3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith adfer o ran llifogydd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ55315
Mewn ymateb i lifogydd a achoswyd gan storm Dennis, mae awdurdodau lleol wedi gwneud cryn dipyn o waith ledled Merthyr Tudful a Rhymni i asesu'r difrod a achoswyd ac i atgyweirio asedau lliniaru llifogydd. Mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw cynyddol wedi'i wneud ar asedau lliniaru llifogydd hefyd er mwyn lleihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn gyntaf, a gaf fi ymuno ag eraill drwy gydymdeimlo â’r bobl yr effeithiwyd arnynt eto gan lifogydd yn y dyddiau diwethaf? Mewn rhannau o fy etholaeth, nid llifogydd o afonydd yw’r unig broblem, ond mae'n ymwneud hefyd â gallu systemau draenio a chwlfertau lleol, sy’n dyddio o oes Fictoria i raddau helaeth, i ymdopi â'r tywydd eithafol sydd bellach yn ymddangos yn eithaf cyffredin. Fodd bynnag, rwy’n ategu'r pwynt a wnaethoch, ac rwy’n falch iawn o weld peth o'r dystiolaeth yn fy etholaeth o'r gwaith adfer ar ôl difrod y stormydd yn gynharach yn y flwyddyn. Ond ymddengys i mi fod gwir angen ôl-addasu rhai o'r hen systemau hyn, a buddsoddi o'r newydd mewn seilwaith draenio cynaliadwy. Felly, pa le pellach sydd yna i weithredu lleol wedi'i dargedu i ategu'r cynlluniau mwy sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd?
Diolch, Dawn Bowden, ac yn sicr, mae cryn dipyn o le i wneud hynny, a gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn caffael ymgynghorwyr i ddatblygu pum cynllun, a nodwyd fel yr amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n wynebu'r risg fwyaf, ond maent hefyd wedi cwblhau'r gwaith o adnewyddu cwlfert toredig y gwyddys ei fod wedi arwain at lifogydd mewn 10 eiddo yn ardal Ynysowen. Felly, mae'n dda iawn gweld y math hwnnw o waith rhagweithiol gan y cyngor, ac maent hefyd wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr i ddechrau gwaith datblygu ar waith cyfalaf lle cafwyd llifogydd mewn 170 eiddo yn ystod storm Dennis. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi, roedd y llifogydd a welsom yr wythnos diwethaf yn gwbl dorcalonnus, ac yn enwedig mewn ardal fel Pentre, nad yw yn eich etholaeth chi, rwy'n gwybod, ond fe gawsant lifogydd, a gwn fod tai yn eich etholaeth chi wedi dioddef llifogydd sawl gwaith hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i gael y cynlluniau, gan fod y cyfalaf ar gael gennym ar gyfer y cynlluniau hynny, ac rwyf bellach yn ariannu'r math o waith paratoi 100 y cant, gan y credaf fod awdurdodau lleol wedi dweud wrthym y gallai hynny fod yn rhwystr, felly rydym yn ariannu'r holl waith paratoi hwnnw 100 y cant bellach, felly anogwch yr awdurdod lleol i gysylltu. Ni chredaf ein bod wedi cael unrhyw gynigion gan Ferthyr Tudful mewn perthynas â'r cymorth ariannol a gynigiwyd gennym drwy'r rhaglen rheoli perygl llifogydd, ond rwy'n dal yn agored i ystyried ceisiadau o'r fath.