– Senedd Cymru am 5:01 pm ar 10 Mawrth 2020.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd—i gynllunio'r gweithlu a lefelau staffio priodol. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant a'r grŵp. Angela Burns.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cyflwyno'r gwelliannau'n ffurfiol yma yn fy enw i. Hoffwn, ar y dechrau, Gweinidog, ddweud bod y rhain yn welliannau treiddgar. Mae gennych y cyfle, drwy eich ymateb, i sicrhau nad oes raid inni dreulio amser yn pleidleisio o 21 i 34.
Ailgyflwynwyd y gwelliannau hyn gennym ni o Gyfnod 2. Fe'u cyflwynwyd yn flaenorol fel cymysgedd gan Helen Mary Jones a mi, ac maen nhw'n cefnogi argymhelliad 4 y Pwyllgor, oherwydd credaf fod angen cofio sylwadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y Mesur yng Nghyfnod 1, a oedd yn nodi bod y Mesur hwn yn gyfle delfrydol i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ag egwyddorion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac ehangu ei chymhwysedd. Mae'n arbennig o berthnasol i adran 25D o'r Ddeddf hon, sy'n ymwneud â sicrhau y gall byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG ymgymryd â'r darpariaethau hyn i'w galluogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon.
Nawr, does bosib bod hyn yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 1 hefyd, sef bod y ddyletswydd ansawdd yn fwy na newid diwylliannol, ac rwy'n cytuno ag ef. I gael newid diwylliannol, dylai pob grŵp o staff clinigol fod yn rhan o gynllunio'r gweithlu'n ddigonol. Mae gwelliant 33 yn amlinellu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod nifer digonol o staff gofal iechyd penodol, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd ac ymarferwyr meddygol. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, roedd yn dorcalonnus o eglur yn achos Cwm Taf fod nifer o ffactorau, gan gynnwys lefel annigonol o fydwragedd, wedi achosi'r methiant trychinebus yn y ddarpariaeth o ofal diogel a welsom yno.
Felly, credwn mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, ac rydym yn credu bod y Bil hwn yn gyfrwng da iawn i wneud hynny. Ni cheir adroddiadau rheolaidd am swyddi gwag ar gyfer bydwragedd, ac ni fydd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach yn yr haf. Felly, heb y data allweddol hyn ar sail barhaus, yn hytrach nag adolygiad untro, ni wyddom a oes digon o staff mamolaeth ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Bwriad rhan gyntaf gwelliant 34, sef y ddyletswydd i sicrhau lefelau staffio priodol, yw mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cadw at yr un safonau a disgwyliadau â chorff y GIG. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Gweinidog ddangos pa gamau a gymerwyd i gyflawni hyn. Nawr, gadewch imi fod yn glir, gyda'r achosion a welwn bellach o COVID-19 yn ymddangos yng Nghymru, a chan nodi'r pwysau posibl ar staffio os bydd yr haint yn lledu, dyma'r amser i fonitro pwysau o fewn y system iechyd, fel ein bod yn gwybod a all ein byrddau iechyd lleol ddarparu'r lefelau gofal diogel hynny.
Bydd ail ran ein gwelliant ni, y ddyletswydd i gael asesiad staffio amser real ar waith, yn sicrhau y caiff lefelau staffio eu monitro'n rheolaidd fel bod cyrff y GIG a'r Gweinidogion yn ymateb i faterion wrth iddyn nhw ddigwydd ar y pryd, yn hytrach na dim ond ymateb i weithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw fisoedd neu flynyddoedd ynghynt. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, mae materion eisoes yn codi o ran lefelau diogel nyrsio, gan fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dal i bryderu nad yw Llywodraeth Cymru na GIG Cymru yn cyhoeddi ffigurau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag gan ddefnyddio diffiniad y cytunwyd arno o'r hyn yw swydd wag. Ac nid yw data blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar lefelau nyrsio yn adlewyrchu'n ddigonol anghenion cleifion na'r broses o ddatblygu gwasanaethau, gan gynnwys cydafiacheddau a phoblogaeth sy'n heneiddio.
