– Senedd Cymru am 4:20 pm ar 24 Mehefin 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon y prynhawn yma drwy ddiolch i staff ein pwyllgor, y tystion a gyfrannodd at yr ymchwiliad byr hwn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor? Rwy'n credu y byddai pob un ohonynt yn dymuno i mi ddweud bod y staff wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Pan fydd hanes yr amser hwn yn cael ei ysgrifennu, credaf y bydd gwaith rhagorol a chlodwiw staff y Senedd i sicrhau bod ein democratiaeth yn parhau ar yr adeg anodd hon yn haeddu pennod ei hun fan lleiaf.
Mae gan y Llywodraeth beth amser cyn y bydd yn ofynnol iddi ymateb i'n hadroddiad wrth gwrs, ac rydym yn ddiolchgar eisoes i'r Dirprwy Weinidog am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r wybodaeth y mae wedi'i darparu. Ond roeddem am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw oherwydd natur frys yr argyfwng a wynebir gan y sector celfyddydau.
Gwyddom, er enghraifft, fod Canolfan Mileniwm Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn aros ar gau tan fis Ionawr, gan roi 250 o swyddi mewn perygl o bosibl. Ac er bod y cymorth a ddarparwyd eisoes gan gyngor y celfyddydau wedi'i groesawu, a bod rhai lleoliadau wedi gallu manteisio ar ffynonellau cymorth eraill fel y cynllun cadw swyddi, mae'n amlwg y bydd hi'n beth amser cyn y gall pob lleoliad agor, a phan allant wneud hynny, gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny'n broffidiol oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Rydym yn glir y bydd angen cymorth cyhoeddus mwy hirdymor ar y celfyddydau a'r sector diwylliannol, a dyna pam ein bod wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod hi'n bosibl na fydd ein prif sefydliadau celfyddydol yn hyfyw yn ariannol am flynyddoedd lawer ac y dylai'r Llywodraeth fod yn barod i ymestyn yr arian cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau eu bod yn goroesi.
Dyna pam ein bod wedi argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn annog y Trysorlys i adolygu'r cynllun incwm i'r hunangyflogedig fel nad yw gweithwyr llawrydd, sef asgwrn cefn digamsyniol y sector celfyddydau, yn disgyn drwy unrhyw fylchau o ran cymhwysedd, a bod Llywodraeth Cymru yn lobïo San Steffan i barhau â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig y tu hwnt i fis Hydref ar gyfer rhai sectorau lle na fydd pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Ni all ein sector celfyddydau fforddio colli'r bobl greadigol ac arloesol sy'n ei wneud yr hyn ydyw.
Mae'n bosibl na fydd lleoliadau'n gallu agor am beth amser, ond mae angen iddynt gynllunio yn awr ar gyfer yr adeg y gallant wneud hynny. A dyma pam rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar ailagor erbyn 1 Awst, er mwyn rhoi amser i leoliadau wneud unrhyw addasiadau i safleoedd ac arferion gwaith mewn modd amserol. Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor adloniant a digwyddiadau i wella cydweithredu a chydweithio rhwng y Llywodraeth a'r sector.
Ac yn olaf, Lywydd, ym maes y celfyddydau, fel ar draws y gymdeithas, mae'r argyfwng yn gyfle i ni fel cenedl ailfeddwl ac ailgyfeirio. Rydym wedi gweld gwerth cymdeithasol y celfyddydau drwy gydol yr argyfwng hwn, o berfformiadau ar-lein arloesol gan gwmnïau ac unigolion dawnus—er nad yw'r perfformiadau'n creu unrhyw refeniw, wrth gwrs, am na ellir codi tâl am y rhan fwyaf o'r rhain—i'r corau ysbyty sy'n codi ysbryd gweithwyr rheng-flaen, i enfysau'r plant sy'n addurno ffenestri ein cymdogion. Nawr yw'r adeg inni ailddatgan ein hymrwymiad i'r celfyddydau, nid yn unig oherwydd eu pwysigrwydd i'r economi, er bod hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond hefyd oherwydd eu gwerth yn ein galluogi i archwilio pwy ydym fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl, ac i archwilio'r hyn sy'n bwysig i ni.
