– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 3 Mehefin 2020.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddigartrefedd, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er mwyn sicrhau na fyddai neb wedi ei adael heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn roedd y flaenoriaeth honno yn fater o hyd yn oed mwy o frys. Ym mis Mawrth, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, cymerais gamau cynnar i ddarparu £10 miliwn o arian ychwanegol a chanllawiau clir ynghylch sut y dylid gwarchod a chefnogi pobl. Rwy'n falch o'n hymateb yng Nghymru; mae'r camau pendant a thosturiol y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi eu cymryd, mewn partneriaeth ag iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a sefydliadau gwirfoddol, i ddod â phobl i mewn o'r strydoedd yn ddiau wedi achub bywydau.
Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi sicrhau bod pawb wedi eu cynnwys yn y mesurau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl a chymunedau. Mae dros 800 o bobl wedi cael llety a chymorth brys ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Yn flaenorol, roedd llawer yn cysgu ar ein strydoedd, roedd eraill yn ddiymgeledd gan nad oedd hawl ganddyn nhw i gael arian cyhoeddus, ac roedd llawer yn ddigartref cudd, yn byw yn ansefydlog fel syrffwyr soffa neu mewn llety dros dro anaddas.
Mae awdurdodau lleol wedi cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd i fyw mewn llety diogel a sefydlog, efallai am y tro cyntaf yn eu bywydau, ac wedi helpu pobl i ddechrau ymddiried mewn gwasanaethau nad ydyn nhw erioed, neu ddim ond prin iawn, wedi ymgysylltu â nhw o'r blaen, a hynny i gyd mewn dim ond ychydig o wythnosau byr. Mae'r ymateb i'r argyfwng hwn wedi ein tynnu yn nes at ein gilydd mewn sawl ffordd, gan gydnabod ein pwrpas cyffredin cytûn, ond hefyd yn agosach at gyflawni ein gweledigaeth o wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, dim ond am gyfnod byr a heb gael ei ailadrodd.
Rydym yn ymwybodol iawn nad yw darparu llety dros dro yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd. Mae yn rhoi cyfle unigryw i ni harneisio'r creadigrwydd, yr arloesedd, y cydweithredu a'r parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol er mwyn gwneud newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ni weddnewid bywydau pobl.
Ni allwn lithro yn ôl o'r cynnydd enfawr yr ydym ni wedi ei wneud. Mae'n rhaid i ni weithio i sicrhau bod pobl sy'n wynebu digartrefedd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y feirws, eu bod nhw wedi eu cynnwys mewn unrhyw fesurau diogelu iechyd y cyhoedd a fydd yn parhau neu rai newydd a fydd yn cael eu cyflwyno, ac nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i ddychwelyd i'r strydoedd nac unrhyw fath arall o ddigartrefedd. Cyhoeddais yr wythnos diwethaf gyllid ychwanegol o hyd at £20 miliwn, refeniw a chyfalaf, i gefnogi cam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd yng nghyd-destun COVID-19.
Rydym yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun cam 2 sy'n nodi sut y bydd yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn gweddnewid y cynnig llety ledled Cymru. Heddiw, rwyf i wedi cyhoeddi dogfen fframwaith i bennu disgwyliadau clir a chynorthwyo awdurdodau lleol a'u partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau cam 2. Mae'r ddogfen fframwaith wedi ei seilio yn gadarn ar yr argymhellion a gefais gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ychydig cyn y cyfyngiadau symud. Rwyf i unwaith eto yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad arbenigol a'u hymgysylltiad parhaus â'r gwaith hwn.
Nid dim ond yn gofyn i eraill ddiwygio'r ffordd y maen nhw'n gweithio yr ydym ni; rydym ni'n diwygio ein ffyrdd ninnau o weithio hefyd. Rydym ni wedi elwa'n fawr iawn ar y cydweithio agos a fu rhwng fy swyddogion ac awdurdodau lleol yn ystod y cam cyntaf hwn. Rwy'n gwybod bod awdurdodau wedi croesawu'n gadarnhaol yr ymgysylltiad agosach a'r cymorth; mae wedi helpu i nodi a datrys problemau yn gyflym, ac mae'n llywio datblygiad polisi gwell. Rydym yn bwriadu dysgu ac adeiladu ar y gwaith agosach hwn yn y cam nesaf, gan helpu i ddatblygu'r cynlluniau, a sicrhau y gallwn ni ddechrau eu rhoi ar waith yn gyflym o fis Gorffennaf ymlaen.
Bydd y cymorth hwn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid. Cymerais ran yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf a chefais fy nghalonogi gan yr ymateb cadarnhaol, a chlywed am y gwaith a'r cynllunio arloesol, amlasiantaeth sydd eisoes ar y gweill mewn rhai ardaloedd ledled Cymru.
Ein nod ar y cyd yw sicrhau bod pawb yr ydym ni wedi rhoi llety dros dro iddyn nhw yn cael cymorth i lety hirdymor. Mae hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Fel yr wyf wedi ei ddweud droeon, nid mater tai yn unig yw digartrefedd; mae'n fater gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n galw am ymateb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ein nod yw gweddnewid ein hymagwedd gyfan at ddarpariaeth digartrefedd fel bod y rhai sy'n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref bob dydd yn cael profiad o system sy'n canolbwyntio ar atal gwirioneddol.
Yn y cam nesaf hwn, rwyf i'n disgwyl gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, a fydd yn cyflwyno arbedion a manteision hirdymor i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â'r potensial i weddnewid bywydau'r bobl dan sylw. Mae'n rhaid i arloesi, ailfodelu ac adeiladu fod yn sylfaen i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â digartrefedd, yn ei atal ac yn rhoi terfyn arno yng Nghymru.
Nodais y llynedd yn ein strategaeth digartrefedd ddiwygiedig, ein nod o symud i ffwrdd o atebion llety dros dro ac addasu dull ailgartrefu cyflym—mabwysiadu, ddylwn i ddweud, dull ailgartrefu cyflym. Mae gennym ni gyfle i symud yn gyflymach i weithredu'r strategaeth hon. Yn y cam nesaf hwn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ymrwymo i, a chynllunio sut i symud yn gyflym oddi wrth y defnydd o lochesi nos a lle ar lawr a dulliau lle mae angen adnoddau sylweddol, yn enwedig gan y sector gwirfoddol, i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd.
Rydym yn gofyn iddyn nhw flaenoriaethu cynlluniau ailgartrefu cyflym a hirdymor, wedi eu hategu gan ddarpariaeth frys o ansawdd gwell. Rydym yn canolbwyntio ar roi cymorth cyflym i bobl fynd yn ôl i dai parhaol, gan ddarparu dewisiadau dros dro urddasol o ansawdd uchel a bod yn glir bod gwasanaethau stryd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer allgymorth grymusol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatrys digartrefedd. Mae'r cam nesaf hwn yn ymwneud â mwy na dim ond sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i gysgu ar y stryd, mae hefyd yn ymwneud â gweddnewid.
Mae'r cynllun hwn yn uchelgeisiol iawn, a hynny'n briodol. Mae'n ein herio ni i gyd i feddwl, cynllunio a gweithio'n wahanol. Mae'r buddsoddiad newydd yr wyf i wedi ei gyhoeddi i gefnogi'r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth Cymru i arwain a buddsoddi yn yr hyn yr ydym ni'n credu ynddo. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'u partneriaid fuddsoddi, gan ddefnyddio cyllid a grantiau presennol, a benthyca trosoledd. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hyn.
Mae'r ychydig wythnosau diwethaf wedi dangos i ni gymaint yn fwy na'n rhannau unigol y gallwn ni fod pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Rwyf i'n llawn cyffro ynghylch y cyfle sydd gennym ger ein bron. Bydd yn her, ond ar sail yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd hyd yma, rwyf i'n ffyddiog y gallwn ni newid yn sylweddol erbyn hyn i gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.