Bydd trydedd ran a rhan olaf y gwelliant, y ddyletswydd i roi proses uwchgyfeirio risg ar waith, yn rhoi i bob aelod staff fecanwaith clir ar gyfer codi pryderon os ydynt yn gweithio mewn lleoliadau lle teimlant nad yw'r lefelau staffio sydd ar gael yn ddiogel.
Yng Nghyfnod 2, nododd y Gweinidog na fyddai'n cefnogi'r gwelliannau hyn—felly, rwy'n deall ar hyn o bryd—oherwydd nid y Mesur fyddai'r dull priodol o wneud newid o'r maint hwn, a byddai cymhwyso unrhyw egwyddorion o ddeddf lefelau staff nyrsio i bob grŵp staffio clinigol arall yng Nghymru, heb fod yr un faint o ystyriaeth a chraffu, yn amhriodol ac anghyson. Eto, fel yr ydym wedi dweud mor aml o'r blaen am ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae darpariaethau'r Bil ar ddyletswydd ansawdd yn rhy eang. Felly mae perygl iddo fod yn nod yn hytrach na dyletswydd, heb fecanweithiau penodol i fyrddau iechyd ymgymryd â'r camau angenrheidiol i sicrhau y caiff ei gynnal a'i fonitro fel mater o drefn.
Rwyf hefyd, Gweinidog, yn amau eich pryderon ynghylch yr ystyriaethau ariannol. Bydd cael lefelau staffio priodol ar waith yn costio llai o arian i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru yn y tymor hir oherwydd salwch ac afiechydon sy'n ymwneud â straen, yn ogystal â gwell iechyd meddwl i'r holl staff. Mae'r gwelliannau hefyd yn cydnabod nad yw'r pwyslais ar gyrff y GIG yn unig, a bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn nyfodol hirdymor lefelau staffio cyrff y GIG.
Rwy'n nodi'r pwyntiau a godwyd gennych yng Nghyfnod 2 yn eich llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 26 Chwefror. Dywedasoch fod Atodlen 3 i'r Mesur yn diwygio is-adran 47 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ystyried y safonau gofal iechyd. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 7, nid yw'r safonau hyn wedi'u diweddaru ers 2015. Ers hynny rydym wedi cael poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg sy'n golygu eu bod bellach ar eu hôl hi. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer y safonau diwygiedig, yn ogystal â rhoi ar glawr ei ymrwymiad i fecanwaith clir i adolygu'r safonau hyn yn rheolaidd.
Gweinidog, pe baech yn barod i ateb y cwestiynau hyn am y safonau iechyd a gofal, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi gwelliannau 36 a 37, byddwn yn fodlon tynnu'r gwelliannau hyn yn ôl.
Mi fyddwn ni ar feinciau Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau yma, ond mi fyddwn i'n dymuno jest cymryd eiliad bach i egluro sut y byddwn ni yn ymwneud â'r Bil yma yn gyffredinol ar y dechrau fel hyn hefyd.
Mae yna nifer o resymau pam yr ydym ni'n credu nad allwn ni gefnogi y Bil fel y mae o, a'i bod hi'n annhebygol y byddwn ni'n gallu cefnogi'r Bil ar ôl inni fynd drwy y broses rydyn ni'n mynd drwyddi heddiw. Mae nifer o resymau, a'r pennaf o'r rheini, am wn i, ydy y byddai'r Bil yma yn gwanhau llais y claf drwy gael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned hynny sydd wedi bod yn lleisiau cryf dros y cleifion, ac yn sicr mae hynny'n wir yn y rhan o Gymru dwi yn byw ynddi hi yn y gogledd. Ac mae methiant y Bil i gynnig yn lle'r hyn sydd gennym ni rŵan fodel fyddai'n cynnig yr un annibyniaeth, yr un ddealltwriaeth o realiti ac anghenion gwasanaethau iechyd a gofal mewn gwahanol rannau o Gymru.