Ac mae hi hefyd yn bryd inni fyfyrio ar yr angen i'r celfyddydau adlewyrchu ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Mae ymgyrch Black Lives Matter wedi arwain pob un ohonom i fyfyrio ar y ffaith nad oes cynrychiolaeth ddigonol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd diwylliannol, a rhaid rhoi sylw i hyn. Nawr yw'r amser inni feddwl, edrych ymlaen, a chynllunio, a dyna pam ein bod wedi argymell y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda'r sector i osod cyfeiriad polisi hirdymor sy'n gynaliadwy, yn gynhwysol, ac yn hygyrch.
Bydd arnom angen sector celfyddydau bywiog, amrywiol a chynhwysol wrth inni ymadfer fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl o'r sioc ddigynsail hon, ac ni ellir cynnal y sector hwnnw ar yr adeg hon heb gymorth sector cyhoeddus hirdymor ac ymarferol.
Rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu cyflwyno'r adroddiad hwn heddiw, Ddirprwy Lywydd. Edrychwn ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at ymateb i'r ddadl yn nes ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch. David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei holl waith fel Cadeirydd dros dro ac anfon fy nymuniadau da at Bethan? Nid wyf yn meddwl ei fod yn adlewyrchiad ar waith Helen ar hyn o bryd y byddwn yn croesawu dychweliad Bethan hefyd, ond yn y cyfamser, mae'r arweiniad a roddodd Helen i'r pwyllgor wedi bod yn allweddol i ni allu parhau â'n gwaith a chynhyrchu adroddiad mor bwysig y prynhawn yma.
Ond rwyf hefyd am ychwanegu fy niolch i holl dîm y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod i gyd fel Aelodau o'r Senedd wedi cael ein plesio'n fawr gan y ffordd y mae staff y Comisiwn wedi gweithio i sicrhau y gall cymaint o'r hyn a wnawn barhau fel deddfwrfa, yma yn y Cyfarfod Llawn ond hefyd ein gwaith pwyllgor, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am ein galluogi i barhau i weithio.
Rwy'n credu bod hwn yn faes hynod bwysig i ni edrych arno. Mae Helen Mary wedi amlinellu ein hargymhellion yn eu hanfod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hwy. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn eu gwthio ymlaen a'n bod yn gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan Lywodraeth y DU, pan fyddwn yn edrych ar gynlluniau cadw swyddi a sut rydym yn mynd i gynnal holl strwythur y sector celfyddydau yng Nghymru ond hefyd ledled y Deyrnas Unedig.
Un o'r darnau o dystiolaeth mwyaf treiddgar yn fy marn i yw mai llawer o'r cyrff sydd dan y pwysau mwyaf ar hyn o bryd wrth i'w modelau busnes gael eu tanseilio yw'r rheini, dros y 10 mlynedd diwethaf, sydd wedi arallgyfeirio, wedi cynyddu eu hincwm masnachol, wedi cynyddu masnachu, ac wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi caniatáu mwy o le i arian cyhoeddus gael ei neilltuo i feysydd eraill o'r gymuned artistig sy'n wirioneddol bwysig ond nad ydynt yn cynhyrchu cymaint o incwm. Cyfeiriodd Helen Mary at rai o'r rheini o ran y gwaith mewn gwasanaethau cyhoeddus fel ysbytai. Credaf fod honno'n neges hynod bwysig inni ei datblygu, fod yn rhaid inni gael partneriaeth sy'n caniatáu inni allu cadw cyhyrau cof ein mentrau artistig gwych, ac mae'r rhai sydd wedi gwneud cymaint i beidio â dibynnu ar arian cyhoeddus yn awr yn troi atom ni.
