14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:52 pm ar 24 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 12:52, 24 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o godi i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Yn ei gyfraniad i'r ddadl hon, defnyddiodd Paul Davies y gair 'ddidostur' ddwywaith, ac mae hwn yn fesur didostur; allwn ni ddim esgus ei fod yn ddim byd arall. Rwy'n siŵr na fydd y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon yn cefnogi'r Bil â chalon ysgafn. Byddem ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld ein cyd-ddinasyddion yn cydymffurfio â'r hyn y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud ac y'i cynghorwyd nhw i'w wneud, ond yn anffodus, fe wyddom bod lleiafrif—ac rwy'n credu mai lleiafrif bach o bobl ydyn nhw—nad oedden nhw'n barod i dderbyn y cyngor clir iawn hwn, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael pwerau i amddiffyn y boblogaeth rhag y clefyd digynsail hwn. Nid ydym ni'n gwybod, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yr hyn mae'n mynd i'w wneud a sut y bydd yn effeithio arnom ni, ac felly fe fydd Plaid Cymru, gyda chalon eithaf trwm mewn sawl ffordd, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Yn fy nghyfraniad, Dirprwy Lywydd, hoffwn i adleisio rhai o'r pryderon sydd wedi eu codi eisoes, yn enwedig gan Mick Antoniw. Nid ynghylch pa un a ddylai'r pwerau fodoli, ond sut y gall y pwerau hynny gael eu defnyddio a sut y gallai'r lle hwn gymryd rhan, oherwydd fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud, nid yw cymryd y pwerau hyn—rhai o'r pwerau hyn—yn golygu eu defnyddio o reidrwydd; efallai na fydd angen hynny. Ond mae rhai meysydd, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau eraill y Senedd wedi cael sylwadau, er enghraifft, gan bobl anabl sydd wir yn pryderu, os bydd gofynion, gofynion y maen nhw wedi brwydro'n hir drostyn nhw, y maen nhw wedi cymryd blynyddoedd lawer i ymgyrchu dros yr hawl i gael cefnogaeth, yn cael eu dileu, y byddan nhw'n colli pecynnau gofal ac y byddai hynny'n eu gwneud yn agored i niwed. Byddwn i'n dadlau y byddai hynny mewn gwirionedd yn eu gwneud yn agored i fynd i mewn i'r system ysbyty yn y pen draw, sef y peth olaf y byddem ni'n ei ddymuno wrth gwrs. A bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod pryderon ynghylch cael gwared ar rai amddiffyniadau ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Rwy'n gwybod na fydd Llywodraeth Cymru yn debygol o ddefnyddio'r pwerau hynny, ond rwyf yn deall pam mae etholwyr wedi bod yn ysgrifennu ataf i ac at lawer ohonom ni, ac ynglŷn â hawliau plant anabl i gael mynediad at addysg—y pethau hynny i gyd—bod yr ofnau hynny yn rhai gwirioneddol. Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw, ac nid wyf i'n gwybod a fyddai'n gallu ymrwymo i hyn, sef os bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y pwynt lle mae'n teimlo bod yn rhaid iddi ddefnyddio rhai o'r pwerau hynny, yn ogystal ag efallai adrodd fel y mae Mick Antoniw wedi ei awgrymu, a fyddai'n bosibl—byddwn ni'n cyfarfod yn y lle hwn ar ryw ffurf neu'i gilydd—pe byddai'n bosibl i'r Gweinidog ddod â datganiad gerbron y Senedd fach neu beth bynnag y byddwn ni erbyn hynny, i egluro pam y mae'n ystyried ysgafnhau'r gofynion ar lywodraeth leol ynghylch gofal cymdeithasol, er enghraifft, fel y gallwn ni godi pryderon etholwyr gydag ef. A gall ef ymateb i'r rheini, ac rwy'n siŵr yn ymateb i'r rheini mewn ffordd a fyddai'n rhoi tawelwch meddwl.

Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad ei fod yn deall yn llwyr—ac rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud hyn, ac nid yw'n syndod i mi o gwbl—yr hawl i gydbwyso parch at hawliau unigolion â'r hyn sy'n angenrheidiol i'r gymuned yn ei chyfanrwydd. Ac yn hynny o beth, rwy'n tynnu ei sylw—efallai ei fod wedi ei weld eisoes—at y datganiad a gafodd ei ryddhau heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n darparu fframwaith defnyddiol iawn ar gyfer ystyried y modd y gellid gwneud rhywfaint o'r cydbwyso hwnnw yn y cyfnod cwbl ddigynsail hwn.

