3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu argymhellion Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ55377
Wel, mae ymateb i'r pandemig coronafeirws, rwy'n ofni, wedi effeithio'n anochel ar gyflymder y gwaith i weithredu argymhellion Comisiwn Thomas. Er hynny, rydym yn parhau i wneud cynnydd, gan ddilyn yr argymhellion hynny o fewn meysydd ein cyfrifoldeb ni ac yn parhau i gyflwyno'r achos dros newid i Lywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i drafodaethau ar lefelau gweinidogol a swyddogol fel ei gilydd.
Llywydd, rwy'n falch iawn o glywed hynny gan y Cwnsler Cyffredinol, a chlywed bod Llywodraeth Cymru o leiaf yn ceisio gwneud cynnydd ar y mater hwn, dan yr amgylchiadau mwyaf dyrys. Ond, wrth gwrs, yr amgylchiadau mwyaf dyrys hyn sy'n amlygu'r angen i symud yn gyflym ar yr agenda hon. Rydym wedi gweld sut yr effeithiwyd ar boblogaeth carchardai Cymru gan COVID-19 yn fwy nag yn unman arall ledled yr ynysoedd hyn, a bod y strwythurau presennol—er y gall rhai pobl dybio mai trafodaeth academaidd yw hon—yn effeithio yn wirioneddol ar bobl, a bod pobl yn dioddef heddiw, o fewn poblogaeth carchardai ar hyn o bryd, ac yn y boblogaeth ehangach sydd wedi bod drwy'r system cyfiawnder troseddol hefyd, oherwydd ffaeleddau'r system. Mae Comisiwn Thomas wedi dangos yn eglur iawn fod eisiau newid ar frys i'r system hon er mwyn ei gwneud yn addas i'r diben, sef gwarchod buddiannau pobl ledled y wlad hon Gobeithio y gall y Gweinidog barhau i ddadlau'r achos hwn, a gobeithio y bydd ef a Gweinidogion eraill hefyd yn gallu amlygu effaith methiant Llywodraeth y DU i gydnabod y materion hyn yng nghanol argyfwng y pandemig hwn.
Rwy'n diolch i Alun Davies am y cwestiwn. Mae rhai agweddau ar gynnydd wedi digwydd; rwy'n awyddus i'w sicrhau o hynny. Felly, mae Pwyllgor Rheolau'r Weithdrefn Sifil wedi cytuno yn ddiweddar i'w gwneud yn orfodol, er enghraifft, i achosion yn erbyn cyrff cyhoeddus Cymru gael gwrandawiad yng Nghymru, lle cafwyd her i gyfreithlondeb eu penderfyniadau. Ac roeddwn i'n falch iawn hefyd o weld bod yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi ymrwymo erbyn hyn i sicrhau bod y cymhwyster arholiad i gymhwyso cyfreithwyr ar gael yn y Gymraeg. Roedd y ddau argymhelliad hyn yng Nghomisiwn Thomas. Er eu bod nhw'n bwysig, nid wyf yn awgrymu mai'r rhain yw'r argymhellion canolog, dim ond i ddangos ein bod wedi mynd ar drywydd hynny gyda'n partneriaid, lle mae cynnydd wedi bod yn bosibl.
O ran y pwynt ehangach a wna mewn cysylltiad â'r hyn a ddysgwyd gennym o bosibl yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn benodol am effaith natur ein setliad datganoli ynglŷn â chyfiawnder o ran canlyniadau, sef yr achos pwysicaf un i'w wneud yn y bôn, rwy'n credu ei fod yn dangos diffygion y trefniadau presennol. Ac er bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi gwneud eu gorau glas a phopeth o fewn eu gallu, yn fy marn i, i weithio gyda'i gilydd mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, rwy'n credu bod y rhain, i ryw raddau, wedi cael eu llesteirio yn y fan hon oherwydd natur ein setliad datganoli. Fe wnes i'r pwynt hwnnw i'r Arglwydd Ganghellor mewn trafodaeth ddiweddar gydag ef; rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Ac roedd rhai o'r pwyntiau ymarferol hynny am boblogaeth y carchardai yn benodol—y drafodaeth honno a gefais i gydag ef, ynghyd â'r Prif Weinidog a'r Prif Chwip, hefyd yn ystyried sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru, er enghraifft, gan felly wneud cynnydd ymarferol yn rhai o'r meysydd hynny. Ond fe fyddwn i'n sicr yn ategu'r pwynt mwy eang a wna am yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu am y setliad datganoli yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.