A gaf i ddechrau trwy gofnodi gwerthfawrogiad Plaid y Ceidwadwyr Cymreig o'r cynnydd a wnaed wrth roi terfyn, i bob pwrpas, ar gysgu ar y stryd? Rydym ni'n falch y bu hyn yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, gydag 800 o bobl wedi eu symud i lety dros dro erbyn hyn. Byddai llawer ohonyn nhw wedi bod ar y stryd. Ac rwy'n sylwi hefyd bod cynnydd tebyg wedi ei wneud yn Lloegr. Rwyf yn gwneud y sylw hwn er mwyn atgoffa pawb, hyd yn oed mewn argyfwng taer, fod ffyrdd newydd o feddwl, a blaenoriaethau newydd, a mathau newydd o dosturi yn dod i'r amlwg. Ac mae hwn yn sicr yn un, ac rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru yn gallu dweud bod gennym ni lwyddiannau gwirioneddol i ddatblygu arnyn nhw.
Fy nghwestiwn cyntaf yw fy mod i'n dymuno ystyried y mater o ôl-ddyledion a throi allan, oherwydd, yn anffodus, pan fydd y caniatâd cyfreithiol i droi pobl allan yn dychwelyd, a all ddigwydd y mis hwn neu a all ddigwydd yn yr hydref yn dibynnu ar benderfyniad Meistr y Rholiau, wrth gwrs, gallai hyn arwain at gynnydd sylweddol mewn digartrefedd ac at bobl yn dychwelyd i'r strydoedd hyd yn oed. Canfu arolwg Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, fod dwy ran o dair o rentwyr preifat yn gwybod ble i fynd i gael cymorth pe byddai ganddyn nhw broblemau ôl-ddyledion, ond mai dim ond chwarter y tenantiaid cymdeithasol oedd yn gwybod ble i fynd am y math hwnnw o gymorth a gwybodaeth. Felly, gofynnaf i chi edrych ar hyn, gan ei bod yn rhyfedd braidd bod y diffyg mor sylweddol o safbwynt tenantiaid cymdeithasol, a byddech chi wedi disgwyl iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o'r ffynonellau cymorth.
A, hefyd, a gaf i gyfeirio at alwadau diweddar gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru o ran troi allan—rwy'n credu eich bod chi efallai wedi gweld hyn—bod angen cynllun cenedlaethol arnom ni yng Nghymru i fynd i'r afael â throi allan? Ni allwn ni reoli'r holl ysgogiadau oherwydd y newidiadau yn y gyfraith, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â hyn. Ac maen nhw'n galw am gynllun ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion, wedi ei ymestyn dros ddwy flynedd, felly mae gennym ni gynllun a all helpu pobl yn y sefyllfa honno. Ac yna, os bydd landlordiaid yn cytuno i'r math hwnnw o gynllun i wasgaru taliadau dros ddwy flynedd, ni fyddai unrhyw droi allan. Mae'n ymddangos i mi yn ffordd eithaf adeiladol ymlaen, ond rwy'n credu yr hoffem ni gael gwybod beth yw eich gwerthusiad presennol chi o beth fydd y sefyllfa o ran troi allan, ac a ydym ni'n debygol o weld rhywfaint o estyniad i'r moratoriwm presennol er enghraifft.
Diolch, David, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd drawsbleidiol yr ydym ni wedi gallu gweithio yn hyn o beth. Rwyf i yn credu bod y cynllun i Gymru yn un yr ydym ni'n ei rannu'n fras ar draws pob plaid yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi gallu gwneud yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud oherwydd ein bod ni wedi cydweithio ar draws pob sector. Ac mae wir yn profi yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud trwy weithio gyda'n gilydd.
Ond mae rhai pryderon. Yn amlwg, mae ôl-ddyledion rhent yn un ohonyn nhw. Un o'r pethau yr oeddwn i'n cytuno â'n partneriaid tai cymdeithasol yng Nghymru pan wnaethom ni gytuno ar y polisi rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru—mae'n teimlo fel degawd yn ôl ond dim ond rhyw 13 wythnos yn ôl oedd hi—oedd na fydden nhw'n troi pobl allan i fod yn ddigartref oherwydd ôl-ddyledion rhent nac unrhyw beth arall. Roeddem ni newydd ddechrau rhoi'r cynllun hwnnw ar waith pan ddaeth y cyfyngiadau symud. Rydym ni'n dal i weithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau i sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i fod ar waith. Ac yn rhan o'r cynllun hwnnw, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw sicrhau bod unrhyw denant sy'n wynebu ôl-ddyledion rhent ac a fyddai'n wynebu llwybr troi allan o ganlyniad i hynny—ac mae amryw o gymhlethdodau yn y gyfraith yr wyf i'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â nhw, ond mae yna sail orfodol ar gyfer troi allan, ac yn y blaen; rhai cymhlethdodau, ni fyddaf yn mynd i fanylder yn y fan yma—ein bod ni'n gweithio gyda'r tenantiaid hynny, mewn protocol cyn gweithredu, er mwyn sicrhau, cyn y gellir ystyried unrhyw brosesau troi allan, y sicrheir dealltwriaeth lawn o amgylchiadau ariannol y person hwnnw a beth yw ei allu i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion a beth yw ei allu i gynnal y denantiaeth, ac unrhyw gymorth y gellir ei roi yn hynny o beth, gan gynnwys, o dan rai amgylchiadau, i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ddileu'r ôl-ddyledion rhent yn arbennig mewn amgylchiadau penodol unigol. Hoffwn i bwysleisio nad yw hynny'n bolisi cyffredinol, am resymau amlwg yn ymwneud â pholisi cyhoeddus, ond rydym ni'n dymuno deall sut y mae pob unigolyn wedi cyrraedd y sefyllfa y maen nhw ynddi, a deall pa gymorth y byddai ei angen arno i ddychwelyd i gredyd. A byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ad-dalu dros ddwy flynedd, ac yn y blaen—rwy'n cytuno bod hynny'n sicr ymhlith y cymysgedd o bethau y byddai angen eu hystyried.
Rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, wrth ddweud ein bod ni'n aros am benderfyniad Meistr y Rholiau ynghylch a fydd y protocol cyn gweithredu hwnnw yn cael ei roi ar waith ar gyfer achosion troi allan yn y sector preifat. Rydym ni wedi mynegi ein barn yn glir iawn i Lywodraeth y DU, ac rwy'n dal yn obeithiol iawn y bydd hynny'n gam gweithredu a fydd yn digwydd. A, beth bynnag, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n landlordiaid cofrestredig yma yng Nghymru—fel y gwyddoch chi, mae gennym ni berthynas dda iawn â nhw, ac rydym ni mewn cysylltiad â nhw mewn ffordd sy'n unigryw; oherwydd Rhentu Doeth Cymru, rydym ni'n gwybod pwy yw pawb—i roi protocol cyn gweithredu gwirfoddol ar waith, hyd yn oed os nad yw'r llys yn rhoi un gorfodol ar waith, fel y bydd y mwyafrif helaeth o denantiaid yn cael y gwasanaeth hwnnw beth bynnag.
Yr oedd yn ddiddorol iawn clywed yr hyn a ddywedasoch chi am beidio â deall ffynonellau cymorth. Rwy'n synnu braidd at hynny—hoffwn i weld o ble y daeth hynny. Ac yn sicr, hoffem ni godi hynny gyda'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, oherwydd mae'n sicr yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn goruchwylio eu gweithrediadau—eu bod nhw'n darparu'r math hwnnw o gymorth tenantiaid wedi ei dargedu, a ddylai olygu bod eu tenantiaid yn gwybod o ble y mae'r cymorth hwnnw yn dod. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn o gael golwg manylach ar yr wybodaeth sydd gennych chi yn y fan yna, i gael gwybod beth y gallwn ni ei wneud i unioni'r sefyllfa.
Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru y mae'r arolwg, a gafodd 500 o ymatebion rwy'n credu—roedd yn nifer eithaf uchel. Ond yn sicr gallaf i roi'r cyfeiriad hwnnw i chi.
Tybed a gaf i egluro'r sefyllfa o ran gwariant, ac rwy'n gwneud hyn yn syml er mwyn i ni allu ei deall yn llawn. Nid wyf i'n amau o gwbl na fydd yr adnoddau yn cyfateb i'r uchelgais, oherwydd fy mod i wirioneddol yn credu bod penderfyniad i weld terfyn ar gysgu ar y stryd a digartrefedd. Ond fe wnaethoch chi gyhoeddiad ddechrau mis Mawrth ynghylch cynnydd o £10 miliwn, ac yna yr wythnos diwethaf cynnydd arall o £10 miliwn, felly mae cyfanswm y gwariant ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn cyfateb i gyfanswm o £20 miliwn erbyn hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n sôn weithiau am £10 miliwn yn fan yma ac yna £20 miliwn ychwanegol, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog bron wedi syrthio i hyn pan oedd yn siarad yn nhermau £30 miliwn yn fwy yn cael ei wario. Ond rwy'n credu mai ffigur gwirioneddol y cyllid yw £20 miliwn. Os nad dyna ydyw, a wnewch chi egluro hynny? Mae Llywodraeth y DU, wrth wneud cynnydd tebyg mewn gwariant—ac nid wyf i'n mynd i ddechrau cymharu; mae'n anodd iawn gwneud hynny—wedi pwysleisio eu bod nhw'n gweithio tuag at gynnydd o 37 y cant mewn gwariant refeniw ar wasanaethau cymorth i denantiaid agored i niwed, a bydd honno'n ffordd allweddol o gadw'r rhai sydd mewn llety brys ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw symud i dai mwy sefydlog, a'u cadw nhw yn y sefyllfa honno fel nad ydyn nhw'n syrthio'n ôl ac yna'n mynd yn ôl ar y stryd. Roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi farn debyg.
Ac rwy'n croesawu'r cynlluniau cam 2 y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu llunio bellach, a'r pwyslais ar ddull ailgartrefu cyflym. Rwy'n credu bod hynny'n iawn. Ond a gaf i hefyd nodi galwad gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, pan eu bod yn cymeradwyo cynllun Casnewydd, sy'n cynnig rhent gwarantedig o chwe mis ac unrhyw atgyweiriadau sydd i'w gwneud os bydd landlordiaid yn cofrestru i gynlluniau lle byddai pobl ddigartref yn cael llety yn eu heiddo. Ac maen nhw'n dweud efallai y gallem ni wneud hynny yn gynllun cenedlaethol. Ac mae yn ymddangos bod cynllun Casnewydd wedi gweithio yn dda iawn, ac y gall fod yn ffordd adeiladol iawn ymlaen sy'n defnyddio adnoddau'r sector preifat, sydd mor helaeth wrth ddarparu llety i'w rentu, fel y gwyddom.
Ie, diolch i chi. Felly, o ran y gwariant, mae'n ddrwg gen i os oes rhywfaint o ddryswch, ond mae dau swm o £10 miliwn o refeniw—felly, y £10 miliwn o wariant refeniw gwreiddiol, ac wedyn £10 miliwn o wariant refeniw ychwanegol yn yr ail gam hwn. Ond mae £10 miliwn o gyfalaf hefyd. Felly, mae'n £30 miliwn, os ydych chi'n cynnwys y cyfalaf—£20 miliwn o refeniw a £10 miliwn o gyfalaf. Felly, rwy'n credu mai dyna ble mae'r dryswch yn codi. Felly, mae'n amlen gwerth £30 miliwn, ond mae £20 miliwn o hynny yn refeniw, i fod yn gwbl glir. Rydym ni'n disgwyl—. Y rheswm am y cymysgedd yw bod y cynlluniau cymorth cyfalaf, cynlluniau eraill a'r refeniw, yn amlwg, yn darparu cymorth ar gyfer benthyca a nifer o gynlluniau eraill. Felly, fe aethom ni ati yn fwriadol i ddefnyddio'r gymysgedd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynna'n egluro hynny.
Yn amlwg, pan fyddwn yn gweld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, byddwn yn gallu gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar sut yn union y bydd yr arian hwnnw yn gweithio, ond roeddem ni'n awyddus i sicrhau eu bod nhw'n gallu cynllunio, gan wybod bod cymorth ar gael ar gyfer hynny ac na fyddai hynny yn rhwystr rhag gwneud y cynlluniau yn y lle cyntaf.
O ran llwybrau eraill, ydw, rwy'n ymwybodol o gynllun Casnewydd—rwy'n ei gymeradwyo yn llwyr. Byddwn yn ceisio cyflwyno nifer o'r cynlluniau hynny ledled Cymru gyfan. Rydym ni hefyd wedi bod yn rhedeg cynllun mewn un neu ddau o awdurdodau lleol lle'r ydym ni'n meddiannu tŷ rhent preifat am bum mlynedd, gan addo i'r landlord y lwfans tai lleol am y cyfnod cyfan hwnnw ac yna dychwelyd y tŷ iddo yn y cyflwr y cawsom ef neu'n well.
Sori, cefais i fy ngwneud yn fud am ryw reswm.
Na, rydych chi'n iawn. Ewch ymlaen.
Roeddwn i ar fin dweud, byddai hynny yn sicr yn rhan o'r gymysgedd ac rydym ni'n disgwyl y bydd y math hwnnw o beth yn ymddangos yn y cynlluniau wrth i ni symud ymlaen.
Iawn, diolch. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ninnau hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad—
Sori, dydyn ni ddim yn eich clywed chi. Mae'n ddrwg gen i. A all rhywun helpu Delyth gyda'i meic, os gwelwch yn dda? Trïwch eto.
Ydych chi'n gallu fy nghlywed i nawr?
Ydym, yn iawn.
Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch dileu digartrefedd. Rwy'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o'r argyfwng hwn yw sylweddoli bod tai yn hawl am oes, nid dim ond rhywbeth brys dros dro yn ystod pandemig. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd adeiladol yr ydych chi wedi gweithio, Gweinidog, ar draws y pleidiau wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng wedi dangos hefyd bod digartrefedd wedi bod yn ddewis gwleidyddol, nid yn rhywbeth anochel. Ni all neb gael ei feirniadu mwyach am ddweud bod cynlluniau 10 mlynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd yn uchelgais sarhaus.
Nawr bydd rhai efallai yn petruso ynghylch y symiau o arian yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, ond byddwn i'n dweud wrthyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi yn hyn o beth, Gweinidog, y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at arbedion sylweddol i'n gwasanaethau cyhoeddus—fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad—heb sôn am y bywyd gwell i bobl ddirifedi yn y dyfodol. Hoffwn i ofyn, Gweinidog, a ydych chi'n gresynu na wnaethoch chi dyrannu'r symiau i roi terfyn ar ddigartrefedd ynghynt o lawer.
Ond, wrth edrych i'r dyfodol, mae'n ymddangos y bydd y sector rhentu preifat yn debygol o weld cynnydd yn y galw, wrth i Rightmove ddweud bod y galw am osodiadau wedi cynyddu gan 22 y cant. Nawr, rwy'n cymryd mai yn Lloegr y mae hynny yn bennaf, lle nad yw'r cyfyngiadau mor ddifrifol, ond gall hyn, wrth gwrs, arwain at demtasiwn i landlordiaid droi allan meddianwyr presennol neu eu perswadio i adael er mwyn iddyn nhw allu cynyddu'r rhent i denantiaid eraill. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymestyn y cyfnod dim troi allan o beidio â chymryd camau pellach, er mwyn atal hyn ymhellach ar ôl i ni barhau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd? Rwy'n gwerthfawrogi yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth David Melding, ond tybed a wnewch chi gadarnhau am ba hyd yr ydych yn gobeithio y bydd y cymorth hwnnw ar gael ac, yn wir, y bydd hynny'n rhywbeth na fydd â chyfyngiad amser iddo.
