– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 11 Mawrth 2020.
Felly, symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn awr at y bleidlais gyntaf. Iawn. O'r gorau, iawn. Felly, symudwn yn awr at bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, un yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig hwnnw.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ddiagnosis cynnar o ganser. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Rees. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 36, 12 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, fe bleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 23, un yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar y gwelliannau.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 3. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 31, roedd 18 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7296 fel y'i diwygiwyd:
1. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn ardaloedd daearyddol yng Nghymru;
b) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg;
c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd;
d) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio, ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei fwrdd;
e) nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol.
3. Yn nodi â phryder, dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 11, roedd 20 yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ddarllediadau'r chwe gwlad a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.