– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 11 Mawrth 2020.
Eitem 6 ar yr agenda'r prynhawn yma yw’r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw. Mae achosion endometriosis yn aneglur, ond mae mislif ôl-redol, anghydbwysedd hormonaidd, creithiau llawfeddygol, problemau gyda'r system imiwnedd a geneteg oll yn chwarae rhan.
Mae llawer o fenywod yn dioddef am flynyddoedd cyn deall pam eu bod yn dioddef gyda mislif poenus, poen cronig yng ngwaelod y cefn, poen yn ystod rhyw, dolur rhydd, rhwymedd, stumog chwyddedig a chyfog, yn enwedig yn ystod eu mislif. Mae rhieni, athrawon, cyflogwyr a hyd yn oed y proffesiwn meddygol yn methu’r symptomau. Gall gymryd wyth mlynedd a 26 apwyntiad gyda meddyg teulu ar gyfartaledd i weld arbenigwr endometriosis.
Mae hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o endometriosis i feddygon teulu bellach yn cael ei gyflwyno yn GIG Cymru. Ac mae mwy o nyrsys endometriosis yn cael eu cyflogi yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond un ganolfan endometriosis arbenigol yn unig a geir yng Nghaerdydd ar gyfer Cymru gyfan, gydag ystod o driniaethau i liniaru'r afiechyd hwn, ond yn anffodus, ni allant ei wella. Mae endometriosis yn costio dros £8 biliwn i economi'r DU mewn triniaethau gofal iechyd a cholli gwaith, ac mae'n anodd rhoi ffigur ar yr effaith seicogymdeithasol.
Hoffwn dalu teyrnged i gydgysylltwyr Endo March Wales: Nikki Dally, Samantha Hickson a Karla Edwards a’r holl ymgyrchwyr eraill ar lawr gwlad sydd wedi codi ymwybyddiaeth o endometriosis yng Nghymru. Fe'i cynhelir bob blwyddyn ar ddydd Sadwrn olaf y mis hwn. Y llynedd, roeddent yng Nghaerdydd a Llandudno, ac ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth, byddant yng Nghaerdydd a'r Wyddgrug. Ymunwch â hwy os gallwch.
Ar yr 8fed o Fawrth 1955, daeth Dai Dower wyneb yn wyneb â Nazzareno Gianelli mewn cylch bocsio yn arena Earls Court, Llundain. Trechodd Dower ei wrthwynebydd, gan gipio’r teitl pencampwr pwysau pryf Ewropeaidd. Disgrifiwyd yr achlysur fel 'bocsio ar ei orau gwych'. Roedd y dorf a oedd yn gwylio wedi’u syfrdanu. Hwn oedd uchafbwynt gyrfa broffesiynol y ffenomen bocsio o Gymoedd De Cymru.
Hawliodd Dower ei drydydd teitl, ac ychwanegodd at ei bencampwriaethau ym Mhrydain a thu hwnt.
Dechreuodd bywyd David William Dower, a aned ar 20 Mehefin 1933, yn wahanol iawn. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio fel glöwr ym mhwll glo Abercynon. Arweiniodd dawn ar gyfer bocsio at yrfa amatur lwyddiannus, a dilynodd yr yrfa honno ochr yn ochr â'i waith caled yn y pwll glo. Daeth yn bencampwr pwysau pryf amatur, a chystadlodd Dower yng Ngemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol y flwyddyn ganlynol, pan gipiodd y teitl Ewropeaidd. Doedd dim curo ar Dower yn y cylch bocsio. Ef oedd y bocsiwr gorau ond un yn y byd ym 1956. Ym mis Mawrth 1957, methodd â hawlio teitl pwysau pry'r byd, ac er iddo golli'r teitl Ewropeaidd hefyd, roedd yn parhau’n bencampwr Prydain a'r Ymerodraeth.
Ym 1958, ymddeolodd Dower o chwaraeon proffesiynol ac yntau’n ddim ond 25 mlwydd oed. Daeth yn athro chwaraeon mewn ysgol yn Bournemouth, gan ddod yn Bennaeth Chwaraeon Prifysgol y dref yn ddiweddarach. Bu farw Dai Dower ym mis Awst 2016 ond mae’r atgof ohono fel un o’r pencampwyr chwaraeon mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac fel un y mae Abercynon yn falch iawn ohono.
Mae’r wythnos hon yn nodi can mlynedd ers marwolaeth Daniel James. Bardd a chyfansoddwr emynau oedd Daniel James, ond mae'n llawer mwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Er ei fod yn gyfansoddwr emynau toreithiog, mae'n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi geiriau Calon Lân, a genir fel arfer ar dôn a gyfansoddwyd gan John Hughes o Ynysdawe yn Abertawe.
Cafodd ei eni a'i gladdu yn Abertawe. Roedd yn aelod o gapel Mynydd-bach, mam-eglwys mudiad yr Annibynwyr yn Abertawe, ac mae Canolfan Calon Lân bellach yn gysylltiedig â hi. Dechreuodd weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforys, ac yn ddiweddarach, bu’n gweithio yng ngweithfeydd tunplat Glandŵr. Pan oedd yn ganol oed, caeodd gweithfeydd Glandŵr, a bu’n gweithio wedi hynny yn Nhredegar, Dowlais, Blaengarw, ac yn y pen draw, yn Aberpennar, gan dreulio 15 mlynedd yn un o byllau glo Nixon, ac yn olaf, wrth i’w iechyd wanychu, bu’n gweithio i'r awdurdod lleol.
Roedd llawer o'i farddoniaeth yn ddiymhongar ac yn boblogaidd iawn, ac ymddangosodd gyntaf mewn cyfnodolion a phapurau newydd. Byddai hefyd yn ysgrifennu cerdd am beint yn y King's Head yn Nhreboeth—efallai mai dyna'r 'cerddi a pheintiau' gwreiddiol. Mae coflech iddo wedi bod yn Neuadd Gyhoeddus Treboeth ers 1936, ac mae un fwy diweddar wedi'i gosod yng nghapel Caersalem Newydd yn Nhreboeth. Mae Cymdeithas Calon Lân yn Abertawe wedi cynnal sawl digwyddiad, a byddant yn gosod ffenestri gwydr lliw yn yr ysgol leol i goffáu bywyd Daniel James, y gweithiwr cyffredin a chanddo ddawn eithriadol a gyfansoddodd yr emyn mwyaf poblogaidd yng Nghymru, Calon Lân.
Diolch.