Ond mae yna rannau eraill o'r Bil rydyn ni hefyd yn teimlo sy'n annigonol. Beth sydd gennym ni yma ydy Bil sydd, mae'n ymddangos, yn rhoi safon a safonau wrth galon cynllunio gwasanaethau, ond sy'n methu wedyn â diffinio yn ddigon eglur ac yn ddigon cadarn beth ydy'r safonau disgwyliedig hynny, yn cyfeirio'n hytrach at safonau iechyd a gofal, ac mae'r ddogfen ddiweddaraf sydd yn diffinio'r rheini wedi dyddio—2015, dwi'n credu. Felly, mae yna wendidau yma rydyn ni'n gresynu ein bod ni wedi methu â mynd i’r afael â nhw mewn ffordd briodol yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd. Ac yn fan hyn, dwi’n talu teyrnged i Helen Mary Jones am y gwaith y gwnaeth hi pan oedd hi’n llefarydd iechyd Plaid Cymru yng nghyfnod cynharach y daith drwy'r Senedd.
Gan droi at y gwelliannau penodol, mae'n siŵr y bydd y Gweinidog, mi wn, yn dweud heddiw fod y safonau iechyd a gofal eisoes yn ystyried yr angen am gynllunio'r gweithlu. Mae safon 7.1 yn dweud:
'Dylai gwasanaethau iechyd sicrhau bod digon o staff â’r wybodaeth a sgiliau cywir ar gael ar yr amser cywir i ddiwallu’r angen.'
A yw hynny'n ddigon ynddo'i hun? Mae yna hefyd ystod o feini prawf sy'n cael eu defnyddio i egluro beth mae hynny'n ei olygu. Mae hynny'n cynnwys materion fel mynd i raglenni hyfforddi, bod y gweithlu'n gallu mynegi pryderon, bod gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithlu effeithiol. Dyna'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ar hyn o bryd. Ond fe ofynnaf i chi, fel Aelodau: a ydym yn credu o ddifrif fod y meini prawf hyn yn cael eu dilyn ar hyn o bryd? Mae'r dystiolaeth a welaf yn dangos nad ydynt, ac mae gennym gyfle yn y Mesur hwn i gryfhau hynny. Mae arnom angen rhywbeth mwy cadarn. Byddwn yn awgrymu cyfeiriad uniongyrchol at y gweithlu ar wyneb y Bil.
Felly, byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn ar y gweithlu gan na allwch gael GIG heb weithlu, ac rwy'n gobeithio'n ddidwyll y bydd y gwelliannau hyn yn cael eu pasio.
Meddyliais yn hir ac yn galed ynghylch a ddylwn gyflwyno fy ngwelliannau fy hun i'r Bil hwn, ac yn y diwedd, rwyf wedi dewis cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau. Holl ddiben diwygio deddfwriaeth yw ei gwella, er mwyn sicrhau y bydd y Ddeddf ganlyniadol o fudd i'r bobl a'n dewisodd ni i'w cynrychioli. Yn hytrach na chael pob un ohonom yn mynd ein ffordd ein hunain gyda gwelliannau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, roedd yn well rhoi gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu, ac ar ddiwedd y dydd, nid yw'n bwysig i bobl Cymru un a gyflwynwyd gwelliannau gan Lywodraeth Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru neu gan barti Brexit. Y cyfan sy'n bwysig yw bod y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni ei nod datganedig o wella ansawdd ac ymgysylltu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dewisais gefnogi gwelliannau Angela yn y grŵp hwn oherwydd, fel hithau, nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran ei dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd. Oherwydd diffyg cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, mae prinder staff yn y GIG, sydd, yn ei dro, wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Os ydym eisiau gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid inni sicrhau bod gan ein staff rhagorol yr amser i ofalu. Gan fod Llywodraethau o bob lliw wedi methu â chynllunio'r gweithlu'n ddigonol, mae gennym brinder staff yn gyffredinol. Mae llawer o adrannau ysbytai ond yn gweithredu oherwydd lefelau arwrol o ysbryd penderfynol ymhlith y staff. Yn anffodus, mae'r achosion o orweithio a diffygio yn real iawn. Gallwn ond sicrhau ansawdd os oes gan ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o unigolion cymwysedig, cymwys a medrus, ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.
