Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Gan fod yr economi a'r sector sgiliau yn cydblethu, mae newyddion drwg i'r economi, yn anffodus, yn newyddion drwg i sgiliau. Wrth i mi sôn am sgiliau, rwy'n credu yr hoffwn i'n gyntaf gydnabod y rhan allweddol y mae'r prentisiaid iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i chwarae mewn ymdrech i gyfyngu'r pandemig ac ymateb iddo. Roedd y tystion yn awyddus i ddweud wrthym sut yr oedd prentisiaid wedi ymateb i'r her dros yr ychydig fisoedd diwethaf a faint o ymdrech yr oedden nhw wedi bod yn ei rhoi i'r ymateb cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn dymuno ymuno â mi i gymeradwyo'r ymdrechion hyn. Fodd bynnag, bydd y llwyth gwaith ychwanegol hwn yn effeithio ar iechyd a lles y prentisiaid, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth gefnogi pob un o'n prentisiaid drwy'r amseroedd hyn, a chlywodd y pwyllgor fod llawer o brentisiaid wedi eu rhoi ar ffyrlo a bod rhai prentisiaid wedi eu diswyddo. Bydd bod ar ffyrlo ac, wrth gwrs, cael eu diswyddo yn effeithio ar eu lles eu hunain.
Gan edrych i'r dyfodol, rwy'n pryderu, ac fel pwyllgor rydym ni'n pryderu, ynghylch y cynydd sydyn sy'n dod i'r amlwg mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth y bydd cyflogwyr yn chwilio am brofiad, felly bydd pobl sy'n gadael addysg yr haf hwn dan anfantais mewn marchnad lafur sydd eisoes yn isel. Felly, gan fod cyfnod o ddiweithdra yn debygol o adael craith ar ddyfodol person ifanc, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, yn fy marn i, ymyrryd drwy ddatblygu cymorth sgiliau i roi'r profiad i bobl ifanc sydd ei angen arnyn nhw i gystadlu. Fodd bynnag, mae cyfle yma hefyd. Gellir defnyddio'r sector sgiliau i helpu i ysgogi twf economaidd a hyfforddi pobl ar gyfer swyddi sgiliau uchel â gwerth ychwanegol uchel.
Wrth i Gymru lacio'r cyfyngiadau symud, bydd cynnal diogelwch a rheoli gyda llawer llai o refeniw tocynnau yn her enfawr i'r gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn anffodus, mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch marwolaethau coronafeirws yn dangos bod gyrwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig o agored i'r risg o'r pandemig. Ac mae hyder y cyhoedd mewn diogelwch, wrth gwrs, yn bwysig hefyd. Mae ymchwil Transport Focus yn dangos na fydd tua thraean o deithwyr yn dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus nes eu bod yn teimlo'n ddiogel, ac, er mwyn cynnal trefniadau cadw pellter cymdeithasol diogel, bydd bysiau a threnau yn cael eu cyfyngu i ryw 10 y cant i 20 y cant o'u capasiti arferol. Yn wir, dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod hynny'n golygu y bydd bws deulawr sydd fel arfer yn cludo 70 o deithwyr dim ond yn gallu cludo 20. Nid yw tacsis na cherbydau hurio preifat yn addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol am resymau amlwg, ac roedd cynrychiolwyr undebau o'r farn y dylid rhoi sgriniau ar ddull cabiau du i'r gyrwyr i'w hamddiffyn eu hunain ac i hybu hyder teithwyr. Er y bydd trafnidiaeth gyhoeddus leol yn gweithredu ar lai o gapasiti, bydd eu gorbenion yn aros yr un fath i raddau helaeth, gan achosi pwysau ariannol i weithredwyr. Dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod angen eglurder ar frys ynghylch dyfodol y cyllid ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd gwasanaeth pleidleisio Transport Focus fod bron i hanner y defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn bwriadu defnyddio eu ceir yn fwy, felly rwy'n credu bod hwn yn fater o bwys i'r pwyllgor. Bydd hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau a chapasiti trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i osgoi mwy o dagfeydd ac allyriadau carbon deuocsid ac ansawdd aer is, a byddai newid tymor byr i deithio mewn ceir yn datblygu i fod yn ymddygiad rheolaidd. Fodd bynnag, yn yr un modd â'r economi a'r sector sgiliau, mae cyfleoedd ar gael yma hefyd. Mae pobl yn agored i'r syniad o deithio llesol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded ac yn rhedeg a beicio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae siopau beiciau yn gwerthu eu holl stoc ledled y DU ac Ewrop, felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu i gynnal y momentwm hwnnw a chefnogi'r newid moddol i sicrhau bod cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn dewis teithio llesol yn lle eu ceir.
I grynhoi fy sylwadau agoriadol, Dirprwy Lywydd, er bod yr argyfwng iechyd, gobeithio, wedi ei reoli, fe'i disodlwyd gan argyfwng economaidd ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wario cymaint o ymdrech i fynd i'r afael â hynny ag â'r feirws. Er fy mod i'n cefnogi dyhead y Gweinidog i ailadeiladu'n well, mae gwir angen i ni weld manylion yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol digynsail ac mae her enfawr wedi ei chyflwyno i ni. Fodd bynnag, gyda'r her honno daw cyfres unigryw o gyfleoedd i ailgynllunio ein heconomi, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n sector sgiliau er gwell, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrth gwrs fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau y prynhawn yma.