Fel y clywsom, nid oes unrhyw obaith y bydd cynulleidfaoedd yn dychwelyd i'r graddau sydd eu hangen i gadw canolfan y mileniwm i fynd, na nifer o leoliadau theatr eraill chwaith. Efallai y bydd modd darparu 25 y cant, 30 y cant, efallai, o gapasiti cynulleidfaol a chadw pellter cymdeithasol, ond ni fydd yn agos at y lefel sy'n angenrheidiol o ran gwerthiannau tocynnau o dri chwarter neu fwy i sicrhau y gall cynyrchiadau fantoli'r cyfrifon a chynhyrchu arian o ran darparu elw ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Felly, mae hwn yn gyfnod pwysig iawn i ni.
A hefyd, holl sgil-effaith y nifer fawr o bobl sy'n hunangyflogedig ond sy'n darparu gwasanaethau i'r gymuned artistig—y rhai sy'n ymwneud â chynyrchiadau theatr, ond hefyd, wrth edrych ar agweddau eraill ar y diwydiant creadigol, mewn teledu a ffilm ac mewn meysydd eraill. Felly, dylem gofio bod llawer o ddarparwyr bach allan yno sy'n ei chael yn anodd iawn cael mynediad at gynlluniau ar hyn o bryd a hwy yw'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o bosibl—ymhlith y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, beth bynnag—mewn cymdeithas o ran diogelwch swyddi.
Ac unwaith eto, o ran adrodd hanes y genedl ac ailddychmygu'r gorffennol a'r hyn y mae'n ei olygu i ni, sut rydym yn dysgu gwersi ohono, a sut rydym yn archwilio'r meysydd mwy anghyfforddus, ond hefyd yn dathlu'r dreftadaeth fawr sydd gennym yn ogystal, fel ein bod yn mwynhau bywyd yn y dyfodol, wyddoch chi, rwy'n credu bod COVID wedi ein hatgoffa o'r pethau sylfaenol sy'n bwysig o ran gwerth bywyd, ac mae'r celfyddydau mor ganolog i hynny. Ac rwy'n credu y byddai'n eithaf brawychus pe na baem yn gwneud y buddsoddiad hwnnw yn awr er mwyn inni allu sicrhau bod y sector yn ffynnu eto pan fyddwn wedi cefnu ar y cyfnod ofnadwy ac anodd hwn ymhen blwyddyn neu fwy, pan fydd yna ateb hirdymor iddo, neu o leiaf ffordd o fyw gyda'r clefyd heb yr effeithiau marwol. Os na chawn hynny, byddwn yn llawer gwaeth ein byd. A gadewch inni gofio bod Cymru wedi gweld y diwydiannau creadigol yn ffynnu'n fawr. Mae'n sicr yn un o'n meysydd twf ardderchog, a byddwn am iddo fod yn greiddiol i'n dyfodol economaidd unwaith eto a hefyd y ffordd rydym yn mwynhau bywyd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn gyda brwdfrydedd mawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr y cawn weld y celfyddydau'n ffynnu eto, fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol, os gwnawn y buddsoddiad hollbwysig hwn yn awr.
