Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:15 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal hawliau dynol, cyfrifoldeb y mae'n ei gymryd o ddifrif. Nid yw argyfwng COVID wedi lleihau'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r hawliau hynny mor bwysig nawr ag y buon nhw ar unrhyw adeg yn y gorffennol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu diogelu drwy gydol y broses o reoli argyfwng COVID-19.