Part of the debate – Senedd Cymru am 10:37 am ar 24 Mawrth 2020.
Prif Weinidog, a gaf i yn gyntaf gofnodi fy niolch i bob un o'n gweithwyr allweddol sy'n cadw ein gwasanaethau brys a rheng flaen i fynd, ond hefyd cofnodi fy niolch i chi ac i'ch Gweinidogion am y modd yr ydych chi wedi bod yn ymdrin â'r sefyllfa ddigynsail hon y mae'r wlad yn canfod ei hun ynddi? Mae'r diweddariadau a'r wybodaeth reolaidd, ynghyd â theilwra i anghenion penodol Cymru, wedi eu croesawu'n fawr ac wedi bod o gymorth i mi gynghori fy etholwyr mewn cyfnod sydd wedi peri pryder a gofid mawr i lawer o bobl. Ac a gaf i hefyd ddweud fy mod i'n eich cefnogi'n llwyr yn y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd neithiwr, sydd yn fater o anghenraid cenedlaethol ar hyn o bryd?
Gofynnwyd nifer o gwestiynau i chi eisoes ac maen nhw wedi cael sylw, ond roeddwn i eisiau codi dau fater penodol gyda chi. Yn gyntaf, o ran diogelwch personol. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n dal i ddychryn o weld ymddygiad pobl mewn archfarchnadoedd ledled y wlad. Nawr, o'r fan lle'r wyf i'n byw ym Merthyr, rwy'n gallu gweld archfarchnad fawr Tesco, ac rwy'n gweld, bob bore, torfeydd enfawr yn mynd i mewn i'r archfarchnad honno ac yn dod allan gyda throlïau yn llawn nwyddau na fyddan nhw byth, a bod yn onest, yn gallu eu defnyddio mewn dim ond ychydig ddyddiau. Ac ar wahân i ymddygiad gwrthgymdeithasol pentyrru stoc—sy'n atal pobl eraill rhag cael nwyddau hanfodol ar adeg pan na ddylai fod unrhyw brinder—fy mhrif bryder i yw'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd y mae pobl yn siopa mewn niferoedd o'r fath yn ei achosi.
Nawr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall gan ffrindiau sydd gen i yn byw yn Ffrainc, nid yw hyn yn digwydd yno. Yn Ffrainc, dim ond un person fesul troli sy'n cael mynd i mewn i'r siop. Mae pawb sy'n dod i mewn i'r siop yn cael cynnig hylif golchi dwylo wrth iddyn nhw fynd i mewn ac wrth adael. Mae systemau unffordd ar waith, a mesurau ymbellhau amlwg yn y siopau. Nid yw pobl yn mynd mewn heidiau, nid ydyn nhw'n pentyrru ac yn ymarfer prynu panig, ac nid oes neb yn mynd yn brin. Felly, fy nghwestiwn i yw: a oes rhywbeth y gallwn ni ei ddysgu o'r ffordd y maen nhw'n rheoli hyn yn Ffrainc? Ac a ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae angen cyflwyno rhyw fath o gyfyngiad, i gynorthwyo diogelwch y cyhoedd ond hefyd i sicrhau y gall pawb gael eu cyfran deg o nwyddau hanfodol?
Yn ail, mater addysg yw hwn, Prif Weinidog, felly mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu ateb hyn, ond cysylltodd etholwr gofidus iawn â mi i ddweud, gan ei bod hi bellach ar gontract dim oriau ac nad oes ganddi waith ar hyn o bryd, ei bod hi wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol, ond fel y gwyddom, bydd yn rhaid iddi aros nifer o wythnosau cyn i hwnnw ddod trwodd. Yn y cyfamser, mae ganddi ddau o blant yn yr ysgol, nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys hyd yn hyn—gan ei bod hi wedi bod yn ennill tan nawr—nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, felly er y caiff hi wneud cais yn awr iddyn nhw gael prydau ysgol am ddim oherwydd y newid i'w hamgylchiadau, mae'r broses yn cymryd amser, ac mae'r awdurdod lleol, er nad yw'n ddigydymdeimlad ac yn gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol i ymdrin â'r trefniadau presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn ansicr a fydd arian ychwanegol yn cyrraedd ar gyfer ychwanegu rhagor o brydau ysgol am ddim brys at eu niferoedd. Felly, fy nghwestiynau yw: a ydym ni'n gwybod pa drefniadau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu rhoi ar waith i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, fel nad oes yn rhaid i bobl fel fy etholwr i aros am bum wythnos am arian sy'n ddyledus iddyn nhw yn y sefyllfa hon; ac a fydd arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i ganiatáu iddyn nhw gyflymu ceisiadau pobl i gael prydau ysgol am ddim a hefyd i dalu am y prydau ychwanegol y byddai angen eu rhoi ar gael?