Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 24 Mehefin 2020.
Byddwn ni yn y grŵp Brexit hefyd yn ymatal ar y gyllideb atodol yn hytrach na phleidleisio yn erbyn. Yn gyffredinol, fel y dywedodd y Gweinidog, newidiadau bach technegol a mân ydynt, ond mae'n unrhyw beth ond hynny y tro hwn. Hynny yw, y ffigurau'n unig: £2.1 biliwn—mae ychwanegu 10 y cant at y gyllideb mewn ychydig fisoedd yn unig yn gwbl eithriadol.