Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 8 Ebrill 2020.
Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna, a hoffwn ddiolch iddo am ei ymgysylltiad parhaus â'r ymdrech yr ydym ni'n ei gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ei bod yn gwbl drawsbleidiol a thrawslywodraethol.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu parhau i graffu yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r gwaith craffu hwnnw y gellir cyflwyno elfennau allweddol yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ac y gall y Cynulliad graffu arnyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnydd priodol iawn o'n hamser. Rydym ni'n gweithio; rydym ni'n disgwyl i bobl eraill yng Nghymru weithio, a rhan o'n gwaith fel deddfwrfa yw rhoi deddfwriaeth hanfodol ar y llyfr statud yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gallu trafod y Bil llywodraeth leol; mae'n bwysig iawn i bob awdurdod lleol ac i bobl ifanc 16 a 17 oed yma yng Nghymru bod y Bil hwnnw'n gwneud cynnydd ac yn gallu cyrraedd y llyfr statud. Mae Llywodraeth Cymru yn eglur: dim ond y darnau hynny o ddeddfwriaeth yr ydym ni'n credu sy'n hanfodol i'r ymrwymiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i bobl yng Nghymru ac sy'n angenrheidiol i wneud ein llyfr statud yn gydlynol y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n credu bod ymdrin â'r ddeddfwriaeth flaenoriaeth honno yn rhan annatod o'r hyn y mae deddfwrfa yn ei wneud, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu gwneud hynny y prynhawn yma.
Rwy'n deall, wrth gwrs, yr hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud am gyfarpar diogelu personol a bydd pob un ohonom ni fel Aelodau Cynulliad wedi clywed yn uniongyrchol gan unigolion sy'n ofni cael eu rhoi mewn sefyllfa drwy'r gwaith angenrheidiol y maen nhw'n ei wneud lle gallen nhw gael eu hamlygu i risg. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi, fel y cydnabuwyd gan Paul Davies, 8 miliwn o ddarnau o gyfarpar diogelu personol o'n storfeydd pandemig, a bydd hynny'n parhau i gynyddu dros y dyddiau i ddod. Rwy'n disgwyl iddo fod yn bron i 11 miliwn erbyn i'r penwythnos hwn ddod i ben.
A gaf i fod yn eglur nad oes unrhyw fylchau ar hyn o bryd yn y cyflenwadau sydd gennym ni? Mae gennym ni gyflenwadau digonol ar hyn o bryd. Bu rhai tagfeydd o ran cael y cyflenwadau i'r bobl sydd eu hangen nhw, ac mae hynny oherwydd bod hon yn ymdrech enfawr—ymhell y tu hwnt i bopeth y bu'n rhaid i ni ei wneud erioed o'r blaen. Nid yn unig yr ydym ni'n cyflenwi ysbytai, ond rydym ni'n cyflenwi deintyddfeydd, meddygfeydd teulu, cartrefi gofal, awdurdodau lleol eu hunain, ac mae ymdrech aruthrol yn cael ei gwneud i geisio gwneud yn siŵr bod y cyflenwadau hynny'n cyrraedd y bobl sydd eu hangen nhw.
Ceir llinell gymorth a chyfeiriad e-bost penodol i leoedd sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw ac yna, mae system ar waith i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael yr hyn sydd ei angen ar y bobl hynny iddyn nhw mor gyflym â phosibl. Mae ein gallu i ailgyflenwi'r storfeydd hynny'n bwysig dros ben, ac ar gyfer hynny, rydym ni'n dibynnu'n bennaf ar yr ymdrech gaffael sy'n cael ei gwneud ar draws y DU gyfan. Siaradais â Matt Hancock ddoe a chefais sicrwydd y bydd stociau Cymru yn cael eu hailgyflenwi o'r ffynhonnell ganolog honno, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwnnw wrth i ni wneud ein gorau glas i gynyddu'r gallu i gael cyflenwadau gan gyflenwyr cynhenid o Gymru hefyd.
Rydym ni'n cyflymu nifer y profion y gallwn ni eu darparu yng Nghymru ac mae'r ganolfan brofi yn stadiwm Dinas Caerdydd ar agor erbyn hyn; roedd yn gweithio'n llwyddiannus iawn brynhawn ddoe. Bydd yn gweld 200 o bobl heddiw. Bydd yn caniatáu i ni brofi mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ac yna ymestyn y profion i'r heddlu, swyddogion carchardai a gweithwyr rheng flaen eraill.
O ran arallgyfeirio, mae'n wir ein bod ni mewn trafodaethau â phrifysgolion. Rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ryddhau eu stociau o gyfarpar diogelu personol i'r system i'w defnyddio gan y GIG ac, wrth gwrs, rydym ni'n trafod materion gyda staff labordai i weld sut y gallem ni ddefnyddio eu gallu i gyflymu nifer y profion y gallwn ni eu cynnal yng Nghymru.