Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:41 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Llywydd, rwy'n falch iawn o glywed hynny gan y Cwnsler Cyffredinol, a chlywed bod Llywodraeth Cymru o leiaf yn ceisio gwneud cynnydd ar y mater hwn, dan yr amgylchiadau mwyaf dyrys. Ond, wrth gwrs, yr amgylchiadau mwyaf dyrys hyn sy'n amlygu'r angen i symud yn gyflym ar yr agenda hon. Rydym wedi gweld sut yr effeithiwyd ar boblogaeth carchardai Cymru gan COVID-19 yn fwy nag yn unman arall ledled yr ynysoedd hyn, a bod y strwythurau presennol—er y gall rhai pobl dybio mai trafodaeth academaidd yw hon—yn effeithio yn wirioneddol ar bobl, a bod pobl yn dioddef heddiw, o fewn poblogaeth carchardai ar hyn o bryd, ac yn y boblogaeth ehangach sydd wedi bod drwy'r system cyfiawnder troseddol hefyd, oherwydd ffaeleddau'r system. Mae Comisiwn Thomas wedi dangos yn eglur iawn fod eisiau newid ar frys i'r system hon er mwyn ei gwneud yn addas i'r diben, sef gwarchod buddiannau pobl ledled y wlad hon Gobeithio y gall y Gweinidog barhau i ddadlau'r achos hwn, a gobeithio y bydd ef a Gweinidogion eraill hefyd yn gallu amlygu effaith methiant Llywodraeth y DU i gydnabod y materion hyn yng nghanol argyfwng y pandemig hwn.