1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Mawrth 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i gofnodi diolchgarwch Plaid Cymru i weithwyr rheng flaen yn y sector iechyd a gofal ac mewn mannau eraill am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn? A gaf i hefyd ddiolch i'r rhai sy'n gweithio yn eu cymunedau, gan sefydlu grwpiau cymunedol a helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein plith? Dylid eu cynorthwyo yn y gwaith hwnnw.
Felly, diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch i bob un ohonoch.
Prif Weinidog, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r canllawiau cryfach a gyhoeddwyd ddoe. Roeddem ni wedi galw am fesurau cadarnach; byddwn yn gweithio gyda chi yn y cyfnod digynsail hwn. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n parhau i graffu ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Yn yr ysbryd hwnnw, a allwch chi roi arweiniad eglur, yn gyntaf, ar bolisi profi? A wnewch chi ymrwymo i ddilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar bwysigrwydd profi mwy er mwyn torri cadwyni haint, y mae'n cyfeirio ato fel 'asgwrn cefn yr ymateb'? Ac a allwch chi roi sicrwydd pendant i gynyddu'r gallu i gynnal profion, a hynny ar fyrder gwirioneddol, i sicrhau bod gweithwyr allweddol, yn enwedig gweithwyr iechyd a gofal, ond hefyd eraill sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn gallu osgoi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn ddiangen?
Wel, diolchaf i Rhun ap Iorwerth am hynna, a diolch iddo ef ac i Adam Price am gymryd rhan mewn trafodaethau ar hyn ddoe. O ran polisi profi, y cyngor y mae'n rhaid i mi ei ddilyn yw'r cyngor a roddwyd i mi gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a'r cynrychiolwyr hynny o Gymru sy'n aelodau o'r grŵp cynghori gwyddonol. Ceir llawer o wahanol safbwyntiau, rwy'n deall hynny. Ceir llawer o wyddonwyr profiadol sydd â safbwyntiau gwahanol ar bolisi profi. Ni allaf ddewis a dethol rhwng gwahanol safbwyntiau sydd yn y gymysgedd o ran y mater hwn. Mae'n rhaid i mi ddibynnu ar y bobl hynny sy'n cael eu cyflogi i roi'r cyngor mwyaf arbenigol y gallan nhw ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, ac sydd â dealltwriaeth hynod fanwl o'r amgylchiadau yma yng Nghymru. Eu cyngor ddoe, dyna oedd cyngor prif swyddogion meddygol eraill hefyd, yw nad dyma'r adeg yn hynt y clefyd pan mai defnyddio adnoddau sylweddol ar gyfer profion torfol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o roi mesurau diogelwch ar waith. Efallai fod pobl eraill yn anghytuno, rwy'n deall hynny, ond yr hyn yr wyf i'n ei ddweud yw nad oes gen i ddewis ond dilyn cyngor y bobl hynny yr ydym ni'n eu cyflogi i'n cynghori. Os byddaf i'n symud oddi wrth hynny, yna mae'r graig y mae'r cyngor yr wyf i'n ei roi i bobl yng Nghymru ac i'r gwasanaeth iechyd ar ei sail wedi cael ei chicio oddi tanom ni, ac nid wyf i'n mynd i wneud hynny. Mae eu cyngor wrthi'n cael ei ddatblygu—roedd y Grŵp Cynghori Strategol o Arbenigwyr ar Imiwneiddio yn trafod y mater hwn eto heddiw—ac os bydd y cyngor hwnnw'n newid yng ngoleuni tystiolaeth ychwanegol a thrafodaethau pellach yn y gymuned arbenigol, yna, wrth gwrs, byddwn yn dilyn y cyngor newydd hwnnw. Ond, ddoe, roedd y cyngor yn eglur a byddaf yn dilyn y cyngor hwnnw yng Nghymru.
Cyn belled ag y mae gweithwyr allweddol yn y cwestiwn, gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni'n gwneud cyhoeddiad heddiw ar brofi gweithwyr clinigol allweddol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dychwelyd mor gyflym â phosibl i'r gweithle. Byddwn yn nodi'r grwpiau hynny o weithwyr clinigol y gallwn ni wneud hynny â nhw ar unwaith, ac yna bydd cynnydd i gapasiti fel y gallwn ni ddod â mwy o weithwyr allweddol i mewn i'r drefn brofi honno.
