Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 24 Mehefin 2020.
Mae o wedi cael ei ddweud gan eraill, mi wnaf innau ddweud hefyd: dwi'n sylweddoli bod y gyllideb atodol yma yn cael ei chyhoeddi mewn amgylchiadau cwbl digynsail. Mae yna dros £2 biliwn o arian ychwanegol wedi dod i mewn i Gymru yn arian canlyniadol oherwydd yr ymateb i COVID-19 ar lefel Brydeinig. Mi fyddai swm ychwanegol o'r math hwnnw fel arfer yn cynnig bob mathau o opsiynau ar gyfer gwariant ond, wrth gwrs, y gwir amdani ydy bod yr arian hwnnw wedi bod at bwrpas penodol iawn yn yr achos yma—yr ymateb uniongyrchol a'r ymateb acíwt, wrth gwrs, i'r pandemig, ac mi fydd angen rhagor hefyd yn y misoedd i ddod.
O ran yr arian sydd wedi dod, rwyf innau'n nodi mai dim ond arian canlyniadol o brif amcangyfrifon sydd wedi cael ei gynnwys yn y gyllideb atodol yma, a bod gwariant arall yn Lloegr y tu allan i'r prif amcangyfrifon hynny wedi cael ei adael allan. Dwi'n gweld bod tîm ymchwil fiscal Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif y gallai fod cymaint â £400 miliwn yn ychwanegol i ddod, felly mi gawn ni edrych ymlaen at gyllideb atodol arall i weld yr arian hwnnw yn cael ei ddyrannu.
Mae yna gwestiynau pwysig iawn, dwi'n meddwl, yn codi yma o ran sut y cyrhaeddwyd at y ffigurau o ran arian canlyniadol i Gymru. Mae yna gwestiynau, fel rydyn wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn â natur y drafodaeth rhwng Llywodraethau Cymru â'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lefel y gefnogaeth sydd ei angen ar Gymru, efo pobl hŷn yn gyffredinol dlotach, ac o ystyried y grwpiau sydd wedi bod fwyaf agored i newid yn y pandemig yma, mae angen gofyn pa fesur sydd yna wedi bod o wir anghenion Cymru.
Ond dwi yn derbyn, fel y dywedais, fod rhelyw'r arian sydd wedi dod wedi mynd ar bethau—wedi gorfod mynd ar bethau adweithiol, angenrheidiol. Ond hyd yn oed ar yr amser yma, fy apêl i ydy hyn: mae angen inni allu gweld arwyddion gan Lywodraeth Cymru o arian yn cael ei wario mewn ffordd ragweithiol wrth inni edrych ymlaen i'r cyfnod ar ôl COVID, ac mi fydd yna waith i ymateb i broblemau sy'n cronni o ran iechyd y cyhoedd, problemau iechyd meddwl, oherwydd ffactorau llesiant, a'r heriau sydd wedi codi o ran hynny. Hefyd, wrth reswm, bydd y gwaith enwog yna o ailadeiladu economi, creu cyfleon swyddi newydd i'r rhai sydd wedi teimlo'r ergyd economaidd galetaf. Rydyn ni angen pecynnau wedi cael eu teilwra yn ofalus iawn i'r anghenion fydd gennym ni. A hefyd dwi'n cytuno efo'r pwynt gafodd ei wneud gan Llyr Gruffydd y bydd angen gwneud yn siŵr bod yna fuddsoddiad priodol yn mynd i mewn i sicrhau bod yr adferiad yn un gwyrdd, sydd wedi bod yn thema dwi wedi bod yn falch iawn o'i gweld yn cael ei hamlygu dros y misoedd diwethaf.
Dwi am symud ymlaen drwy gyfeirio at yr angen i edrych o'r newydd ar rai o elfennau sylfaenol y berthynas fiscal rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, a'r ddadl gryfach nag erioed rŵan, dwi'n meddwl, i roi llawer mwy o hyblygrwydd i'r rheolau hynny, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn cytuno efo fi ar lawer o hyn. Mae yna bwysau o ran cyllidebau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ond mae yna arian wrth gefn—heb ei ddyrannu, wrth gwrs—a dwi'n cytuno efo'r angen i alluogi Llywodraeth Cymru i gael mwy o fynediad at yr arian hwnnw. Un o'r pethau rydyn ni angen gweld cynnydd yn y gwariant arno fo yn y misoedd i ddod ydy ar waith olrhain gan lywodraeth leol. Mae'r cynghorau wedi gwneud gwyrthiau hyd yma yn tynnu staff i mewn ar draws eu gweithlu i wneud gwaith olrhain, ond gall hynny ddim para'n hir iawn. Pan fydd staff yn gorfod mynd yn ôl i'w swyddi arferol nhw, mi fydd cynghorau angen arian ychwanegol sylweddol i gyflogi staff proffesiynol i wneud y gwaith olrhain. Mae angen llacio rheolau benthyg hefyd. Er enghraifft, mi fyddwn ni am i Lywodraeth Cymru fanteisio ar hawliau benthyg llawer ehangach. Mae'n amser da iawn i fenthyg, i fuddsoddi ymhob agwedd ar isadeiledd cenedlaethol Cymru, ac rydyn ni angen yr hwb yna beth bynnag, neu mi oedden ni ei angen o cyn hyn—mae o'n fwy allweddol fyth rŵan i wneud y buddsoddiad yna yn ein dyfodol ni. A dwi'n meddwl bod eisiau llacio'r rheolau ar ganiatáu defnyddio'r cyllidebau cyfalaf ar gyfer gwariant refeniw hefyd. Mae yna sawl elfen i hyn.
Felly, i gloi, mi ddechreuais i drwy ddweud bod y rhain yn ddyddiau digynsail, a beth sydd ei angen ar adegau felly, fel arfer, ydy arloesedd a pharodrwydd i newid. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn cytuno efo fi ar lawer o hynny. Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb atodol, ar y bleidlais ei hun, ond mi fyddwn ni'n cefnogi, yn sicr, y Llywodraeth yn ei hymdrechion i fynd ar ôl y math o newidiadau i reolau fiscal y mae'r Gweinidog yn eu cefnogi, ac mi fyddwn ni'n annog y Llywodraeth hefyd i fod yn ddewr ac i fynd ymhellach a chwilio am gyfleon newydd i ailosod y berthynas yna rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth.