Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 24 Mehefin 2020.
Rwyf am ystyried yr hyn y credaf ei fod yn wahaniaeth pwysig rhwng y ffordd rydym yn cyllidebu yng Nghymru a'r modd y caiff ei wneud ar lefel y DU, yn enwedig mewn argyfwng fel hwn. Mae'n fy nharo i fod Llywodraeth y DU wedi ystyried ac wedi gwneud ei phenderfyniadau ynglŷn â pha wariant y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol—weithiau ar draws y DU, ac efallai'n amlach ar gyfer Lloegr. Ac yna, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, mae'n benthyca wedyn neu'n sicrhau bod pa arian bynnag sydd ei angen yn cael ei argraffu. Ond yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw sicrhau mai'r asesiad o'r gwariant angenrheidiol sy'n llywio'r penderfyniad ynglŷn â faint sy'n cael ei wario. Ond yng Nghymru, rwy'n credu bod rhywfaint o ailflaenoriaethu wedi bod, ac rwy'n cefnogi llawer o'r hyn sydd wedi digwydd. Ond mae llawer o'r hyn rydym wedi'i wneud wedi bod yn adwaith i symiau canlyniadol, felly yn hytrach na phenderfynu pa arian y mae angen inni ei wario, ac yna sut i'w gyllido, rydym yn aros i weld faint o arian y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu sydd angen ei wario yn Lloegr, a chawn swm canlyniadol wedyn, a byddwn yn edrych ar wario hwnnw. Felly, mae'n groes i'r ffordd y caiff y broses ei gwneud. A tybed: a oes perygl yn y broses honno, yn enwedig pan fyddwn yn dyrannu cymaint o wariant canlyniadol mor gyflym o'i gymharu â'r hyn rydym wedi arfer ag ef, nad oes gennym yr un graddau o reolaeth a ffocws ar werth am arian ag y byddai gennym fel arall. Rwy'n credu efallai fod hynny'n ddealladwy o dan yr amgylchiadau, ond efallai hefyd fod yna rywbeth am ein proses a'n gwaith craffu nad yw wedi'i sefydlu cystal ar gyfer newidiadau gwariant o'r maint hwn na'r hyn a fyddai gennym fel arfer. Ac ar y Pwyllgor Cyllid, credaf ein bod wedi derbyn yr agwedd bragmatig y mae'r Gweinidog wedi'i mabwysiadu a'i pharodrwydd i ymgysylltu. Ac fel hithau, rwy'n croesawu'r ddadl a gawn ar 15 Gorffennaf, gan edrych ymlaen at weld beth fydd y blaenoriaethau gwario, ac rwy'n gobeithio y bydd siarad nid yn unig am y pethau yr hoffem eu gweld, ond hefyd am y cyfaddawdu anochel sy'n gysylltiedig â hynny.