Ie, yn amlwg, yr hyn y mae'r argyfwng wedi ei wneud yw ei gwneud yn bosibl i ni wneud pethau y byddem ni wedi dymuno eu gwneud erioed, ond y mae wedi ei gwneud yn bosibl i wneud hynny mewn ffyrdd na fyddem ni wedi gallu eu gwneud. Felly, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, rydym ni wedi meddiannu llety gwely a brecwast neu westai neu lety i fyfyrwyr yn y sector preifat nad oedd eu hangen oherwydd yr argyfwng, na fyddai wedi bod ar gael i ni o dan 'amgylchiadau arferol'. Felly, rydym ni wedi gwneud y gorau o sefyllfa ofnadwy ac rydym ni wedi manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny, ac mae hynny wedi ein galluogi i wneud pethau llawer ynghynt nag a fyddai wedi bod yn bosibl o dan amgylchiadau arferol. Ond rydych chi'n iawn—y mae wedi profi y gellir ei wneud, a'r hyn y mae wedi ei wneud yw profi i bawb y gellir ei wneud. Ac felly mae pobl yn benderfynol iawn, ac rwy'n teimlo'n sicr y byddan nhw'n gallu cyflwyno'r cynlluniau ar gyfer y cam nesaf oherwydd ein bod ni'n gwybod erbyn hyn y gellir ei wneud. Nid damcaniaeth yn unig ydyw, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gweithio yn y ffordd gydweithredol honno drwyddi draw.
O ran atal achosion o droi allan—o ran atal yn gyfreithiol achosion o droi allan—ar hyn o bryd rwy'n ystyried gyda fy swyddogion ymestyn y cyfnod tri mis sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae posibilrwydd ei ymestyn o dan y Ddeddf coronafeirws a'r rheoliadau. Mae'n amlwg bod hynny yng nghyd-destun y pandemig. Felly, rydym ni'n gobeithio ei ymestyn tra bydd y pandemig yn parhau, gan mai dyna sail y pwerau hynny, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yr ydym ni'n dymuno ei gyflwyno, os yn bosibl, yn y tymor Senedd hwn, a fyddai'n rhoi hynny ar waith yn y tymor hwy. Ond mae yn gofyn am y ddau, ac nid yw'n bosibl, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, ymestyn y rheoliadau coronafeirws pan fydd y pandemig ar ben. Felly, nid yw'n bosibl gwneud hynny. Felly, rydym ni'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno'r diwygiad i'r Bil mewn pryd er mwyn peidio â chael bwlch yn hynny o beth, ond mae'n rhaid i ni wneud y ddau beth hynny ar yr un pryd. Ac rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gydweithrediad gan y Senedd wrth wneud hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod agenda ar y cyd yn y fan honno hefyd.
Ac yna, o ran y sector preifat, fel y dywedais, mae gennym ni amryw o gamau gweithredu ar y gweill gyda landlordiaid sector preifat. Ond byddwch chi'n gwybod o'n sgyrsiau ein bod ni'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr nad yw'r lwfans tai lleol yn mynd yn ôl i ble yr oedd o'r blaen, oherwydd, yn yr achos hwnnw, ni fydd pobl yn gallu fforddio llety cyfartalog yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i rymoedd y farchnad y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn rhan o hynny.
Diolch am hynna, Gweinidog. Mater arall yr oeddwn i'n dymuno ei godi oedd y cymorth sy'n cael ei gynnig i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Nawr, mae'r statws hwnnw yn etifeddiaeth ymgais Tony Blair i dawelu'r Daily Mail flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi gadael etifeddiaeth hir a gwaedlyd. Rydym ni'n gwybod bod Shelter Cymru ac eraill wedi bod yn ysgrifennu am y problemau y mae wedi eu hachosi i fenywod mudol ers o leiaf 2010. Nawr, yn anffodus mae'r statws hwnnw ar waith o hyd, ac nid yw pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus wedi gallu cael credyd cynhwysol, y cynllun ffyrlo na gwasanaethau cymorth eraill. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i ni, Gweinidog, na fydd eich mesurau chi i roi terfyn ar ddigartrefedd yn anwybyddu sefyllfa'r grŵp hwnnw o bobl.
Ac, yn olaf, hoffwn i ofyn am y gwersi hirdymor mwy cyffredinol y gallwn eu dysgu o'r pandemig hwn. Rydym ni'n gwybod bod yr argyfwng wedi effeithio'n fwy garw ar gymunedau tlotach. Ac un o'r rhesymau y gellir eu tybio dros hyn, mae'n debyg, yw bod tai mewn ardaloedd tlotach yn nes at ei gilydd, y risg o orlenwi ac, wrth gwrs, cyflwr gwaeth y tai yn arwain at gyflyrau iechyd sylfaenol i fod yn fwy cyffredin. Gweinidog, a fyddwch chi'n ystyried newidiadau i'r system gynllunio yn y dyfodol agos er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau hyn fel y gall ystadau tai yn y dyfodol gael eu gwneud yn ddiogel rhag pandemig?
Felly, o ran yr hawl i gael arian cyhoeddus, Delyth, byddwch chi'n gwybod ein bod ni eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau nad oes neb yn dychwelyd i'r strydoedd, gan gynnwys pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Rydym ni, wrth gwrs, wedi rhoi llety a chymorth i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus y mae'r pandemig wedi caniatáu i ni weithredu oddi tano. Felly, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, mae'n rhaid i ni allu amddiffyn unigolion ac, felly, mae gennym ni'r pŵer i wneud hynny.
Unwaith eto, pan fydd y pandemig ar ben, ni fyddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth honno, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn edrych ar hynny. Rydym ni wedi pwysleisio dau beth: dyngarwch cyffredin hynny a'r angen i drin pawb fel bod dynol; ac yn ail, mewn gwirionedd, pe byddech chi'n dymuno yn wirioneddol ei wneud ar sail ariannol, nid oes llawer iawn o bobl—nid ydych chi'n sôn am lawer iawn o arian ac mae hynny'n ei wneud yn waeth fyth os na fydd pobl yn ystyried ei wneud. Felly, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn unrhyw beth y mae unrhyw Aelod unigol o'r Senedd neu blaid yn y Senedd yn dymuno ei wneud i'n cefnogi ni drwy ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi trafod hynny o'r blaen, a hoffwn i allu gwneud hynny yn fawr iawn.
Ac yna, o ran y gweddill, mae yna dair elfen ar yr ochr gyflenwi. Felly, o ran cyflwr y farchnad dai bresennol, rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi gweithio'n galed iawn ar safon ansawdd tai Cymru, a chredwyd bod hynny'n amhosibl pan wnaethom ni ei roi ar waith, ac yn wir rydym ni wedi ei gyrraedd, a hyd yn oed yn ystod y pandemig, rydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y targed a oedd gennym ni. Rydym ni'n newid Rhan L, fel y'i gelwir, rheoliadau adeiladu, a byddan nhw'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yn fuan, fel bod adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn y modd hwnnw. Ac yna mae problem enfawr ynghylch ôl-osod yn y sector preifat. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â hynny.
Yn anffodus, yn sgil y pandemig byddwn yn colli rhywfaint o'r ddeddfwriaeth a'r offerynnau statudol yr oeddem ni'n gobeithio eu cyflwyno yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf i'n fodlon iawn gweithio gyda phob plaid i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi unrhyw beth y gallwn ni i gyd gytuno arno ym mhob maniffesto fel y gall swyddogion barhau i weithio arno gan wybod yn iawn y bydd y sawl sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Senedd Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â hynny, a bydd hynny yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r darn hwnnw o waith.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ond, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynlluniau yn berthnasol i bawb sy'n ddigartref yn ystod y pandemig hwn, ac nid y rhai sydd mewn llety brys yn unig?