Bydd yr Aelodau o'r Senedd yn gwybod fy mod innau hefyd yn benderfynol o hyrwyddo'r sector celfyddydau yng Nghymru a ledled Cymru, ac rwyf wedi dadlau ers tro yn y lle hwn a thu hwnt y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mesurau gweithredol i sefydlogi iechyd y sector celfyddydau, yn dilyn degawd o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Dyna'r dirwedd roeddem ynddi. Ers i argyfwng COVID-19 fwrw ei lid ar y ddynoliaeth, rydym mewn lle gwahanol eto. Felly, rwy'n croesawu'n llawn y gwaith pwysig ac amserol gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae ei adroddiad ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau yng Nghymru yn creu problemau allweddol iawn inni yma yng Nghymru, problemau y tynnwyd sylw atynt gan eraill, gan gynnwys UK Music. Pan fydd gwledydd yn agored i bandemig cenedlaethol ac argyfwng ar y raddfa hon, mae'n briodol mai dyletswydd gyntaf un y Llywodraeth yw diogelu ei dinasyddion, ac rwy'n cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth Cymru. Ond nid yw'n ormodiaith pan fyddaf yn dweud wrthych ar gyfer y cofnod fod y sector celfyddydau bellach yn wynebu'r perygl mwyaf difrifol a wynebodd erioed, ac rwyf am roi camau anarferol ar waith fel yr Aelod Llafur a Chydweithredol dros Islwyn, a dyfynnu'n fyr o erthygl olygyddol yn ddiweddar yn The Times yn Llundain. Nododd ar 15 Mehefin:
Mewn cyfnod o berygl ac o ddathlu, mae cerddoriaeth gerddorfaol fyw yn darparu cysur ac yn meithrin gobaith. Ac eto mae'r pandemig byd-eang yn bygwth gwneud difrod terfynol i gerddorfeydd Prydain. Mewn llythyr at The Times heddiw, mae rhai o arweinyddion cerddorfeydd amlycaf y byd yn rhybuddio y gallai fod rhaid i sefydliadau cerddorol Prydain gau wrth i'r economi fethu oni bai eu bod yn cael chwistrelliad sylweddol o arian. Mae'r galwadau ar gyllid cyhoeddus yn fawr, ac eto mae cymorth brys yn yr achos hwn nid yn unig yn gyfiawn, ond fel y dywedwyd, mae'n hanfodol er lles enaid y genedl.
Felly, does bosibl fod neb yma yn y Senedd hon nad yw'n cytuno'n llwyr ag argymhellion cyntaf adroddiad Senedd Cymru, sef y dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i'w hannog i barhau'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig y tu hwnt i fis Mai 2020, a bod y cynllun cadw swyddi'n parhau y tu hwnt i fis Hydref 2020, a bod y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn cael ei ddiwygio hefyd i sicrhau nad oes unrhyw weithwyr llawrydd yn disgyn drwy'r bylchau o ran eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwnnw.
Yn 2008, achubwyd y banciau gan Lywodraeth Lafur y DU drwy roi chwistrelliad enfawr o gyfalaf iddynt. Yn 2020, mae'r sector celfyddydau yng Nghymru a'r DU yn gofyn am chwistrelliad cyfalaf ar raddfa fawr o arian Llywodraeth y DU yn bennaf, gyda chefnogaeth gref Llywodraeth Cymru a chyfeiriad strategol clir i ddilyn. Ac rwy'n dweud nad fy marn i—sosialydd o Islwyn sy'n dwli ar y celfyddydau a cherddoriaeth—yn unig yw hon. Dyma farn arweinyddion cerddorfeydd blaenllaw a meddylwyr diwylliannol, cerddorion rhyngwladol fel Nicola Benedetti a Syr Karl Jenkins a Sheku Kanneh-Mason, a gefnogodd yr adroddiad a gomisiynais, 'Gwlad y Gân'.
Wrth gloi, mae The Times yn nodi:
Bydd angen cynllunio'r economeg yn ofalus, ond mae'n rhaid rhoi lle i sefydliadau anadlu a cheisio gwneud i hyn weithio. Os byddant yn cau, bydd y golled ddiwylliannol yn anadferadwy, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn debygol o faddau i'r rhai a adawodd i hynny ddigwydd.
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru, gwlad y gân sy'n enwog am ei diwylliant, ei threftadaeth a'i cherddoriaeth, yn wynebu bygythiad diwylliannol fel nas gwelwyd erioed o'r blaen. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych arnom fel unigolion yma a chyda'n gilydd yn y Senedd hon ar yr adeg hon mewn hanes, ac yn gofyn, yn briodol, 'Beth a wnaethant i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol werthfawr ein cenedl?' Diolch.