Rwy'n credu ei bod yn hawdd i ni fel ACau unigol fynd at y Gweinidog a chynrychioli etholwyr penodol neu sectorau penodol sy'n dod atom a dweud, 'Wel, mae hyn a'r llall wedi cael help, ond nid oes ganddynt gymaint yn y maes hwn—oni ddylai mwy gael ei wneud?' A phenllanw'r ymagweddau hynny yw llawer mwy o wario. A chefais fy nghalonogi'n fawr gan beth o'r hyn a ddywedodd Mark Drakeford yn gynharach wrth ymateb i Suzy Davies. Yr enghraifft benodol oedd parciau carafannau, ond gallai fod wedi bod yn bob math o wahanol feysydd. Ac yn blwmp ac yn blaen, os yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio cofrestru ar gyfer TAW fel ffordd o sicrhau o leiaf rywfaint o reolaeth ariannol a rheolaeth archwilio ar wariant, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu. O safbwynt archwilio, mae'n her i ddod o hyd i fesurau ffwrdd-â-hi ond defnyddiol er hynny. Ac efallai ein bod yn derbyn y bydd cryn dipyn o arian, mewn rhyw ffordd o leiaf—pan fydd y cyfan yno o hyd, hyd yn oed yn y fan honno, mae'n cefnogi pobl sydd angen y cymorth hwnnw, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio i gynnal eu busnes yn llwyddiannus yn y pen draw. Ond rwy'n tybio, ar ôl hyn, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dod o hyd i enghreifftiau eithaf sylweddol a mawr, nid yn unig o'r math hwnnw o wariant, ond hefyd o wariant sydd o leiaf, gellir dadlau, yn dwyllodrus. Ac rwy'n credu bod angen inni barhau i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gael rhyw raddau o oruchwyliaeth a rhywfaint o sicrwydd, a gwneud y penderfyniadau gorau y gall eu gwneud ynglŷn â sut i wneud hynny mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
A gaf fi ofyn ar yr ochr iechyd—nid wyf yn credu y byddai neb yn beirniadu'r Gweinidogion na'r byrddau iechyd am y gwariant a welsom ar yr ysbytai Nightingale fel y'u gelwir—y mwyaf yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd—a'r ffordd, i bob pwrpas, nad ydynt wedi cael eu defnyddio i raddau helaeth. Ond wrth edrych yn ôl ar hynny, a oes gwersi y gellir eu dysgu'n fuddiol o hyd i'w cymhwyso ar yr adeg hon yn yr argyfwng, yn hytrach na rhywbeth ar gyfer ymchwiliad yn nes ymlaen? Soniodd y Gweinidog am £57 miliwn, rwy'n credu, ar gyfer profi, olrhain a diogelu. Credaf fod elfennau o hynny wedi bod yn eithaf da yng Nghymru—defnyddio staff y sector cyhoeddus, rwy'n credu, o gymharu â chyflogi pobl nad ydynt wedi cael cymaint o hyfforddiant o'r sector preifat yn y tymor byr, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU. Efallai fod hynny'n gweithio'n fwy effeithiol, er yr hoffwn astudio hynny ymhellach. Ar y llaw arall, yn gynharach yn y broses, faint o arian a wariwyd ar brofi, a'r ffocws ar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud y profi hwnnw—byddwn yn cwestiynu a oedd hynny'n dangos gwerth da am arian. Gwelsom lawer llai o brofi nag yn Lloegr, ac rwy'n credu ein bod wedi gwario llawer mwy o arian hefyd, heb fawr o effaith, neu heb yr effaith y byddem wedi'i hoffi o ran profi, oherwydd roeddem yn ceisio cynhyrchu hynny i gyd yn fewnol, o fewn y sector cyhoeddus, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn hytrach na mynd at y sector preifat a'r sector prifysgolion yn gynharach.
Yn olaf, hoffwn nodi bod yna rai newidiadau o ran cyfraddau treth incwm Cymru a threth trafodiadau tir, ond rwy'n amau a yw'r rheini'n ddigonol, o ystyried maint y cyfyngiadau symud a'u parhad yng Nghymru, ac yn arbennig ar ochr y dreth trafodiadau tir. Soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, er bod rhai pobl yn dweud bod y farchnad dai yn ailagor yng Nghymru chwe wythnos ar ôl Lloegr, mewn perthynas â dangos tai o leiaf, mae hynny'n dal i olygu eiddo gwag yn unig. A yw'r Gweinidog wedi ystyried hyd yn oed yn awr pa leihad pellach y gallem eu gweld yn y dreth trafodiadau tir ac yng nghyfraddau treth incwm Cymru oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud? Ac yn y pen draw, fel y dywedodd Nick Ramsay ar ddiwedd ei araith, sut rydym yn mynd i dalu amdano wedyn? Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi datganoli pŵer, nid yn unig i dorri 10 y cant oddi ar y dreth incwm, ond i'w chodi heb unrhyw gyfyngiad o gwbl, ac rwy'n poeni nad ydym yn cysylltu goblygiadau ein penderfyniadau â'r hyn fydd y canlyniadau ariannol yn nes ymlaen. Diolch.