Diolch. Rwy'n cydnabod yn sicr y rhan y mae SAGE yn ei chwarae, ond byddwn yn apelio am gydnabyddiaeth i ffactorau demograffig penodol Cymru pan ddaw'n fater o fesur yr angen yma yng Nghymru.
Felly, efallai, un o'r cwestiynau mawr sydd heb eu hateb nawr. Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol bod cau ysgolion yn fater bellach o 'pryd' nid 'os'; i athrawon a rhieni mae'r cwestiwn 'pryd' yn amlwg yn bwysig dros ben. Byddai wedi bod yn dda cael datganiad gan y Gweinidog Addysg heddiw, ond yn niffyg hynny a chyn cwestiynau i'r gweinidog ar addysg yfory, a gaf i ofyn i chi egluro nifer o faterion? Ai'r dybiaeth weithiol nawr yw y bydd ysgolion yn cau rhywbryd cyn gwyliau'r Pasg, neu ar ôl hynny? A allwch chi roi canllawiau statudol er mwyn cynorthwyo'r rhai a allai fod mewn sefyllfa i gadw eu plant adref o'r ysgol yn wirfoddol nawr, neu a allai deimlo rheidrwydd i wneud hynny, na fydd y rhain yn cael eu cofnodi fel absenoldebau? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim? Ac yn hollbwysig, pan fydd ysgolion yn cau, pa ddarpariaeth fydd yn cael ei gwneud mewn ysgolion neu fannau eraill i alluogi gweithwyr allweddol i barhau i weithio?
Wel, Llywydd, yn bennaf oherwydd y ddwy ystyriaeth olaf hynny, safbwynt pedair Llywodraeth y DU yw y dylai ysgolion aros ar agor. Nid wyf i'n mynd i ragweld pryd y gallai'r cyngor hwnnw newid oherwydd nid wyf i'n meddwl bod hynny o gymorth i neb. Mae'r cyngor hwnnw'n dal i gael ei adolygu ym mhob cyfarfod. Mae'r safbwynt presennol yn eglur: mae ysgolion yn aros ar agor yng Nghymru, yn rhannol i sicrhau bod gweithwyr allweddol y byddai'n rhaid eu dargyfeirio i ofalu am eu plant eu hunain fel arall ar gael i fod mewn lleoliadau clinigol; yn rhannol oherwydd y byddai penderfyniad sydyn i gau ysgolion yn gadael y nifer fawr o ddisgyblion hynny sy'n dibynnu ar frecwast am ddim yn yr ysgol a phrydau ysgol am ddim yn agored i niwed pe byddai ysgolion yn aros ar gau am gyfnod estynedig o amser.
Yr hyn y gallaf roi sicrwydd yn ei gylch i'r Aelod ac Aelodau eraill yw hyn: rydym ni'n defnyddio'r amser sydd gennym ni nawr, tra bod ysgolion yn dal i fod ar agor yn y modd y maen nhw, i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, os byddwn ni'n cyrraedd adeg yn natblygiad y clefyd hwn lle mai'r peth iawn i'w wneud yw cau ysgolion, bydd gennym ni drefniadau ar waith a fydd yn diwallu anghenion y plant hynny sy'n dibynnu ar bryd bwyd yn yr ysgol ar gyfer eu lles cyffredinol, ac y byddwn ni wedi rhoi sylw i anghenion gweithwyr allweddol. Ceir nifer o ystyriaethau pwysig iawn eraill yng nghyswllt ysgolion, ac mae'r rheini'n cael eu hystyried yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Am nawr, mae ysgolion yn dal ar agor. Dyna'r cyngor eglur i rieni. Oni bai bod gan eich plentyn gyflwr meddygol sylfaenol sy'n golygu y dylai fod gartref, mae'r ysgolion ar agor ac ar gael iddyn nhw.