Ysgrifennodd un o'm hetholwyr ataf y mis diwethaf ar ôl cyhoeddi'r adroddiad ar archwiliad o wasanaethau fasgwlaidd ysbytai a adawodd bobl yn bryderus yng Ngogledd Cymru. Cafodd hwn ei ysgrifennu gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, y corff gwarchod cyhoeddus sy'n dwyn Bwrdd Iechyd Betsi i gyfrif, ac y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei ddiddymu—ebychnod. Fel y dywedodd y sector wrthyf, dim ond cyrff annibynnol sy'n rhoi gwir her.
Diddymwyd cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr yn 2003. Cymerodd dair blynedd i'w diddymu a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Roedd tynged cynghorau iechyd cymuned Lloegr wedi'i selio pan darodd Llywodraeth y DU ar y pryd fargen â gweinyddiaethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y pryd, gan ganiatáu iddynt gadw eu cynghorau iechyd cymuned eu hunain pe baent yn cefnogi diddymu cynghorau iechyd cymuned Lloegr.
Canfu adroddiad Francis fod cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr bron yn ddieithriad yn cymharu'n ffafriol yn y dystiolaeth â'r strwythurau a ddaeth ar eu hôl. Mae'n eithaf clir erbyn hyn, dywedodd yr adroddiad, bod yr hyn a wnaeth eu disodli, dwy ymgais i ad-drefnu mewn 10 mlynedd, wedi methu arwain at lais gwell i gleifion a'r cyhoedd, ond wedi cyflawni'r gwrthwyneb.
Ac roedd Andy Burnham, a oedd yn AS ar y pryd, yn amau, wrth edrych yn ôl, ddoethineb diddymu cynghorau iechyd cymuned. Dywedodd nad honno oedd awr orau Llywodraeth y DU ar y pryd:
Mae'n ymddangos ein bod wedi methu cyflwyno rhywbeth i gymryd lle'r cynghorau iechyd cymuned a wnaeth y gwaith yn dda.
Wel, profiad ymarferol y rhai a oedd yn gweithio yn y sefydliadau a ddilynodd cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr oedd bod gwaith monitro a chraffu effeithiol wedi'i golli am gyfnod sylweddol bob tro yr oedd ad-drefnu'n digwydd.
Fel y dywedais yma dair blynedd yn ôl, o ran staffio, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diystyru'r rhybuddion ein bod yn wynebu argyfwng meddygon teulu yn y gogledd, a roddwyd gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys BMA Cymru Wales, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, a gennyf fi a chydweithwyr yng Nghabinet yr wrthblaid ar ran staff GIG Cymru a chleifion sydd wedi codi eu pryderon gyda ni.
Wrth siarad yma ym mis Ionawr, sylwais fod y Coleg Nyrsio Brenhinol, ar ddiwedd 2019, wedi lansio ei adroddiad 'Cynnydd a Her' ar weithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, a ddywedodd:
Mae'r gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol. Mae’r niferoedd uchel o swyddi gwag...o leiaf rhyw 1600 yn ôl yr amcangyfrif'— dyfynnaf— wedi’u hategu gan brinder mawr yn y sector cartrefi gofal a’r colledion sylweddol posibl o ganlyniad i ymddeoliad yn y...10 mlynedd nesaf.
Maent yn gofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
Sut y mae’r trefniadau 'mesurau arbennig'— ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr— yn monitro ac yn cefnogi’r Bwrdd i gydymffurfio â’r Ddeddf?
