Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
'Education is...the soul of a society as it passes from one generation to another.'
Geiriau G.K. Chesterton yw'r rhain, ac maen nhw'n wir: dylai'r gwersi yr ydym yn eu dysgu i'n plant a'n pobl ifanc adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, a dylen nhw fod wedi'u gwreiddio yn straeon ein gorffennol—y da a'r drwg.
Er bod llawer y mae Plaid Cymru yn ei groesawu yn y cwricwlwm newydd, rydym ni'n teimlo'n angerddol y dylai'r ffordd y caiff hanes ei addysgu gynnwys elfen orfodol sy'n ystyried adegau allweddol yn hanes ein cenedl. Os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am yr adegau hyn, gallem amddifadu cenedlaethau o bobl ifanc a'u hatal rhag cael synnwyr o'u hunaniaeth eu hunain. Mae hynny mor wir am ddigwyddiadau fel boddi Capel Celyn a Therfysg Merthyr ag y mae am hanes Tiger Bay a therfysgoedd hil 1919.
Mae'r cynlluniau presennol yn seiliedig ar addysgu plant am eu hanes lleol. Rwyf yn croesawu hynny. Ond mae angen i ni gofio hefyd nad oes y fath beth â hanes lleol yn unig; hanes heb unrhyw gysylltiad â'r cyd-destun cenedlaethol neu ryngwladol ehangach. Yn ogystal â dysgu am ein hanes brodorol, dylai'r cwricwlwm newydd gwmpasu'r rhan y mae Cymru wedi'i chwarae yn hanes y byd. Defnyddiwyd y glo a gollodd waed cymaint o lowyr yn Senghennydd ac Abertyleri i bweru peiriannau'r ymerodraeth, ac fe dreiddiodd caethwasiaeth i ewynnau cymdeithas Cymru hefyd. Fe wyddom, er enghraifft, bod teulu Pennant, perchnogion ystâd Penrhyn, hefyd yn berchenogion ar un o'r ystadau mwyaf yn Jamaica, ac mae peth o'r elw a ddeilliodd yn uniongyrchol o gaethwasiaeth wedi ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru.
Mae cysgodion mwy diweddar hefyd yn achos pryder. Yr wythnos hon, cafodd y murlun 'Cofiwch Dryweryn' ger Aberystwyth ei fandaleiddio gyda swastika a symbol pŵer gwyn. Fe baentiwyd drostynt yn gyflym, gan roi neges brydlon nad oes croeso i hiliaeth na chasineb yn ein cymunedau, ond ni allwn ychwaith anwybyddu'r ffaith fod y symbolau atgas hynny wedi eu paentio yno yn y lle cyntaf. Mae angen i ni ddysgu plant am agweddau mwy hyll ein hanes er mwyn sicrhau nad yw pethau o'r fath yn digwydd.
Ond, ceir hefyd gymaint o straeon o ddewrder ac amrywiaeth gydnerth wedi'u canoli ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru. Nid straeon am ormes yn unig yw'r rhain. Dylai ein plant ddysgu am bobl cymunedau fyrdd sy'n ffurfio Cymru ac sydd wedi chwarae rhannau allweddol ym mhenodau ein hanes cyffredin. Oherwydd caiff pwy ydym ni ei ffurfio gan bwy oeddem ni a'u lunio gan y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a rhai o'r gwersi yr ydym eto i'w dysgu.