Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 3 Mehefin 2020.
Gaf i ddweud i ddechrau ei bod hi'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, cael y balans yn iawn yn ein sgrwtini rhwng edrych ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig yma ac edrych ymlaen ar y camau sy'n dal angen eu datblygu er mwyn gwarchod y cyhoedd. Dwi wedi clywed rhai'n awgrymu eto heddiw beth bynnag sydd wedi digwydd, pa bynnag gamgymeriadau gafodd eu gwneud gan Lywodraethau, wel, dyna ni, mi gawn ni ofyn hynny rywbryd eto; canolbwyntiwch yn unig ar beth all gael ei wneud rŵan.