Part of the debate – Senedd Cymru am 12:09 pm ar 24 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau cyson. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd pwynt Joyce am ein staff ac, wrth gwrs, mae gan Joyce Watson aelodau yn ei theulu ei hun sy'n darparu gwasanaeth iechyd a gofal, a byddant yn deall yr ymroddiad y mae angen iddynt ei ddarparu a'r ffaith bod ein staff yn gwybod eu bod yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus. Maen nhw'n gwybod, wrth drin pobl sy'n sâl gyda chyflwr sy'n lledaenu'n weddol gyflym drwy boblogaeth y DU, fod her wirioneddol yn eu hwynebu hwythau hefyd. Maen nhw'n parhau i wneud hynny, ond yn ddealladwy maen nhw eisiau'r offer er mwyn gwneud eu gwaith, ac maen nhw eisiau cefnogaeth y cyhoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith hefyd.
Mae eich sylw ynglŷn â chael gwybodaeth o ffynonellau priodol yn bwysig, fel nad yw pobl yn rhoi baich diangen ar ein gwasanaethau iechyd a gofal gan eu bod yn poeni neu'n gwneud pethau amhriodol oherwydd y buont yn edrych ar rannau rhyfedd o'r rhyngrwyd neu faterion sy'n deillio o'r cyfryngau cymdeithasol. Felly, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, datganiadau gan y Prif Swyddog Meddygol—maen nhw'n ffynonellau o gyngor y gellir ymddiried ynddynt er mwyn i bobl ddysgu am beth sy'n digwydd yng Nghymru ac i ble i fynd i gael cyngor a chymorth.
Pan ddaw'n fater o gydlynu cymorth lleol, bydd awdurdodau lleol yn gweithredu fel canolwyr gyda swyddogaeth gydgysylltu i sicrhau fod cymorth a chyngor yn cael eu rhoi, a byddant, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r trydydd sector. Fel yr wyf wedi dweud ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym yn cael sgyrsiau gyda'r fyddin ynghylch y cymorth posib y gallan nhw ei ddarparu yn yr ymdrech, gan fod nifer sylweddol o bobl agored i niwed yng Nghymru y bydd angen eu cefnogi.
O ran eich sylw am orelwa, mae'n sylw da. P'un a yw'n paracetamol, Calpol neu nwyddau arferol eraill, mae'n warthus gweld rhai pobl yn cymryd mantais fasnachol sylweddol, yn aml o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed drwy godi prisiau'n sylweddol pan nad oes problem cyflenwi, dim ond cyfle masnachol. Yn union fel y digwyddodd heddiw, rhoddwyd Sports Direct yn ei le yn gyflym, mae'n bwysig bod pobl eraill yn rhoi gwybod am ymddygiad o'r fath. Credaf y dylai pobl sy'n gwneud hynny nawr i wneud elw cyflym ystyried y ffaith bod cof da iawn gan y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd pan ddaw'n fater o fanteisio arnyn nhw mewn ffordd mor dryloyw.
O ran eich sylw am gyfyngiadau ar nwyddau, ac mae'r sylw a wnewch chi am fwyd babanod yn un priodol iawn, nid oes angen o gwbl ichi gronni cyflenwad chwe mis, a beth y mae hynny'n ei wneud i bobl sy'n dibynnu ar y cynnyrch hwnnw, ac nad oes ganddyn nhw'r modd i fynd allan a phrynu swmp enfawr ymlaen llaw—. Mae archfarchnadoedd eu hunain eisoes yn mynd ati'n wirfoddol i gyfyngu ar gyflenwi a gwerthu amrywiaeth o eitemau. Un o'r pethau y mae llywodraethau ledled y DU wedi cytuno arno yw llacio rhai o'r rheolau cystadlu arferol sy'n rhwystro archfarchnadoedd rhag siarad â'i gilydd i gytuno ar beth i'w wneud. Mae amrywiaeth o feysydd lle, mewn gwirionedd, mae'n synhwyrol i'r archfarchnadoedd gydlynu'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ac, mewn gwirionedd, rydym yn chwilio am safbwynt mwy cyson o ran y cyfyngiad gwirfoddol a gaiff ei blismona gan archfarchnadoedd ar nifer o eitemau, ond os na ddigwydd hyn, fel awgrymodd y Prif Weinidog, efallai y bydd yn rhaid inni ymyrryd a defnyddio pwerau y credwn sydd gennym ar gael i ni. Ond byddai'n well o lawer gennyf weld dull o reoli nad yw'n golygu rhagor o gamau cyfreithiol gan y Llywodraeth ac, yn yr un modd, byddai'n well o lawer gennyf weld lefel o ymddygiad a chydweithrediad cyhoeddus sy'n golygu nad oes angen gweithredu o gwbl.
O ran taliadau cyfleustodau, mae hynny'n sylw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac yn ymwybodol iawn ohono o ran sut y mae cwmnïau cyfleustodau yn ymddwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai mwy yn ymddwyn mewn ffordd gymharol dda. Mae eich sylw ynglŷn â phobl nad ydyn nhw ar y grid ar gyfer tanwydd a phŵer yn un y byddaf yn ei godi gyda chyd-Weinidogion, ond gwn ei fod yn fater gwirioneddol ac yn union fel yr ydych yn ei ddisgrifio. Yn aml, mae'r rhain yn bobl sy'n fwy ynysig yn gorfforol ac yn aml, ond nid bob amser, yn bobl hŷn, o bosib mewn categorïau mewn perygl hefyd.
O ran gofal ac iechyd trawsffiniol, dylai'r trefniant arferol fod yn berthnasol. Felly, os yw eich gofal iechyd eilaidd arferol dros y ffin yn Lloegr, yna dyna lle y dylai eich darpariaeth fod, os oes angen gofal dwys arnoch chi, er enghraifft, yn union fel petai'r trefniant fel arall. Nid yw'n fuddiol i neb gael naill ai ymagwedd 'dim ond i Gymru', neu yn wir ymagwedd 'dim ond i Loegr' lle caiff trefniadau trawsffiniol eu terfynu'n fwriadol mewn ffordd nad yw'n ymwneud â darparu'r math cywir o wasanaeth y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mhob un o'r pedair cenedl ei ddarparu ar gyfer pobl sydd ag angen gwirioneddol.
O ran eich sylw am gydweithrediad y cyhoedd, cytunaf fod hynny'n allweddol, gan nad ydym ond wedi cymryd y camau sylweddol a wnaethom o fewn y 24 awr diwethaf gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn cydweithredu wrth ddilyn y cyngor a'r arweiniad, ond nid digon ohonyn nhw. Felly, rydym ni wedi gorfod ymyrryd a chymryd camau eithriadol a gaiff eu hategu gan bwerau'r heddlu o fewn yr wythnos hon, ac mae mesurau eraill y gallem eu cymryd, ond byddai'n well o lawer gennyf fod mewn sefyllfa lle nad oes angen i lywodraethau gymryd mwy o gamau cyfreithiol cyfyngol a bod y cyhoedd yn deall y bydd eu hymddygiad yn allweddol i'r ffordd y mae'r coronafeirws yn lledaenu ac yn cael ei atal yn y pen draw, ac, yn y pen draw hefyd, nad ydynt yn gwneud hynny i wneud bywyd y Llywodraeth yn haws, maen nhw'n ei wneud er eu lles eu hunain a lles eu cymunedau eu hunain, a'r bobl hynny y mae'n debyg na fyddan nhw byth yn eu cyfarfod fel arall.