Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:38 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, a hefyd am agwedd gyson ac adeiladol Llywodraeth Cymru at y mater pwysig iawn hwn. Mae'n cyfeirio at y camau cyfreithiol parhaus. A yw ef yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn yn awr a chyflwyno cynllun iawndal priodol cyn cymryd camau cyfreithiol pellach? Maen nhw wedi dangos eu bod yn barod i wneud buddsoddiadau sylweddol iawn i ddiogelu ein heconomi, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Yng nghyd-destun y gallu a'r parodrwydd hwnnw i wneud y buddsoddiad anhygoel hwnnw, a yw ef yn cytuno â mi ei bod yn bryd iddyn nhw wneud buddsoddiad tebyg i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder a wynebwyd gan fenywod a anwyd yn y 1950au? Ac a yw ef hefyd yn cytuno â mi y byddai budd ychwanegol, wrth gwrs, i wneud hynny, gan y byddai'n galluogi rhai o'r menywod hynny i ymddeol fel yr oedden nhw wedi bwriadu ei wneud, gan ryddhau swyddi yn y gweithlu o bosibl ar gyfer gweithwyr nad ydyn nhw eto'n barod i ymddeol?