Yn olaf, yn ogystal â bod yn berygl i iechyd, mae hwn hefyd yn troi'n gyfnod eithriadol o bryderus yn ariannol i unigolion a busnesau. Mae un busnes bach yn fy etholaeth i eisoes wedi cyhoeddi colledion refeniw o £120,000—busnes bach—o ganlyniad uniongyrchol i'r feirws. Mae un arall yn gweld costau a cholledion yn cynyddu i'w fusnes i'r graddau nad yw'n gallu gweld sut y gall fforddio prynu bwyd iddo'i hun am lawer yn hwy. Mae gan yr Alban linell gymorth COVID-19 wedi ei neilltuo i fusnesau. A allwn ni fel mater o frys gael un yng Nghymru? Dylem ni fod yn dilyn esiampl yr Arlywydd Macron, rwy'n credu, sydd wedi addo na fydd unrhyw fusnes yn mynd i'r wal oherwydd COVID-19. Gwn y byddwch chi'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU roi sicrwydd tebyg, ond os bydd yn oedi, a wnewch chi geisio gweithredu drwy, er enghraifft, ofyn am bwerau benthyg hirdymor, mynediad at gronfeydd wrth gefn y Trysorlys? Busnesau, pobl hunan-gyflogedig, gweithwyr yn yr economi gìg, y rhai sydd ar gontractau dim oriau—mae llawer o bobl yn teimlo'n agored i niwed neu'n waeth, ac nawr, mwy nag erioed, maen nhw angen gweld camau cadarn a beiddgar yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru.
Diolchaf i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau ychwanegol yna. Mae llinell gymorth benodol ar gael ar gyfer busnesau yma yng Nghymru, sef llinell gymorth Busnes Cymru. Rydym ni'n defnyddio'r llinell gymorth honno gan ei bod hi eisoes yn adnabyddus yn y sector. Nid oes angen dod o hyd i rywbeth ar wahân, newydd a gwahanol: defnyddiwch linell gymorth Busnes Cymru. Mae wedi ei threfnu i ymateb i bobl sydd yn yr amgylchiadau hyn.
O ran y pwyntiau ehangach, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae Rhun ap Iorwerth wedi eu gwneud. Mae effaith coronafeirws ar ein heconomi yn hollol enfawr. Mae'r ymdrechion sydd eu hangen i'w frwydro i wneud yn siŵr bod yr economi yn parhau yn solfent, y bydd busnesau sydd yn hyfyw heddiw yn dal i fod yn hyfyw ar ôl i'r argyfwng ddod i ben, a bod yr unigolion y mae eu hincymau yn cael eu heffeithio yn cael incymau nawr i'w helpu drwy'r argyfwng—mae'r rhain i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Mae pob un ohonyn nhw'n cael eu trafod yn y llythyr a anfonais yn gynharach heddiw at Ganghellor y Trysorlys cyn yr hyn yr addawyd i ni a fydd ei ddatganiad yn ddiweddarach yn y prynhawn. Yn glasurol, dyma'r adeg pan ddefnyddir yr ysgogiadau sydd yn nwylo Llywodraeth y DU—ysgogiadau cyllidol yn ogystal ag ysgogiadau ariannol—ac fe'u defnyddir mewn ffordd sy'n gymesur â maint yr her yr ydym ni'n ei hwynebu. Nid oes neb eisiau busnes sy'n hyfyw heddiw ac a fydd yn hyfyw wedyn i fynd i'r wal yn ystod yr argyfwng. Nid oes neb eisiau i fywoliaeth a theulu sy'n ffynnu heddiw fethu â gallu parhau i ffynnu yr ochr arall i coronafeirws, ac at Lywodraeth y DU y mae'n rhaid i ni edrych i gymryd y camau a fydd yn sicrhau'r dyfodol hwnnw.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu ac yn gweithio gyda'n gilydd er budd y cyhoedd wrth i fygythiad coronafeirws gynyddu, ac felly a gaf i ddiolch i chi am y sesiynau briffio a'r cyfathrebu parhaus ar y mater hwn, ac a gaf i ei gwneud yn gwbl eglur y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau'n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad coronafeirws yng Nghymru? A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff rheng flaen y GIG am bopeth y maen nhw'n ei wneud ac y byddan nhw yn ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ac i gadw pob un ohonom ni'n ddiogel? Hoffwn hefyd ychwanegu fy nghydymdeimlad diffuant â theulu a chyfeillion y claf a fu farw o COVID-19 yng ngogledd Cymru hefyd.