A fyddwch yn cynyddu nifer y myfyrwyr nyrsio yn unol â chais Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A fyddwch yn cefnogi lleoliad myfyrwyr nyrsio heb eu comisiynu— o Brifysgol Glyndŵr— yn unol â chais Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Wel, mae BMA Cymru Wales bellach yn galw am ymgorffori staffio diogel mewn deddfwriaeth Gymreig, gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Cymru, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Caeredin a Choleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru. Dywedant fod diogelwch cleifion yn dibynnu ar feddygon a staff gofal iechyd yn gweithio mewn system ddiogel, ond, oherwydd yr argyfwng parhaus o ran trin a chadw gweithwyr yn y GIG, nid yw meddygon bellach yn teimlo bod hyn yn wir, ac maen nhw'n ofni y bydd iechyd eu cleifion mewn perygl. Maen nhw'n dweud bod Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd deddfu ar gyfer lefelau diogel staff nyrsio gyda'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Maen nhw'n dweud bod yr Alban wedi cymryd camau i ddeddfu ar staffio diogel gyda Deddf Iechyd a Gofal (Staffio) (yr Alban) 2019, a basiwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol. Dywedant fod meddygon yn wynebu mwy o bwysau, bod staff meddygol yn cael eu gwthio i'r pen, a bod nifer y swyddi gwag yn dal i ddringo. Dywedant nad oes digon o feddygon i lenwi bylchau yn y rota, ac mai'r sgil-effaith anochel yw gostyngiad mewn safonau gofal i gleifion.
Ar y cyd, roeddent yn croesawu argymhelliad 4 gan adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y cyfeiriodd Angela Burns ato, yn argymell
'bod y Gweinidog yn diwygio’r Bil i wneud darpariaeth benodol ynghylch cynllunio’r gweithlu/lefelau staffio priodol, a hynny fel rhan o’r ddyletswydd ansawdd.'
Dywedasant hefyd eu bod yn credu bod yn 'rhaid i'r canllawiau gael eu cynnwys yn rhan 2 o'r Bil fel y gall Llywodraeth Cymru, o leiaf, gyflwyno canllawiau i gyrff y GIG sy'n rhoi gwybod iddynt sut y gallant gyflawni'r ddyletswydd ansawdd. Dylai'r canllawiau hyn fynd i'r afael â'r angen am gynllunio gweithlu effeithiol.' Mae proses ganllaw debyg wedi'i nodi yn yr adran ar ddyletswydd gonestrwydd.
Rwyf felly'n annog y Cynulliad hwn i gefnogi gwelliannau Angela Burns. Croesawaf y gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr, ond nodaf, os gall y Gweinidog gyflwyno ei gynigion ei hun i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, y byddai Angela yn tynnu ei gwelliannau'n ôl. Rydym yn aros i glywed beth fydd ganddo i'w ddweud. Diolch.
Diolch ichi, Llywydd. Rwyf am ddiolch, ar y dechrau, i'r bobl sydd wedi gweithio ar y Bil hwn hyd yma, y gwaith craffu yr ydym wedi'i wneud drwy broses y pwyllgor, yn ogystal â swyddogion a phawb a fu'n ymwneud â chyfnodau'r Papur Gwyn ac ymgynghori ehangach. Bydd gennym amrywiol bwyntiau o anghytundeb, a rhai pwyntiau o gytundeb, yn ystod hynt y noson hon. Fydda i ddim yn ymateb i rai o'r sylwadau ehangach am y trefniadau yn y dyfodol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned; byddwn yn dod at y grŵp hwnnw yn nes ymlaen yn y Bil.
O ran staffio, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi'r egwyddor o gael digon o staff yn ein gwasanaeth iechyd: cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn.
Rwyf eisiau ymdrin â'r gwelliannau yn y grŵp hwn mewn dwy ran: yn gyntaf, a ddylai'r diffiniad o ansawdd gynnwys lefelau staffio ei hun yn benodol, ac, yn ail, diwygio'r Bil i gynnwys dyletswydd staffio.
Rwyf eisiau bod yn glir: mae'r ddyletswydd ansawdd, fel y'i drafftiwyd, yn fwriadol eang. Mae'n crisialu pob agwedd ar y gwasanaeth iechyd ac mae'n ymwneud â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn gyfrifol amdano. Mae ystyriaethau'r gweithlu yn amlwg yn alluogydd allweddol i gyflawni'r ddyletswydd ansawdd. Ni all yr un corff sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau sydd, er enghraifft, yn ddiogel ac yn effeithiol ac sy'n rhoi profiad da oni bai ei fod wedi ystyried y mathau a'r niferoedd o staff sydd eu hangen i gyflawni hynny.
