Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Does dim amheuaeth bod dysgu ein hanes ni i gyd yn gymaint gwell heddiw nag y bu yn y gorffennol, ac mae arferion addysgu gwych yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Y broblem i ni yw nad yw'n gyson. Gallwn ni sicrhau bod yr arfer gorau hwnnw yn gallu bod o fudd i bob plentyn, ble bynnag y mae'n byw. Gyda datblygiad y cwricwlwm newydd, mae gennym ni gyfle i ymuno â'r rhai hynny sydd ar y blaen ym maes addysg flaengar ac addysgu ystod ehangach o hanes i bob disgybl, gan gynnwys hanes Cymru, a ddylai gynnwys hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac o Gymru, oherwydd, yn syml iawn, yr hanes hwnnw yw hanes Cymru. Ac rwyf eisiau gweld hanes yn cael ei addysgu o safbwynt menywod a'r dosbarth gweithiol, hefyd. Pan ddaw i hanes, mae'n rhaid i ni gynnwys y cyfan i gyd—y da, y drwg a'r hyll. Mae angen i ni siarad am ymerodraeth, mae angen i ni siarad am gysylltiadau Castell Penrhyn â phlanhigfeydd yn Jamaica, y gwaith copr yn Nyffryn Maesglas yn Nhreffynnon a gynhyrchodd freichledau a ddefnyddiwyd i brynu caethweision, neu deulu Grenfell Abertawe, a fu'n ymwneud yn ddwfn â'r fasnach gaethweision yn El Cobre, Ciwba. Mae angen i ni siarad am gyfraniad cadarnhaol ein cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwyngalchu etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru drwy hepgor cyfraniad cymuned unigryw Tiger Bay yn golygu bod yr anwybodaeth yn parhau. Mae'r morwyr a'r gweithwyr o dros 50 o wledydd a ymsefydlodd yn y gymuned o ganlyniad i'r dociau prysur yn ganolog i ddatblygiad de diwydiannol Cymru. Ond er cymaint y mae hwn yn fater o gynrychiolaeth, mae hefyd yn fater o amddiffyn grwpiau lleiafrifol yng Nghymru. Yn yr un modd â phenderfyniad y Gweinidog i wneud addysg rhyw a pherthnasoedd yn statudol, mae hyn hefyd yn ymwneud â diogelu pobl a deall lleiafrifoedd. Bydd yn cynnig cyfleoedd i herio hiliaeth a senoffobia, ac, fel y dengys gwaith diweddar yr ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mae hynny'n hanfodol.
Wrth i hiliaeth a gwahaniaethu ar sail crefydd dyfu mewn ysgolion, gallwn hefyd weld yr effeithiau yn ein system cyfiawnder troseddol. Oni fyddai mwy o ddealltwriaeth yn gwneud gwahaniaeth i achosion drwg-enwog fel un Tri Caerdydd: tri dyn du a gafwyd yn euog yn anghyfiawn o lofruddiaeth yn 1987, yn union ar garreg drws y Senedd? Fe'i hadnabyddir fel un o'r achosion gwaethaf o anghyfiawnder yn hanes system cyfiawnder troseddol Prydain, ac eto nid yw'r gynrychiolaeth anghymesur o bobl dduon ym mhoblogaeth ein carchardai, y tangynrychiolaeth o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi o awdurdod, a thriniaeth wael pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan yr heddlu mewn gormod o achosion wedi'u cyfyngu i hanes. Mae'r ystadegau'n dangos faint o broblem yw hyn o hyd heddiw. Gallai ymwreiddio gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm fod yn un cam bach ond arwyddocaol i'w gymryd i ddileu gwahaniaethu systemig a strwythurol yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd ar ein deddfwrfa a'n Llywodraeth i sicrhau y caiff ei ymgorffori yn y gyfraith.
Ni allwn ddiystyru elfennau anghyfforddus ein hanes nac, yn wir, ein presennol, dim ond oherwydd y gallen nhw wneud i ni deimlo'n lletchwith. Bydd bod yn onest, yn agored ac yn barod i wrando, herio a chymryd camau i newid sefyllfa pobl sy'n wynebu gwahaniaethu yn ein gwneud ni, fel cenedl, yn fwy ymwybodol o elfennau o ragfarn ac anghydraddoldeb yn ein cymdeithas a'n cymunedau, y mae angen eu hunioni. Mae Plaid Cymru yn credu bod y cwricwlwm newydd hwn yn cynnig cyfle i ni unioni llawer o anghyfiawnderau strwythurol yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na chaiff y cyfle ei golli.