1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2020.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd? OAQ55276
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn lleoedd, pobl ac mewn seilwaith. Yn y modd hwnnw, rydym ni'n cefnogi swyddi newydd yn niwydiannau'r dyfodol, lle mae gwell cynhyrchiant yn bwydo ffyniant yn y rhan honno o Gymru.
Rwy'n cydnabod, Prif Weinidog, bod gwaith Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y coronafeirws ar hyn o bryd, a'r effaith y mae hwnnw'n ei chael ar bobl ar draws y wlad i gyd. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn ddiolchgar i chi am eich arweinyddiaeth wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Ond o ran y materion economaidd ehangach, cefais gyfarfod gwych yr wythnos diwethaf gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, pryd y gwnaethom ni drafod y cyfleoedd sydd yno ar draws Flaenau'r Cymoedd i gyd, a lle y gallwn ni dargedu buddsoddiad i sicrhau bod gennym ni'r seilwaith economaidd i gynnal cyflogaeth a gweithgarwch diwydiannol yn y dyfodol. Yn amlwg, mae meddyliau pob un ohonom ni ar faterion eraill ar hyn o bryd, ond a allech chi, Prif Weinidog, amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer sut y gallwn ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cael y wlad yn ôl ar ei thraed eto, ar ôl yr argyfwng hwn, y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ardaloedd fel Blaenau'r Cymoedd, ac y bydd y buddsoddiad hwnnw'n parhau ar ôl yr argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Alun Davies am hynna? Wrth gwrs, mae e'n iawn ein bod ni'n canolbwyntio'n ddiflino ar yr her sy'n ein hwynebu'n uniongyrchol. Ond bydd dyfodol i Gymru, ac i'r Deyrnas Unedig, yr ochr arall i coronafeirws, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud yr hyn a allwn ni i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yn dal i gael eu hystyried, yn dal i gael eu hyrwyddo, pan ein bod ni'n gallu gwneud hynny. Diolchaf i'r Aelod dros Flaenau Gwent am ddod i'r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf, ac am gyfrannu at y gronfa o syniadau y bydd ei hangen arnom ni, i sicrhau bod economi ardal Blaenau'r Cymoedd yng Nghymru mor barod ag y gall fod i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd yn dod yn y dyfodol.
Dyna pam, yn y strategaeth yr ydym ni'n ei dilyn, yr ydym ni'n parhau i ddenu cwmnïau technoleg blaengar i'r rhan honno o Gymru, ond hefyd, Llywydd, i ganolbwyntio ar fusnesau lleol presennol, gan eu helpu i ddefnyddio technolegau a phrosesau newydd, i wella cynhyrchiant, i ddatblygu cynhyrchion gwerth uwch, ac i arallgyfeirio eu sylfaen defnyddwyr. Ac mae darn penodol iawn o waith y mae Llywodraeth Cymru eisiau parhau i'w wneud gyda'n partneriaid yn y rhan honno o Gymru, i gynyddu cynhyrchiant yn y busnesau cynhenid hynny. A dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Coleg Gwent, a Phrifysgol Caerdydd, i drosglwyddo i'r gweithle y syniadau yr ydym ni'n gwybod sydd yno, ac a all wneud y cwmnïau hynny'n fwy cynhyrchiol, ac felly'n fwy abl i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol. A hyd yn oed yn y dyddiau anodd sydd o'n blaenau, gwn fod pobl ymroddedig iawn yn y rhan honno o Gymru a fydd yn awyddus i barhau â'u hymdrechion i'r cyfeiriad hwnnw.
O dan yr amgylchiadau presennol, mae'n iawn ac yn briodol bod ymdrechion y Llywodraeth yn canolbwyntio'n llwyr ar y coronafeirws, a'r cymorth y gellir ei roi, ym maes iechyd, ond yn yr economi hefyd. O gyfarfod â busnesau yn fy rhanbarth fy hun ddoe, ynghyd â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg, mae'n amlwg mai gwybodaeth yw'r llwch aur y mae'r busnesau hynny'n ei grefu. Ac rwy'n croesawu'r cymorth y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno ynghylch ardrethi busnes heddiw, ond y cafeat yn gysylltiedig â'r cymorth hwnnw oedd y bydd mwy o wybodaeth yn dod, sut y bydd yn cael ei roi i fusnesau. A allwch chi roi llinell amser i ni o ran pryd y gallai'r cymorth hwnnw fod ar gael i fusnesau, a'r dull a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddarparu? Oherwydd, fel y dywedais, nid yw hon yn feirniadaeth; apêl yw hon o'r cyfarfod a gynhaliwyd gennym ni ddoe mai'r llwch aur sydd ei angen ar fusnesau ar hyn o bryd i wneud dewisiadau cytbwys am statws cyflogaeth gweithwyr a chyfeiriad eu busnesau, yw sut y bydd cymorth hwnnw ar gael a phryd.
Wel, diolchaf i Andrew R.T. Davies am hynna, a chlywais, yn wir, gan fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt, am y cyfarfod yr oedd hi ac yntau yn bresennol ynddo yn y Bont-faen ddoe. Yr hyn y mae cyhoeddiad ddoe yn ei wneud yn eglur, Llywydd, yw y bydd pob ceiniog sydd wedi dod i Gymru trwy Lywodraeth y DU ar gyfer cymorth busnes yn cael ei gwario at y dibenion hynny yma yng Nghymru.
Fe wnaethom benderfyniad pwysig yng nghyswllt rhyddhad ardrethi busnes, ac mae hynny wedi cymryd y rhan fwyaf o'r arian sydd wedi dod i Gymru. Rydym ni'n parhau i drafod gyda'r Trysorlys am y defnydd o fformiwla Barnett, fel y ffordd o ddosbarthu'r adnodd hwnnw ar draws y Deyrnas Unedig, gan fod gennym ni fwy na'r gyfran gyffredin o fusnesau bach yn arbennig yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud y ddadl i'r Trysorlys y dylai'r modd y caiff cyllid ei ddosbarthu adlewyrchu realiti'r angen ar lawr gwlad, yn hytrach na fformiwla, y mae pawb wedi cytuno, sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w defnydd effeithiol.
Ychydig dros £100 miliwn yw'r hyn sydd gennym ni'n weddill o'r swm o arian a ddaeth yn y gyllideb, pan ein bod ni wedi gwneud y penderfyniadau ar ryddhad ardrethi busnes. Rydym ni'n gobeithio y bydd y swm hwnnw'n codi o ganlyniad i'n trafodaethau gyda'r Trysorlys, ond rydym ni mewn trafodaethau yr wythnos hon gyda busnesau, ac mae fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, yn arbennig, yn cyfarfod â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Siambrau Masnach, y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd ac yn y blaen er mwyn cael synnwyr cryf ganddyn nhw o'r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio'r £100 miliwn hwnnw.
Os nad oes rhagor o arian ar gael, byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio'r £100 miliwn mor gyflym ag y gallwn. Roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n iawn gwneud yn siŵr bod llais busnesau'n cael ei fynegi'n uniongyrchol i ni, felly os oes syniadau gwell na'r rhai sydd gennym ni yn y gymysgfa eisoes, byddwn ni'n dysgu ohonyn nhw, yn gwneud y penderfyniadau ar ôl hynny ac yn mynd â'r arian oddi wrthym ni i ddwylo'r bobl sydd ei angen.