Rwyf i wedi bod yn siarad â grwpiau cyn-filwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n pryderu bod llawer o gyn-filwyr digartref yn syrthio drwy'r rhwyd gan mai syrffio soffa y maen nhw. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol o safbwynt iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig presennol hwn. Gweinidog, a wnewch chi gysylltu â grwpiau, fel Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd, i sicrhau y darperir llety hirdymor i'r holl gyn-filwyr digartref?
Os oes unrhyw bethau cadarnhaol i ddeillio o'r pandemig hwn, mae'n rhaid bod rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd ar frig y rhestr. Wrth gwrs, os ydym ni am fynd i'r afael â digartrefedd mewn ffordd barhaol ac ystyrlon, mae'n rhaid i ni symud i farchnad dai weithredol cyn gynted â phosibl. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda swyddogion iechyd y cyhoedd ynglŷn â'r ffordd fwyaf diogel o adfer marchnad dai weithredol yng Nghymru?
Hefyd, a gaf i ofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar y cyflenwad tai yn y dyfodol, a pha gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd i'w lliniaru?
Ni allwn ni ddychwelyd i'r farchnad dai a oedd gennym ni cyn y pandemig nes bydd brechlyn ar gael, ond fe allwn ni wneud addasiadau i sicrhau bod prosesau adeiladu, prynu a gwerthu tai mor ddiogel â phosibl. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn cael effaith ar ba mor gyflym y gellir adeiladu cartrefi newydd, felly, a ydych chi wedi trafod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru ffyrdd o wrthbwyso'r oedi, fel gweithredu nifer o safleoedd ar yr un pryd i ddarparu ar gyfer y gweithlu?
Mae'r feirws yn effeithio ar y farchnad rentu hefyd, wrth i lawer o landlordiaid fethu â dod o hyd i denantiaid ar gyfer eu heiddo, neu ddim yn cael incwm rhent oherwydd bod tenantiaid yn ddi-waith. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i hepgor y dreth gyngor ar eiddo gwag drwy gydol cyfnod y pandemig hwn?
Ac yn olaf, Gweinidog, mae gweithwyr llywodraeth leol yn chwarae rhan allweddol wrth olrhain cysylltiad yn rhan o gynllun tracio, olrhain a diogelu Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n ffyddiog na fydd y swyddogaeth newydd hon yn arwain at brinder mewn meysydd eraill, yn enwedig iechyd yr amgylchedd? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Byddaf i'n gwneud fy ngorau i ymdrin â nhw i gyd. Yn sicr, nid ydym ni'n dymuno hepgor unrhyw grŵp o bobl, ac rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth beidio â gwneud hynny yn ystod cam cyntaf y camau digartrefedd yr ydym ni wedi eu cymryd. Fel y dywedais yn benodol iawn yn fy natganiad, mae nifer y bobl yr ydym ni wedi rhoi llety iddyn nhw yn cynnwys pobl nad oedden nhw'n cysgu ar y stryd, ond a oedd mewn llety ansefydlog iawn—llety dros dro, 'syrffwyr soffa' fel y'u gelwir.
Nid oes gennym ni wybodaeth am nifer y cyn-filwyr sydd wedi eu cynnwys gan nad ydym ni'n ei chasglu yn y ffordd honno, ond nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bobl sydd wedi eu hepgor o hynny, ac rydym ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau bod pobl sy'n syrffio soffa yn cydnabod eu bod yn ddigartref ac yn cyflwyno eu hunain. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny yn fwriadol iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym ni'n wynebu nifer llethol ar ddiwedd y pandemig. Ac rydym ni wedi cael llif cyson o bobl yn cyflwyno'u hunain i gael cymorth drwy gydol cyfnod yr argyfwng hwn. Nid oedd hi'n nifer sefydlog ar y dechrau a oedd wedyn yn cael llety—mae pobl wedi bod yn cyflwyno'u hunain yn ddyddiol drwy gydol y pandemig ac rydym ni wedi gallu rhoi llety iddyn nhw o ganlyniad i weithio mor agos ac ar y cyd â nifer o bartneriaid, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol—wel, ein hawdurdodau lleol yn bennaf. Hynny yw, mae'r bobl hynny yn cynnwys cyn-filwyr, wrth gwrs, ond maen nhw'n cynnwys pobl eraill sy'n cyflwyno eu hunain: dioddefwyr cam-drin domestig, pobl sy'n cael eu dadleoli o ganlyniad i deulu neu berthynas yn chwalu a nifer o bethau eraill—y pethau sy'n arwain at ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Mae'r pethau hynny wedi parhau drwy gydol y pandemig ac mae ein partneriaid wedi camu i'r adwy o ran darparu llety ar gyfer yr holl grwpiau hynny, gallaf eich sicrhau, gan gynnwys cyn-filwyr. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn gweithio yn agos iawn gyda nifer o grwpiau cyn-filwyr. Fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yw Gweinidog y lluoedd arfog, ac mae hi'n cael amrywiaeth o gyfarfodydd rheolaidd iawn gyda llawer o grwpiau cyn-filwyr, ac rwyf i fy hun wedi cwrdd â nifer ohonyn nhw hefyd; rydym ni'n ofalus iawn i ddeall yr amgylchiadau penodol.
O ran y cyflenwad tai, mae'n bosibl ar hyn o bryd i symud yng Nghymru os oes angen i chi wneud hynny oherwydd unrhyw amgylchiadau brys neu os, er enghraifft, na byddai eich trefniant gwerthu yn digwydd pe na byddech yn gwneud hynny. Rwyf i wedi ateb llawer iawn o ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw wedi deall hynny, felly hoffwn i nodi hynny yn glir iawn. Yng ngham nesaf yr adolygiad—felly, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos ac rydym ni'n dechrau gweithio arnyn nhw yr eiliad y mae'r adolygiad diwethaf ar ben—rydym ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud yn y farchnad dai o ran pethau fel gallu mynd i weld eiddo gwag, caniatáu i bobl sy'n dymuno chwilio am denant ar gyfer eiddo gwag wneud hynny ac yn y blaen. Byddwn ni, mae'n debyg, rwy'n credu—wel, mae'r adolygiad ar y gweill, felly mae'n amhosibl dweud yn bendant—ond byddwn ni fwy na thebyg, rwy'n credu, yn aros cyn caniatáu i bobl weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, a hynny am resymau amlwg, gan y bu nifer o broblemau dros y ffin yn hynny o beth. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, Caroline. Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i'r farchnad weithio.
Rwyf i hefyd yn poeni'n fawr am bobl sy'n rhentu sy'n canfod eu hunain mewn amgylchiadau lle nad ydyn nhw'n gallu fforddio eu rhent mwyach ac sy'n dymuno chwilio am rywle arall y gallan nhw ei fforddio, ein bod yn gallu hwyluso hynny cyn gynted ag y gallwn. Ac rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, drwy gydol yr argyfwng hwn, ein bod ni wedi gweithio yn galed iawn gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n troi yr hyn a elwir yn 'unedau gwag', felly eiddo gwag, cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw ar gael fel tai parhaol i bobl y mae angen y tai hynny arnyn nhw, pa un a ydyn nhw'n dod trwy'r ffrwd ddigartrefedd neu oherwydd eu bod nhw'n denantiaid sy'n ystyried symud i lety gwahanol, mwy addas. Felly, rydym ni yn sicr wedi bod yn gwneud hynny.
O ran y cyflenwad tai, unwaith eto, mae gwaith adeiladu wedi ei ganiatáu cyn belled â'ch bod chi'n gallu cadw pellter cymdeithasol drwy gydol y cyfnod hwn ac mae llawer o waith adeiladu wedi parhau. Rydym ni yn sicr wedi gweld llawer o landlordiaid tai preswyl cymdeithasol, felly mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn parhau i adeiladu eu tai ac rydym ni'n gwybod bod nifer o fusnesau bach a chanolig yn parhau i adeiladu ar gyfer y farchnad honno oherwydd bod hynny'n rhoi llif arian parod iddyn nhw na fydden nhw wedi ei gael fel arall, ac rydym ni wedi bod yn annog hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n siarad yn rheolaidd iawn â'r cymdeithasau adeiladwyr tai ynghylch eu hanghenion yn ystod yr argyfwng hwn a sut y gallwn ni gadw'r rhan honno o'r farchnad yn gweithredu.