Ac rydym yn fwriadol yn defnyddio'r diffiniad o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol a gyflwynwyd gan y cyn Sefydliad Meddygaeth yn yr Unol Daleithiau, a'r gŵr a aeth yn ei flaen i arwain y sefydliad hwnnw oedd Don Berwick, a gymerodd ran fel un o'n harbenigwyr rhyngwladol yn yr adolygiad Seneddol wedi'i gymeradwyo ar draws y pleidiau. Fel y dywedais, mae cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn, i bob pwrpas, yn adnodd sydd ei angen i sicrhau gwelliannau mewn ansawdd. Nid yw staffio ynddo'i hun yn golygu ansawdd. Mae'r gweithlu yn alluogwr allweddol a'r mwyaf arwyddocaol o ran gallu sicrhau gwelliannau mewn ansawdd.
Nawr, fel y dywedwyd, mae Atodlen 3 y Bil yn cysylltu'r ddyletswydd ansawdd â'r safonau iechyd a gofal, sydd â thema gyfan, gyda manylion ar staff ac adnoddau. Felly, bydd angen i gyrff y GIG ddangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i faterion y gweithlu wrth gyflawni'r ddyletswydd ansawdd.
Fel y nodais o'r blaen, ac yn enwedig yn y trafodaethau defnyddiol ac adeiladol a gawsom ar ôl cyfnod 2 gyda phleidiau eraill, mae'r safonau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac, mewn gwirionedd, mae adolygiad ar fin digwydd o fewn y flwyddyn hon. Yn amlwg, bydd hynt y Bil hwn neu fel arall yn helpu i lywio'r adolygiad o'r safonau hynny a'r fframwaith yr ydym yn disgwyl i bobl ymateb iddo.
Bydd y canllawiau statudol yn ymdrin â'r modd y cymhwysir y ddyletswydd ar draws holl swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd, a bydd yn ddiamau yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu, ynghyd â'r gofyniad i ystyried sicrhau gwelliannau drwy feysydd fel atal, gwella iechyd, a chymryd camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn canlyniadau.
Rwy'n falch o gadarnhau bod y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi cynnig cydweithio â ni i ddatblygu'r canllawiau, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r cynnig hwnnw'n fawr. Felly, yn fy marn i, nid oes angen y gwelliannau ar lefelau staffio sy'n cael eu cynnwys yn y diffiniad o ansawdd.
Gan droi at y gwelliannau sy'n ceisio ymestyn y ddyletswydd staffio i Weinidogion Cymru, rhaid imi ddweud ar y dechrau fy mod yn gadarn o'r farn nad yw newid o'r maint hwn drwy wneud gwelliannau i Fil yn ffordd briodol o fynd ati. Roedd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn elwa ar waith cynllunio sylweddol ac ystyriaethau o ran y goblygiadau ariannol, a bu'n destun craffu llawn y byddem i gyd yn ei ddisgwyl ar gyfer darn o ddeddfwriaeth mor nodedig. Ac roedd yn bwysig sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd gywir. Byddai'n gwbl amhriodol cymhwyso unrhyw un o egwyddorion y Ddeddf honno i bob grŵp arall o staff clinigol yng Nghymru a hynny heb yr un gofal, ymgynghori, ystyried a chraffu.
Cydnabu'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei dystiolaeth ei hun i'r Pwyllgor Iechyd nad yw newid o'r maint hwn yn rhywbeth y mae'n ei gredu sy'n addas i'w gyflawni drwy welliant. O ystyried nid yn unig y prif fesurau, ond hefyd y mesurau proses fel y'u nodir yn y gwelliannau manwl iawn ar gyfer dulliau adrodd, byddai'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o waith ariannol ar y goblygiadau i'r gweithlu yn ogystal â nodi faint o staff sydd ar gael a bod ganddynt yr offer i gyfrifo staff—y lefelau priodol o staff—mewn gwahanol leoliadau.