Nawr, fel llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, rwyf i wedi cael galwadau a gohebiaeth gan etholwyr, sefydliadau a busnesau sy'n bryderus ynghylch sut i fynd ati i leihau'r effaith y gallai'r feirws ei chael ar eu teuluoedd a'u bywoliaeth, ac mae rhai pobl, gyda phob cyfiawnhad, yn bryderus ac wir yn ofnus. Rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd yn ymwybodol o rai o'r golygfeydd anffodus mewn siopau ac archfarchnadoedd ar hyd a lled y wlad, lle'r oedd silffoedd yn wag a chwsmeriaid yn methu â chael gafael ar eitemau hanfodol. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn gwneud popeth yn eu gallu i dawelu meddyliau'r cyhoedd yn well, ond a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y bobl hynny sydd bellach yn ynysu eu hunain yn gallu cael yr eitemau hanfodol y mae nhw eu hangen yn rheolaidd?
Diolchaf i Paul Davies am hynna. A gaf innau hefyd, Llywydd, gydymdeimlo â theulu a chyfeillion y person cyntaf i farw o coronafeirws yma yng Nghymru? A gaf i ddiolch iddo ef ac i Angela Burns hefyd am ddod i'r cyfarfod a gawsom ddoe, ond hefyd am y cyfleoedd yr wyf i wedi eu cael dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf i drafod yr argyfwng sy'n datblygu gydag arweinydd yr wrthblaid? Rwy'n ddiolchgar am ei syniadau a'i gyngor yn ystod y galwadau ffôn hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Mae hwn yn argyfwng y byddwn ni'n ymdopi ag ef trwy gydweithio ar draws pleidiau ac ar draws gweinyddiaethau, a fy nod yw gwneud yr union beth hwnnw pryd bynnag y byddwn ni'n gallu gwneud hynny.
A gaf i gytuno ag ef? Nid yw prynu panig yn ateb i coronafeirws. Mae'n rhaid i ni bwyso ar ein cyd-ddinasyddion i feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd. Mae unrhyw argyfwng yn dod â phethau da a drwg allan ym mhobl, onid yw? A bu cynnydd aruthrol i haelioni yn gysylltiedig â coronafeirws hefyd, gyda phobl yn gwirfoddoli i ofalu am eraill, yn gofyn beth y gallan nhw ei wneud, yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o helpu i ofalu am bobl eraill sy'n fwy agored i niwed na nhw eu hunain. Felly, rydym ni'n gweld hynny i gyd, ac eto mae pobl weithiau yn ymddwyn yn y ffordd honno, fel grŵp: maen nhw'n gweld pobl eraill yn gwneud pethau, maen nhw'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw gopïo'r hyn y maen nhw'n gweld pobl eraill yn ei wneud, ac mae gennym ni broblem na fu erioed angen iddi ddigwydd yn y lle cyntaf.
Nawr, rydym, i raddau, yn barod iawn ar gyfer rhywfaint o hyn oherwydd y gwaith paratoi a wnaed y llynedd yng nghyd-destun Brexit. Pe byddem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yna mae'n anochel y byddai effeithiau wedi bod ar y cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ac rydym ni wedi ail-gychwyn y drefn a oedd gennym ni yn y cyd-destunau hynny i wneud yn siŵr ein bod ni bob amser mewn cysylltiad da â'r diwydiant manwerthu a'r diwydiant logisteg, a chyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Julie James ddatganiad ar hyn yr wythnos diwethaf. Y neges eglur gan y sector yw nad oes unrhyw brinder bwyd i fynd o gwmpas cyn belled ag y bo pobl yn ymddwyn yn rhesymol.
