Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:07 am ar 1 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, mae'n cael ei adrodd heddiw bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi sicrhau bron holl stociau un o'r ddau gyffur y dangosir eu bod o gymorth i gleifion COVID-19 ar hyn o bryd. Dywedodd y Tŷ Gwyn ei fod wedi prynu mwy na 500,000 cwrs o remdesivir, cyffur gwrthfeirysol y mae treialon yn awgrymu sy'n helpu rhai cleifion i dreulio llai o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyflenwadau a fydd yn cael eu gweithgynhyrchu y mis hwn, yn ogystal â 90 y cant o'r rhai a ddisgwylir ym mis Awst a mis Medi. Mae gan gytundebau unochrog o'r fath oblygiadau amlwg i gleifion yn Islwyn a ledled Cymru, felly pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflenwad effeithiol o feddyginiaethau yn y pandemig byd-eang hwn?