Comisiwn Thomas

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:40 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:40, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ymateb i'r pandemig coronafeirws, rwy'n ofni, wedi effeithio'n anochel ar gyflymder y gwaith i weithredu argymhellion Comisiwn Thomas. Er hynny, rydym yn parhau i wneud cynnydd, gan ddilyn yr argymhellion hynny o fewn meysydd ein cyfrifoldeb ni ac yn parhau i gyflwyno'r achos dros newid i Lywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i drafodaethau ar lefelau gweinidogol a swyddogol fel ei gilydd.