3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
6. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch y camau cyfreithiol sy'n cael eu cymryd gan y menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth yn erbyn y newidiadau a wnaed i'w hawliau pensiwn gan Lywodraeth y DU? OQ55379
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU ynghylch y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod, a hynny heb hysbysiad effeithiol na digon o rybudd. Bydd y mater yn cael ei ystyried gan y llys apêl ym mis Gorffennaf, a byddaf yn ystyried dyfarniad y llys apêl yn ofalus pan gaiff ei drosglwyddo.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, a hefyd am agwedd gyson ac adeiladol Llywodraeth Cymru at y mater pwysig iawn hwn. Mae'n cyfeirio at y camau cyfreithiol parhaus. A yw ef yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn yn awr a chyflwyno cynllun iawndal priodol cyn cymryd camau cyfreithiol pellach? Maen nhw wedi dangos eu bod yn barod i wneud buddsoddiadau sylweddol iawn i ddiogelu ein heconomi, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Yng nghyd-destun y gallu a'r parodrwydd hwnnw i wneud y buddsoddiad anhygoel hwnnw, a yw ef yn cytuno â mi ei bod yn bryd iddyn nhw wneud buddsoddiad tebyg i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder a wynebwyd gan fenywod a anwyd yn y 1950au? Ac a yw ef hefyd yn cytuno â mi y byddai budd ychwanegol, wrth gwrs, i wneud hynny, gan y byddai'n galluogi rhai o'r menywod hynny i ymddeol fel yr oedden nhw wedi bwriadu ei wneud, gan ryddhau swyddi yn y gweithlu o bosibl ar gyfer gweithwyr nad ydyn nhw eto'n barod i ymddeol?
Wel, hoffwn i ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn pellach hwnnw, ac, os caf ddweud, am y ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu ar y cwestiwn hwn bob amser, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae'r achos y mae hi'n fy ngwahodd i i'w wneud yn achos yr ydym wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth i Weinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud na chafwyd ateb i'r llythyr olaf a ysgrifennwyd gennym yn argymell y safbwynt hwn, ond ni fydd ei gynnwys wedi bod yn newydd i Lywodraeth y DU; rydym wedi dadlau'n gyson dros ymyrryd ar sail tegwch yn y cwestiwn hwn.
Mae hi'n cysylltu, mewn ffordd bwysig iawn yn fy marn i, brofiad y menywod yr effeithiwyd arnynt â phrofiad y misoedd diwethaf ac effaith y coronafeirws, sydd wedi bod yn anghymesur ar nifer o'r menywod hynny. Mae menywod yn fwy amlwg na'r cyffredin mewn sectorau sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau symud er enghraifft, ac fe fydd menywod nad ydyn nhw'n gallu gweithio, ac nad ydyn nhw ychwaith yn cael mynediad i'w pensiynau, yn teimlo baich ariannol arbennig o ganlyniad i gyfuniad o'r ddau beth hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n gosod rhwymedigaeth arbennig ar Lywodraeth y DU i weithredu o dan yr amgylchiadau penodol hyn, ac, rwyf i, fel hi, yn gobeithio'n fawr y byddan nhw'n gwneud hynny.