Part of the debate – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch am eich ymatebion, Brif Weinidog. Fel y dywedoch chi yn eich datganiad heddiw, er bod pandemig y coronafeirws yn her iechyd enfawr yn fyd-eang, mae’n her economaidd sylweddol hefyd. Mae'r gefnogaeth ariannol a roddwyd i’r rhan fwyaf o sectorau wedi bod yn hael, ac rwy'n siŵr fod y rhai sydd wedi'i derbyn wedi’i chroesawu, ond serch hynny, mae sectorau fel ffermio a thwristiaeth yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl naill ai am nad yw'r gefnogaeth ar gael, am ei bod yn anhygyrch, neu'n syml am nad yw'n diwallu anghenion y rheini sy'n gweithio yn y sectorau hynny. Felly, o gofio bod diwydiant ffermio Cymru’n rhan annatod o economi, diwylliant, ac yn wir, hunaniaeth Cymru, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng real iawn y mae ffermwyr Cymru'n ei wynebu ar hyn o bryd, yn enwedig ffermwyr llaeth, er mwyn diogelu cynaliadwyedd ffermio Cymru at y dyfodol? Efallai y gallech roi datganiad clir heddiw i ffermwyr Cymru, Brif Weinidog, drwy atgyfnerthu’r neges eu bod hwythau’n weithwyr allweddol hefyd, a chaniatáu iddynt gael mynediad at gyllid o dan y gronfa cadernid economaidd.
Yr wythnos diwethaf, cyfyngodd Llywodraeth Cymru ar gymhwystra’r rheini a allai hawlio £10,000 o gyllid grant yn y sector twristiaeth. Er fy mod yn deall bod rhai perchnogion ail gartrefi wedi manteisio ar hyblygrwydd blaenorol Llywodraeth Cymru, mae'r canllawiau diwygiedig bellach yn golygu efallai na fydd llawer o weithredwyr twristiaeth llety hunanddarpar bach dilys ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y cyllid hwn mwyach. Brif Weinidog, a wnewch chi ailystyried eich safbwynt ar y mater penodol hwn, fel bod gweithredwyr twristiaeth llety hunanddarpar ar raddfa fach yn gallu cael cymorth yn ystod y cyfnod hwn, o ystyried y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn cefnogi diwydiant twristiaeth Cymru?
Nawr, rwy'n derbyn bod cyfradd y ceisiadau busnes wedi bod yn ddigynsail, ac er bod pob un ohonom yn croesawu unrhyw becynnau cymorth a ddarperir yng Nghymru, credaf fod angen gwneud mwy o waith i fireinio rhai o'r pecynnau sydd ar gael. Er enghraifft, mae diwydiant pysgota Cymru wedi dweud wrthyf nad yw'r gefnogaeth iddynt hwy—ac fe gyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad heddiw—yn ddigon i dalu eu holl gostau, a bod angen gwneud y cymhwystra i gael cymorth pellach yn decach. Mae busnesau cludo nwyddau ar lorïau, sy'n dal i orfod talu ardrethi busnes, wedi dweud yn glir fod angen gwneud mwy i gefnogi'r diwydiant dosbarthu, sydd, fel y gwyddoch, yn hanfodol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod modd cludo nwyddau hanfodol.
Ac yn olaf, mae busnesau twristiaeth yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo nad yw natur dymhorol eu busnes yn cael ei ystyried wrth lunio rhai o'r cynlluniau cymorth sydd ar waith, ac felly maent yn cwympo i'r bylchau wrth geisio cael mynediad at gymorth am nad yw eu model busnes yn cyd-fynd yn union â meini prawf asesu'r Llywodraeth. Felly, pa waith mireinio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael gwell dealltwriaeth o’r ystod amrywiol o fusnesau yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pob un o becynnau cymorth busnes y Llywodraeth yn cyrraedd y rheini sydd eu hangen mewn gwirionedd?
Yn olaf, a allwch ddweud wrthym pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i fusnesau sydd naill ai heb gofrestru at ddibenion treth ar werth am nad yw eu trosiant mor fawr â hynny, neu fusnesau sy'n unig fasnachwyr, neu'n gweithredu cwmnïau cyfyngedig bach, gan yr ymddengys nad yw’r mathau hyn o ficrofusnesau wedi cael eu hystyried wrth lunio pecynnau cymorth busnes?