r meysydd hyn yn rhai sy'n cynnig cyfle i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol, ac yn yr ysbryd hwnnw rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mandad hwn, a byddem yn dymuno parhau i wneud hynny pe bai'r cyfle'n codi.