Ac yna, o ran ein llwybr allan o'r argyfwng hwn, wrth gwrs, bydd pob un ohonoch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am yr angen i sicrhau adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny i sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yng Nghymru fel ein bod yn sicrhau bod digartrefedd yn wirioneddol anghyffredin, dim ond am gyfnod byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd.
Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cysgu ar y stryd a pholisi Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni wedi llunio dau adroddiad yn y Cynulliad hwn, un ddiwedd y llynedd ar wasanaethau arbenigol o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ac un mwy cyffredinol y flwyddyn gynt. Felly, ar ôl rhoi'r flaenoriaeth honno a'r pwyslais hwnnw i gysgu ar y stryd fel pwyllgor, mae'n braf iawn gweld y cynnydd hwn ar adeg o argyfwng, fel yr ydych chi wedi ei nodi, ac mae'n dangos, hyd yn oed wrth ymateb i argyfwng o'r fath, ei bod hi'n bosibl cael rhai pethau cadarnhaol o'r trallod cyffredinol, fel petai, ac mae'n wirioneddol bwysig gwneud hynny i ddangos bod rhyw lygedyn o obaith. Felly, rwy'n credu eich bod chi a Llywodraeth Cymru yn haeddu llongyfarchiadau mawr am y cyllid hwn a'r polisi hwn, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel yr awdurdodau lleol, y sector iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mudiadau gwirfoddol. Rwy'n credu y bu'n ymdrech tîm wirioneddol ac rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn adlewyrchu un o'r heriau a'r ymatebion mwy cadarnhaol drwy'r pandemig, sydd wedi arwain at sefydliadau, cymunedau a sectorau yn cyd-dynnu er lles y bobl, gan gydnabod maint y cynnydd y mae angen i ni ei wneud a'r her yr ydym ni'n ei hwynebu. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld hynny i gyd. Fel cymuned, roeddem ni'n gobeithio—
A wnewch chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
A gaf i ddweud—gwnaf, Dirprwy Lywydd—fel pwyllgor, rydym ni'n gobeithio am y math hwnnw o ddull ataliol—tai yn gyntaf. Fe wnaethom ni gyfarfod â'r grŵp gweithredu, ac roeddem ni'n chwilio am y math o hawliau corfforaethol sy'n—[Anghlywadwy.]—cyflawni. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yn fawr o ran cynllunio dilynol ac osgoi llithro'n ôl, oherwydd mae pobl yng Nghasnewydd yn dweud wrthyf i eu bod nhw mor falch o weld y cynnydd sydd wedi ei wneud, ond eu bod nhw'n poeni'n fawr, yn amlwg, nad ydym ni'n gweld unrhyw lithro yn ôl, rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael argyfwng economaidd a'n bod ni'n mynd i gael anawsterau mawr o ran gwariant cyhoeddus, Gweinidog. Felly, wrth ystyried sut yr ydym ni'n osgoi unrhyw lithriant ac, yn ôl y dywediad, adeiladu, gweithredu'n well ar gyfer y dyfodol, a ydych chi'n ystyried o ddifrif faint y problemau economaidd a gwariant cyhoeddus a fydd yn ein hwynebu, ac a ydych chi'n hyderus, gyda'ch cyhoeddiadau, gyda dull newydd, gyda'r cyllid, y byddwn ni'n gallu cynnal y cynnydd a wnaed?
Ydw, John, rwy'n hapus iawn i ddweud, oherwydd y gwaith aruthrol yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn y ffordd gydweithredol yr oedd y pwyllgor wedi ei hargymell yn y lle cyntaf, ac rydym ni bellach wedi ei gweld ar waith o ganlyniad i dderbyn argymhellion y grŵp gweithredu ar dai—gwn eich bod chi wedi cael sgyrsiau da â nhw yn ogystal â'r pwyllgor—fy mod i'n hyderus iawn y byddwn ni'n gallu ei wneud, oherwydd mae pobl wedi gweld yr hyn sy'n bosibl ac maen nhw wedi cael eu grymuso o'r newydd o wybod y gellir ei wneud os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Ac, wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn, byddwn ni eisiau ystyried ysgogiad economaidd ac yn y blaen ac fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n sôn am adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai, a gallwn ni wneud hynny.
Nid wyf i wedi gallu ateb yr holl gwestiynau y mae pob Aelod wedi eu gofyn i mi heddiw gan fod llawer iawn o gwestiynau gan yr Aelodau; mae'n braf gweld y brwdfrydedd. Un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, er enghraifft, yw gwneud yn siŵr y gallwn ni, trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern, fel y'u gelwir, gyda phren o Gymru a chadwyni cyflenwi yng Nghymru, godi tai yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio oherwydd eu bod nhw wedi dod trwy ein rhaglenni tai arloesol, felly profwyd eu bod nhw'n llwyddiannus; tai carbon niwtral hardd y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn, sy'n cael eu hadeiladu mewn gweithfeydd bach sy'n cyflogi pobl leol ledled Cymru, felly mae'n darparu cyflogaeth—cyflogaeth sgiliau uchel, cyflogaeth dda. Mae hefyd yn darparu tai, mae hefyd yn darparu defnydd i'n coedwigoedd, mae'n darparu ffordd o gyflawni coedwigaeth gynaliadwy, sy'n beth da. Mae'n gwthio pob botwm y gallwch chi feddwl amdano ac, wrth gwrs, mae'n darparu'r tai sydd eu hangen arnom ni i sicrhau bod gan bobl lety diogel wrth symud ymlaen i'r dyfodol, a bod y llety hwnnw nid yn unig yn ddiogel, ond hefyd yn hardd ac yn garbon niwtral. Beth sydd i'w wrthwynebu?
Felly, rwy'n hollol siŵr y gallwn ni wneud hyn ac rwy'n siŵr o hynny gan fod ein holl bartneriaid yn credu hynny hefyd ac maen nhw wedi ymrwymo i'r broses honno, a cheir consensws ar draws y Senedd hon. Felly, mewn gwirionedd, gyda'n gilydd, rydym ni wir yn fwy na'n rhannau unigol, ac rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hyn yn y dyfodol.
Diolch am y datganiad. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'n hawdurdod lleol ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu gwaith partneriaeth a'r gefnogaeth aruthrol a roddwyd i'n pobl ddigartref yma yn Aberconwy. Rydym ni wedi gweld unedau preswyl yn cael eu lleoli yn Llandudno a Bae Colwyn i ddarparu llety i'n pobl ddigartref ac sy'n cysgu ar y stryd sy'n hynod agored i niwed, ac maen nhw wedi ei wneud mewn modd mor gyflym yn ystod argyfwng y pandemig hwn.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi gytuno â Byddin yr Iachawdwriaeth bod yn rhaid canolbwyntio hefyd ar fynd i'r afael â'r rhesymau pam mae pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Felly, fy nghwestiynau i yw: a fydd ein hawdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am rywfaint o'r £20 miliwn o gyllid i gefnogi cynigion ar gyfer targedu achosion digartrefedd, yn rhan o'ch cynlluniau cam 2 a gyhoeddwyd, a hefyd, fel y mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi tynnu sylw ato, ceir llawer o sefyllfaoedd lle mae tenantiaid yn wynebu ymrwymiadau ac anawsterau enfawr erbyn hyn i fforddio eu tai. A wnewch chi egluro na fydd y cyfyngiadau presennol hyn yn eu hatal rhag cael gafael ar lety fforddiadwy, ac, yn wir, symud i mewn iddo ar yr adeg hon?