Yna'r ail gwestiwn a gododd Paul Davies ynglŷn â sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr y gellir rhoi cymorth i'r bobl hynny y bydd angen iddyn nhw gael bwyd a phethau eraill oherwydd y cyfyngiadau ar eu hymddygiad eu hunain. Hoffwn roi gwybod iddo ef a'r Aelodau eraill ein bod ni'n gweithio'n agos â'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol a'n cydweithwyr yn y trydydd sector yma yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi dipyn o system o amgylch y cynigion o gymorth yr ydym ni'n gwybod sydd yno yng Nghymru, fel bod pobl yn gwybod ble i fynd er mwyn cael gafael ar y cymorth y gellir ei roi ar gael iddyn nhw. Byddwn yn cyfarfod yfory gyda chynrychiolwyr o'r sectorau hynny a gyda chynghorau cymuned hefyd. Mae cyfres o sefydliadau sydd â rhan i'w chwarae i wneud yn siŵr y gellir rhoi cymorth ar waith ar y lefel unigol honno. Byddwn yn dod â phobl o amgylch y bwrdd, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi cyngor cyson a dibynadwy i bobl yng Nghymru ynglŷn â sut y gallan nhw gael y cymorth hwnnw gydag amgylchiadau cymdeithasol tra byddan nhw'n rhoi sylw i effaith feddygol y coronafeirws.
Prif Weinidog, wrth i nifer yr achosion o coronafeirws barhau i gynyddu, felly hefyd y mae'r galw am driniaeth mewn ysbyty, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar fframwaith o gamau gweithredu fel y gall y gwasanaeth iechyd ddechrau cyflymu'r broses o wneud penderfyniadau. Bydd y fframwaith hwnnw, gobeithio, yn caniatáu i wasanaethau a gwelyau gael eu hailddyrannu ac i staff gael eu hadleoli a'u hailhyfforddi mewn meysydd blaenoriaeth penodol.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau'n benodol nifer y gwelyau mewn unedau gofal dwys a gwelyau dibyniaeth uchel sydd ar waith yng Nghymru mewn gwirionedd? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal ar unwaith i ystyried dewisiadau eraill i gynyddu nifer y gwelyau pe byddai Cymru yn cael ei llethu gan achosion difrifol? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio unrhyw gyllid ychwanegol a gaiff ei hidlo i lawr gan Lywodraeth y DU i helpu i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael i bobl sy'n cael eu heffeithio gan y coronafeirws?
Wel, diolchaf i Paul Davies. Hoffwn roi nifer y gwelyau gofal critigol sydd gennym ni yma yng Nghymru iddo, ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn ei rhoi iddo'n gywir. Yn fy meddwl, 136 yw'r ffigur, ond byddaf yn cadarnhau hynny gydag ef os nad wyf i wedi cofio hynny'n gywir. Mae gan y gwasanaeth iechyd, Llywydd, gapasiti ymchwydd, fel y'i gelwir, eisoes ar gyfer gofal dwys, i ddyblu'r nifer honno o welyau. Mae hynny'n rhan o waith cynllunio arferol y gwasanaeth iechyd, ond rydym ni'n gwybod hyd yn oed os byddwch chi'n dyblu'r nifer sydd gennym ni, na fydd yn bodloni lefel debygol y galw. Felly, wrth gwrs mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'n cydweithwyr gofal dwys am ffyrdd eraill o wneud gwahanol fathau o benderfyniadau i drin pobl sydd angen y lefel honno o ymyrraeth. Mewn rhannau eraill o'r ysbyty, rhan o'r rheswm am ganslo llawdriniaethau arferol yw bod rhywfaint o'r offer y byddai ei angen arnoch chi yn aml wedi ei leoli mewn theatrau ac y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd honno. Ond yn y ffordd yr wyf i'n credu bod Paul Davies yn ei awgrymu, mae'n fater o raeadru, a dweud y gwir. Er mwyn creu mwy o gapasiti ar y pen mwyaf dwys, mae'n rhaid i chi rhyddhau capasiti dryw'r system gyfan.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol yng Nghymru, sy'n gwneud gwaith pwysig iawn i allu rhyddhau capasiti yn y sector cartrefi gofal, fel bod y bobl sydd mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru heddiw, sy'n barod i adael—nid oes rheswm meddygol iddyn nhw fod yno—bydd lleoedd i'r bobl hynny fynd, felly rydym ni'n creu capasiti yn y ffordd honno hefyd. Felly, drwy'r system gyfan, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o symud pobl i lawr yr hierarchaeth ymyraethau er mwyn creu capasiti yn y fan y gallai fod ei angen fwyaf i'r rhai sydd â'r cyflyrau mwyaf dwys.
