14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:46 pm ar 24 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 12:46, 24 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma. Mae'r pwerau sydd yn y Bil hwn, o dan yr amgylchiadau, o gofio ein bod ni mewn cyfnod eithriadol, yn gwbl briodol a byddan nhw, gobeithio, yn rhoi arfau ychwanegol i Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i baratoi'r Llywodraeth yn well ar gyfer yr wythnosau a misoedd i ddod.  

Mae'n rhaid cyfaddef bod rhai darpariaethau yn y Bil hwn a fydd yn ymddangos yn eithafol i lawer o bobl ac a allai gyfyngu ar ryddid pobl ac, fel un a ddaeth i wleidyddiaeth i hyrwyddo rhyddid yr unigolyn, rwyf innau hefyd yn gweld rhai o'r mesurau yn ddidostur, ond o gofio difrifoldeb y sefyllfa, mae'n bwysig cael y pwerau brys hyn fel dewis olaf. Ond mae'n werth pwysleisio, fel y dywedodd y Gweinidog, mai dros dro y mae'r pwerau hyn yn cael eu cyflwyno.  

Dirprwy Lywydd, os caf i nawr droi at rai o'r manylion yn y Bil hwn. Mae'n cynnwys cymalau pwysig yn ymwneud â chofrestru brys nyrsys a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill o dan Atodlen 1 i'r Bil. A gobeithio y bydd y cymalau hyn yn helpu i ymdrin ag unrhyw gynnydd sylweddol yn nifer y rhai y mae angen gofal meddygol arnyn nhw, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw brinder yn lefel y staff cymeradwy sy'n gallu helpu ar hyn o bryd. Mae'n gwbl briodol bod cofrestriadau brys yn digwydd yn gyflym a bod ein gweithlu yn y GIG mor barod â phosibl drwy gydol y cyfnod hwn.  

Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig bod mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau bod y rhai sy'n trin pobl yn glinigol ddiogel i gyflawni eu swyddogaethau. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y rhwystrau a'r gwrthbwysau a fydd ar waith yma yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw un sy'n cynghori neu'n trin cleifion drwy gydol y cyfnod hwn mor alluog â phosibl i wneud hynny.  

Er mwyn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen, nodaf fod y Bil hefyd yn cynnwys cymalau yn ymwneud ag absenoldeb gwirfoddoli mewn argyfwng ac iawndal ar gyfer gwirfoddolwyr brys o dan Atodlen 6 y Bil. Mae hyn hefyd yn hollbwysig gan y bydd yn helpu i gael cymaint â phosibl o wirfoddolwyr sy'n gallu llenwi bylchau mewn capasiti a thrwy hynny helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod posibilrwydd cryf y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn wynebu cynnydd yn y galw a llai o allu i ymdrin â chyfraddau uwch o absenoldeb staff. Felly, mae'n ddealladwy y dylai awdurdodau lleol allu blaenoriaethu gofal er mwyn diogelu bywyd a chyrraedd penderfyniadau cyflym heb ddilyn asesiadau cydymffurfiad llawn Deddf Gofal 2014. Ar yr un pryd, mae'r Bil yn cyflwyno math newydd o absenoldeb statudol di-dâl, yn ogystal â phwerau i sefydlu cynlluniau digolledu, sy'n gwbl briodol i wneud iawn am y golled o ran enillion a threuliau gwirfoddolwyr.  

Un o amcanion allweddol y Bil yw cyfyngu ac arafu'r feirws, ac felly mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau ar waith i gyflawni'r amcan hwn yn effeithiol. Mae cymal 49 yn darparu ar gyfer pwerau sy'n ymwneud ag unigolion a allai fod yn heintus o dan Atodlen 20, ac rwy'n gwerthfawrogi y gall y cymal hwn ymddangos yn ddidostur i rai pobl ond, yng sgil cyhoeddiadau ddoe, mae'n bwysig y bydd swyddogion yr heddlu a mewnfudo erbyn hyn yn gallu cyfarwyddo unigolion i aros gartref neu eu cadw mewn lleoliadau addas ar gyfer sgrinio ac asesu. Gobeithio y bydd y mesurau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i lenwi'r bylchau presennol mewn pwerau i sicrhau sgrinio ac ynysu pobl a allai fod wedi eu heintio neu wedi eu halogi â'r feirws ac i sicrhau y gall cwnstabliaid orfodi mesurau diogelu iechyd pan fo hynny'n angenrheidiol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y dybiaeth y bydd y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cydymffurfio â chyngor swyddogol iechyd y cyhoedd, ac o ganlyniad, dim ond ceisio sicrhau y gall mesurau cymesur gael eu gorfodi pan ac os yw hynny'n angenrheidiol y mae'r cymal hwn yn ei wneud. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hyn a welsom ni dros y penwythnos mewn rhai lleoedd, pan oedd rhai pobl ddim ond yn diystyru cyngor ac yn teithio i gyrchfannau gwyliau mewn rhai rhannau o Gymru, yn gwbl anghyfrifol, a dyna pam y mae angen y pwerau hyn er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau ddoe i gau meysydd carafanau a mannau sy'n boblogaidd gan dwristiaid.

Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ni ran mewn sicrhau bod ein hetholwyr yn ymwybodol o'r canllawiau diweddaraf a'u bod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl. Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymdrechu'n daer i gynghori'r cyhoedd ar y camau i'w cymryd os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw symptomau'r feirws, mae pobl yn dal i gysylltu â'u Haelodau Cynulliad i gael cyngor a chymorth. Fel y dywedodd Joyce Watson yn gynharach, mae rhai yn camhysbysu pobl ar-lein, felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ehangu cyrhaeddiad ei negeseuon fel nad ydym ni mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu cadw neu eu hynysu drwy orfodaeth.

Mae rhai pryderon difrifol iawn hefyd ynghylch y modd y mae'r rhai sydd wedi marw yn cael ei reoli gyda pharch ac urddas. Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn yn fater arbennig o sensitif, ond er hynny, mae'n bwysig sicrhau bod y prosesau gweinyddol sy'n ymwneud â chofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau yn gallu gweithredu'n effeithiol yn ystod cyfnod yr achosion.

Dirprwy Lywydd, mae sawl maes arall yn y Bil a fydd o bwysigrwydd sylweddol i bobl Cymru, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut orau i weithio gyda'r darpariaethau yn y Bil hwn. Er bod rhai darpariaethau yn y Bil yn ymddangos yn ddidostur, mae'n rhaid i ni gofio ein bod mewn amseroedd digynsail, ac oherwydd hynny, maen nhw'n galw am gamau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Bydd fy nghyd-Aelodau a minnau, wrth gwrs, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amddiffyn pobl Cymru a lliniaru lledaeniad y feirws dinistriol hwn. Diolch.