3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 17 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:10, 17 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Nawr, gwrandewais  arnoch yn astud iawn yn amlwg yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau dweud yn gyntaf oll fy mod i'n llwyr gefnogi popeth yr ydych chi wedi ei wneud yn y fan yma gyda hyn mewn golwg, o awgrymu bod yn rhaid i bobl 70 oed aros gartref i hunan-ynysu; yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gadw'n hunain yn ddiogel; a sut yr ydym ni'n gofalu am bobl sydd â systemau imiwnedd gwan ac sy'n gwella o glefydau anodd iawn. Rydym ni'n eich cefnogi yn hynny o beth, a chredaf fod hynny'n ardderchog.

Ond, rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau eraill i chi am yr holl fater o sut yr ydym ni'n mynd ati i fynd i'r afael â COVID-19. Alla i ddim peidio â gofyn i chi eto am y drefn brofi. Clywais yn glir iawn, ac mewn gwirionedd, atseiniodd yn gryf iawn gyda fi, eich sylw am 'Ein tystiolaeth wyddonol, ein Prif Ymgynghorwyr Gwyddonol a'n Prif Swyddogion Meddygol yn rhoi i ni'r dystiolaeth sef y graig y mae'n rhaid i ni seilio ein holl benderfyniadau arni, ac os ydym ni'n symud y graig honno o gwmpas, yna rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, iawn'. Felly, nid wyf yn gofyn i chi wneud hynny, ond yr hyn yr wyf yn gofyn i chi ei wneud efallai yw dweud wrthym ni sut yr ydych chi ar hyn o bryd yn gwerthuso, yn gyson, y penderfyniad presennol i beidio â phrofi niferoedd mwy o'r boblogaeth. Rwy'n credu bod hyn oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr mewn enghreifftiau o leoedd fel De Korea sydd wedi llwyddo i leihau eu hachosion o bron i 1,000 y dydd i lai na 100 y dydd. Eu hethos craidd nhw yw bod profi yn ganolog wedi arwain at ganfod yr haint yn gynnar, y cyfyngwyd ar y lledaeniad ac y triniwyd y rheini oedd â'r feirws arnyn nhw yn gyflym. Felly, rwy'n sylweddoli bod pob un o'r llywodraethau cartref yn gytûn mai dyma'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati, ond hoffwn wybod sut yr ydych chi'n edrych ar hynny a sut yr ydych chi'n gwerthuso'r perfformiad hwnnw.

Mae gennyf i ddiddordeb mawr hefyd yn yr agwedd o brofi, oherwydd roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth o gwbl am ymarferoldeb pecynnau profi yn y cartref. Y rheswm, unwaith eto, rwy'n gofyn hynny, yw oherwydd os ydym ni'n profi ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n rhaid i ni eu hailbrofi, eu hailbrofi a'u hailbrofi, gan y gallen nhw fod yn dda ar ddydd Llun, ond os ydyn nhw yn byw gyda rhywun sydd wedi cael COVID-19, efallai na fyddan nhw yn dda ar y dydd Mercher neu'r dydd Gwener.

Yn ail, mae gennym ni boblogaeth oedrannus iawn. Mae gennym ni lawer o bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gartref. Mae gennym ni lawer o bobl ynysig a fydd yn ei chael hi'n anodd iawn mynd allan os yw bysiau'n teithio yn llai aml ac os bydd llai o drafnidiaeth, a phe gallem ni ddefnyddio'r holl grwpiau gwirfoddol gwych hyn sy'n ymffurfio—pobl fel ni—i fynd allan a helpu, byddai mor ddefnyddiol pe gallem ni gael ein profi, oherwydd wedyn gallem ni, mewn gwirionedd—hyd yn oed os na allwn ni wneud y pethau ymarferol o newid rhwymyn yng nghartref rhywun, mewn gwirionedd, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gweld pobl hŷn a siarad â nhw am hanner awr i drechu'r unigrwydd a'r arwahanrwydd hwnnw a fydd, ar ôl 14 wythnos, o bosib iawn wedi eu meddiannu. Felly, pe gallech chi roi unrhyw wybodaeth i ni ynghylch hynny fel y gallwn ni ystyried sut y gallem ni helpu, byddai'n dda iawn pe gallem ni fod yn ffyddiog bod y rhai sy'n mynd i gartrefi pobl—yn helpu'r henoed, yn helpu'r rhai sy'n feichiog ac yn helpu'r rhai sydd â chyflyrau eraill arnyn nhw—yn ddiogel iawn.

Roeddwn i eisiau cyfeirio at allu cael gafael ar feddyginiaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, un yw cael gafael ar feddyginiaethau o wledydd tramor. Deallaf fod rhai meysydd lle mae meddyginiaethau'n cael eu cadw'n ôl neu lle bu addasu o ran sut y cânt eu cynhyrchu, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi unrhyw drosolwg i ni o'r hyn y mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael meddyginiaethau. Ond, roeddwn i hefyd eisiau siarad yn fyr iawn, Prif Weinidog, am yr hyn y gallech chi ei wneud i sicrhau y bydd meddygfeydd meddygon teulu, a fyddai fel arfer yn rhoi gwerth pythefnos o feddyginiaeth i rywun ar y tro, yn adolygu eu polisi presgripsiynu mewn gwirionedd fel y gall bobl gael digon o feddyginiaeth i'w helpu os ydyn nhw wedi bod yn hunan-ynysu, neu i atal pobl rhag gorfod mynd allan i gael y presgripsiynau rheolaidd hyn. Rwy'n clywed cryn dipyn o bobl yn dweud, 'ni allaf gael mwy na phythefnos ar unrhyw un adeg o unrhyw gyffur penodol'.