Yn achos mewnosod adran 25AA, fel y nodir yn y gwelliant a gyflwynwyd gan Angela Burns, byddai'n amhriodol ac yn anymarferol pennu dyletswydd o'r fath ar Weinidogion Cymru pan mai ein byrddau iechyd a'n ymddiriedolaethau sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol hwnnw dros ystyriaethau staffio. Yn ei hanfod, mae'r gwelliant arfaethedig yn estyniad i adran 25A o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i'r holl staff clinigol, ac mae'n amlwg iawn yn ddyletswydd ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.
Mae'n bwysig cydnabod bod gan gyrff y GIG drefniadau ar waith eisoes i sicrhau bod rheolwyr ac uwch benderfynwyr yn cael gwybod am brinder staff pan fydd hyn yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion. Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys penderfyniadau i'w gwneud 'yn ystod oriau gwaith' a 'thu allan i oriau gwaith arferol', ac mae hynny'n cynnwys trefniadau i hysbysu Aelodau'r Bwrdd Gweithredol lle bo hynny'n briodol, er mwyn iddynt wneud dewisiadau.
Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn y maes hwn, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthwynebu.
Galwaf ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl. Angela Burns.
Diolch, Llywydd. Tybiaf nad yw eich ateb yn syndod mawr, Gweinidog, i unrhyw un ohonom sy'n credu'n angerddol bod angen ichi gael y staff iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn er mwyn cael dyletswydd ansawdd. Ac rwy'n credu i'r rheini ohonom sydd wedi gweld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf dro ar ôl tro yr achosion lle nad oedd digon o staff ac nad oeddent yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac mae wedi arwain at rai sefyllfaoedd trist a digalon iawn o fewn y GIG—.
Roedd y ddeddfwriaeth gychwynnol honno, pan ddaeth i rym gyntaf, fel y'i cyflwynwyd gan eich cyd-Aelod yn y Cabinet, Kirsty Williams, yn torri tir newydd. Ond nid ydym wedi gwneud dim i adeiladu arno, ac nid ydym wedi gwneud dim i'w ddatblygu o ddifrif. Nawr mae hyn yn cefnogi argymhelliad yn y pwyllgor iechyd. Roedd hwn yn argymhelliad lle gwnaethom gymryd llawer iawn o dystiolaeth gan dystion. Dyma y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud. Nid mater o Angela Burns, y Ceidwadwyr Cymreig, neu Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru, neu Caroline Jones neu Blaid Brexit yn ceisio bod yn anodd ac yn dyfeisio rhywbeth yw hyn. Mae hyn mewn gwirionedd yn ganlyniad i dystiolaeth a ystyriwyd yn wirioneddol gan yr arbenigwyr. Ac os byddwch byth yn ei ddweud unwaith pan fyddwch yn sefyll yn y Siambr hon, rydych chi'n ei ddweud sawl gwaith: 'rhaid inni wrando ar y clinigwyr. Rhaid inni wrando ar y gweithwyr proffesiynol.' Fe wnaethom ni. Gwnaethom hynny, a dyna'r rheswm dros y gwelliannau hyn.
Nid wyf erioed wedi bod yn un sy'n hoffi deddfwriaeth ysgafn, os ydych yn gwneud deddfwriaeth, mae'n rhaid ichi ei gwneud yn dda iawn, fel bod ganddi ran wirioneddol effeithiol. A holl ddiben y Bil hwn yw ansawdd a gonestrwydd a chynrychioli cleifion. Ac ni allaf ddeall sut yr ydych yn gobeithio darparu'r lefel honno o ansawdd os oes siawns nad oes gennych y staff iawn, beth bynnag ydynt, yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Ac ychwanegaf un peth olaf. Rydych yn gwneud y sylw bod y byrddau iechyd eisoes i fod yn gwneud hyn. Wel, rydym yn gwybod nad ydyn nhw, felly hoffwn gynnig y gwelliannau hyn a gyflwynwyd yn fy enw i.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud, felly, i bleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 21.
Gwelliant 22.
Angela Burns, a yw'n cael ei gynnig?
Ydy.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 22, a gynigiwyd yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 22.