Part of the debate – Senedd Cymru am 1:20 pm ar 24 Mawrth 2020.
Gaf i ddweud i ddechrau fy mod i'n uniaethu yn llwyr efo'r hyn ddywedodd Dawn Bowden? Mae'n bwysig ein bod ni yn rhannu ein gofidiau ac mae'n bwysig ein bod ni yn mynegi yr emosiwn rydyn ni yn teimlo. Mae hynny mor bwysig ar adeg fel hyn. Felly, dwi'n diolch i chi am rannu rhai o'ch gofidiau chi, ond mi wnawn ni ddod drwy hyn. Mi wnawn ni ddod drwy hyn efo'n gilydd—mae hynny yn bosibl.
Rydyn ni fel plaid wedi bod yn gweithio yn adeiladol efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar y ddeddfwriaeth yma i sicrhau bod gan y Llywodraeth y pwerau i'n cadw ni'n saff. Mi ddylai'r ddeddfwriaeth yma arwain at fwy o staff yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mi ddylai wneud gwirfoddoli yn haws, rhoi stop ar griwiau o bobl yn ymgynnull, galluogi mwy o gefnogaeth i fusnesau, a rhoi urddas i'r rhai fydd yn colli anwyliaid. Ond, wrth gwrs, fel mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig mai dim ond os ydy hi'n hollol angenrheidiol y dylid defnyddio'r pwerau yma, ac mae angen craffu llawn hefyd ar y defnydd ohonynt.
Mi rydw i'n cydfynd yn llwyr efo'r pryder ynglŷn â'r ddwy flynedd, ac mae fy nghydweithwyr i yn San Steffan wedi bod yn galw am yr adolygiad chwe mis yma. Dwi yn credu bod asesu effaith y pwerau sydd yn y mesur ar Gymru—boed nhw'n bwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru neu'n bwerau sydd tu hwnt i'n gallu ni yma fel Senedd—mae'n bwysig i ni fod yn asesu effaith unrhyw bwerau ddaw i rym a bod yna, fel mae Alun Davies yn ei ddweud, adroddiadau cyson a chyfle i ni'n fan hyn i fod yn gallu craffu mewn ffordd hollol adeiladol i wneud yn siŵr bod popeth yn digwydd yn briodol.
Mae'n bwysig nodi, dwi'n meddwl, bod y cymalau sydd yn y mesur sy'n ymwneud â materion datganoledig yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu peidio â defnyddio'r cymalau am y materion datganoledig hynny. Hynny yw, penderfynu peidio rhoi switsh ymlaen, fel petai. Dwi yn meddwl bod hynna'n bwysig. Mae o'n dangos parch i'n Senedd ni fan hyn.
Jest yn sydyn, rhai o'r materion sydd yn fy mhryderu i. Gofal cymdeithasol: drwy lacio'r gofynion ar lywodraeth leol o ran gofal cymdeithasol, mae perygl y bydd hyn yn arwain at lefel annerbyniol o ofal a allai arwain at farwolaethau diangen. Mae eisiau bod yn ofalus iawn mai dim ond os bydd y pwysau yn mynd yn hollol eithafol y byddwn ni'n defnyddio'r rheini. Gwiriadau DBS: dw'n cytuno'n llwyr efo beth roedd Suzy Davies yn ei ddweud. Mae angen gofal efo prysuro'r gwiriadau er mwyn galluogi mwy o wirfoddolwyr i helpu—dwi'n deall hynny'n iawn—ond mae'n rhaid i ni gofio beth ydy pwrpas y gwiriadau, sef amddiffyn y bobl a'r plant mwyaf bregus yn ein plith ni.
Efo ysgolion, dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod angen i ysgolion aros ar agor, ond mae o'n gallu rhoi straen mawr ar yr athrawon, ac mae gan yr undebau athrawon bryderon am iechyd eu haelodau nhw er, wrth gwrs, mae'r ddarpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn gwbl hanfodol.
Iechyd meddwl: fe fydd y mesur yn caniatáu newidiadau pellgyrhaeddol i ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a fydd yn gallu golygu bod pobl yn cael eu cadw mewn ysbyty neu sefydliad am gyfnodau llawer iawn hirach na'r presennol.
I gloi, Dirprwy Lywydd: menywod. Menywod, merched sydd, ar y cyfan, yn gofalu am blant a pherthnasau hŷn hyd heddiw; dydy hynny ddim wedi newid. Mi fydd y gwaith di-dâl yma yn cynyddu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma, ac mae angen parchu y gwaith yna. Dylai menywod, gan gynnwys y rhai sy'n feichiog ac ar absenoldeb mamolaeth ddim cael eu rhoi dan anfantais yn eu gyrfaoedd drwy ddilyn y canllawiau.
Rydych chi'n gwybod bod gan ein plaid ni hanes hir ac anrhydeddus o gefnogi ac hyrwyddo hawliau ein pobl ni. Ond, dros dro, mae angen y ddeddfwriaeth yma. Does dim dewis, ac, felly, wrth gwrs, byddwn ni ddim yn gwrthwynebu'r cynnig sydd gerbron heddiw. Diolch.