Tybed a allech chi roi amlinelliad i ni o ba gefnogaeth y gallech chi ei rhoi hefyd i'r maes iechyd meddwl. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gofal iechyd meddwl mewn argyfwng yn dal i allu darparu cymorth ychwanegol, yn enwedig i'r rhai y mae ei angen arnyn nhw, yn amlwg, nawr? Oherwydd gallai'r cymorth gwirioneddol hwnnw—a'r cymorth angenrheidiol hwnnw—fod yn fwy, mewn gwirionedd, o ystyried yr ofn a'r pryderon y mae pobl yn eu hwynebu.

Mae hyn yn gwestiwn gwbl anarferol, ond teimlaf hyn yn eithaf cryf mewn gwirionedd. Mae pobl yn ofnus. Dydy pobl ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. Gwyddom ein bod yn siarad am hyn ac yn cyhoeddi gwybodaeth, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi neu un o'ch Gweinidogion yn ystyried siarad ag ITV, BBC ac S4C ynghylch gwneud datganiad byr ar y newyddion chwech o'r gloch bob nos sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am yr hyn sy'n digwydd. Oherwydd rwy'n credu pan eich bod chi'n darllen y negeseuon e-bost sy'n cyrraedd, pan eich bod chi'n gweld y cyfryngau cymdeithasol, y newyddion ffug a'r ymdeimlad cyffredinol o banig, rwy'n meddwl tybed a fyddai cael sefydlogrwydd yn y cyfryngau Cymreig ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol mewn gwirionedd. Does dim rhaid i chi ddweud rhywbeth newydd bob tro; mae yn ymwneud ag ailadrodd yr un negeseuon a dweud wrth bobl ei bod hi'n iawn, nad oes angen iddyn nhw fynd i brynu tunelli o fwyd, na fyddan nhw'n llwgu i farwolaeth, byddan nhw'n cael y meddyginiaethau y mae eu hangen arnyn nhw, byddan nhw'n cael y gefnogaeth gan yr holl Lywodraethau, byddan nhw'n iawn. Rwy'n credu bod angen i bobl glywed hynny yn feunyddiol, yn feunyddiol ac yn feunyddiol.

Rwyf wedi gadael y rhan olaf o'm sylwebaeth, Llywydd, i'r fferyllfeydd. Maen nhw dan gryn dipyn o bwysau. Mae gennym ni fferyllwyr sy'n dal heb fod ganddyn nhw ddim o'r offer amddiffynnol yr addawyd iddyn nhw. Nid yw'r offer diogelu o ansawdd da iawn ac mae meddygon teulu yn pryderu yn ei gylch eisoes, heb sôn am y fferyllwyr. Mae fferyllwyr o dan bwysau gwirioneddol, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod pobl yn ffonio eu meddygon teulu, mae meddygon teulu'n dweud, 'peidiwch â dod atom ni, rydym yn cau ein drysau, byddwn yn siarad â chi dros y ffôn, byddwn yn dweud wrthych chi beth sydd ei eisiau arnoch chi.' Wel, dyfalwch i ble maen nhw'n mynd? At y fferyllydd. Mae fferyllwyr yn teimlo dan bwysau aruthrol a'r pwynt y maen nhw'n ei wneud, wrth iddyn nhw ddiffygio'n raddol gyda'r salwch hwn a gorfod hunan-ynysu, gorfod cau am ychydig ddyddiau i lanhau eu fferyllfeydd yn drwyadl, yw: beth sy'n digwydd wedyn? Rydym ni eisoes wedi gweld fferyllydd yn Arberth sydd wedi gorfod cau ac un yn Hwlffordd sydd wedi gorfod cau. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar fferyllwyr. Maen nhw'n credu mai nhw yw'r rhai sy'n gorfod, ac sy'n fodlon—ddim 'yn gorfod'—rhoi meddyginiaeth ar gyfer pethau megis diabetes, meddyginiaeth ar gyfer y galon ac yn y blaen. Dydyn nhw ddim yn credu bod y byrddau iechyd yn eu cefnogi. Maen nhw'n credu eu bod wedi eu gadael yn ddiymgeledd; maen nhw mor brysur yn canolbwyntio ar y rheng flaen mewn ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu fel nad oes neb yn meddwl am y bobl sydd wrth eu sodlau yn rhoi sylw i nifer fawr iawn o bobl—nhw yw'r bobl yr eir atyn nhw gyntaf os oes gan bobl broblem. Felly, tybed a allwch chi fynd i'r afael â'r mater hwn efallai gan eu bod yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gymorth, dim cyngor gan y byrddau iechyd eu hunain.

Ac yn olaf, ac mae hyn braidd yn ddigywilydd, ond wrth gwrs roedd gennych chi warws bach braf yn llawn pethau yn barod ar gyfer Brexit, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n dal i fod â'r pethau hynny yno, pa fath o bethau ac a ellid defnyddio'r pethau hynny yn yr argyfwng presennol hwn. Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.