Prif Weinidog, rwyf i wedi sôn o'r blaen am yr effaith y gallai coronafeirws ei chael ar sector gofal cymdeithasol Cymru gyda chi. Wrth i fygythiad y feirws gynyddu, mae'n bwysicach nag erioed bod gan y rhai sy'n darparu gofal i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal fynediad at y canllawiau a'r cyngor diweddaraf sydd ar gael. Dywedasoch yn gwbl briodol bod sector gofal cymdeithasol Cymru yn llawn perchenogion bach un neu ddau o gartrefi gofal preswyl a bod cael negeseuon allan i bobl yn fwy o her pan fydd gennych chi niferoedd mwy o bobl dan sylw a phobl efallai nad ydyn nhw o reidrwydd mor effro i ymdrin â gofynion â chwmnïau mawr, sydd wedi eu trefnu'n dda ac yn barod ar gyfer gwneud hyn.
Ceir y mater o'r rhai sydd angen gofalwyr cartref hefyd, a'r risgiau o drosglwyddo feirysau i ofalwyr a'u defnyddwyr gwasanaeth. Felly, a allwch chi ddweud ychydig yn rhagor wrthym ni efallai am y ddeialog y mae'r Llywodraeth yn ei chael gyda'r sector gofal cymdeithasol, a pha mor effeithiol yr ydych chi'n credu yw'r Llywodraeth o ran cyfleu ei negeseuon. A allech chi hefyd roi rhywfaint yn rhagor o wybodaeth am gam nesaf gwaith cynllunio wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddiogelu'r rhai sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn well rhag coronafeirws, ac a oes capasiti o fewn y system i awdurdodau lleol i reoli i achosion o'r feirws yn effeithiol ar hyn o bryd? Pa adnoddau a chymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i'r sector fel y gall y rhai sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fod yn ffyddiog eu bod nhw mor ddiogel â phosibl?
Diolchaf i Paul Davies. Mae'r rheini i gyd yn gwestiynau pwysig iawn. Bydd yn gwybod bod AGGCC—Arolygiaeth Gofal Cymru—wedi cyhoeddi, yn gynharach yr wythnos hon, ei bod yn oedi cyn cynnal arolygiadau rheolaidd ym maes gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod staff rheng flaen yn gallu canolbwyntio ar y gwaith pwysicaf sydd ganddyn nhw, a'n bod ni'n gallu defnyddio'r arolygiaeth, sydd â chysylltiadau ar draws y sector cyfan, i'n helpu i raeadru negeseuon, fel yr ydym ni'n gallu defnyddio Fforwm Gofal Cymru. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r fforwm am y gwaith y mae'n ei wneud i wneud yn siŵr bod negeseuon allweddol yn cael eu rhoi ar gael, nid yn unig i ddarparwyr mawr, ond i'r nifer llawer ehangach o ddarparwyr gwasanaethau gofal preswyl bach.
Mae arweinydd yr wrthblaid yn gwneud pwynt pwysig iawn am ofal cartref, ac ni allaf ateb cwestiynau y prynhawn yma, Llywydd, a rhoi sicrwydd pendant y bydd popeth yn iawn ym mhob man, oherwydd nid dyna realiti coronafeirws. Rydym ni eisoes yn gwybod nad yw rhai mesurau eraill—y mesurau iawn y cytunwyd arnyn nhw ar draws y Deyrnas Unedig o ran hunan-ynysu—wedi cael effaith ar y gweithlu ym maes gofal cartref, gyda llai o bobl yn ymddangos i wneud y swyddi pwysig hyn. Ond rydym ni'n sgwrsio'n uniongyrchol iawn gyda'r sector a chydag awdurdodau lleol, ac yn gwybod bod y sector yn gweithio'n galed i flaenoriaethu'r penderfyniadau y mae'n rhaid iddo eu gwneud gyda'r gweithlu sydd ar gael iddo, ac mae hynny'n rhan o'n sgwrs barhaus gydag awdurdodau lleol, ac felly hefyd y cymorth y byddwn ni'n gallu ei ddarparu iddyn nhw.