Gwnaf. Mae'r holl gynghorau wedi gweithio'n galed iawn ac mae Conwy yn enghraifft dda ond mae'r holl awdurdodau lleol wedi gweithio mewn cydweithrediad â ni. Ceir dulliau arloesol ledled Cymru gyfan i gael pobl i mewn i lety addas. Dros dro yw rhywfaint o'r llety hwnnw, ond mae'n llety dros dro da. Ond, yn amlwg, yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw gweithio i gael pobl i mewn i lety diogel, hirdymor y gallan nhw ei fforddio ac y gallan nhw ei gynnal. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys partneriaid cymorth. Felly, mae hynny'n golygu gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth tenantiaid, gwasanaethau lles a chymorth, ac yn y blaen, gan sicrhau bod gan bobl gymaint o incwm â phosibl, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau angenrheidiol i gynnal tenantiaeth. Nid yw pedair wal a nenfwd yn ddigon; mae gennym ni i gyd ddodrefn yn ein tai a llenni a charpedi a phethau felly. Mae angen i bobl gael yr holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal eu hunain mewn llety. Ac felly yr hyn a ddangoswyd yw y gellir gwneud hynny. Gallwn ni wneud hynny, gallwn ni drefnu'r gwasanaethau o'u cwmpas, gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn dod at ei gilydd i'w cefnogi. Ac mae'r cynlluniau cam 2 yr ydym ni'n gofyn i awdurdodau lleol eu hystyried yn ystyried yr holl bethau hynny, gan gynnwys y cymorth sydd ei angen i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal y tenantiaethau hynny, ac mae hynny'n cynnwys asesiad o'u gallu i dalu am fathau penodol o lety, a'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y gallu hwnnw cystal ag y gall fod.
Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach fy mod i'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn cadw lefel y lwfans tai lleol lle y mae. Fe wnaeth y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, Thérèse Coffey, ddweud yn un o'r cyfarfodydd yr es i iddo y byddai hynny'n cael ei wneud, ond hoffwn i weld hynny'n cael ei gadarnhau yn ehangach, oherwydd byddai hynny yn rhoi llawer o obaith i bobl y bydden nhw'n parhau i allu ei fforddio. Ac yna, fel y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, Janet, o ran gallu symud i rywbeth os ydych chi wir yn canfod na allwch chi fforddio lle'r ydych chi, rydym ni wedi bod yn gweithio yn galed iawn gyda phobl i drwsio unedau gwag, i wneud yn siŵr bod yr eiddo hynny ar gael, ac i wneud yn siŵr bod hynny'n gallu digwydd. Yng ngham nesaf yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud, ein nod yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu symud i eiddo gwag. Mae problem fawr, yn amlwg, o ran mynd i weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, ond os ydyn nhw'n wag, yna rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhyddhau hynny cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddefnyddio'r pwynt hwn i bwysleisio'r pwynt y gwnes i'n gynharach, sef y bu'n bosibl o'r cychwyn, wrth gwrs, symud os yw amgylchiadau yn golygu ei bod yn hanfodol symud ac na ellir ei oedi.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gen i rai cwestiynau ynghylch manylion yr hyn yr ydych chi'n gallu ei dynnu o'r data sydd gennych chi. Er enghraifft, a ydych chi'n gweld unrhyw dueddiadau neu gysylltiadau annisgwyl o ran nodweddion sydd wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, o ran y rhai sy'n ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd? A oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol sy'n amlwg i chi o ran daearyddiaeth Cymru hefyd? Ac, yn olaf, o ran hyd y digartrefedd yr ydym ni'n ei weld, pa fath o ddata sy'n dod i'r amlwg o ran a yw digartrefedd yn fyrdymor neu'n hirdymor yn bennaf, oherwydd, yn amlwg, ceir gwersi y gallwn ni eu dysgu o archwilio'r data mor fanwl?
Diolch, Vikki. Nid yw'r holl ddata gennym ni yn yr union ffordd yr ydych chi'n ei hawgrymu, ond gallaf i ddweud wrthych chi yr hyn yr ydym ni'n ei wybod. Felly, yn gyntaf oll, mae'r amrywiaeth o bobl sy'n ddigartref yn enfawr. Felly, mae gennym ni bobl sy'n ddigartref dim ond yn ddiweddar oherwydd chwalfa deuluol ddiweddar neu ddigwyddiadau trais yn y cartref neu rywbeth tebyg arall, ac mae eraill sydd wedi bod yn ddigartref ers amser maith ac sydd â phroblemau sydd wedi ymwreiddio ac sydd wedi dod i wasanaethau am y tro cyntaf erioed. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae angen i ni fanteisio ar y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â'r gwasanaethau hynny bellach a'n bod ni wedi gallu ymgysylltu â nhw, ac y gallwn ni barhau i ymgysylltu a nhw, ac mae hwnnw wedi bod yn gam enfawr ymlaen. Yn y gorffennol, wrth weithio gyda phobl ddigartref, gallai gymryd cymaint â naw mis i'n gweithiwr allgymorth penodedig greu cysylltiad o ymddiriedaeth â'r unigolyn hwnnw er mwyn iddo ddod i mewn a derbyn gwasanaethau, ac rydym ni wedi gallu cyflymu'r broses honno i bron pawb. Mae gennym ni un neu ddau o bobl nad ydym ni wedi gallu eu cyrraedd, ond mae gan bob un ohonyn nhw weithwyr allgymorth penodedig yn gweithio gyda nhw gyda'r bwriad o gyflawni hynny.
Fodd bynnag, un o'r nodweddion y gallaf i ddweud wrthych chi amdano yn hawdd yw bod digartrefedd yn gysylltiedig â thlodi, oherwydd os oes gennych chi deulu neu berthynas sy'n chwalu ac nad ydych chi'n dlawd, yna gallwch chi ddod o hyd i dŷ arall i'ch hun. Felly, mae'n gysylltiedig yn fwyaf amlwg ag amddifadedd economaidd. A dyna'r hyn y mae angen i ni ei wneud: mae angen i ni wneud yn siŵr bod incwm pobl mor fawr â phosibl, eu bod nhw'n cael y math cywir o gymorth i sicrhau'r incwm mwyaf posibl hwnnw a dychwelyd i'r gwaith pan fo hynny'n broblem, neu gynnal eu gwaith pan fo hynny'n broblem, oherwydd gall mynd yn ddigartref olygu eich bod chi'n colli eich swydd, sydd, wrth gwrs, yn gwneud y sefyllfa yn waeth o lawer. Felly, rydym ni wedi gweithio yn galed iawn gydag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau trydydd sector a'n landlordiaid cymdeithasol a'n landlordiaid i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r math hwnnw o gymorth, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaeth ac felly sicrhau bod eu gallu economaidd gymaint â phosibl. Fel y dywedais, mae gennym ni wasanaethau cofleidiol. Rwyf i wedi dweud erioed nad yw digartrefedd yn ymwneud â thai yn unig, mae'n ymwneud â'r holl wasanaethau eraill, ac rwyf i wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r gwasanaethau hynny wedi dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng hwn i weithio. Yn ein huwchgynhadledd yr wythnos diwethaf, cawsom ni gyfraniadau gan bobl o'r holl wasanaethau hynny ac roedden nhw i gyd yn dweud cymaint yr oedden nhw wedi ei ddysgu o'r cydweithio a fu'n bosibl a faint y maen nhw'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny.