Dwi'n credu bod angen ailasesu cefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i'r sector celfyddydau yng Nghymru. Dwi'n derbyn beth mae'r siaradwyr wedi'i ddweud ynglŷn ag ymestyn y cyfnod ffyrlo ac ymestyn y cyfnod ar gyfer rhoi cymorth i'r hunangyflogedig. Ond, dwi hefyd yn credu bod yna fwy y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud. Rydyn ni'n dal i ddisgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan ynglŷn â chymorth ariannol. Mae'n amlwg nad ydy llais y Gweinidog diwylliant yn fanno—y Gweinidog diwylliant Torïaidd—ddim yn cael ei glywed gan ei Gabinet ei hun. Felly, yn lle disgwyl am gyhoeddiad—efallai cyhoeddiad na ddaw ddim—ac wedyn yr arian dilynol, dwi'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddyfeisio pecyn cefnogaeth penodol. Mi fyddwn i'n dadlau y dylai hwnnw gael ei weld fel buddsoddiad, ac y dylai'r celfyddydau fod yn rhan gwbl ganolog o'r fframwaith ar gyfer adfer o COVID sy'n cael ei lunio gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.
Mae'r celfyddydau perfformiadol a theatrau yn dioddef yn sylweddol, efo'r incwm o'r perfformiadau byw wedi diflannu, ac mae hyn yn wir am sefydliadau cenedlaethol a chymunedol fel ei gilydd. Mae celfyddydau yn rhan allweddol o fywyd Cymru, o enaid Cymru, nid yn unig yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol, ond yn ein bywydau bob dydd. Mae celfyddydau wedi chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl i ymdopi â'r pwysau sylweddol sydd yn dod yn sgil y cyfnod cloi, ac mi fedran nhw barhau i chwarae rhan ganolog yn ein bywydau ni. Mi fedran nhw ein helpu ni i brosesu ac i fynegi'r hyn rydyn ni'n mynd drwyddo fo yn y cyfnod digyffelyb yma.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n dangos fod gwerthfawrogi'r celfyddydau a chreadigrwydd yn fuddiol ar gyfer ein lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Beth am gymryd y cyfle yn sgil yr argyfwng i wreiddio'r celfyddydau yn gadarn fel rhan o bob agwedd o'n bywydau ni, gan werthfawrogi yn llawn fod yna werth ataliol yn dod yn sgil y celfyddydau, gwerth adferol, gwerth economaidd, gwerth cymdeithasol, ac ysbrydol? Felly, mi fyddwn i'n mynd ymhellach na'r hyn sydd yn yr adroddiad. Mi fyddwn i heddiw yn galw i'r celfyddydau gael cefnogaeth fel rhan o'n cynllun positif ni o symud ymlaen allan o'r cyfnod COVID yma, fel bod y celfyddydau yn gallu chwarae rhan gwbl greiddiol yn y cyfnod yma, fel ffordd i'r sector oroesi, ond hefyd er mwyn i'r celfyddydau, i'r sector greadigol, ein helpu ni i ddeall y sefyllfa rydyn ni ynddi hi a bod yn rhan ganolog o'r broses o'n tywys ni allan o'r pandemig yma.
Diolch. Rhaid i mi alw'r Gweinidog yn awr, ac rwy'n ymddiheuro i'r bobl y nodwyd eu bod am siarad, ond dadl 30 munud yn unig yw hon. Felly, rwy'n ymddiheuro. Rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog i ymateb yn awr. Na, mae'n ddrwg gennyf—nid i ymateb i'r ddadl; adroddiad pwyllgor yw hwn. Mae'n ddrwg gennyf, Helen. Galwaf ar y Gweinidog i gymryd rhan yn y ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gaf i yn gyntaf ddiolch am y cyfle yma i ymateb i ddadl am bwysigrwydd celfyddyd yng nghanol argyfwng, safbwynt yr wyf i, wrth gwrs, yn ei gymeradwyo ac yn ei gefnogi yn llwyr?
