Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:21 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Gallaf roi'r sicrwydd iddi fod y blaenoriaethau a'r egwyddorion hynny'n dal i fod yn sylfaenol i'n dull ni o weithredu. Gwn fod Julie Morgan wedi ysgrifennu at Lynne Neagle yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis diwethaf, a disgrifiodd y gwaith o ran lleoliadau addysg a gofal plant ynghylch asesiadau effaith er mwyn deall yn llawn yr effaith ar blant yn sgil y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn yr ardal honno. Gobeithio y bydd hi hefyd wedi gallu gweld y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun, sy'n rhoi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r ystyriaethau hynny. Ond rwyf yn awyddus iawn i roi sicrwydd iddi hi fod yr ystyriaethau hynny'n sylfaenol i'r penderfyniadau a wnawn ac, unwaith eto, yn un o'r materion allweddol sy'n ymwneud â rhoi blaenoriaeth i blant allu dechrau dychwelyd i'r ysgol ddechrau'r wythnos hon.