Part of the debate – Senedd Cymru am 11:27 am ar 24 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r ystod o fesurau eithriadol y mae pedair Llywodraeth y DU wedi'u cymryd yn ystod y dyddiau diwethaf—mesurau a fu'n angenrheidiol i ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa hon, gan fod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw lleihau niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol y coronafeirws, amddiffyn cymunedau a diogelu pobl agored i niwed, darparu gofal i gleifion, gofalu am fudd a lles ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gall fod, wedi'i chyfarparu ac mor gydnerth ag y gall fod ar gyfer yr wythnosau i ddod. Yn y pen draw, diben clir popeth a wnaf yw achub cymaint o fywydau â phosib.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni wedi cael rhagor o farwolaethau, ac mae'n wir ddrwg gennyf fod unrhyw deulu wedi colli rhywun annwyl a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant at bawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw eisoes.
Rwy'n deall bod pobl yn poeni. Rwyf innau hefyd. Rwy'n deall bod pobl yn ceisio amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Rwyf innau hefyd. Mae rhai pobl yn dewis cadw stôr o eitemau hanfodol neu'n ynysu eu hunain mewn ardaloedd mwy diarffordd i ffwrdd o'u cartref arferol. Rwy'n gofyn i bobl yn y cyfnod ansicr hwn i beidio â chynhyrfu, i fod yn feddylgar, i feddwl am eich teuluoedd, ac i feddwl am eraill hefyd. Mae'r holl gamau yr wyf yn eu cymryd gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i'ch diogelu chi a'ch teuluoedd. Rwy'n cydnabod bod temtasiwn i brynu bwyd neu gynnyrch ychwanegol i ofalu am eich anwyliaid. Ond mae digon o fwyd i bawb os gwnawn ni siopa fel arfer heb gronni yn ormodol. Er fy mod yn deall y pryder sy'n arwain at gronni yn ormodol, mae'n brifo'r rhai mwyaf agored i niwed a'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd. Mae hefyd yn brifo pobl na allan nhw o reidrwydd gyrraedd siopau'n gynnar. Fel y gwyddom ni, pobl yn ein gwasanaethau brys, ein gweithlu gofal cymdeithasol ac yn ein GIG yw'r rhain yn aml—yr union bobl yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn awr yn fwy nag erioed. Yn yr un modd, rydym yn cynllunio ein gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar le mae pobl yn byw. Mae'n hynod bwysig i chi a'ch GIG eich bod yn mynd adref ac yn aros gartref.