Dwi yn derbyn bod angen i ni fel Llywodraeth ddeall bod y celfyddydau yn fwy na rhan arall o wasanaeth Llywodraeth, ond bod yna bosibilrwydd i ddefnyddio diwylliant a’r celfyddydau, yn enwedig, o bosib, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, y celfyddydau drama, ac yn y blaen, fel ffordd i adfywio bywyd pobl yn yr amgylchiadau anodd yma. Dŷn ni’n gwybod o hanes theatr ar hyd y blynyddoedd a cherddoriaeth ar hyd y blynyddoedd fod hyn yn gallu digwydd.
Dwi’n cytuno hefyd gyda’r dadleuon sydd wedi cael eu gwneud am y pwysigrwydd inni alw ar y Trysorlys. Rydym ni wedi gwneud hynny’n barod. Dwi wedi ysgrifennu at y Trysorlys ar y mater yma. Ond, a gaf i ddweud, dydw i ddim yn ystyried fy hun yn lobïo’r Trysorlys, oherwydd Llywodraeth ydym ni yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn lobïo Llywodraeth San Steffan; rydym ni’n gofyn iddyn nhw, fel hawl, ein bod ni’n cael ein cydnabod fel Llywodraeth, beth ddylai ddigwydd.
Dwi hefyd yn derbyn bod yna werth cymunedol a chenedlaethol i gelfyddyd, ac felly bod y posibiliadau o symud ymlaen drwy ddefnyddio celfyddyd yn allweddol. Dwi ddim yn cytuno bod yn rhaid inni gael grŵp gweithio penodol i wneud hyn, oherwydd dwi’n meddwl bod gyda ni o fewn y sefydliadau cenedlaethol, yng nghyngor y celfyddydau ac yn y cyrff celfyddydol eraill, y capasiti i wneud hyn, a dwi’n addo ar ôl y ddadl yma y byddaf i, unwaith eto, yn edrych ar y blaenoriaethau dŷn ni wedi eu gosod iddyn nhw.
A gaf i ddweud mor falch ydw i o glywed siarad cadarn am y gymuned ddu a lleiafrifol yng Nghymru? Dŷn ni i gyd yn lleiafrifol yn ein gwahanol ffyrdd, a dwi’n meddwl nad ydym ni wedi deall digon yn y gorffennol fod y lleiafrif du ac ethnig yn ein cenedl ni mor bwysig i ni—os caf i siarad fel hyn yn hollol blaen—â’r siaradwyr Cymraeg fel lleiafrif. Mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi ei gredu ar hyd y blynyddoedd, a rŵan dwi’n ei ddweud o fel Gweinidog diwylliant, a dwi’n bwriadu ceisio gweithredu arno fo inni ddeall o’r gwersi ynglŷn â chydraddoldeb ieithyddol fod yn rhaid inni hefyd gael yr un fath o genadwri ynglŷn â chydraddoldeb hiliol. Ac rydym ni ymhell o wneud hyn ar hyn o bryd.
A gaf i ddiolch i David Melding eto am ei sylwadau a dweud ein bod ni’n deall pwysigrwydd partneriaeth gyhoeddus a phreifat yn y celfyddydau? Dwi ddim am wneud unrhyw ddatganiad yn y ddadl fer yma am ddyfodol Theatr Clwyd na chanolfan y mileniwm, ond a gaf i ddweud ein bod ni’n gweithio’n galed fel Llywodraeth—nid oes gen i’r gyllideb yn fy adran i, ond rydym ni’n gweithio’n galed fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n gallu gofalu am y ddau sefydliad cenedlaethol yma, de a gogledd.
Mae Rhianon Passmore, fel bob amser, yn fy ysbrydoli gyda'i chariad at gerddoriaeth a'i hymrwymiad llwyr i gerddoriaeth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi unwaith eto am bwysleisio'r ffaith bod angen i ni yn Llywodraeth Cymru sefyll yn gadarn yn y sefyllfa hon a dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU ein bod yn cefnogi cerddoriaeth fyw a'n bod yn cefnogi cerddoriaeth gerddorfaol yn enwedig, sef y cyflawniad uchaf, yn amlwg, yn y sector cerddorol.