Felly, mae gen i deimlad gwirioneddol bod hyn yn bosibl bellach a bod pobl yn cydnabod hynny. Felly, rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud gwahaniaeth yng Nghymru y tro hwn a gwneud yn siŵr bod digartrefedd yn anghyffredin, am gyfnod byr a heb ei ailadrodd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, fy mod i'n siomedig braidd i chi awgrymu yn eich ateb cynharach i gwestiwn am gyn-filwyr nad oedd Llywodraeth Cymru yn casglu data ar y rhai sydd wedi cael eu hailgartrefu yn ystod y pandemig a pha gyfran o'r rhain sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr. Byddwch chi'n ymwybodol bod llawer iawn o waith da yn cael ei wneud gan sefydliadau fel Alabaré a'u cartrefi i gyn-filwyr yma yng Nghymru. Mae ganddyn nhw gartref i lawr y ffordd nepell oddi wrtha i yma ym Mae Colwyn, ac maen nhw'n barod i wneud mwy eto, cyn belled â'u bod nhw'n gwybod ble mae'r angen mewn gwirionedd.
Felly, a gaf i ofyn pa waith y byddwch chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol nawr i geisio olrhain pa gyfran o'r rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr, fel y gallwch chi ymgysylltu ymhellach â'r sefydliadau da fel Alabaré sydd ar gael ac sy'n dymuno gwneud mwy ac sy'n chwilio am y mannau lle gallan nhw ddatblygu'r mathau hyn o gyfleusterau y maen nhw eisoes wedi eu sefydlu mor llwyddiannus mewn mannau eraill?
Ydw, Darren, rwy'n hapus iawn i weithio gyda nhw. A dweud y gwir, mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau cyn-filwyr, ac, fel y dywedais, mae Hannah wedi cyfarfod â llawer iawn ohonyn nhw. Rwyf i fy hun wedi cyfarfod â nifer rhyw fymryn yn llai ohonyn nhw. Felly, rydym ni'n hapus iawn i ymgysylltu a chyfeirio pobl at y cymorth y gall asiantaethau cymorth i gyn-filwyr ei ddarparu. Ac mae honno'n amrywiaeth enfawr, fel y gwyddoch chi ac fel y gwn i. Ceir amrywiaeth eang iawn o gymorth, o gwnsela a chymorth gydweithredol i ddim mwy na chyfeillgarwch, llety, ystod lawn o gymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac yn y blaen. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhan benodol honno o'r trydydd sector sy'n darparu'r cymorth hwnnw.
Mae awdurdodau lleol yn cyfeirio pobl sy'n gymwys i dderbyn y cymorth hwnnw ato, ond nid ydym ni'n casglu'r data yn ganolog. Felly, nid wyf i eisiau i chi feddwl nad oes ots gennym ni, oherwydd mae ots gennym ni, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw angen i gasglu'n ganolog faint o bobl yw hynny. Rwy'n disgwyl pe baech chi'n gofyn i'r awdurdodau lleol y bydden nhw'n gwybod yn unigol. Rwy'n hapus i ymchwilio a yw'n beth hawdd i ni ei wneud. Byddwn yn gyndyn o ddargyfeirio adnoddau iddo, ond os yw'n rhywbeth y gallem ni ei wneud yn gymharol hawdd, rwy'n sicr yn fodlon ymchwilio i hynny. Ond nid yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud yn ganolog ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud yn ei dau ddatganiad. Mae argyfwng COVID wedi bod yn anodd, ond ceir llawer o fuddugoliaethau hefyd, ac mae rhoi terfyn dros dro ar ddigartrefedd yn un ohonyn nhw.
Mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi ymateb yn wych o dan amgylchiadau anodd dros ben. Rwy'n nodi'r buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn a buddsoddiad arall o £20 miliwn nawr drwy refeniw, gan arwain at gyfanswm o £30 miliwn. Mae hyn i'w groesawu'n fawr.
Rwyf i wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am fy mhrofiad fy hun o syrffio soffas a'i effeithiau hirdymor ar fy mywyd, felly rwyf i mor falch o weld mai eich bwriad yw gwneud popeth yn eich gallu i gadw'r 800 a mwy o bobl mewn llety o ryw fath. Mae'n eglur o ystadegau a rhestrau aros nad oes digon o gartrefi i bawb. Fodd bynnag, efallai bod COVID wedi cyflwyno cyfle i feddiannu sefydliadau gwely a brecwast gwag a llety myfyrwyr.
A gaf i ofyn i chi beth yw eich cynlluniau ar gyfer sicrhau cyflenwad digonol ar ôl i'r economi agor unwaith eto? Mae eich datganiad diweddaraf yn nodi eich bod chi eisiau gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn. Onid yw creadigrwydd a phartneriaeth eisoes wedi eu hymwreiddio yn y math hwn o wasanaeth?
Mae cost ddynol digartrefedd yn enfawr, ond bydd goblygiadau gwariant ataliol cael hyn yn iawn yn dwyn ffrwyth ar draws llywodraeth leol, iechyd a'r heddlu. Roeddwn i'n hoffi yn arbennig eich sylw ar adeiladu tai cynaliadwy—
A gaf i ofyn i chi ddod i gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Rwyf i newydd ofyn dau gwestiwn—
Wel, rwy'n credu bod hynny'n iawn, felly. Diolch. Gofynnwn i'r Gweinidog ymateb. Mae eich amser ar ben. Diolch. Gweinidog, a wnewch chi ymateb, os gwelwch yn dda?
Iawn, o ran y cyllid, i fod yn glir: mae'n £20 miliwn o refeniw—£10 miliwn yn y lle cyntaf, £10 miliwn yn y gyfran hon—a £10 miliwn o gyfalaf, ac mae hynny'n ychwanegol at yr arian yr ydym ni bob amser yn ei gyfrannu i wasanaethau tai a digartrefedd. Felly, nid wyf i am i chi feddwl mai dyna'r cyfan sydd ar gael; arian ychwanegol yw hynny sy'n ategu'r arian yr ydym ni'n ei fuddsoddi eisoes. Felly, mae hynny'n swm sylweddol o arian yn gyffredinol.
O ran cyflenwad, rydych chi'n hollol gywir, Mandy, mae cost ddynol y peth yn enfawr, ac yno ond er gras Duw yr ydym ni i gyd yn mynd, a bod yn gwbl onest. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn aros mewn llety. Rydym ni'n gweithio yn galed iawn gydag awdurdodau lleol—dyna y bydd cynlluniau cam 2 yn ymwneud ag ef. Mae gan rai ohonyn nhw bobl mewn llety 'dros dro' sy'n llawer llai dros dro a byddan nhw'n gallu cynnal hynny am gryn amser. Ond rydych chi'n llygad eich lle bod rhai ohonyn nhw yn ei gael mewn sectorau sy'n wag ar hyn o bryd, ond byddan nhw yn amlwg yn awyddus i fynd yn ôl at eu grŵp craidd o gwsmeriaid ar ôl i'r cyfyngiadau symud ddod i ben. Ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn gyda'r awdurdodau lleol hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni lety priodol i symud ymlaen iddo. Rwyf i hefyd yn awyddus iawn, o ganlyniad i argymhellion y grŵp gweithredu ar dai, i sicrhau nad yw symud ymlaen yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd mwy nag unwaith, fel nad oes rhaid i bobl symud sawl gwaith oherwydd bod hynny'n peri ansefydlogrwydd mawr. Felly, rydym ni'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw naill ai yn gallu symud yn syth i lety diogel neu, yn y sefyllfa waethaf oll, unwaith eto.
Y peth arall yw, fel yr wyf i'n siŵr y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach, rydym ni'n gweithio'n galed iawn yn awr i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu sefydlu'r dulliau modern hyn o adeiladu—tai hardd—a ddeilliodd o'n rhaglen dai arloesol. Mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gall tai gael eu hadeiladu. Yn ddiweddar, fe wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles a minnau ymweld ag ysbyty maes y mae Abertawe wedi ei godi, ac mae maint hwnnw a'r modd y gwnaed hynny mewn 17 wythnos wedi bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol o ran dweud wrthym ni beth y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol i adeiladu llety gwirioneddol briodol y byddem ni i gyd yn falch o fod ynddo, cyn gynted ag y gallwn ni, i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn cael y cartrefi y byddech chi a mi yn falch o fyw ynddyn nhw.
Diolch i'r Gweinidog.