Part of the debate – Senedd Cymru am 10:41 am ar 24 Mawrth 2020.
Dirprwy Lywydd, diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Diolch am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am y llif gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa wahanol i unrhyw sefydliad arall; mae gennym ni niferoedd sylweddol o bobl nad ydyn nhw'n gweithio oherwydd salwch neu hunan-ynysu ac rydym ni'n sefydlu polisi gweithio o gartref llym iawn, felly weithiau, mae'r gwaith o gael yr wybodaeth honno allan yn disgyn ar ychydig iawn o ysgwyddau ac mae pobl yn gweithio'n galed iawn, a gwn ein bod ni weithiau'n gorfod gweithio hyd yn oed yn galetach i ddal i fyny oherwydd bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, ond rwy'n ddiolchgar i Dawn am yr hyn a ddywedodd am ddefnyddioldeb hynny.
O ran archfarchnadoedd a diogelwch, rwy'n sicr bod pethau y gallwn ni eu dysgu oddi wrth leoedd eraill. Mae archfarchnadoedd yn recriwtio staff diogelwch ychwanegol, mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi sefydlu system unffordd o amgylch y siop. Siaradasom ddoe â Llywodraethau eraill y DU am fesurau y gallem ni eu rhoi ar waith, a cheir pwerau y gallem ni eu defnyddio yng Nghymru pe byddai'r sefyllfa'n gwneud hynny yn ofynnol.
Diflannodd gwerth biliwn o bunnoedd o fwyd y tu hwnt i'r gwerthiant arferol oddi ar silffoedd ledled y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf ac mae bellach yn eistedd yng nghypyrddau bwyd pobl, ac mae'n rhaid mai'r cyngor i bobl yw dechrau ei fwyta, oherwydd nid oes angen parhau i ychwanegu ato. Mae'r sector yn gwbl eglur: mae digon o fwyd yn y system. Nid y cyflenwad yw'r broblem. Y broblem yw'r ffordd y mae pobl—yn ddealladwy, nid wyf i'n bod yn feirniadol o bobl—y ffordd y mae pobl wedi ymateb i'r pryder y maen nhw'n ei deimlo. Ond os gall pobl gadw'r ddysgl yn fwy gwastad, gall archfarchnadoedd wneud y pethau y maen nhw'n dweud y gallan nhw eu gwneud, yna hyd yn hyn, rydym ni'n credu y gellir sefydlogi'r sefyllfa ac nid oes angen i bobl boeni na fydd digon o fwyd yn y system: mae'r bwyd yno.
O ran credyd cynhwysol, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n gwybod, wedi cael ei heffeithio'n wael iawn gan bobl yn hunan-ynysu a phobl yn sâl. Mae ganddyn nhw gynnydd enfawr i nifer y bobl sydd allan o waith ac angen gwneud hawliadau, a llai o bobl i ymateb iddyn nhw. Fe'n hysbyswyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ddoe eu bod nhw'n gweithio i gael gwared ar rywfaint o'r cymhlethdod yn y system i'w gwneud yn haws ac yn gyflymach. Rwy'n apelio eto i Lywodraeth y DU gefnu ar y cyfnod aros o bum wythnos am gredyd cynhwysol. Dyna'r rhwystr unigol mwyaf sy'n wynebu pobl; y ffaith y bydd yn rhaid i chi ddal i aros am bum wythnos, hyd yn oed pan eich bod chi wedi llwyddo i frwydro eich ffordd drwy'r system, ac nid yw pobl yn yr argyfwng presennol mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly dywedaf eto, fel y dywedais ddoe wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, 'Rwy'n erfyn arnoch chi i newid y rheol honno.'
O ran prydau ysgol am ddim, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol ddydd Gwener i'w helpu i ymdopi â'r nifer gynyddol o fyfyrwyr sy'n dod drwy'r drws gyda phrydau ysgol am ddim. Gadewch i mi fod yn eglur gydag awdurdodau lleol: mae prydau ysgol am ddim yn hawl. Os yw plentyn yn bodloni'r rheolau, mae'r plentyn yn cael pryd ysgol am ddim, ac nid oes unrhyw allu i ddogni lle mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddewis rhwng plant yn y sefyllfa honno. Wrth gwrs, rwy'n deall pryderon awdurdodau lleol sy'n wynebu biliau y maen nhw'n poeni am sut y gallen nhw eu talu—dyna pam y cyhoeddwyd y £7 miliwn ychwanegol gennym ni—ond y plentyn yw'r peth pwysicaf yn y sefyllfa honno. Os oes gan blentyn hawl erbyn hyn i gael cinio ysgol am ddim lle nad oedd ganddo tan yn ddiweddar, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ei gael.