Part of the debate – Senedd Cymru am 11:30 am ar 24 Mawrth 2020.
Bydd yr wythnosau i ddod yn heriol a bydd y galwadau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i gynyddu. Dyna pam y gweithredais ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gallant fod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau.
Ein hymateb i'r argyfwng hwn oedd adeiladu ar ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gryfhau'r strwythurau sydd ar waith, ac i gyflwyno mwy o fesurau'n gyflym i gryfhau ein cydnerthedd. Er enghraifft: mae 111 a Galw Iechyd Cymru ar-lein wedi bod yn allweddol i ddarparu cyngor; mae datrysiadau digidol yn cael eu cyflwyno'n gyflym, megis y gallu i ddarparu ymgynghoriadau fideo ym maes gofal sylfaenol ac fel dewis arall yn lle apwyntiadau cleifion allanol; mae cryfhau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi eu rhoi mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion iechyd a gofal cymdeithasol integredig i gymunedau lleol; mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ein helpu i fynd i'r afael ag anghenion sylweddol y gweithlu.
Rwyf hefyd wedi gwneud penderfyniadau mwy anodd fel ein bod yn barod i ofalu am niferoedd ychwanegol o bobl sâl iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub mwy o fywydau. Drwy leihau triniaethau dewisol nad ydynt yn rhai brys dros dro 10 diwrnod yn ôl, mae byrddau iechyd wedi cael amser i baratoi mewn ffordd fwy cynlluniedig a phwyllog. Mewn gwahanol ysbytai, gweithredwyd ar frys i gynyddu capasiti gofal critigol ac i adleoli a hyfforddi staff yn barod ar gyfer y galw cynyddol y disgwyliwn ei weld.
Ddoe, roedd tua 45 y cant o'r lleoedd mewn unedau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Mae tua 15 y cant o'r cleifion naill ai'n achosion posibl o COVID-19 neu'n achosion sydd wedi'u cadarnhau. Mae gennym ni gynlluniau ar waith i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru ar unwaith i ychydig dros 300. Mae gwaith helaeth yn cael ei wneud i gynyddu nifer y gwelyau â pheiriannau anadlu a all gael eu darparu yng Nghymru, gan gynnwys prynu dros 600 o beiriannau anadlu ychwanegol, ac rydym yn parhau i edrych ar ddewisiadau eraill ar frys.
Penderfynais drefnu yr wythnos diwethaf fod rhannau o ysbyty newydd Ysbyty Athrofaol y Grange ger Cwmbrân yn agor yn gynt na'r bwriad. Bydd hyn yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol erbyn diwedd mis Ebrill. Mae trafodaethau brys hefyd yn mynd rhagddynt gyda'r sector ysbytai preifat yng Nghymru i sicrhau capasiti ychwanegol.
Rwyf wedi cytuno i lacio trefniadau contract a monitro dros dro ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff. O fewn hynny, mae fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod yn y rheng flaen, a byddant hyd yn oed yn fwy pwysig o ran helpu i gefnogi grwpiau o bobl agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu am wythnosau i ddod.
Rwy'n gwybod y bu pryder eithaf dealladwy ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi gweithredu i wella'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer diogelu ein staff iechyd a gofal rheng flaen sy'n gofalu am achosion posib o COVID-19 neu achosion sydd wedi'u cadarnhau.
Rwyf wedi awdurdodi ymgyrch sylweddol i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'r saith bwrdd iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a Felindre. Er y dylai unrhyw un sy'n amau fod y coronafeirws arno aros gartref ac na ddylai ymweld â lleoliad gofal sylfaenol, fel mesur o ddiogelwch, mae cyfarpar diogelu personol wedi'u cyflenwi i bob clinig meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau a fferyllfeydd. Mae gan wasanaethau gofal cymdeithasol ran hanfodol yn ein hymateb i COVID-19, ac rwyf wedi awdurdodi rhyddhau cyfarpar diogelu personol hefyd i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal cymdeithasol. Mae cyflenwadau sylweddol wedi cyrraedd ddoe, ac fe gaiff llawer iawn eu danfon heddiw.
Trof yn awr at ein gweithlu. Rydym ni i gyd yn cydnabod y bydd pawb sy'n gweithio i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen eisoes dan bwysau aruthrol, ac ni chredaf fod digon o eiriau i fynegi fy niolch i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n parhau i weithio'n ddiflino i ofalu am bobl ym mhob un o'n cymunedau.
Gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddyn nhw wella. Dyna pam yr ydym ni'n gweithredu ymhellach mewn modd na welwyd erioed o'r blaen i gefnogi ein gweithlu presennol. Gofynnir i bobl sydd wedi gadael neu wedi ymddeol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y tair blynedd diwethaf ailgofrestru gyda'u cyrff proffesiynol perthnasol neu, ym maes gofal cymdeithasol, i gysylltu â'u hawdurdod lleol.
Rydym ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sgiliau myfyrwyr sy'n awyddus i gyfrannu. Mae myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael cynnig y cyfle i ymgymryd â swyddi dros dro ar gyflog llawn i roi hwb pellach i'r rheng flaen. Bydd y rhai sy'n ymuno yn cael cyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn a phriodol.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws: i olchi ein dwylo yn rheolaidd, i leihau cyswllt cymdeithasol, i gadw at y cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, ac i aros gartref os ydych chi'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni'n ysgrifennu at bobl agored i niwed y mae eu cyflyrau iechyd presennol yn golygu y gallan nhw fod yn sâl iawn gyda'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i'r bobl hyn gymryd mesurau llymach fyth i amddiffyn eu hunain rhag y feirws hwn. Rydym yn gweithio gyda meddygon teulu, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn gallu elwa ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi yn ystod yr wythnosau anodd sydd i ddod.
Mae'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu yn un ddigynsail. Bydd yr wythnosau nesaf yn fwy heriol na'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod 20 mlynedd o gael Llywodraeth yng Nghymru. Os gwelwch yn dda, gofalwch am eich hunain a gofalwch am eich gilydd.