Nid wyf i wedi sôn y prynhawn yma, hyd yn hyn, Llywydd, am y Bil brys yr ydym ni'n disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ddydd Iau yr wythnos hon. Bydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a fydd yn cymryd rhai o'r gofynion rheoleiddio presennol oddi wrth y sector ac yn eu galluogi nhw i ymateb i'r argyfwng mewn ffordd sy'n fwy hyblyg nag a fyddai ar gael iddyn nhw fel arall. Byddwn yn ceisio defnyddio'r pwerau hynny yma yng Nghymru, gan ymgynghori'n agos â'r sector ei hun.
Ar ran y Blaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Hoffem ninnau hefyd gofnodi ein diolch i holl staff y GIG a thu hwnt sy'n ymdrechu i weithio drwy'r cyfnod hwn, a hoffwn ddiolch i chithau, Prif Weinidog, am y sesiynau briffio yr ydych chi'n eu darparu. Gallwch fod yn sicr o'n cefnogaeth barhaus. Hefyd, anfonwn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion y person a fu farw yn sgil y feirws hwn.
Prif Weinidog, rydym ni'n dechrau gweld yr effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar gymdeithas. Mae fy nghyd-Aelod Mark Reckless yn hunan-ynysu oherwydd iddo datblygu symptomau sy'n gyson â'r clefyd. Felly, yn y cyfamser, os gwnewch chi fod yn fodlon gyda mi yn gofyn cwestiynau'r arweinydd, byddwn yn ddiolchgar.
Prif Weinidog, mae gennym ni gyfnod bach iawn o gyfle i reoli trywydd y clefyd hwn sy'n creu hafoc ledled y byd. Y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw dilyn cyngor arbenigwyr meddygol, ac rwyf i'n un yn cael fy nghysuro gan y ffaith fod pedair gwlad y DU yn gweithio gyda'i gilydd ar ein strategaeth, gan ddilyn cyngor epidemiolegwyr. Nod y cyngor i aros gartref am 14 diwrnod os oes gan unrhyw un yn eich cartref symptomau yw atal lledaeniad y clefyd hwn, y mae modelu yn rhagweld y gallai effeithio ar gymaint ag 80 y cant o'n poblogaeth. Er fy mod i'n derbyn nad yw'r adnoddau gennym ni i brofi pawb, ac y byddai profion eang yn dargyfeirio adnoddau hanfodol i ffwrdd oddi wrth cynorthwyo'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynnal profion ar gyfer gweithwyr allweddol hanfodol. Prif Weinidog, ni allwn fforddio cael cannoedd, efallai miloedd, o staff allweddol yn hunan-ynysu. A wnewch chi ymrwymo felly i sicrhau bod profion blaenoriaeth yn cael eu cynnal ar aelodau teulu a staff sy'n gweithio yn ein hysbytai, ein cartrefi gofal a'n hysgolion? Ein carchardai hefyd, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans. Mae'r bobl hyn yn hanfodol i weithrediad ein cymdeithas, ac ni allwn fforddio eu colli nhw oni bai y cadarnhawyd eu bod wedi cael eu hamlygu i SARS-CoV-2.
Diolchaf i Caroline Jones am y cwestiynau yna, a diolchaf iddi hi hefyd am ddod i'r cyfarfod a gynhaliwyd gennym ni ddoe. Llywydd, hoffwn, ar ran Aelodau eraill rwy'n siŵr, ddymuno'n dda i'n cyd-Aelodau ym mhob plaid sy'n eu canfod eu hunain wedi eu dal gan y cyngor a roddwyd ddoe, ac nad ydyn nhw'n gallu bod gyda ni yn y Siambr y prynhawn yma. O ran profi, fel y dywedais yn gynharach, bydd cyngor heddiw a fydd yn ymestyn profion i weithwyr allweddol mewn swyddi clinigol. Wrth i gapasiti ddatblygu, y bwriad fydd gweld pa un a oes grwpiau eraill y gellir eu hychwanegu at y drefn brofi honno, ond y rheswm am ddechrau gyda phobl mewn swyddi clinigol allweddol yw'r pwynt a wnaeth Caroline Jones—ein bod ni angen i'r bobl hynny fod yn y gwaith yn gwneud y pethau hanfodol mai nhw yn unig sy'n gallu eu gwneud, ac os bydd profi yn cyflymu eu dychweliad i'r gweithle yn y ffordd honno, yna dyna pam y bydd y drefn honno yn cael ei rhoi ar waith.
Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn barhau gyda'r syniad o'r mater o brofi, os caf i. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod angen profi, profi, profi, ac rwy'n derbyn y rhesymeg am beidio â phrofi pob achos ar hyn o bryd. Ond a oes gennych chi strategaeth ar gyfer cynyddu cyfleusterau profi yn ystod y misoedd nesaf? Mae hwn yn feirws cwbl newydd nad ydym ni'n gwybod fawr ddim amdano, a'r mwyaf o ddata y gallwn ni ei gasglu a'i grynhoi, y mwyaf parod y byddwn ni i ymdrin ag ef. Yn anffodus, nid yw'r feirws hwn yn mynd i ddiflannu'n fuan iawn o gwbl. Rydym ni'n dal i ymdrin â SARS bron 20 mlynedd ar ôl iddo ymddangos gyntaf. Byddai brechlyn ar gyfer COVID-19 yn 18 mis neu ddwy flynedd arall i ffwrdd, felly yn niffyg brechlyn, mae angen i ni ddeall cylch bywyd y feirws hwn yn well, ac ar gyfer hynny mae'n rhaid i ni gael data cywir ar y niferoedd sydd wedi eu heintio mewn gwirionedd, y niferoedd sydd wedi eu heintio nad oedd ganddyn nhw symptomau, a chyfradd marwolaethau'r clefyd yn anffodus. Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar brofi cywir. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn bwriadu cynnal profion serolegol ar raddfa eang ar ôl i ni fynd heibio uchafbwynt yr argyfwng hwn, a phan fydd y prawf sy'n cael ei ddatblygu gan Public Health England ar gael? Diolch.
Unwaith eto, diolchaf i Caroline Jones. Gwnaeth bwynt pwysig iawn, Llywydd, ynglŷn â'r ffaith bod ein dealltwriaeth o'r clefyd hwn yn datblygu drwy'r amser, gan ddysgu o brofiad yn y byd yn ogystal â phrofiad yn ddomestig. A dyna pam yr wyf i'n ailadrodd—ac rwy'n ei ddweud eto y prynhawn yma, Llywydd—mai'r dull yr ydym ni'n ei fabwysiadu fel Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yw ceisio gwneud y penderfyniad iawn ar yr adeg iawn, oherwydd mae amseriad yr ymyraethau yn bwysig iawn yma, a bydd strategaethau'n newid ar wahanol adegau yn ystod datblygiad y clefyd. Ein strategaeth yw'r un a nodwyd gan Caroline Jones ar ddechrau ei chwestiynau atodol, a fydd yn cael ei harwain gan gyngor ein prif swyddogion meddygol a'r grŵp gwyddonol sy'n ymdrin ag argyfyngau o'r math hwn. Eu cyngor presennol nhw yw'r cyngor yr ydym ni'n ei ddilyn heddiw yng Nghymru. Os, wrth i ragor o wybodaeth ddatblygu, wrth i ni ddysgu mwy, mai eu cyngor yw bod angen gwahanol benderfyniad ar adeg wahanol, byddwn ni'n dilyn y cyngor hwnnw, wrth gwrs. Allaf i ddim ei ragweld, wn i ddim beth fydd y cyngor hwnnw ar wahanol adegau, ond rwyf i eisiau i bobl Cymru wybod mai'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fydd dilyn y cyngor gorau sydd ar gael i ni, ac yna ei roi ar waith yma.
Mae cwestiwn 3 [OAQ55250] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 4, Carwyn Jones.