Ac yna, Siân Gwenllian yn olaf. Diolch yn fawr am y gofyniad i ailasesu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gelfyddyd. Dwi’n cymryd hwnna o ddifrif hefyd, ac mi geisiaf i ymateb iddo fo yn ystod y misoedd nesaf sydd yn weddill i mi yn y swydd yma. Dwi hefyd yn derbyn bod perfformiadau byw yn allweddol, nid jest o ran incwm i fudiadau, ond hefyd o ran profiad i bobl, a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth heddiw i weithredu o blaid y celfyddydau. Diolch yn fawr.
Diolch. Cyn i mi alw ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl, rwyf wedi cael hysbysiad o ymyriad, a chan mai dadl yw hon, fe wnaf dderbyn yr ymyriad hwnnw. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am hyn. Nid wyf wedi arfer gwneud ymyriadau ar y pwynt hwn mewn dadl, ond mae'n bwynt byr iawn y byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ei ystyried. Ar dudalen 22 yr adroddiad a groesawaf yn fawr, a diolch i Helen Mary a'i chyd-aelodau o'r pwyllgor amdano, mae Liam Evans-Ford, cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, yn galw am gyfraniad gan y bobl sy'n rhedeg y lleoliadau a'r cwmnïau i ddatblygu'r cynllun gweithredol, wrth symud ymlaen, yn hytrach na bod cyrff anweithredol yn cyflwyno fframwaith. Awgrymaf i'r Gweinidog, a minnau'n gyn-reolwr yn y celfyddydau fy hun, mai dyna'n union pwy sydd angen iddo ymwneud â hwy a gwrando arnynt, gan gynnwys pobl fel Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy'n sefydliad nid-er-elw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sy'n rhedeg lleoliadau mawr a bach, ond nid lledaenu'r celfyddydau a diwylliant yn unig yw eu hamcan, ond gwneud bywydau pobl yn well. Os gwelwch yn dda, gwrandewch ar y rhai ar hyd a lled y wlad, oherwydd hwy yw'r rhai sy'n democrateiddio diwylliant mewn un cyfuniad mawr. Diolch yn fawr iawn, Dafydd.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Un peth rwy'n ei wybod i sicrwydd yw bod llawer o bobl sy'n gweithio yn y sector yn poeni'n fawr ac yn teimlo dan lawer o bwysau ar hyn o bryd, a byddant wedi cael cysur mawr o glywed y gefnogaeth a chryfder y teimlad ynglŷn â phwysigrwydd y celfyddydau ar draws y Siambr heddiw.
Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i bawb, ond rwyf am wneud ychydig o ymatebion. Hoffwn ddiolch i David Melding am ei eiriau caredig am fy ngwaith yn cadeirio. Ni allai fod amser gwaeth, mewn rhai ffyrdd, i ddechrau cadeirio pwyllgor, ond yn sicr cefais gefnogaeth ryfeddol gan y staff a chan fy nghyd-Aelodau. Rwy'n credu bod pwynt David ynglŷn â phwysigrwydd cynnal cyhyrau cof y sector yn rhywbeth a ddeilliodd yn glir iawn o'n tystiolaeth. Os collwn y sector fel y mae gennym yn awr, bydd yn cymryd degawdau i'w ailadeiladu, os oes modd ei ailadeiladu o gwbl, ac mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, fod gweithlu'r celfyddydau yn rhyngwladol, mae'n hyblyg iawn, ac os na allwn gadw pobl yma, efallai y bydd llawer o'n talentau gorau yn dewis mynd i rywle arall.
Mae angerdd Rhianon, yn enwedig at gerddoriaeth, bob amser yn ysbrydoli. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cyfan a ddywed am ddifrifoldeb y sefyllfa, ac rwyf hefyd yn cytuno y bydd arnom angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein sector celfyddydau yn goroesi wrth iddo fynd yn ei flaen.
