1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ddioddefwyr o Gymru yn y sgandal gwaed halogedig? OAQ55232
Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia yn ogystal â chymorth cofleidiol helaeth, sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth a chyfeirio at wasanaethau cyhoeddus eraill y gallwn eu darparu ledled Cymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n credu, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, y dylwn dalu teyrnged i'r gwaith rydych wedi'i wneud fel aelod o'r meinciau cefn, cyn i chi ymuno â'r Llywodraeth, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig a'r gwaith a wnaethoch yn gorfodi Llywodraeth y DU i gynnal yr ymchwiliad. Mae hynny'n sicr yn cael ei gydnabod. Ond mae gennyf gwestiynau ynglŷn â ble rydym heddiw.
Ar 9 Ionawr, ysgrifennais at y Gweinidog iechyd ar ran fy etholwr Kirk Ellis, yr effeithiwyd arno gan y sgandal gwaed halogedig. Mae'n sâl ac yn fwyfwy pryderus nad yw ei deulu'n gallu darparu'n ariannol ar ei gyfer, pe bai unrhyw beth yn digwydd iddo. Hoffwn ddweud hefyd fod aelodau o'r cyhoedd sy'n aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig yn yr oriel gyhoeddus heddiw, ac maent wedi dod i mewn yn arbennig i glywed y cwestiwn hwn.
Mae Kirk wedi darganfod—mae Kirk Ellis wedi darganfod—ei fod yn waeth ei fyd yn ariannol nag a feddyliodd ar y dechrau, gan fod dioddefwyr yn Lloegr yn cael taliadau ar gyfer eu plant ar gyfradd o £3,000 y flwyddyn ar gyfer y plentyn cyntaf ac yna £1,200 ar gyfer unrhyw blentyn arall. Felly, gyda phlentyn tair oed, mae Kirk £9,000 yn waeth ei fyd na phe bai'n byw yn Lloegr. Mae achos clir i'w ateb yma, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, wrth gwrs, i gymryd yr awenau a darparu'r cyllid. Ond mae gwahaniaeth hefyd rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban o ran yr hyn y mae pobl yn ei gael. Yn yr Alban, bydd gwŷr a gwragedd gweddw pobl sydd wedi marw yn cael iawndal ariannol. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru na Lloegr. Ond y broblem allweddol—y broblem allweddol—hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau, yw y ceir anghysondeb ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae dioddefwyr yng Nghymru yn gofyn y cwestiwn syml: pam na allwn ni dalu'r hyn sy'n ddyledus iddynt a hynny'n gwbl gyfiawn? Weinidog, a allwch ateb y cwestiwn hwnnw? A hefyd, a fyddech cystal â mynychu cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol i siarad â dioddefwyr am y mater hwn?
Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn pwysig hwnnw. Roeddwn yn falch o gyfarfod ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol yn gynharach heddiw ar ddechrau eu cyfarfod, a gwn pa mor gryf yw eu teimladau am y mater hwn.
Mae pedwar cynllun gwahanol ym mhedair gwlad y DU, ac mae'n anodd eu cymharu am eu bod mor wahanol. Fodd bynnag, gwn ei bod yn berffaith wir fod buddiolwyr yng Nghymru yn cael £12,000 yn llai, ar gyfartaledd, na'u cymheiriaid yn Lloegr, er bod Cymru'n darparu cefnogaeth seicolegol, a ganmolwyd gan Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad. Ond mae'r Llywodraeth yn credu y dylid cael cydraddoldeb rhwng y pedwar cynllun. Bu'n anodd gwneud cynnydd drwy holl newidiadau Gweinidogion yn San Steffan. Rydym yn cydnabod bod y mater sy'n ymwneud â gweddwon yn bwysig iawn, ac mae hynny'n rhywbeth y mae aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia wedi cael eu lobïo yn ei gylch yn gyson—y ffaith mai yn yr Alban yn unig y caiff gweddwon eu cydnabod. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig iawn y mae'n rhaid inni edrych arno.
Rydym yn cynllunio cyfarfod rhwng pedwar Gweinidog y pedwar corff datganoledig. Rydym am symud i sefyllfa o gydraddoldeb. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed Hefin David, nad yw'n iawn fod dioddefwyr yma yng Nghymru yn cael llai nag mewn gwledydd eraill. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn rhoi sylw iddo cyn gynted ag y bydd Gweinidog wedi'i ddynodi yn y Llywodraeth yn San Steffan a chyn gynted ag y gallwn gael cyfarfod.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Paul Davies.