Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i nifer o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i helpu i dawelu meddyliau pobl. Nawr, tynnwyd sylw at y ffaith y gall sefyllfaoedd argyfyngus ddatgelu'r gorau mewn dynoliaeth, ac un o'r pethau mwyaf ysbrydoledig yr ydym ni i gyd wedi eu gweld ledled Cymru yw'r ymdrechion gwych gan y gymuned i helpu pobl sy'n gorfod hunanynysu. A gaf i ofyn i chi a allwch chi gyhoeddi cymorth ariannol i wasanaethau gwirfoddol lleol neu i'r grwpiau cymunedol hyn i brynu offer, offer ymarferol, ond hefyd offer neu gymorth i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith y bobl sy'n hunanynysu, a hefyd a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i ddarparu talebau i grwpiau fynd allan i brynu bwyd a chyflenwadau hanfodol i'r bobl sy'n hunanynysu?
Soniodd y Prif Weinidog yn gynharach y bydd profion ar gael i staff clinigol rheng flaen. Wrth gwrs, mae gweithwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddant yn cyflawni swyddogaeth hanfodol bwysig. Mae'n rhaid bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyfrif staff gofal cymdeithasol yn weithwyr rheng flaen allweddol yn hyn o beth. Felly, a gaf i ofyn a fydd blaenoriaeth iddyn nhw ar gyfer profion, yn ogystal â pha adnoddau ychwanegol a fydd ar gael iddyn nhw? Byddai hynny, yn amlwg, yn cyfrif o ran gweithwyr gofal sy'n mynd i gartrefi pobl, ond hefyd pobl yn y sector gofal preswyl, hefyd; a gaiff eu cynnal gan yr awdurdodau lleol mewn llawer o'r achosion.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod gan y GIG, i bob pwrpas, siec wag i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, bod angen siec wag ar y gwasanaeth gofal cymdeithasol hefyd er mwyn parhau i ofalu am bobl? O ran cyllid llywodraeth leol, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad y bydd llai o weithwyr a fydd yn gorfod ymdopi â chynnydd yn y llwyth gwaith. Felly, a wnewch chi amlinellu unrhyw lacio ar reolaethau ariannol llywodraeth leol y gallem ni eu disgwyl, gan nad ydym ni eisiau i lywodraeth leol orfod canslo neu beidio â darparu gwasanaethau hanfodol yn yr amser pryderus iawn hwn oherwydd rhesymau ariannol?
Ac yna, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am nifer o ddarpariaethau sy'n ymwneud â digartrefedd, ac mae gen i rai cwestiynau yn ymwneud â thai, os caf i. Bydd yr wythnosau nesaf yn anodd i bawb y mae angen iddyn nhw hunanynysu, ond rwy'n siŵr na allwn ni ddychmygu pa mor anodd y bydd hynny i bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain. Rydym ni wedi sôn am lifogydd ychydig o wythnosau yn ôl. Cafodd cartrefi llawer o fy etholwyr i, ac etholwyr pobl eraill, eu dinistrio gan ddŵr brwnt. A fydd y Llywodraeth yn prysuro i wneud gwaith atgyweirio brys yn gynt er mwyn helpu i wneud y cartrefi hyn yn bosibl i fyw ynddyn nhw eto, yn enwedig gan y bydd yn rhaid i bobl dreulio llawer mwy o amser gartref? Yn amlwg, mae'r argyfwng presennol o ran y feirws yn flaenllaw ar feddyliau pobl, ond ni ellir anghofio'r bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw chwaith—nid wyf yn awgrymu am eiliad y byddir yn gwneud hynny.
O ran tai yn fwy cyffredinol, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n orfodol i gynghorau roi rhyddhad treth gyngor a rhent i unrhyw un sy'n hunanynysu ac sy'n methu â mynd i'r gwaith? Hefyd, er mwyn helpu unrhyw un sy'n wynebu braw y feirws hwn ar ben braw digartrefedd posib, a fyddwch chi'n cyflwyno deddfwriaeth i atal y defnydd o adran 21 o Ddeddf Tai 1996, fel na all pobl wynebu cael eu troi allan yn ystod y cyfnod hwn oherwydd eu bod yn cael eu heintio gan y feirws hwn? Byddwn i'n gofyn am unrhyw wybodaeth arall y byddech yn ei darparu, ond rwy'n clywed ac yn croesawu'r hyn y gwnaethoch ei ddweud am y cymorth sy'n cael ei ddarparu i bobl sy'n ddigartref eisoes a hefyd y gweithwyr yn y trydydd sector sy'n helpu pobl ddigartref. Os daw unrhyw wybodaeth arall i'r fei yn yr wythnosau nesaf, neu'r dyddiau nesaf hyd yn oed, byddwn yn ddiolchgar o gael ei gweld.
Nawr, wrth edrych ar grŵp arall a allai wynebu tlodi dybryd o ganlyniad i'r feirws, rydym ni wedi bod yn siarad yn y Siambr eisoes am yr ansicrwydd ynghylch os a phryd y bydd ysgolion yn cau. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ddarpariaeth yn union a fydd ar gael i blant, os bydd ysgolion yn cau, a fyddai fel arall wedi bod yn ddibynnol ar brydau ysgol am ddim? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n rhywbeth y gallai awdurdodau lleol fod yn helpu ag ef, i'w gydlynu, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod llawer o rieni ac athrawon wedi ysgrifennu ataf i yn ei gylch, gan fynegi pryder gwirioneddol am hynny.
Unwaith eto, rwy'n gwybod y bydd yr wythnosau nesaf yn peri pryder i bawb yn y gymdeithas, ond efallai mai rhai o'r bobl sydd mewn mwyaf o berygl ac nad ydym yn meddwl amdanyn nhw ar unwaith yw pobl sy'n dioddef cam-drin domestig, pa un a ydyn nhw'n byw mewn llochesau neu yn byw gyda'r un sy'n eu cam-drin mewn perthynas gymhellol a rheolaethol, a'u bod yn mynd i wynebu hunanynysu gyda'r un sy'n eu cam-drin a gallai'r cam-drin waethygu. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch swyddogaeth chi, ond a oes unrhyw beth y gallai awdurdodau lleol fod yn ei wneud o ran llinell gymorth neu ryw fath o ddarpariaeth ychwanegol, mewn modd ategol i'r hyn yr oeddwn i'n holi yn ei gylch o ran cefnogaeth neu sicrwydd i bobl sy'n teimlo unigrwydd? A allai rhywbeth mwy penodol fod ar gael i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig?
Yn olaf, Gweinidog, mae nifer o isetholiadau i fod i gael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod bod un yng Ngorllewin Abertawe, ac roedd un i fod i'w gynnal yng Nghaerffili. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, y caiff yr isetholiadau hyn yn bendant eu gohirio nes bod y gwaethaf o'r argyfwng hwn wedi mynd heibio?