Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:39 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:39, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, hoffwn i ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn pellach hwnnw, ac, os caf ddweud, am y ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu ar y cwestiwn hwn bob amser, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae'r achos y mae hi'n fy ngwahodd i i'w wneud yn achos yr ydym wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth i Weinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud na chafwyd ateb i'r llythyr olaf a ysgrifennwyd gennym yn argymell y safbwynt hwn, ond ni fydd ei gynnwys wedi bod yn newydd i Lywodraeth y DU; rydym wedi dadlau'n gyson dros ymyrryd ar sail tegwch yn y cwestiwn hwn.

Mae hi'n cysylltu, mewn ffordd bwysig iawn yn fy marn i, brofiad y menywod yr effeithiwyd arnynt â phrofiad y misoedd diwethaf ac effaith y coronafeirws, sydd wedi bod yn anghymesur ar nifer o'r menywod hynny. Mae menywod yn fwy amlwg na'r cyffredin mewn sectorau sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau symud er enghraifft, ac fe fydd menywod nad ydyn nhw'n gallu gweithio, ac nad ydyn nhw ychwaith yn cael mynediad i'w pensiynau, yn teimlo baich ariannol arbennig o ganlyniad i gyfuniad o'r ddau beth hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n gosod rhwymedigaeth arbennig ar Lywodraeth y DU i weithredu o dan yr amgylchiadau penodol hyn, ac, rwyf i, fel hi, yn gobeithio'n fawr y byddan nhw'n gwneud hynny.