Part of the debate – Senedd Cymru am 12:20 pm ar 24 Mawrth 2020.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran eich sylwadau agoriadol ynghylch nid yn unig staff locwm, ond yn fwy cyffredinol, o ran y rhai sydd efallai mewn categorïau mewn perygl, roedd yn un o bryderon Cymdeithas Feddygol Prydain ynghylch gofyn i bobl ddychwelyd i'r maes: efallai eu bod yn bobl yn y categorïau mewn perygl mwyaf, naill ai oherwydd oedran neu gyflwr iechyd sylfaenol. Ond efallai y byddant yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o waith o bell. Dyna pam y penderfynais gyflwyno'r cyfle i gynnal ymgynghoriadau fideo—nid oes angen iddyn nhw fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb, ond gallant barhau i ddarparu cyngor o bell. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni o ran y bobl ym mhob rhan o'r system. Byddwch yn sylwi bod y Bil hefyd yn rhoi estyniad i'r ddarpariaeth ar gyfer indemniad er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith heb boeni am y risg iddyn nhw os aiff pethau o chwith.
O ran eich pwynt am farwolaeth yn y gwaith—credaf fod hwn yn bwynt arbenigol penodol, mwy gweithredol nag y byddwn yn ei ddisgwyl, ond fy nealltwriaeth i, fy atgof fy hun, yw ei fod, yn gyffredinol, yn tueddu i fod yn fudd o gynllun pensiwn, ac mae staff locwm yn dewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun pensiwn. Felly, ni fyddwn i eisiau ceisio rhoi ateb i hynny. Byddai'n rhaid i mi fynd i ofyn am gyngor ynghylch hynny, pa fath o rwystr yw hynny, a pha un a oes pethau eraill y gallem eu gwneud mewn gwirionedd i annog mwy o feddygon locwm i barhau i ymarfer mewn ffordd sy'n ddiogel iddyn nhw ac i gleifion.
O ran Gwent, nid wyf yn disgwyl i'r sefyllfa bresennol sydd yn dangos bod mwy o achosion yng Ngwent fod y sefyllfa derfynol. Rwyf yn credu, pan edrychwch chi ar y ffaith bod clefyd y coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned mewn rhannau sylweddol o Gymru, fe welwch chi fod ffigurau mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, yn dal i gynyddu.
Er hynny, rwy'n pryderu am effaith bosibl y coronafeirws ar ein cymunedau lleiaf cefnog. Mae Cymru, fel cenedl, o'i chymharu â Lloegr, o safbwynt iechyd, yn hŷn, yn dlotach ac yn salach. Felly, mae'r risg yn un amlwg. Nawr, bydd hynny'n amlygu ei hun mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol, yn union fel y gwnaiff yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw gymunedau sy'n debyg iawn i'r rhai sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Felly, mae hynny'n bryder gwirioneddol, ond nid wyf yn credu y bydd y ganran yr ydym yn ei gweld ar hyn o bryd mewn cysylltiad â Gwent a gweddill y wlad yn aros fel y mae yn awr. Ein tasg yw gwneud yn siŵr bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chefnogi'n briodol, ac nid ydym ni eisiau gweld unrhyw un rhan yn cael ei llethu o gwbl.
O ran eich sylwadau am garchardai, fel y gwyddoch, nid yw carchardai wedi'u datganoli, ac nid wyf mewn sefyllfa i ddechrau ymgymryd â chyfrifoldebau newydd ar hyn o bryd i geisio ymdrin â materion mewn carchardai. Ond un sylw yr wyf wedi ei wneud yng nghyfarfodydd rheolaidd COBRA yr wyf wedi bod yn eu mynychu gyda'r Prif Weinidog, ac yn wir mewn is-grwpiau COBRA, yw'r sylw bod llawer o'r swyddogaethau sydd heb eu datganoli yn cael effaith uniongyrchol. Er enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ymgymryd â rhaglen rhyddhau yn gynnar, i leihau'r pwysau sydd ar garcharorion sydd mewn categorïau risg isel, wel mae gan nifer o'r carcharorion hynny gyflyrau iechyd sylfaenol sylweddol, ac mae'n ddigon posib y gallent fod y bobl a fyddai'n agored i niwed yn awtomatig ac y byddai angen cefnogaeth sylweddol arnyn nhw. Byddai angen inni wybod hynny ymlaen llaw er mwyn rhoi iddyn nhw y gefnogaeth y byddai ei hangen arnyn nhw. Mae gennym ni hefyd, ym Mrynbuga, nifer o garcharorion hŷn beth bynnag, a bydd rhai o'r rheini yn ddigon hen i fod yn y categori mewn perygl gan eu bod dros 70. Felly, mae unrhyw ddewisiadau a wneir ynghylch y carchardai, o ran dewisiadau ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda charchardai sy'n rhyddhau'n gynnar neu fel arall, yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau datganoledig.
Ac, o ran eich sylw am y rhai dros 70, mae'r cymorth hwnnw'n cael ei gydlynu a'i arwain, fel y dywedais, gan lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd y Cynghorydd Huw David, y prif lefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yn agored ac yn barod i helpu a chefnogi, ac felly hefyd eu cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol.
Mae angen i ni ailadrodd yr esiampl—y rheswm pam ein bod ni'n gofyn i bobl aros gartref yw i helpu i'w hamddiffyn nhw. Felly, nid yw oherwydd ein bod yn credu bod gan bobl dros 70 y clefyd coronafeirws a'u bod yn ei roi i bobl eraill—ond mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed gwirioneddol. Dyna pam ein bod ni wedi rhoi'r cyngor hwnnw, ac mae'r Llywodraeth yn arwain drwy esiampl—nid ein bod ni i gyd dim ond wedi cytuno fel Senedd gyfan i gael sesiwn lai heddiw, ond byddwch yn gwybod, ar ôl i'r cyngor hwnnw gael ei roi, bod aelodau o'r Llywodraeth sydd yn y categori hwnnw wedi gweithio o gartref ers hynny. Nid ydych chi wedi eu gweld yn y Siambr, nid ydynt yn dod i mewn i adeiladau Llywodraeth Cymru i weithio, mae'n rhaid iddyn nhw weithio o bell, ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni ddim ond yn gofyn i bobl eraill ddilyn yr esiampl honno, ond ein bod yn ei dilyn ein hunain hefyd.
O ran parcio am ddim, rydym, wrth gwrs, yn ffodus o gael parcio am ddim ar draws ein hystadau ysbytai yma yng Nghymru, ond rwy'n falch bod Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod lleoedd parcio ychwanegol ar gael i staff y GIG er mwyn iddyn nhw allu cyrraedd y gwaith, a bod y gwasanaeth parcio a theithio arferol, trefniadau a allai fod wedi eu hatal rhag cyrraedd y gwaith mor brydlon â phosib wedi cael eu newid yn benodol ar gyfer gweithwyr y GIG, ond, wrth gwrs, mae'n ffaith, gan fod llai o bobl yn symud o gwmpas, fod llifoedd traffig yn wahanol iawn ac yn llawer cyflymach, fel y canfûm ar sawl achlysur yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.
Ac, o ran eich sylw am gyflenwadau cartrefi gofal, ceir sgwrs reolaidd rhwng swyddogion a llywodraeth leol a hefyd sefydliad mwyaf darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut y mae stociau'n cael eu caffael a beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw, felly rwy'n ffyddiog bod perthynas adeiladol yn bodoli a bod trefniadau i bobl godi pryderon os oes ganddyn nhw rai.