11. Dadl Plaid Cymru: Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:54, 1 Gorffennaf 2020

Mae cymaint i blant Cymru ymfalchïo ynddo, cymaint i lefain drosto, cymaint i deimlo edifeirwch amdano. Ond, eu straeon nhw ydy'r rhain i gyd, ac er mwyn dysgu o'n hanesion ni fel cenedl mae'n rhaid i blant Cymru ddeall haenau yr hanesion hynny. Wedi'r cwbl, mae'r gair 'Cymru' yn golygu plethiant, cymysgedd, pobl yn byw gyda'i gilydd. Palimpsest o straeon amryw, amryliw ydyn ni oll. Ac os ydyn ni, fel deddfwriaethwyr, am ddysgu gwers arall o hanes ein gwlad, pwysigrwydd a bregusrwydd tynged yr iaith ydy'r wers honno.

Gwnes i ddechrau'r araith fer hon gyda geiriau G.K. Chesterton oedd yn dweud mai enaid cenedl yw ei addysg. Wel, os taw addysg yw ein henaid, ein calon ydy ein hiaith. Fel mae’r hen ddihareb yn dweud,  'cenedl heb iaith, cenedl heb galon'. Dyna'n hetifeddiaeth. Os ydyn ni am weld twf yn y Gymraeg ac nid llithro nôl, mae angen inni ddiogelu statws yr iaith yn ein cwricwlwm. Mae gosod addysg cyfrwng Saesneg fel yr opsiwn rhagosodedig i blant hyd at 7 mlwydd oed yn gam niweidiol sy’n groes i bolisi'r Llywodraeth o hybu'r iaith. Ac os bydd gan fyrddau llywodraethwyr unigol y pŵer i wneud penderfyniadau ar y cwricwlwm, gall hyn arwain at amddifadu rhai disgyblion rhag cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

Mae angen arweiniad cenedlaethol ar addysg genedlaethol. Os bydd yr iaith yn cael ei cholli, bydd colled i bob un ohonom ni, nage dim ond y rhai sy'n siarad Cymraeg, ac ni ddaw hi nôl. Felly, rwyf yn erfyn ar y Llywodraeth: byddwch yn wyliadwrus; cefnogwch ein cynnig; cefnogwch blant Cymru; a chefnogwch ein hiaith.