Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:20 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae Jenny Rathbone yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hawl plant i gael addysg, sydd wedi'i hymgorffori nid yn unig yn CCUHP, ond yn ein Mesur hawliau plant ni ein hunain. Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi wedi cwrdd â grŵp monitro CCUHP yn ystod y pandemig, ac un o'r pryderon yr wyf i wedi'i gael yw, pan wyf wedi cyflwyno cwestiynau yn gofyn sut mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod cyfyngu symudiadau, mai prin iawn yw'r dystiolaeth o allu Llywodraeth i ddangos eu cyfrifiadau yn y maes hwn. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y byddwch chi, wrth symud ymlaen, yn sicrhau bod yr asesiad priodol o'r effaith ar hawliau plant ac ystyriaethau eraill sy'n ymwneud â hawliau plant yn cael eu blaenoriaethu mewn gwirionedd, fel y gallwn ni roi plant sydd wedi dioddef cymaint yn y pandemig hwn wrth wraidd ein penderfyniadau? Diolch.