Cyfeiriaf yn fyr at daliadau salwch statudol. Wrth gwrs, bydd pob un ohonom ni yn croesawu'r ffaith fod hyn ar gael, ond fel y dywedodd Mick Antoniw, ni all pobl fyw ar hynny. Yn sicr, ni allan nhw fyw arno yn hir iawn, ac rwy'n credu ein bod yn siomedig. Rwy'n deall y cafodd gwelliannau eu codi, ond ni chawsant eu trafod, a fyddai wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad, yn y ddeddfwriaeth hon, i'r gweithwyr unigol hynny, pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd. Rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud—a gobeithio eu bod nhw'n iawn—y byddwn ni'n cael pecyn gan Lywodraeth y DU, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r lefel cywir i'r pecyn hwnnw ddod ohono. Ond os nad yw'n dod ac nad yw'n dod yn gyflym, byddwn i'n annog Gweinidogion Cymru i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud yn y tymor byr. Rydym ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil ein hunain, gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y maes, yn ymwneud â'r posibilrwydd o gael incwm sylfaenol dros dro a fyddai'n cefnogi'r bobl hynny, ac os byddwn ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle na fydd Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu, byddem yn amlwg yn fwy na hapus i rannu hynny a gweld a oes unrhyw ddichonoldeb.

Wyddoch chi, mae pethau eraill nad yw'r ddeddfwriaeth yn eu gwneud, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, a bydd y Gweinidog yn fy nghywiro i os wyf i'n anghywir. Nid yw, er enghraifft, yn galluogi'r Llywodraeth, ar unrhyw lefel, i gamu i mewn ac ymdrin â chyflogwyr gwael. Rwyf i'n cael negeseuon wrth i ni eistedd yn y fan yma gan bobl sydd o dan bwysau i fynd i weithio mewn sefyllfaoedd lle nad wyf i'n credu y byddai unrhyw un yn yr ystafell hon yn teimlo bod eu gwaith yn hanfodol i'r gymuned. Cododd Siân Gwenllian y mater yn gynharach ynglŷn â gweithwyr adeiladu. Nid wyf i'n weithiwr adeiladu ond dyna yw gwaith fy mrawd mawr, ac rwy'n gwybod sut fath o leoedd yw safleoedd adeiladu.

Nid yw'n bosibl, ar safle adeiladu, i fod yn adeiladu adeiladau na'u hatgyweirio a chynnal pellter cymdeithasol priodol. Yn syml, ni ddylid ei wneud. Oni bai bod y bobl hynny'n adeiladu cyfleusterau hanfodol neu'n gwneud atgyweiriadau hanfodol efallai i gartrefi pobl hŷn na fydden nhw'n ddiogel i aros yn eu cartrefi, oni bai bod hynny'n cael ei wneud, ond gweithwyr adeiladu—. Rwyf i wedi cael sawl e-bost y bore yma gan bobl yn fy rhanbarth i yn dweud, 'Nid wyf i eisiau bod yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo'n ddiogel yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo bod fy ngwaith yn hanfodol, ond mae fy mhennaeth yn dweud wrthyf, oni bai fy mod yn dod i weithio, y byddaf yn colli fy ngwaith.' Rydym ni'n gwybod bod y sector hwnnw'n eithaf bregus, mewn gwirionedd, nad yw hawliau cyflogaeth pobl yn aml yn gryf iawn, ac mae'n siom i mi nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i Lywodraethau gamu i'r adwy.

Unwaith eto, mae'r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn mynd i fod yn gyfrifol, maen nhw'n mynd i gefnogi eu staff, maen nhw'n mynd i annog eu staff i aros gartref. Rydym ni wedi gweld pethau dymunol iawn. Mae Timpson's, er enghraifft, sydd nid yn unig wedi dweud wrth bawb fod staff i aros gartref ac y byddan nhw'n cael eu talu'n llawn, ond maen nhw'n rhoi cymorth ac amddiffyniad ychwanegol iddyn nhw hefyd.

Rwy'n gallu gweld bod y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf bod yn rhaid i mi ddirwyn hyn i ben, ac fe wnaf i hynny. Y pwynt olaf yr wyf i eisiau ei wneud yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth yw bod hyn yn rhoi pwerau o ran ynysu, o ran cadw pellter cymdeithasol, ond rwy'n credu os yw'r pwerau hynny am gael eu defnyddio, mae'n rhaid i bobl gael eglurder, ac yn arbennig heddiw yr hyn sydd yn ein hwynebu yw nad yw'n glir beth sy'n waith hanfodol a beth nad yw'n waith hanfodol. Nid wyf i'n gwybod, Dirprwy Lywydd, i ba raddau y bydd hynny o fewn gallu Llywodraeth Cymru i gael mwy o eglurder ynghylch hynny, ond allwn ni ddim gofyn i bobl ymddwyn yn gyfrifol ac wedyn peidio â dweud wrthyn nhw sut mae ymddygiad cyfrifol yn edrych mewn gwirionedd.