Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 8 Ebrill 2020.
Prif Weinidog, wrth i wyliau'r Pasg agosáu, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei negeseuon cyhoeddus i'w gwneud yn gwbl eglur bod yn rhaid i bobl aros gartref. Yn anffodus, rydym ni'n parhau i weld a chlywed adroddiadau am bobl nad ydyn nhw'n cydymffurfio a chyngor y Llywodraeth, ac er bod gan yr heddlu rai pwerau erbyn hyn i ddirwyo'r rhai sy'n mynd yn groes i ganllawiau'r Llywodraeth, mae'n ymddangos bod problem o hyd o ran gorfodi'r rheol aros gartref. Gwn fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystyried mesurau pellach os bydd y gweithgarwch hwn yn parhau, felly efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau sy'n cael eu cynnal ar y mater penodol hwn a'r mathau o fesurau pellach sy'n cael eu hystyried mewn gwirionedd.
Gwn yn fy etholaeth i fy hun yn ogystal ag ardaloedd eraill, bod perchnogion tai gwyliau yn dal i deithio i'w hail gartrefi yn hytrach nag aros gartref, ac er fy mod i'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cymryd i gau parciau carafanau a pharciau gwyliau eraill, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy erbyn hyn. Felly, beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wahardd perchnogion ail gartrefi rhag teithio i fannau poblogaidd ar gyfer gwyliau yma yng Nghymru?
Er bod teuluoedd yn cael eu gorfodi i dreulio mwy a mwy o amser y tu mewn i'w cartrefi eu hunain, mae'n hanfodol bod yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar gael iddyn nhw ar-lein ac oddi ar-lein. Yn amlwg, mae angen gwneud mwy i gynorthwyo cymunedau sy'n dal i fyw gyda darpariaeth band eang is-safonol fel y gall y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny gael mynediad at adnoddau addysgol pwysig, ceisiadau ariannol, ac, wrth gwrs, y canllawiau iechyd a Llywodraeth diweddaraf. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelwyd yn gallu cael gafael ar wasanaeth band eang da yn ystod y cyfnod hwn?
Ac yn olaf, Llywydd, ceir rhai pryderon gwirioneddol iawn o hyd i lawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar gymorth busnes, yn enwedig busnesau newydd sbon, ac mae llawer o bobl yn teimlo eu bod nhw wedi disgyn drwy'r bylchau o ran y cymorth sydd ar gael, gan Lywodraethau Cymru a'r DU—er enghraifft, cwmnïau fel cludwyr nwyddau a gweithwyr asiantaeth fel athrawon cyflenwi ac eraill. Felly, o ystyried yr amgylchiadau a'r angen taer i sicrhau bod gan y rhai sydd angen cymorth fynediad ato, a allwch chi ddweud wrthym ni pa adolygiad o gymorth gan y Llywodraeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried i ganfod bylchau yn y pecynnau sydd ar gael, a pha waith pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael mynediad at gymorth busnes i'r rhai sy'n disgyn drwy'r bylchau ar hyn o bryd.