Part of the debate – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Ebrill 2020.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, am yr amrywiaeth o safbwyntiau. Mae gennym ni gynrychiolydd Cymru ar SAGE, mae gennym ni ein prif swyddog meddygol ein hunain. Maen nhw'n distyllu'r cyngor ac yn rhoi cyngor wedi'i deilwra ar gyfer Cymru, ac mae hynny'n cynnwys rhywfaint o fodelu penodol y gallan nhw ei wneud, a byddaf yn codi gyda nhw y cwestiwn penodol y mae Adam Price wedi ei godi am fodelu mewn ardal olrhain cysylltiad i weld a fyddai gwahanol gyngor yn dod i Gymru. Hyd yn hyn, nid felly y bu, ond ni ddylem ni roi'r gorau i ofyn y cwestiwn, rwy'n cytuno.
O ran cyfarpar diogelu personol, ceir caffaeliad ar sail y DU, mae cynnyrch hynny'n cael ei rannu i Gymru, i Ogledd Iwerddon, i'r Alban ac i Loegr, a'n cyfrifoldeb ni wedyn yw trosglwyddo hwnnw'n fewnol i bobl sydd ei angen. Os oes rhywun sy'n poeni am beidio â chael yr hyn sydd ei angen arno, dylai ddefnyddio'r llinell gymorth benodol sydd ar gael iddo. Fel hynny, bydd yn cael yr ateb cywir yn y modd cyflymaf posibl.
O ran y pwynt am Fanc Datblygu Cymru, rwy'n cael fy nharo'n bendant gan y neges y mae'n ei hanfon am lefel yr adfyd yn yr economi. Fel rheol, byddai Banc Datblygu Cymru yn cael tua 500 o geisiadau y flwyddyn am y math o gyllid a neilltuwyd rhyw wythnos yn ôl; cawsant 1,100 o geisiadau mewn un wythnos am y £100 miliwn hwnnw. Y newyddion da—ac, unwaith eto, hoffwn dalu teyrnged i staff y banc, oherwydd o fewn tri diwrnod, roedden nhw'n gwneud y penderfyniadau cyntaf, ac erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, roedd yr arian cyntaf yn nwylo busnesau yng Nghymru. Yr her i Lywodraeth Cymru nawr yw gweld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i ychwanegu at y gronfa honno. Fel y gall yr Aelodau sy'n gwrando ei ddeall, rwy'n siŵr, mae galwadau am gyllid o bob agwedd ar fywyd Cymru yn yr argyfwng hwn, a swm cyfyngedig o arian ar gyfer ateb yr holl alwadau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn gwasgu arian o bob poced y gallwn ni ddod o hyd iddi i geisio diwallu'r anghenion mwyaf taer hynny, a byddwn yn gwneud hynny eto yng nghyd-destun Banc Datblygu Cymru.
Yn olaf, ar bwynt Adam Price ynghylch neges unedig i'r DU cyn y penwythnos hwn, dyna oedd pwrpas fy nhrafodaethau gyda Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gynharach, i geisio cael neges gyffredin. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno, fel y dywedais yn fy natganiad rhagarweiniol, nad oes gobaith o gwbl y bydd y mesurau hyn yr ydym ni i gyd yn gorfod eu parchu yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod tair wythnos hwn. Byddan nhw'n parhau yng Nghymru yr wythnos nesaf. Rwy'n credu y byddan nhw'n parhau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a phe gallem ni gyfleu'r un neges honno mewn ffordd gyfunol ac unedig ar draws y Deyrnas Unedig, byddai hynny, wrth gwrs, yn rhoi grym a chryfder ychwanegol iddi.