Roedd pwyntiau Siân Gwenllian am yr angen i ailasesu yn rhai da iawn, a dyna pam y mae'r pwyllgor wedi gofyn am gynllun cenedlaethol newydd, ffordd newydd ymlaen, wedi'i datblygu gyda'r sector, ac rwy'n cefnogi'r hyn y mae Huw Irranca-Davies yn ei ddweud am gynnwys y sector yn yr ymateb uniongyrchol a sut rydym yn adeiladu nôl yn well, ond hefyd gan edrych ymlaen at yr hyn y gallai ein celfyddydau a'n diwylliant ei olygu i ni. Wrth gwrs, fel y dywed Siân, mae arwyddocâd y celfyddydau yn ein helpu i ddeall yr hyn rydym i gyd wedi bod drwyddo ac yn ein helpu i ymadfer fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl, yn rhywbeth na ddylem golli golwg arno. Rydym ni fel pwyllgor yn cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu a buddsoddi, a'r pwynt a wnaeth hefyd am bwysigrwydd y ffaith nad y sefydliadau cenedlaethol mawr yn unig yw'r rhain, ond hefyd y grwpiau cymunedol lleol y cyfeiriodd llawer o'r Aelodau atynt sy'n dod â ni i gysylltiad â'n celfyddydau yn ein bywydau bob dydd.
A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb cadarnhaol cyffredinol? Mae'n gywir i ddweud bod y celfyddydau yn ganolog i'n bywydau, hyd yn oed yng nghanol yr argyfwng ofnadwy hwn. Rhaid i mi ymddiheuro am ein defnydd o'r gair 'lobïo'; rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am hynny. Nid ydym yn disgwyl i'n Gweinidogion lobïo Llywodraeth San Steffan, rydym yn disgwyl iddynt gael trafodaethau gyda hwy. Rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gair anghywir, ond rwy'n siŵr ei fod yn gwybod beth a olygwn. Ac rwy'n siŵr ei fod hefyd yn deall y brys am y trafodaethau hynny, a'r brys i'r sector wybod rhywbeth am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, oherwydd wrth i fis Awst nesáu a bod disgwyl i fusnesau a sefydliadau gyfrannu tuag at gost ffyrlo, y gwir amdani yw na fydd sefydliadau heb incwm yn gallu gwneud hynny, ac felly mae ein sector celfyddydau ar ymyl y dibyn yn ariannol ac rwy'n siŵr ei fod yn gwybod hynny.
Rwy'n parchu safbwynt y Gweinidog nad yw'n teimlo'r angen i sefydlu grŵp ar wahân. Wrth gwrs, byddai'n disgwyl i mi ddweud y byddwn yn craffu ar ei waith wrth iddo symud ymlaen a'i gydweithrediad â'r sector, a gwn y bydd yn croesawu'r ffaith ein bod yn gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddod â fy sylwadau i ben drwy ddweud unwaith eto cymaint y gwn y bydd y sector wedi gwerthfawrogi cywair cadarnhaol, optimistaidd ac ymroddedig y ddadl hon. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i ni maes o law, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog ei fod wedi dynodi rhai pethau cychwynnol, ond ni fyddem wedi disgwyl ymateb llawn heddiw. Ac roeddwn am wneud sylw am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd perfformiadau byw—fod hyn yn rhywbeth y mae pobl yn cymryd rhan ynddo yn ogystal â gwylio, ac mae'n anodd iawn cael hynny o sgrin. Ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am dderbyn y pwyntiau a wnaethom am yr angen i edrych eto ar amrywiaeth, ac i sicrhau bod ein dinasyddion du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol wrth galon ein bywyd diwylliannol.
Felly, gyda'r ychydig sylwadau hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn a'r cynnig hwn i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector i sicrhau bod ein bywyd diwylliannol yn cryfhau ar ôl yr argyfwng erchyll hwn.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae adroddiad y pwyllgor wedi'i nodi yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.